Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Y Stori.

Nodion o Abertawe.

News
Cite
Share

Nodion o Abertawe. UNDEB Y CYMDEITHASAU CYMRAEG. MABINOGION, ABERTAWE. Araeth Mr. D. Morlais Samuel. Teimlaf yn dra diolchgar i Mr Meredith am ei eiriau caredig ac am y modd deheuig y cynhygiodd y llwnc- destyn "Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg," ac i chwithau, fy ngyfeillion, am ei yfed mor galonnog. Ceisiwyd llawer gcnnyf o bryd i'w gilydd am i mi ymuno ag undebau, ond gwrthod wnawn bob tro, am fy mod yn ofni na chawn ar ol ymuno farnu drosof fy hun. Meddyliwn mai fi fy hunan oedd y mwyaf cymwys i farnu beth fyddai oreu i mi ei wneud, ac y collwn fy ann- ibyniaeth wrth ymuno ag Undeb, ac y byddai raid i mi weithredu fel y tybiai eraill y dylwn. Pan ddaeth y cwestiwn pwysig o ddiogelu iaith a defion fy ngwlad i ystyriaeth, pen- derfynais ar unwaith mai "mewn undeb mae nerth," a da oedd genvf weled ffurfio Cymdeithasau Cymraeg ar hyd a lied ein gwlad, ac yr wyf wedi cael llawer o bleser a mwynhad wrth wneuthur fy rhan i godi'r hen wlad yn ei hoi." Credaf mai y ffordd fwyaf effeithiol, er hynny, oedd cael yr oil o'r Cymdeithasau hyn wedi eu huno a'u gilydd. Credaf fod "U n- deb y Cymdeithasau Cymraeg" yn mynd i wneud gwaith mawr er dyrch- afu ein gwlad, ac y myn weld ein hiaith a'n llenyddiaeth gyfoethog yn cael eu lie priodol yn ein plith, ac y myn hefyd ddysgu ein hiaith ar ein haelwydydd, yn ein hysgolion elfennol a Sabothol, ac y caiff ei siarad yn fwy nag eriod yn ein hymddiddanion cvff- redin. Dylasai hefyd ofalu arfer ei ddylanwad i gael lie mwy amlwg iddi yn ein pwlpudau, ein cynhadleddau, ac hefyd hyd yn oed ar lwyfan ein Heis- teddfod. Myn yr Undeb weld hefyd ein bod fel Cymry yn cael chwareu teg ynglyn ag etholiadau i swyddau cy- hoeddus, ac nas goddefir i'r awdur- dodau gwladol a lleol wthio Saeson, Ysgotiaid, a thramoriaid i swyddi y gall y Cymro eu llanw yn llawn cystal, os nad gwell. Gofclir hefyd geisio argyhoeddi ein pobl icuainc fod llenyddiath a barddoniaeth ein cenedl yn drysorau gwerth eu medd- iannu, ac y daliant i'w cymharu a llenyddiaeth a barddoniaeth yr Ellmvn lieulr Sais. Y mae gennym ddynion glew yn ein harwain, a gallwn fod yn dra sir y gofala Lleufer a Chrymlyn fod "Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg yn gwneud ei ran yn hyn, a phan wyddom fod ein Hysgrifennydd Cyffredinol yn neb llai na'r ysgol- feistr a'r lienor enwog o'r Barri y mac ein hyder yn fawr. Xis gallem gael rhagorach Arthen yn ysgrif- ennydd. Mae yn llawn mor alluog ag yw o wladgar, a chan fod Adran Gorllewin Morgannwg wedi fy newis i j yn ysgrifennydd yr adran, gallaf eich sicrhau v gwnaf fy ngoreu er llwydd- iant yr Undeb. Gwnewch chwithau yr oil a fedrwch i'm cynhorthwyo, a chredaf y cawn ein gwobr yn y man.

iByr Hanes.I | Byr Hanes.

Advertising