Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Cyfarfod Misol Dwyrain { Morgannwg.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Cyfarfod Misol Dwyrain { Morgannwg. I i A gynhaliwyd yn Ynysybwl dyddiau Mercher a lau, Mawrth 1ieg a'r t2fed. j ADRODDIAD PWYLLGOR ANHAWS- I DERAU'R IAITH. t Dymuna'r Pwyllgor gyQwyno i ystyr- iaeth y C.M. y ffeithiau a ganlyn. Y mae I yr anhawsder o herwydd methiant y plant a'r bobl ieuainc i ddeall yr Iaithr"ym- raeg wedi lledu drwy y C.M. ac yn cyn aedd o ardal v Barri yn y de hyd Fer- j thyr a Dowlais vn v gog]edd, ac o Gaer- < ffili yn y dwyrain hyd Dreherhert a Blaen- rhondda yn y gorllewin. Gwelir hyn oddi- j wrth atebion yr eglwysi i'r cwestiynau j ofynnwyd iddynt gan y Pwyllgor. Go- fynna'r cwestiwn cyntaf, "A ydych chwi fel eglwys yn teimlo rhyw anhawsder 9(1(1 %i,rtil gwestiwn yr iaith? A gadael allan ddosbarth Hirwaun, yr hwn sydd yn rhydd oddiwrth yr anhawsder a barnu oddiwrth y tri ateb ddaeth i law, y mae y gweddill o'r C.M. yn gyffredinol yn teimlo oddiwrtho. 0 10 o eglwysi vn Nosbarth Aberdar nid oes ond 1 yn glir •ddiwrth y perygl. Y mae 1 yn glir allan e 7 o eglwysi yn Nosbarth Caerdydd, ac 1 allan oli o eglwysi yn Nosbarth Ponty- pridd ac 1 allan o 9 yn y Rhondda Fach. Y mae yr Eglwysi eraill atebodd eill cwestiynnau o ddosbarthiadau y Fro, Llantrisant ,Merthyr, Uchaf Phondda, ac Isaf Rhondda i gyd yn eydnabod y diffyg aj yn gofidio o'i blegyd. Y mae ychydig o amrywiaeth gyda gol- wg ar oed ran y rhai sydd yn dioddef. Dioddefa y plant o dan 13 i gyd meddai nifer mawr o'r atebion. Lleda'r dolur mewn llawer o'r eglwysi hyd y dosbarth dan 16, mewn eraill dracbefn nid oes ne- mawr un o dan 21 yn rhydd oddiwrtbo, tra mewn rhai engreifftiau y mae yn hlino pawb o'r 2.5 i lawr. Yng nghanol yr jlm- rywiaeth cytuna pawb i ddweyd mai y dosbarthiadau ieuengaf sydd yn dioddof fwvaf. Nid presenoldeb plant Saeson yn ein mysg sydd yn cyfrif am yr anhawsder, ond plant ein haelwydydd Cymraeg a'n Heglwysi Cymraeg sydd yn tyfu mewn anwvbodaeth o iaith eu rhieni a'u harwein- wvi- crefvddol. Nid i'r un graddau y teimlir y diffyg ymhob man. Arwyddion o hono welir mewn ambell fan, ychydig bach mewn mannau eraill, ond mewn llawer o leoedd teimlir fod hyn yn myned yn broblem fawr yr Eglwys. Metlrn siarad ac ysgri- fennu Cymraeg yn unig y bydd rhai plant, methu deall rhannau anhawddaf y gwas- anaeth y bydd eraill, tra y dywedir am y trydvdd dosbarth fod y Cymraeg mwyaf syml ynihell uwchlaw eu hamgyffredion. Ceir golwg eglur ar sefyllfa pethau yn yr Ysgol Sul. Deohreua un neu ddau trwy ateb pob gofyniad yn Saesneg. Dilynir hwy yn fuan gan eraill, a bob yn dipyn gan yr Athraw. Darllenir yn Gymraeg o hyd, a dyna gymaint o Gymraeg a arferir yn y dosbarth. Y mae dosbarthiadau o'r fath i'w cael yn agos bob Ysgol Sul trwy y C.M. Dilynir hyn gan ddosbartbiadau Beiblaidd Saesneg