Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Cadw'r Wyl—Y Cymry yn cofio'r…

News
Cite
Share

Cadw'r Wyl—Y Cymry yn cofio'r Sant. J Soar, Pontlottyn. Dathlwyd yr wyl uchod gan Gym- deithas Lenyddol a Dadleuol pobl ieu- aingc yr eglwys. Peth hollol newydd oedd hyn yn hanes yr eglwys hon. Cy- merwyd y mater i fynny'n aiddgar ar awgrymiad y gweinidog. Penderfyn- wyd ar gyfarfod hollol Gymreig. Bu'r cyfan yn lhvyddiannus iawn pan gofiom fod iaith yr estron bron wedi goresgyn y lie. I sicrhau awyrgylch drwyadl Gymreig addumwyd muriau'r Xeuadd a darluniau o Gewri Cymru ym myd Hen a chan, megis y Parchedigion Christmas Evans, W. Harris ("Harris bach," Heolyfelin), Dr. J..P. Williams, un o gyn-weinidogton Soar, Pontlottyn, yr hwn wnaeth lawer iawn yn ei dydd dros addysg y werin; William Evans, Tonyrefail; Dr. Rees, Abertawe Clwydfardd y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd Goerge a Dr. Price, Llantrisant, ac ereill. Gwelwyd amryw ddiarheb- ion Cymreig ar y muriau, a hithau'r hen geninen werdd yn llonni'r llu er ei har- ogI. Penderfynodd y eantoresau wisgo'r hen wisg Gymreig, a pharodd hyn. ynghyda'u caneuon Cymreig, i dan gwladgarwch ennyn yn fflam ym myn- wes y gynulleidfa. Llywydd y cwrdd oedd y Bonwr Cymroaidd William Thomas, is-oruchwyliwr y lofa, ac un o ddiaconiaid yr eglwys. Gwnaeth ei waith yn ddeheuig iawn. Awd drwy y rhaglen ganlynol-Emyn anerchiad y llywydd; canu penhillion cyfaddas i'r amgylchiad gan y Bonwr J. Morgrugyn Jones; unawd, Plas Gogerddan," y Bonwr D.. J. Gruffydd; "Diarhebion Cymreig: eu tarddiad a'u hystyr," gan y Bonwyr Hywel Jones a J. D. Rich- ards. Yr oedd hyn o diddordeb ar- bennig o herwydd medr a donioldeb yr esboniad arnynt. Unawd, Baner ein Gwlad," y Bonwr J. Frederick Jones. Unawd, Rhywun," gan y Fonesig Phoebe Davies, cantores ieuanc ac addawol. Papur ar "Ddewi Sant" gan ein gweinidog, y Parch. R. G. Hughes. Atebodd y pedwar gofyniad caniynoi: j (1) A fodolodd Dewi Sant? (2) Pwy oedd Dewi ? (3) Beth gyflawncdd Dewi yn ystod ei fywyd (4) Beth cen- adwri Dewi i'r oes bresenol ? — Canu penhillion ar "Dewi Sant" gan y Fon- esig Annie Beddoe Thomas, cantores o fri. Darllenwyd barddoniaeth briodol i'r amgylchiad gan y Bonwyr Ben Lewis a David Williams. Hen Faled Gymreig gan y Fonesig W. G. Thomas. Unawd, Ar hyd y nos," y Bonwr D. J. Gruffydd. Cyflwynwyd diolch hrwd y gynulleidfa i'r Bonesau Lydia Price, Ethel Hughes, Marged Thomas, a'r Bonwyr J. Lloyd James, Samuel a Wm. Hall; y Ilywydd, ac yn arbennig i'r Bonwr a'r Fonesig W. B. Thomas, am addurno'r ystafell a gofalu am y llun- iaeth. Dylwn ddweyd fod y Deisen Gymreig yn amlwg iawn a gwerthwyd rhai cannoedd o honynt yn ystod yr egwyl i luniaeth. Daeth torf o tua I 140 i'r cyfarfod, a mwynhaodd pawb eu hunain gymaint nes awyddu am ryw- beth tebyg a gwell yn y dyfodol agos. Ennyniwyd cariad at ein gwlad, ein hiaith, a'n cenedl, a phenderfyniad i fod yn rhywbeth heblaw "cenedlgarwyr unos," ys dywed "Gwili." I'r diben hyn, efallai, y cymerir i fyny Ddrama Golygydd y Darian, sef Die Shon Dafydd, neu Richard Jones Davies, Esq." Cawn. wel'd. Rhwydd hynt iddo i lywio meddwl ifanc Cymru yn ol at Dduw a thragwyddoldeb drwy gyfrwng "Tarian y Gweithiwr." Can- i wyd Hen Wlad fy Nhadau" i der- fynu, ac aeth pawb adref wrth eu bodd. GOH. IDiolchwn i'n gohebydd am ei adrodd- iad ac am ei addewid i wneud ei oreu dros y Darian yn y cylch. Carem glywed oddiwrtho yn aml.-Gol.] Yn Nhreorci. I Mawrth 2il dathlwyd Gwyl Ddewi yn Hermon, Treorci. Cadeirydd, Tomos ap Gruffydd, y gweinidog; telynores, Miss E. H. Davies, Pentre y berdoneg, Llinos Cadwgan; adrodd, Nance Evans; can, Owen Rees; Sketch o Henry V., gan W. G. Cove a'i Gwmni; adrodd, Elizabeth Ann Jones; canu penhillion gyda'r delyn, John Evans, Pentre; adrodd, Mary Maud Jones. Sketch gan fechgyn yr Ysgol Ddyddiol (gwaith D. J. Davies). Can, Tabitha Jones; can, Bronwen Thomas; unawd ar y crwth, T. B. Griffiths; can, Esther Jones adrodd, Myall Thomas canu gyda'r delyn, Llinos Cadwgan; adrodd, William Pugh can, Dinah Jones "Cor yr Hen Gymry," dan arweiniad Mrs. Short; adrodd, Dora Bowen; can, Dd. Evans, Llew Hermon; adrodd, Annie Jones, Cwmparc; adrodd, Thomas Thomas, Cwmparc; can, Melville Jones Sketch o weithiau Daniel Owen, gan Daniel a Esther A. Evans; wyth- awd gan loan Bryncaerau a'i gyfeillion can,, John James Evans; can, Mrs. Mar- gretta Davies. Canwyd "Hen Wlad fy Nhadau i orffen, H. Ho wells, ysgol- feistr, yn canu'r alaw. Diolchwyd trwy bleidlais i bawb am eu cynhorthwy i wneud y cyfarfod yn llwyddiannus. Mae son am gyfarfod Gwyl Ddewi Her- mon. a phawb yn tyru yno i gael gwledd, ac yn wir wele y goreu eto. Nid rhyfedd hyn tra'r oedd Daniel Evans yn ysgrifennydd. A harnu oddiwrth an- sawdd y cyfarfodydd hyn nid oes berygl i'r iaith Gymraeg golli o'r tir. Trueni i lawer gael siomi trwy fethu cael lie. Trosglwyddd yr elw i'r Gymdeithas Genhadol, gan fod ymdrech arbennig i'w gwneud eleni er gostwng y ddyled sydd yn aros, a bydd hyn yn gychwyn- iad da. UN FU YNO. Cwmbach. s os Wener, Chwef. 27ain, yn Neuadd y Gweithwyr, cynhaliwyd cyfarfod i ddathlu Gwyl Ddewi gan Blant Ysgol y Cyngor, dan arweiniad Miss A. B. Lewis, Ysgol y Babanod, a Mr D. J. Hughes-Jones, ysgolfeistr. Cyfeilesau, I Misses M. Harris, K. Evans, A. G. Hughes-Jones. Telynor, Mr Roger Thomas, Cwmaman. Llywydd, Dr. E. O. K. Evans, Cwmbach, yr hwn a agor- odd y cyfarfod ag annerchiad gwresog a byw iawn. Awd trwy y rhaglen fel y canlyn :-Rhan 1. Alawon(a) Cad- lef Gwyr Morgannwg"; (b) Gwlad- garwr Pur," y Cor. Adroddiadaii-(a) l chelgais Plant," pedwar o'r baban- od; (b) Cyffesion y Dosparth Cym- raeg," naw o'r babanod. Can ddesgrif- t iadol, Siglo'r Cryd," Olwen Lloyd. Can a chydgan, Tra bo dau," W. H. Phillips a'r Cor. Unawd ar y delyn, Mr Roger Thomas. Dawns, y babanod. Penhillion gyda'r delyn (Serch Hudol), D. Enoch Williams, D. C. Evans a'r cor. Can ddesgrifiadol, Fy Merlyn," Glyn- dwr Davies. Penhillion (Ton, "Y Melinydd"), Idwal Williams. "Can y Gwarchodlu," Bechgyn Safon II. Can Actol, Myn'd i'r Farchnad," y baban- od. Drama Fer, "Dygwyl Dewi Sant (Ogwen), Safon III.—Rhan II. Cad- wyn o Alawon Cymreig, y cor. Pen- hillion (" Lili Lon"), Ada Palmer (wedi ei cyfansoddi ar gyfer yr amgylch- iad gan y Parch. R. H. Davies, B.A.). Adroddiadau (a) "Mae'r hen Gymraeg yn fyw o hyd," Eirwen Ll. Jones; (b) Hwiangerddi Morgannwg," Safon II. Dawns Gwlad, 16eg o ferched. Baled, Y Ddafad Benddu," T. H. Jones a D. H. Thomas. Can a chydgan, Cwyd dy galon." Mary E. Lewis, Willie Lewis, a'r cor. "Alawon fy Ngwlad," Eddie ac Idwal Jones. Can Actol, Merched Cymru," 16eg o ferched. Penhillion ("Pen Rhaw "), G. Handsford, Eddie Jones, W. J. James, Myrddin Thomas (wedi eu cyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr amgylchiad gan "Ab Hevin" a D. Aneurin James). Alawon (a) Hoffedd William Harri"; (b) "Y Fwyalchen Ddu Bigfelyn," y cor. Hen Wlad fy Nhadau. Rhwng Rhan I. a'r II., dadorchudd- iwyd darlun o'r diweddar fardd cadeir- iol Gwilym Gwyllt," yr hwn oedd Llywydd yr Wyl gynhaliwyd y llynedd. Awd trwy y seremoni, a chafwyd ych- ydig eiriau pwrpasol ar yr amgylchiad gan D. Aneurin James, yr hwn hefyd, ar ran nifer o gyfeillion yr ymadawedig a gyflwynodd'y darlun fel "cofadail" o'r bardd, i'w osod yn y sefydliad uchod, lie y bu yn egniol weithio er dod a hi i sylweddoliad llwyddianus i'r lie. Cafwyd cyfarfod neillduol frwdfrydig ar ei hyd, ac ni fu un dathliad o'r wyl erioed a chymaint o atdyniad iddi ag eleni. Yr oedd y Neuadd yn orlawn, a gorfu i nifer liosog droi yn ol o herwydd hynny. Er mwyn dod i gwrdd a'r rhai siomedig hyn, cynhaliwyd cyfarfod drachefc. nos Lun, Mawrth yr 2il, a daeth tyrfa fawr yno' eilwaith ac er mwyn y rhieni a chyfeillion Seisnig gwnawd ychwanegiad o'r darnau can- lynol at y rhaglen nos Wener:—Chorus, I sing because I love to sing," y cor; can actol, How'd you like to be a baby girl," y babanod; can ddesgrif- iadol, The Tramps," W. H. Phillips, G. Handsford, Eddie Jones; chorus, "Singing Girls and Whistling Boys," y cor hefyd cawd can, Y Gwcw Fach," gan Myrddin Thomas. Yn y cor gwelid plant i Saeson uniaith yn canu yr alawon Cymreig, ac yn mwynhau hynny cystal a phlant y Cymry. Ad- lewyrcha hyn glod mawr ar eu hathrawon a'i hathrawesau am eu dysgu a meithrin y duedd Gymreigaidd yn- ddynt. Llywyddwyd yn ddeheuig iawn y noswaith hon eto gan Dr. E. O. N. Evans, yr hwn hefyd bu mor garedig a thalu yr oil o'r treuliau, fel ag i anfon yr holl elw am y noswaith hon tuag at Gronfa Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd yr elw nos Wener tuag at Drysorfa y Neuadd. Talwyd diolch gwresocaf y cyfarfodydd i'r meddyg parchus am lywyddu, ac am ei haelioni, ac i'r ysgolfeistr, Mr D. J. Hughes- Jones, a'r ysgolfeistres, Miss Lewis, a'r athrawon a'r athrawesau am eu Ilafur a'u caredigrwydd i wneud y cyngherdd- au mor llwyddiannus ym mhob ystyr. Diolchwyd yn gynhes hefyd i'r telynor medrus Mr Roger Thomas, am ei barod- rwydd i gymeryd rhan i gadw yr hen wyl yn fyw yn mro ei faboed. Cymry Cymreig Abertridwr. Nos Sadwrn, Chwefror 28ain, cadwas- om Wyl Dewi Sant gyda gwledd ar- bennig i'r corff ac i'r meddwl. Gwnaeth Cyinreigesau ein Cymdeithas eu gwaith yn gampus a diffwdan. Ymffurfiasant yn bwyllgor i drefnu y bwydydd a'r .byrddau, a synnwyd pawb gan dlysed y byrddau, a chynhesed oedd croeso Cymreig ein chwiorydd. Llywydd y pwyllgor hwn oedd Mrs. Belton, Heol y Brenhin, a'r ysgrifenyddes oedd Mrs. Margam, Thomas Street. Rhaglen y cwrdd cyhoeddus Llywydd, y Parch. E. G. Davies (A.), Abertridwr. Can wladgarol gan John Thomas, