Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
Glyn Nedd.
Glyn Nedd. Y Briodas yn Nhrewennol. Dydd Mercher, Mawrth lsiVd. yng Nghapel Bethel, unwyd mown glan hriodas Miss Jennie HowpJIs, merch hynaf Mr a Mrs Rees Howells, Trewennol, a Mr Win. Davies John, M.R.C.V.S., Ammanford, mab i Mrs. John, Bryncynon, Hirwaun, gynt o Glyn Nedd. Methai y Parch. T. Garmen Harris ddod j'r hriodas o herwydd yr anffawd a ddigwyddasai iddo rai mis- oedd yn ol. Yn ei absenoldeb gwasunaeth- wyd gan y Parchn. J. Tywi Jones, Gol. y "Darian," ae E. Cefni Jones, Hirwaun. Hhoddwyd y briod ferch ymaith gan ei thnd. Y gw«s priodas ydoedd Mr H. B. John, Llundain, brawd v gwr ieuanc. y morwynion priodas oedd bl isses Maggie a Florrie Howells. ehwiorydd v wraig i; r.- ano. Addurnesid y capel a blodau amry- fath, a daethai cannoedd ynghyd weled | y seremoni, prawf o deimladau da'r (ym- dogion tuag at y par ieuanc. Wrth yr or- gan yr oedd Mr Guitios .Jones. (Jafwyd brecwast priodas yn Nhrewennol, lie dacthai y gwahoddedigion ynghyd. Wedi cyfranogi o'r cyllawnder danteithion a ddarparesid cafwyd areithiau doniol i lon- gyfarch y par ietiane ac i ddymuno'n dda iddyni, Cyciiuyuasant hwy yn y man, yn sw u inagJielau, i fyn'rli'r Brif Dd'nas i | dreulio eu mis mel. Ymhiith y gwahodd- edigion hehlaw y rhai a ennwyd eisioes yr oedd Mrs. ,)o!m, main y gwr ieuanc; Mr j Mrs. J. O. George, .Hirwaun; Ali- a Mrs J. 0. Howells, Glyn Nedd; Mr Arthur Shepl)ai-(I, Mr 0. Spenoe a Mis. Spence, Glyn Nedd; Mrs. Nieolls, Aberaman Mr a Miss Harrett, Glyn Nedd; Miss George, Hirwaun; Mrs. G. Eveleigh, Glyn Nedd; -Master Writer George, Hirwaun; Miss Williams, Troedyrbiw. Amser dedwvdd | gatwyd yno yn y prynhawn pan y eanwyd hen alanon swynol gan M rs. J as Howells, ]]ell I -,I ,A giiii Miss Williams, Troedvrhiw; Mrs. J. 0. George, a ehan Mr Rees Howells, canai ef "Hen wlad fy nhadau" holl egni. Da oedd gennym i'r par ieuanc ofvn am en priodi'n Gymraeg. Yr vdym yn adnabod Jennie er pan oedd yn faban, ac y mae yn haeddu y llongyfarch- iafian a gifodd a'r dymuniadau da i gyd. Mr Rees Howells vw prif oruchwvliwr | Glofeydd Aberpergwm.