yn yr wythnos, oerir y Band of Hope ymlaen yn yr iaith honno; mewn gair, a holl gyfarfodydd y plant yn gyfarfodydd Saesneg drwyddynt. Pan ddaw y rhai ieuainc hyn i gyfarfodydd eraill yr Eglwys nis gallant eu gwerth- fawrogi am nas gallant eu deall. Da yw ganddynt weled pob gwasanaeth yn tynnu i'r terfyn. Collir eu presenoldeb o brif gyfafodydd yr eglwys, yn achlysurol i ddechreu, yn fynych ar ol hynny, a chyn y diwedd bydd arnynt eisiau eu llythyrau i I fyned i gapel Saesneg, neu fel y digwydd yn fvnych collir hwy i grefydd yn gyfan- gwhl. Cofier nad barn y Pwyllgor yw hyn ond tystiolaeth yr Eglwysi anfonasant atebion i'n cwestiynnau. Myned o ddrwg i waeth y mae pethau. Y mae gobaith am adferiad y claf er i'w I afiechvd fod yn boenus a'i wellhad yn araf, os oes sicrwydd ei fod wedi myned trwy y gwaethaf, ond os mai gwanychu a I wna o hyd, y mae yn bryd edrych am fedd- I yginiaeth o rywle. Dyna gyflwr yr iaith yn I ein Heglwysi Cymraeg yn awr. Faint bynag yw ein sel dros ein gwlad a'n cenedl y mae Cymraeg ein dosbarthiadau ieuengaf heddyw yn waelach nag y bu I erioed. Cymerwn olwg ar ein sefyllfa eto yng I nogleuni adroddiad olaf Arholiad yr Y -g Sul. Moddvlier am y dosbarthiadau o'r dosbarth dan 10 hyd at v dosbarth dan 21. Wrth gymharu ffigyrrau yr Arholiad a'r holl rai o'r oedran hyn a berthyn i'n j heglwysi, gwelwn nad oes mwy nag 1 o s bob 10 Q ieuenctvd ein heglwysi yn J myned trwy yr Arholiad yn yr iaith arferir yn yr Eglwysi hynny. Pe tynnem allan y ffigyrrau am ychydig o eglwysi sydd yn i neillduol o deyrngarol i'r iaith ac i'r Arholiad byddai y cyfartaledd am y ( gweddill o'r C.M. yn llawer Ilai drachefn; ) Edrycher ar ffeithiau yr arholiad ynglyn j ag un eglwys o bob dosbarth :— j 13 wedi myned trwy yr Arholiad, b or I papurau yn Saesneg. 18 wedi myned trwy yr Arholiad, 11 o'r j papurau vn Saesneg. 21 wedi myned trwy yr Arholiad, 16 o'r papurau yn Saesneg. 1 28 wedi myned trwy yr Arholiad, 23 o'r | papurau yn Saesneg. 44 wedi myned trwy yr Arholiad, 37 o'r ,j papurau yn Saesneg. 15 wedi myned trwy yr Arhollad, T3 0'r papurau yn Saesneg. 23 wedi myned trwy yr Arholiad, 21 o'r papurau yn Saesneg. 19 wedi myned trwy yr Arholiad, IS o'r papurau yn Saesneg. 27 wedi myned trwy yr Arholiad, 26 o'r papurau yn Saesneg. ¡ 46 wedi myned trwy yr Arholiad, 45 o ,r papurau yn Saesneg. Y mae yn wir em bod weai ue?is i- ? ? engreifftiau mwyaf digalon, ond y mae j eraill tebyg iddynt ym mhob un o'r dos- l barthiadau. Credwn y dylai y ffeithiau uchod ein hargyhoeddi o'n hangen am ddiwygiad, a trwelwn fod diwvgiad yn bosibl wrth gofio fod gennym yn ein hardaloedd mwyaf Seisnigaidd deuluoedd yn magu eu plant yn Gymry glan, ac Ysgolion Sul yn cym- hwvso eu plant i ddeall yr Efengyl yn iaith y capel yr addolant ynddo. Y cwestiwn olaf ar em rhestr oedd, "A oes gennych chwi, fel ffrwyth eich sylwad- aeth a'ch profiad, ryw