Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. I

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. (Dan Olygiaeth Moelona.) I CYSTADLEUAETH MAWRTH. I Ychydig yw nifer y cystadleuwyr y tro hwn. O'r rhai dan ddeuddeg dim ond dau anfonodd i fewn a dim ond pedwar yn y dosbarth arall. Beth sydd yn cyfrif am hyn? Hwyrach nad oedd y gwaith y fath a garech, neu, fe ddichon, eich bod wedi gweithio mor galed ynglyn a Gwyl Dewi nes blino son am Dewi na'r Wyl wedyn. Efallai hefyd fod rheswm arall. Mae'r tywydd braf yn dechreu .dod. Mae swn y Gwanwyn ym mrigau'r coed, a hyfryd iawn wedi .oriau ysgol yw cael awr neu ddwy o chwareu yn yr awyr iach, a chymysgu .eich lleisiau a lleisiau lion ereill y greadigaeth ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae popeth ieuanc yn chwareu. Mae'r gath fach wedi chwareu 11awer ar eich aelwyd yn ystod y gaeaf yma, ac yn awr y mae'r wyn yn dechreu ymbrancio hyd y caeau. Chwareuwch chwithau gym- aint fedrwch tra deil y chwareu yn ei flas. Ond peidiwch anghofio dar- llen. A pheidiwch anghofio darllen Cymraeg. Mae'r neb a garo ddarllen yn sicr o fynnu amser at hynny. Os yw eich tad neu eich mam neu eich ewythr neu eich modryb neu rywun caredig arall yn arfer rhoi rhywbeth i chwi ar ddydd eich penblwydd, go- fynnwch am lyfr Cymraeg y tro hwn- llyfr diweddar-yn taro rhai o'ch oed chwi, fel y caffoch fwynhad o'i ddar- llen. A wyddoch am lyfrau felly? Os na, ysgrifennwch ataf fi a gyrraf restr i chwi, ynghyd a'u prisiau. Fel y dvwedais dau lythyr ddaeth i law yn y gystadleuaeth i rai dan ddeu- ddeg-un ar Dewi Sant a'r llall am Lloyd George. Mae'r cyntaf wedi bod yn bur ddiofal, ac wedi gwneud llawer o waltau ellid eu hysgoi. Ond os mai ei gwaith hi yw yr hanes, mai gobaith da am dani fel Cymraes, os ysgrifenna yn fwy gofalus. Mae'r hanes am Lloyd George yn fyrrach ond yn fwy pwrpasol, ac y mae ynddo lawer llai o wallau. I'r sawl ysgrifenn- odd hwn felly y rhoir yr wobr, sef- Dewi T. George, 11 Mount Pleasant Street, Trecynon.. Daeth pedwar i fewn yn y gystad- leuaeth arall-un o Drecynon, un o Heolyfelin, un o Abercynon, ac un o Aberdar. Mae'r un o Drecynon yn ysgrifenn- wr bach addawol iawn, ac y mae JKfnddo lythyr diddorol. Dywed fed dathliad Gwyl Dewi "wedi gadael awydd cryf ynof am ddod yn un mawr fel Dewi Sant yng Nghymru. Mae wedi gadael awydd hefyd i ddysgu mwy o hen lenyddiaeth Cymru, fel y byddo i'r hen wlad i godi yn ei hoi." Llythyr byr daeth o Heolyfelin. Ag ystyried mai deg oed yw yr ysgrifenn- ydd, mae yn dda iawn. Dywed Yr wyr fi yn myned i gadw dydd Gwyl I Dewi tra fyddai byw." Mae llawer o wallau yn y llythyr o Abercynon. Mae eisieu i'r ferch yma ddarllen llawer o Gymraeg yn fynych, fel na fydd cyfnewidiad y cydseiniaid (mutations) yn peri blinder iddi. Rhydd hanes digon diddorol, ac y mae ei llawysgrifen yn dda a'i gwaith yn lan iawn. Treied eto. Yr un o Aberdar yw y goreu y tro hwn. Mae wedi ei ysgrifennu yn gryno bron heb wall. Prin y dis- gwyliem holl fanylion cyfarfod fel ag a geir yn hwn, ond gan fod yma ryw- beth heblaw hynny, mae yn dder- byniol iawn, a chyhoeddir ef fel v mae. Enw'r buddugol yw- Huldah Charles Bassett,, Gadlys, Aberdar. Anfonir "Ystoriwr y Plant" gan H. Brython Hughes i Dewi T. George, a llyfr Gwynn Jones, "Yn Oes yr Arth a'r Blaidd i Huldah C. Bassett. Y goreu yn yr ail gystad- leuaeth yn unig gyhocddir heddyw. Wele ef- 14 Tudor Terrace, Gadlys, Aberdar, Mawrth 9ed. Anwyl Moelona,— Mae'n bleser mawr genyf i anfon llythyr attoch heddyw i geisio desgrifio y modd y darfu i ni, yng nghapel y Gadlys, ddathlu Gwyl Dewi Sant. Cymerodd hynny le uos Fercher, Mawrth y 4edd, pan y daeth tyrfa fawr o blant a rhai mewn oed ynghyd i ddangos eu teyrngarwch i Gymrn a Chym- raeg, a chadw'n fythwvrdd enw "Dewi Sant." Rhoddwyd lie amlwg i'r geninen a chenin Pedr, y naill i arwyddo iechyd a'r llall brydferthwch. Llywyddwyd gan y gweinidog, y Parch. D. Bassett. Ar ot anerchiad pwrpasol a brwdfrydig gan y gweinidog, canwyd Y Fwvalchen Ddu Bigfelen gan Gor Plant. y Gadlys, tan ar- weiniad Miss E. Morris, Ysgolfeistres Tre- salem. Dadl, Dewi Sant," Blodwen a Sarah Thomas. Can, Hen Fenyw Fach Cydweli," Sadie I Williams. Adroddiad, "Mvfi sy'n magu'r haban," May Rees. Can, Cynirii, fy ngwlad, Huldah ¡ Charles Bassett. Adroddiad, Os wyt Gymro?" Cyril I Richards. Can, "Gwne weh bobpeth yn Gymraeg," James Harries. Dadl, "Taln ar law," Edwin Griffiths, H. C. Bassett a James Harries. Ymgyrch "Dydd Gwyl Dewi" gydag arf, gwisg a chan, gan Blant y Gadlys. Ton, Cyfri'r Geifr," gan Gor y Plant. Adroddiad, Gair at Blant Cymru," Gwyneth Evans. Canu penliillion i Gymru," Huldah Charles Bassett. Adroddiad, Saf i fyny dros dy wlad," Morris Morgan. Drama, Dewi Sant," o waith Mr John Davies, Trecynon, gan y Plant. Cyflwyno Baneri, Byddin Cymru i banner cant o blant gan H. C. Bassett, "Rhingyll" cyntaf "Byddin Cymru." Corawd, Ar D'wysog Gwlad y Bryn- iau," gan Gor y Plant. Cyfeiliwyd gan Gomer Griffiths, H. C. Bassett, a John Davies. Gair o ddiolch -any Llywydd. Can, Hen Wlad fy Nhadau," i ddi- weddu gan Willie Probert Davios, a'r dorf yn uno'r cydgan. Yr oedd yn gwrdd ardderchog drwyddo. Teimlwn fod Cymru a'r iaith Gymraeg yn anwylach i mi y noson hono nag erioed. Llonid pawb oedd yn bresennol gan yr ysbryd Cymreig geid ymhob symudiad. Erys y cwrdd yn hir yn fy nhof, yn symbyl- iad i mi weithio yn fwy egniol bob dydd dros fy ngwlad am cenedl. Gallwn fel plant wneyd lla wer dros Gymru wrth siarad ac ysgrifenu Cymraeg. Da genyf ddweyd fod awyrgylch y cwrdd wedi creu awydd mewn ugeiniau o blant i ymuno a "Byddin Cymru." Deuant ataf bob dydd er roddi e1 henwau i fod yn Ysbiwyr teilwng o Gymru, ein Brenhines; ac ni all hyn lai na bod yn gyfrwng i godi'r hen wlad yn ei hoi. Terfynaf gan ddymuno pob llwydd- iant i golofn y plant. HULDAH CHARLES BASSETT. (12 oed.)

Mountain Ash.

Advertising

I Soar, Llwynhendy.

! Galw i'r Gad.

Trefforest a'r Cylch.

.,—| I ARGRAFFWAITH. !

Advertising