0 Wy i Dywi.
0 Wy i Dywi. I Y CYFNOD RHUFEIMG. Er mai Rhufain oedd mcitrcs y byd tua'r amser y cerddai t-in Ilia,h- awdr lennyrch Canaan, ni fcddai hi gymaint a lied troed o dir ym Mhryd- ain y pryd hwnnw ar ei henw. Mae'n wir i Julius Caesar, hanner canrif cyn hynny, arwain ei lengoedd ddwy- waith i'n glannau, ond nid oedd ei ymgyrchoedd namyn vmweliadau mil- wrol a thalaeth de-ddwyreiniol ein hynys. Ac er iddo drechu Caswallon mewn brwydyr neu ddwy, a mynnu teyrnged oddiwrtho fel canlyniad, eto, ni fentrodd aros yma o gwbl, ac, felly, nid oedd nemawr o bwys gwlad- ol yn ei goncwest byr-barhaol. Yn y flwyddyn 43 O. C. y daeth y Rhufein- iaid yma o ddifrif, ac o hynny hyd y flwyddyn 410 O.C. dros dair canrif 'a banner hwy oedd berchnogion y tir, hynny yw, mor belled ag y gallai gallu milwrol roi iddynt y teitl. Dwrfonwyd i Br;daim ,Iywydd ar ol Uywydd a lleng yn dilyn lleng hyd nes y daeth canolbarth a deheubarth v tir adwaenir heddyw tian yr enw Lioegr mor Rhufeinaidd ei ddull o fvw a'r wlad o amgylch Rhufain ei hun. Ond pan ddaethpwyd i Hafren ar dueddau Cymru a'r mynydd-dir ar gvffiniau yr Alban, ni ellid dal y rheiny ond trwy wyliadwriaeth ddifl/no a grym arfau teg. Yn y tir, elwid yn ddiweddarach Gwent a Morgannwg, y prcswyliai ein hynafiaid ni-y Siluriaid, yn nhir Powys cyfaneddai y Gordofigion, ac yng Ngogledd Lloegr y Brigantiaid— tri llwyth roddasant fyd o drafferth i'r gorchfygwyr, fel y prawf y ffaith iddynt osod yr ail leng yng Nghaerllion-ar- Wysc, a'i chadw yno am ddwy ganrif gyfan i'r unig amcan o wylio y Silur- iaid, a'r un modd yr 20fed leng yng Nghaerllion Gawr, a'r 6ed yng Nghaer Efrog i wylied y Gordofigion a'r Brigantiaid hwythau. Gan na ddaw hanes y ddau lwyth enwyd olaf i fewn i'n pennod ni, cyfyngwn ein gwaith, fel y. gorfu i lawer cadlywydd Rhufeinig hefyd wneyd—i wylio y Siluriaid. YR YMOSODIAD CYNTAF. Aulus Plautius oedd y cyntaf ddan- fonwyd gan yr Ymherawdwr Claudius i wneud y goresgyniad. Gydag ef yr oedd hanner can mil o wyr, ac ymhlith ei liaws swyddogion oedd Vespasan, ddaeth wedi hynny yn Ym- herawdwr ei hun, ac nid llai ei fri o fod yn dad i Titus Vespasian, dinis- trydd Jerusalem a' i theml. Y prif Gymry yn ne-ddwyrain yr ynys yn y flwyddyn 43 O.C. oedd Caradog a Thogodumnus, dau frawd o dy tywysogol Cunobelinus. Safodd y ddau hyn fel y dur yn erbyn yr ym- osodwyr ar eu treftadaeth, ond buan y gwelwyd nad allai dewrder llwm- arfog dycio dim yn erbyn cyfartal ddewrder o dan arfau gwell. Ar ol ni- fer o frwydrau o boethder digyffelyb, ac yn enwedig ar ol cwympo o'i frawd Togodumnus, ffodd Caradog dros Hafren at lwyth y Siluriaid, oedd- ent, fel yntau, yn chwannog am waed a dial. Brython oedd Caradog, ac Iberiaid yn bennaf oedd y Siluriaid y dyddiau hynny. 0 herwydd y ffaith hon dywed rhai haneswyr nad allai y tywysog a'i ddeiliaid newydd ddeall iaith eu gilydd, am, meddant hwy, nad oedd iaith y Brython, hynny yw, y Gymraeg, wedi ei mabwysiadu yn y cyfnod bore hwn gan y llwyth hwnt i'r afon. Boed hynny fel y bo rhodd y Siluriaid groesaw calon i Garadog, a deallent yn eithaf da, un fel y llall, iaith perygl a iaith y cledd. Ac o ran hynny pan oedd cadlywyddion o ynni a medr Plautius a Vespasian ar eu gwarthaf, nid oedd amser i dorri ne- mawr geiriau. Parhawyd i vmladd mewn amryw fannau a chydag am- I rvw raddau o ffawd. Er i'r Rhufein- iaid orchfygu y mwyafrif o'r Hwyth- au ereill, v diwedd fu i Plautius yma- dael yn y flwyddyn 47 O.C. gan adael Caradog, o'i ran ef, yn feistr ar Sil- uria. Nid Cymrv, cofier, ddywedant hyn. Nid oes llinell Gymraeg o lenyddiaeth o'r cyfnod hwnnw yn e in meddiant. Rhufeinwr, ym mherson Dion Cass- ius, edrydd yr hanes wrthym. Yn olynnydd i Plautius daeth yma yn y flwyddyn So O.C. Rufeinwr glew arall oedd deilwng i fesur cledd hyd yn nod a Charadog ei hun. Ostorius Scupula oedd ei enw a buan y danghosodd ei fedr fel llywydd cad. Yng nghyntaf dim dygodd drefn i gatrodau y Rhu- feiniaid ym Mhyrdain (oeddent wedi llacio llawer oddiar ymadawiad Plau- tius), ac yna ymosododd ar y Silur- iaid drachefn. Wedi nifer o fan frwydrau cyfarfvddodd y ddwy fyddin rywle ym Mhowys "ar fryncyn wrth droed yr hwn rhedai afon anodd ei rhydio." Ceisir lleoli y llecyn hwn mewn amryw fannau ar dueddau Maesyfed a'r Amwythig, ond gan nad beth am "le'r gad," gwyddom yn dda am y modd y darfu yno. Unwaith eto y danghoswyd nad allai dewrder ann- isgybledig gystadlu a dewrder o dan reolaeth dda. Gorchfygwyd Caradog, carcharwyd ei wraig a'i ferch, a gorfu iddo yntau ffoi am ci einioes. Gwyr pob plentyn am yr hyn ddi- gwyddodd iddo yn ol ll aw, am y modd y bradychodd Cartismandua ef i ddwy- law y Rhufeiniaid, y modd anhyblig yr ymagweddodd yn ystrydoedd Rhu- fain pan na ddisgwyliai ddim ond angeu disyfyd i'w ran, ei araith deil- wng o flaen Claudius, a'r rhydd-had deilynged a hynny gafodd o'r her- > wvdd. Cofnoda Tacitus, yr hanesydd Rhu- feinig y manylion oil i ni hyd yn nod sylwedd geiriau Caradog ei hun. Dyma nhw, a dylai pob Cymro, ieuanc a hen, eu cofio am byth. I ARAITH CARADOG. "Pe buasai mesur fy llwyddiant yn i gyfartal i'm huchel fonedd a'm gradd enedigol, gallaswn ddyfod i'r ddinas hon yn gyfaill ac nid carcharor, ac ni buasai cyngrair heddychol un sydd wedi hanu o hynafiaid clodfawr, ac yn rheoli amryw lwythau, yn un di- anrhydedd i tithau. Anffawd yw fy nhynged i'n bresennol, canys y mac'r hyn sydd i ti'n ogoniant i mi'n ddarostyngiad. Fe fu gennyf feirch, rhyfelwyr, arfau, a chyflawnder o gvfoeth, a pha ryfeddod oedd fy mod yn anfoddlon i'w colli? Os mynnwch chwi lywodracthu pawb, a raid i bawb oblegid hynny fod yn foddlawn i estyn eu gyddfau dan yr iau? Pe buaswn i yn ymostwng yn wasaidd a diwrthwynebiad, pa Ie yn awr y bu- ai dy ogoniant di a'm hanrhydedd milwrol innau? Ebargofiant bythol a deilwngaswn, ond os arbedi fy mywyd yn anrhydcddus byddaf yn esampl dragywvddol o'th diriondeb." Nis gwn am well pregeth ar anni- byniaeth mewn unrhyw le, ac nid rhyfedd fod y geiriau llosg hyn wedi hen ennill lie iddyift eu hunain ym mysg clasuron lien. Cofier, unwaith eto, mai Rhufeinwr coeth ac nid Cymro brwdfrydig a'i hysgrifennodd. Pe yr olaf, buan y buasid wedi edliw inni mai gwag vmffrost oedd yr oil. Ond gan fod y cvsylltiadau yr hvn oeddent, saif yr araith yn gofgolofn bythol i'r Brython di-ildio. Y mae i Gymru fel pob gwlad arall lewion a roddant amlwg fri ar ei henw, ond ni wisgir tecach llawryf gan neb pwy bynnag nag a wnaed gan y gwron syml gerddodd allan o wyddfod Claudius y dydd hwnnw ag anfarwoldeb yn ei drem.
Advertising
Am bob math o Argraffwaith I ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.
I Aberteifi a'r Cylch.
Aberteifi a'r Cylch. Marwolaethau. Drwg gennym gofnodi am farwolacth Mr John Davies, Farmers' Arms, Bridgend, Aberteifi. Ni fu yn glaf ond ychydig ddyddiau, a bu farw yn ddiarwybod i'r teulu. Mae y weddw yn afiach er ys amser bellach, a chydymdeimlir yn fawr a hi yn ei gwendid a' i hiraeth. Yr oedd John Davies yn ddyn add- fwyn a thawel, mewn heddwch a phawb. Claddwyd ei weddillion dydd Mercher yn mynwent Blaenwain. Gwasanaethodd ei weinidog, y Parch. W. H. Jones, Gerazim, yn y ty, ac ar lan y bedd, a chynorthwyid ef gan y Parch. J. D. Hughes, Blaenwain. Treuliodd yr ymadawedig y rhan fwy- af o'i oes ar y mor. Cofnodwn hefyd am farwolaeth Captain David Stephens, Gorse Villa, Llandudoch, yr hyn gymerodd le dydd Mawrth yn 59 mlwydd oed. Bu Mr Stephens yn glaf yn hir, ac megys yn rhodio ar hyd glanau yr afon yn disgwyl am gyfle i'w chroesi. Treul- iodd yntau flynyddoedd lawer ar y mor. Nid oedd ond rhyw naW mlvn- edd er pan oedd wedi ymncillduo o'r mor, a byw ar yr hyn oedd wedi gweithio yn galed am danvnt. Yr oedd yn gymeriad dichlynaidd a da. Bu yn ffyddlon, a chvmerodd ddydd- ordeb mawr yn ei eglwys, sef Blaen- wain. Cleddir ef y Llun, Mawrth 23ain, yn mynwent y Capel He y bu flynyddoedd yn addoli. Gidawodd weddw ac un plentyn i alaru ar ei ol, a theimlir fod yr ymadawedig wedi gadael lie gwag iawn ar yr aelwyd ac yn yr eglwys. Dyddaned yr Ar- glwydd y gweddwon a'r amddifaid. .N,Iotint Zion.-Torrwyd ar unffurfi- aeth y gwasanaeth yn y Capel uchod nos Sul diweddaf gan fod Mrs Ro- bert Rees wedi ymgymeryd a darllen papyr dyddorol iawn ar fenywod yr Efengylau. Mae y ddynes hon yn wahanol i'r "Suffragettes" ystywgar. Dengys fel y gall y rhyw fenywaidd wneud llawer o ddaioni. Mae Mrs Rees, Cadwgan, Gubert-on-Sea, yn ami yn ngwahanol addoldai y dref yn cvmeryd rhan flaenllaw i wella moes- au dynion. Perthyna i dculu sydd wedi gwneud llawer o ddaioni er ys ugeiniau o flynyddoedd yn y dref. Dangosodd fedr a gallu arbenig mewn ymdriniaeth a'r y gwahanol gymeriad- au yr ysgrifenodd am danynt. Dylai eglwysi ereill y dref glywed y papyr hwn eto fel amryw bapyrau ereill baratowvd ganddi. Cysuro y Tlodion.—Dydd Iau di- weddaf bu amryw o frodyr a cbwior- orydd o Aberteifi yn ceisio adloni a chysuro tlodion y tlotty drwy ganu, adrodd, a chwareu iddynt. Cymerwyd y gadair gan Mrs Lewis, Ardwyn— dynes arall sydd yn gwneud ei goreu mewn gwneud daioni i bawb. Rhodd- wyd unawdau gan Mrs Whittington, Miss Edith Morris, Miss M." C. Rees, Misses Lizzie Lewis, Gwladys Thomas, E. Watts, Bazaar; Mri Daniel Davies, Robert James, An- thony Trail, Tom John, Johnnie WTil- liants, Titus Lloyd, George Davies, John Davies, John Pugh, a David Phillips. Adroddwyd darnau gan Misses Dot, Trail, a Polly Davies. Chwareuwyd ar y crwth gan Mrs J. R. Daniel a Mr Jack Evans. Ped- warawd gan barti o Landudoch, a gramophone selections" gan Master Jones. Dangosodd y tlodion eu bod wedi mwynhau y wledd yn fawr, a diameu fod pob un gymerodd ran wedi teimlo mwynhad, am eu bod yn rhoddi mwynhad i ereill. Derbyn i roi mae y mor, y ffynon, a'r cwmwl, a dyna ddylai fod nod ein bywyd ninnau. Nid cadw y cyfan i ni ein hunain, ond estyn bendithion i rai sydd o'n cwm- pas sydd yn waelach eu hamgylch- adau na ni. Yr Ystorm. Cawsom deimlo yr wythnos aeth heibio ryw aruthrol yr ystorm drwy y cylch, a gwelid fod y mor yn cael ei gynhyrfu i'w waelod- ion. Clywsom hen forwyr yn dweyd na fuont allan mewn garwach ystorm erioed. Yr oedd v tonau ar draethau Poppit a Gubert fel mynyddoedd, a'r mor yn poeri ei lysnafedd fel un yn ffyrnig am ysglyfaeth. Bu Mr T. Bowen, gwyliedydd dyfal y Bywydfad, ar wyliadwriaeth drwy y dydd a'r nos, er cael gweled os byddai rhyw arwyddion fod bywydau mewn perygl, er ceisio eu hachub, er nad oedd yn credu y gallent fod o wasanaeth iddynt am nad allent gyrhaedd y trueiniaid. Trwy drugaredd ni fu galw arnynt fyned allan. Cafodd amryw o adeil- adau eu niweidio yn y dref ac yn y wlad, ond nid ydym wedi clywed am fywydau wedi colli yma. Clywsom a darllenasom am fywydau wedi eu cblli mewn lleoedd ereill. Aberteifi. D. JONES. Aberteifi.
Efail Fach, Pontrhydyfen.I
Efail Fach, Pontrhydyfen. Cynhahwyd cyngerdd arddcrchog vn SiToh (A.), Etail Fach, nos Iau, y 19eg, gan Blant Gobeithln yr achos uchod dan ar- weiniad y Bonwr W. J. Llewellyn. Prif beth y rhaglen oedd yr adroddgan, "Flower Fairies," gan y plant, a swynol iawn y canwyd ac yr adroddwyd ganddynt. Y mae gair o glod yn ddyledus i'r arweinydd a'i gynorthwywyr am eu hamynedd a'u dytalbarhad gyda'r plant, ac hefyd i'r plant am eu ffyddlondeb a'u hufudd-dod. Cymerwyd y gwahanol gvmeriadau gan y rhai canlynol, Meistresi Eluned Llewelyn, Abertawe; Ada Richards, Sis Picton, Mag- gie John, Olive Hevcock, Lizzie David, May Jenkins, Master Evan Jenkins, Plant y Gobeithln, a Miss M. A. Jenkihs, Pont- rhydyfen. Yn yr adran amrywiol gwasan- aethwyd gan y rh-,ii canlvnol:-Unawdau ar y piano gan y Boneddigesau Olive Pope, Efail Fach. a Bronwen Llewelyn, Aber- tawe. Unawdau gan y Beneddigesau L. Davies. Castellnedd; Eluned Llewelyn, Abertawe; M. A. Jenkins, Pontrh" vdvfen, a Mrs. Gomer Howells, Efail Fach. Deuawd gan Mrs. Gomer Howells a'r Fonesig M. A. Jenkins. Unawd gan y Bonwr William George, Tonmawr, a chan y Bonwr Evan Jenkins, a dau adroddiad doniol ac vn ei hwyliau goreu gan y Bonwr John Parker. Cyfeiliwyd yr adroddgan gan y Fonesig Olive Pope, a'r amrywiaeth gan v Bonwr D. G. Rees, Cwm Farm, Pontrhydyfen, a'r Fonesig Bronwen Llewelyn, Abertawe. Oadeiriwyd yn hapus a deheuig gan J. M. Jenkins, Ysw., Pontrhydyfen. Haedda y gwragedd air o glod am addurno yr adeilad mor ddestius. Profwyd fod yr adeilad vn rhy fach i ddal v dorf oedd am fynediad i mewn, a chynghorem yr awdurdodau 1 roddi cyfle i'r rhai siomwyd fwynhau gwaith eu llafur ar ddyddiad buan. I TALNANT. I
Pontycymer.I
Pontycymer. I Cafodd Cymrodorion Glennydd y Garw noson ardderchog gan y Parch. John Griffith, Llangynwyd, nos Wener, wrth ei glywed yn traethu ar Qernydd y Caerau a'r Cvlch." Aeth a ni yn ol i'r "Oes Garreg." Cawsom hanes pethau hynod sydd yn oin hymyl, a ni yn gwybod dim am danynt. Perthyn i'r gangen hon swyn i'r efrydydd, a da fyddai cael dosbartfi dan Mr Lewis Davies, Cymer, a Mr. Griffith, i hyfforddi pobl ieuainc. Cadpiriwyd gan y Parch. W. Mardy Davies. Siaradodd amryw o'r brodvr. Teimieni i ni clderbvn ftrwyth llafur eufawr, a hwnllw'n llatur caiiad. Nos Fercher flaenorol cynhaliwyd Eis- teddfod Gymraeg i'r plant dan nawdd y Cymrodorion yn y Tabernacle, dan lvwydd- iaeth Mr. T. E. Lewis, M.E., Blaengarw. Arweinydd, Parch. W. Saunders, C.S. Beirniad cerddorol, Mr Philip Thomas, Cas- tellnedd beirniad llenyddol, Mr W. Bryn Da vies, Barri. Cyfeilydd, Miss Bessie l Rogers. Ysgrifenyddes, Miss M. E. Davies, Bryngwyn. Trysoryddes, Miss S. G Howells. Cafwyd cystadlu brwd gan wahanol oedran ar hen alawon ein cenedl a 11a wer o bethau ereill. Gwna hyn gyffroi y I plant i ddysgu siarad Cymraeg. Dyma'r cyntaf, ond sicr nid yr olaf. Uu'r Parchn. Mr Hughes, Soar, Aber- tawe, a D. Emrys James, Pontypridd, yn y Tabernacle yn gweini yn ei gwyl. Cafwyd gwledd o ddanteithion y wlad well. Gallem ddweud fel y rhai hyny gynt, Onid oedd ein calon yn llosgi o'n mewn." Pert oedd y Penadur hwnnw, dan y to arian. Nid oes eisieu ofni tra bo pregethwyr mor dda yr a crefydd i lawr. BERDAR BACH.
I -Cellan, Ceredigion.
I Cellan, Ceredigion. I Cofio Dewi Sant. Peidied pobl y Hhondda ac Aberdar a'r lleoedd poblog a meddwl mat yng nghanol berw tref a dwndwr masllach yn unig y cofia y Cymry am Dewi Sant. Ac onid oes perygl i rywrai i syrthio i'r camgymeriad dybryd o gredu na fu cadw GWY] Dewi Sant os na bydd y cvfrvw ar lawr mewn "papyr newydd" drwy athryi- ith garedig rhyw groniclwr. Y gwir am dani yw hyn, ddarllenydd, er y gwledda a'r camol, y canu a'r barddoni a'r diolch nes tynnu sylw y byd, oeir gwledd o'r fath lfasusaf, a mwynhad o'r fath buraf mewn ardaloedd gwledig ta wel yng Ngheredig- ion ac mown siroedd eraill drwy Dde a Gogledd-heb fod yr un "gohebydd neill- duol" wedi digwydd troi i. fewn. Er hynny, ni ddarfyddodd y dylanwad fel Iliw], ac ni ddiflannodd fel cwmwl, ond cerddodd i deuluoedd, a tiirodd yn fendith ym mywyd y plant, ac yn fwynhad i galon- nau y canol oed a'r hen bobl. Un o ardaloedd prydferthaf glannau Teih yw Cellan, rhyw ddarn o baradwys wedi disgyn yn dawel esmwyth rhwng Llanbedr-Pont-Stephan a Llanfairclyd- ogau. Ardal enwog a'i hanes yn cerdded i'r gorffeiinol pell ydyw. Bu y Derwydd yn addoli ar y bryniau oddiamgvTch, a cheir arwyddion anwadadwy fod y Rhufeiniwr wedi cerdded yn drwm drwy y lie, fel y prawf ei Sarnhelen a'i Gaer. Torrodd gwawr Protestaniaeth ac Ym- neillduaeth yn foreu ar y bryniau, a dis- gynnodd pelydrau Haul Cristnogaeth yn oleuni a bywyd ar y dyffryn. Cyn geni 1662, yr oedd egwyddorion y Testament Newydd yn lefeinio yr ardaloedd hyn. Bu yr anfarwol Kilsby Jones yn grwt yn rhodio Ilwybrau'r ardal ac yn pregethu yng Ngbapel yr Erw. Onid wrth un o'r hen borerinion y soniodd am dano yn cysgu mewn gwely gwellt ar un o lechweddau Gwlad Myrddin, "Ac yn codi hore SuI fachgen a mwy o wellt nag o wallt gen- nyf." Hawdd teithio i ganol blynyddoedd ffydd a rhamant, gan anghofio mai Cwrdd Gwyl Dewi yw'r testyn. Bu plant ysgol ddvddiol Cellan o dan arweiniad y Cymro twym-galon Mr. 1 Roberts, yn paratoi yn ddyfal ar gyfer yr wyI. Galwyd hen alawon Cymru Fu yn eu holau, a bu y plant yn twrio cyfrolau beirdd gwladgarol eu gwlad am adrodd- iadau, ac edrychem fel ardal yn miaen at wyl o'r fath oreu. Ond, och ni, yng nghwmni yr awel lem a'r gwlaw oer daeth ton o anhwvldeb dros yr ardal. Aeth y plant yn sal, collwyd llawer o ddyddiau o ysgol, a chlywyd swn cwyno yn lie canu, a chafodd Gwyl Ddewi ergyd tost! Gohiriwyd yr wyl, ond dychwelodd y plant yn eu llawn hwyliau, ac anhofiwyd y dwymyn doben, yr anwvd- wst a'r peswch, ac awd ati i ganu ac adrodd drachefn. Codwn hwyl oedd arwyddair y plant i gyd. Cyn pasio canol Mawrth, gwelwyd y dyrfa yn tvnu i gyfeiriad yr Ysgoldy. Eisteddodd Rheithor y Plwyf (y Parch. J. N. Evans, B.A.) yn y gadair, gan ei llanw yn orlawn, a thraddododd anerch- iad cynhwysfawr a thlws ar Dewi Sant." Rhoddwyd arweinyddiaeth y cwrdd i ddwylaw gweinidog yr Annibynwyr (y Parch. J. D. Jones), ac arweinyddiaeth y plant i ofal eu hoff athraw (Mr Hugh Roberts, a gwelwyd bysedd athrawes anwyl y plant (Miss Davies) yn tynu y miwsig goreu o'r berdoneg. Clywsom y plant lleiaf yn camol Y Fuwch Goch," "Y Ddol Newydd," heb anghofio "Dewi Sant"; a buom yn drist a difrifol yn "Angladd y Cyw Bach," a'r offeiriad a'r gweinidog yn yr orymdaith! Osnwyd hen alawon Cymru Fu, megis Ar hyd y nos," "Nos Galan," "Dawns a Chan," "Cvfri'r Goifr," a llawer o rai swynol eraill. Arweiniwyd y plant drwy Alun Mabon," bugeil-gan orchestol Ceiriog. A dyna wledd! Beth yn ein iaith sydd yn fy na turiol? Digon posibl nad oedd y plant yn deall yr hen ffasiwn o roddi bed- wen i ferch fel arwydd o gariad, gan mai ystyr arall sydd i fed wen yn myd y plant. Ac allan o'u byd hwy yr oedd derbyn collen yn brawf fod y caria-d yn wrthod- edig; ffrwyth y pren yn yr haf i blant. Ond deallodd y gynulleidfa, a hawdd gweled fod ergydion barddonol Ceiriog yn cael eu sylweddoli a'u mwynhau. Mor hawdd dilyn y gan, mor gyfoethog bob darn o honi. Nid hawdd cuddio'r deigryn tra yn son am gymodi ar ol y cweryl a'r helbul. Cymerodd Arthur afael Am wddf ei fam a. fi; Ac feI rhyw angel bychan Fe'n hail gymododd ni." Cawsom adroddiadau a chaneuon eraill, a hwyl gyda'r "Pen Rhaw," etc., a ther- fynwyd drwy gyd ganu "Hen Wlad fv Nhadau." Diolch yn fawr i Mr Roberts am arwain 'y plant i'r meusydd cyfoethog hyn; diolch i'r plant am adrodd a chanu a'u holl galon ac wrth fodd eu calon, a diolch i Miss Davies am y fath fyn'd gyda'r ber- doneg. Dylasem nodi hefyd fod dwy o'r merched bychain wedi arllwys eu doniau yn hyfryd drwy'r berdoneg. I Pan ddaw Gwyl Dewi Sant yn 1915 cy- hoedder y cwrdd drwy'r holl ardal, ar- graffer rhaglen daclus, a chaniataer i'r saint i fwynhau y cyfle o roddi tal rhesym- ol am y cyfryw, fel y gellir troi brwdfryd- edd y cwrdd yn Ilyfrau da i Lyfrgell yr Ysgol. Tra y mae pobl y Rhondda ac Aberdar, etc., yn camol Gwyl Dewi Sant, dywedwn ninau, "Beth pe cawsech y cwrdd yn Cellan. Dyna wledd!" UN O'R DYRFA.
11 I ?'—" ' '?"' ? ?'-''?'????;…
11 ?'  —" '?"' ?'?'????; Seven Sisters a'r Cyich. j Dydd^Sadwrn diweddaf daeth tymor y; rhybuddion i derfyn, ac aeth pawb a'u hoffer allan. Tywyll iawn yw hi yma yn bresennol. Gan na wnaed cais at Gyngor Dosbarth y Glo Carreg ynglyn a rhoi y rhybuddion i fown, mae y Cyngor hwnnw yn gwrthod rhoi eu oefnogaeth i'r gweith- wyr tra fyddont allan ar streic, felly bvd(i I rhaid i'r gweithwyr ymladd ar eu cyfrifol- deb eu hunain. Yr hyn sydd yn gwneud y I sefyllfa yn waeth ydyw i lofa y Banwen dynnu eu rhybuddion yn ol a mynd i weithio eto. Y mae bechgyn y Seven, Brynteg, a'r Onllwyn yn addaw amser twym iddynt. Dydd Gwener diweddaf gwysiwyd 21 o weithwyr Glofa Seven Sis- ters, o herwydd streicio dau ddiwrnod tua thair wythnos yn ol, a dirwywyd hwynt i 17s. 6d. yr un, tebyg y digwydd yr un fath i'r gweddili. Dydd Sul diweddaf, yn Soar (A.), cyn- haliwyd rehearsal y gymanfa ganu sydd 1 i'w chynal y Pasc. Arweiniwyd gan Mr j W. J.'Evans, Aberdar. i Nos Sadwrn, yn nghapel yr Onllwyn (A.), cynhaliwyd cyngerdd o dan nawdd aelodau y St. John Ambulance Brigade ac awd trwy raglen ddifyr yn ystod y cyfar- fod gan barti o Briton Ferry. Gwnawd elw sylweddol 1 drysorfa'r brigade.
Advertising
CYMERWCH H-YN YN DDIFRIFOL I Ystyriwch drosoch eich hunain un a ddylai Parot( 4d, gan ba ua y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yn mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau Iachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaetb ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? Y pWNC 0 IECHYD Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- 8M neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymoso-diad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn naillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i' w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau Mae QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa. banol ffurflau, gan ei bod yn Barotoad sydd wedi ei barotoi yn fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- buroJ ereill, addas i'r Afu, TreuJ. iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf. haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin o wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH OFD1. YSTYRIWCH YN A WR Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darilenweh y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddoi. GWERTHIR YN MHOBMAN "GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2S. gc- a 4S. 6ch. yr tin. A Unig Berchenogion FOINIPE BITTERS 14ANUFACTURING COMPANY, LIMITED, ILAMELLV. Bootle Walft.