awgrymiadau ar y ffordd oreu i gyfarfod yr anhawsder yn yr eglwysi y teimlir odcliv^rtno. Fel y gallesid disgwyl, daeth llu o aw- grymiadan i law. Ffurfia y rhai hyn hunain i ddau ddosbarth, J" i} i yn ein cymell i agor y drws yn raddoI i Ianw yr iaith Saesneg, trwy roddi ychydig o'r iaith honno yng ngwahanol gyiarfodytid yr eglwys fel y bydd y galw am dano, a r ilall yn ein cymell i gau y drws yn dynnach nag erioed yn erbyn y llanw hwn, ond gofalu wrtb ei gau wneyd ein goreu i ddysgn iaith yr addoliad i bawb fydd yn cvmeryd rhan vnddo. Awgrymir y cyntaf gan tua 6 a'r ail gan tua 60 o eglwysi. Heh ddweyd dim yn erbyn yr eglwysi sydd wedi mabwvsiadu yn rhannol y cynllun -eyntaf, creda'r Pwyllgor mai yr ail yw y cynllun doethaf i fwyafnf mawr eglwysl y Cyfarfod Misol, a dymuna gyflwvno yr awgrymiadau a ganlyn er en cynorthwyo yn hvn o amfan. (1) Awgrymiadau i'r Cartrefi—Dymun- wn annog y rhieni i fod yn fwy gofalus ac ymdrecbgar i arfer Cymraeg ar yr ael- Wvdvdd. Ofer fydd pob ymdrech mewn cylchoedd eraill tra yr esgeulusir yr iaith ar yr aelwyd. Gwyddom tod y gwaith yn anawdd, ond gallwn sicrhau y rhieni o dri pheth (a) Nid yw yn amhosibl, oblegyd y mae Cymry da wedi eu magu yn yr ar- j daloedd mwyaf Seisnigaidd. (b) Bydd diolchgarweh y plant ymhen blynyddoedd i ddvfod yn ddigon o dal iddynt am eu holl dranerth. (c) Tra yn cymervd en plant i Gapeli Cymraeg y mae buddiannau uchaf y rhai ieuainc yn hawlio hyn oddiar eu llaw. Carem wasgu ymhellach ar y rhieni mai ofer yw ceisio siarad Cymraeg a'r plant heb ofalu am nyddiaeth Gymraeg briodol ar eu cyfer. Y mae yn yr iaith bellach lyfrau ar gyfer yr ieuainc wedi eu hysgrif- ennu mewn Cymraeg syml a swynol, y llythyren yn fras, y darluniau yn bryd- ferth, a'r pris yn rhesymol. Mynner y rhai hyn i'r ty, i fagn chwaeth yn y plentvn ieuengaf at iaith ei dad a'i fam. (2) Awgrymiadau i'r Ysgolion Sul.- Dylid arfer gofal mawr wrth ddewis athrawon ar y plant er cael gafael ar y dynion wyr y ffordd at feddwl a chalon v plentvn. Dylai y wers a gyfrennir yn yr Ysgol Sul fod a'i llygad ar fuddiannan uchaf y dosbarth ,a bod yn baratoad i'w haelodau i werthfawrogi yr emvnau a genir, y bennod a ddarllenir a'r bregeth a draddodir yn oedfa'r hwyr, ac i fanteisio ar y cyfarfodydd crefyddol a fynychir ganddo yn ystod yr wythnos. Ohlegid hyn dylai athrawoll y plant yn ysgolion Sul y capel Cymraeg fod yn Gymry selog, a hynny nid er mwyn yr iaith a'r genedl ond er mwyn lies vsbrydol v rhai ieuainc sydd dan eu gofal. Na fydded awdurdodau yr ysgol yn gybyddlyd a chrintachlyd wrth ddarparu llyfrau, darluniau, mapiau a pethau eraill angenrheidiol er addysgu y rhai ieuainc. Goreu y genedl ymhob cyfeiriad geidw'r plentyn yn Gymro. Tala'r plentyn i'r ysgol ac i'r eglwys, fel y tal i'w rieni, am bob arian a werir mown doethineb ar ei addysg. (3) Awgrymiadau 1r Eglwys.-Y mae yn bwysig i holl aelodau mwyaf blaenllaw yr Eglwys, ac yn arbennig y chwiorydd, arfer yr iaith ar bob cyfle posibl. Man- teisiol fyddai ffurfio cymdeithas o Gvm- reigyddion neu o Gymreigesau er hyr- wyddo hyn. Bnddiol fyddai trefnu cyfar- fodydd llenyddol a chystadleuol mewn cysylltiad a'r eglwysi, i arfer y plant mewn darllen, adrodd, canu, ac areithio yn Gymraeg. Dylai cyfangorff yr eglwys fyn- ychu y cyfarfodydd hyn er mwyn bod, trwy eu presenoldeb, yn ysbrydiaeth i'r rhai ieuainc a gymer ran ynddynt. Dylai pob Eglwys gynnal dosbarthiadau i ddysgu Cymraeg, neu ofalu fod yr iaith yn cael sylw arbennig yn y dosbarthiadau Beibl- aidd a gynhefir ganddi eioes, a dylal pawh fydd yn cymeryd rhan yn gyhoeddus wneyd hynny mewn Cymraeg mor syml a dealladwy ag sydd yn bosibl er cefnogi rhieni, athrawon a phlant yn yr ymdrech- ion a awgrymwyd gennym eisoes. (4) Awgrymiadau i gylchoedd eangach. —Carem weled pob un a'i lygaid yn agored i fuddiannau yr iaith yn yr Ysgolion El- fennol, Uwchraddol, a Chanolraddol, ac yn cymeryd mantais ar bob eyfle i gynhyrchu awyrgylch mwy manteisiol i'r iaith yn y lleoedd hyn. Mantais fawr fyddai i awd- wyr a chyhoeddwyr llvfrau gofio fod plant a phobl ieuainc yn perthyn i'r Cymry, ac y gellid gwneyd gwasanaeth amhrisiadwy i'r genedl pe darperid yn helaethach ar gyfer y dosbarthindau hyn. Credwn y caent gydymdeimlad a chynhorthwy cyfoethogion y wlad pe ymgymerent yn galonnog a'r gorchwyl hwn. Mantais fawr er sicrhau hyn fyddai undeb a chvdweith- rediad rhwng holl Ysgolion Sul Cymraeg y wlad o bob enwad. Gellid felly drefnu yr un Meusydd Llafur i'r holl enwadau. Ceid llyfrau rhagorach i'r plant heb un perygl i'r cyhoeddwyr fod ar eu colled yn arianol. Beth all y Cyfarfod Misol wneyd? 1. Carai y Pwyllgor i'r C.M. argraffu y ffeithiau a'r awgrymiadau uchod yn bamffledyn bychan a'i roddi yn llaw rhieni, athrawon Ysgol Sul, a holl ar- weinwyr crefyddol ein heglwysi, gan eu hannog i'w ystyried, a gosod mewn gweithrediad gymaint o'r awgrymiadau ag a fyddo yn bosibl. 2. Y mae y Pwyllgor yn argyhoeddedig fod Arholiad yr Ysgol Sul fel y dygir ef ymlaen yn awr yn rhwystr pendant i gadwraeth yr iaith. Credwn y bydd rhaid i'r Eglwysi sydd am gadw'r Gymraeg roddi fyny yr Arholiad oddieithr iddo gael ei gyfyngu i'r iaith honno. Teimlwn fod y cam i gyd, serch hynny, yn ormod i'w gymmeryd ar unwaith, ond dymunwn ofyn i'r C.M. ystyried y priodoldeb o symud i'r cyfeiriad hwn, ac os bydd yn addfed arno, awdurdodi ei Bwyllgor Ysgol Sul i wneyd y trefniadau angenrheidiol er cyfyngu Ar- holiad dosbarthiadan ieuangaf yr Eg- lwysi Cymraeg yn 1915 i'r iaith honno. Hydera'r Pwyllgor y bydd hyn oil yn rhyw help i wneyd iaith Crefvdd Cymru yn iaith ei haelwydydd, a iaith ei haelwyd- ydd yn iaith ei haddoliad.—Dros y pwyll- gor, M. H. JONES, Cadeirydd. HOWELL DAVIES, Ysg.

Advertising

I Beirniadaeth Ifano. I

Advertising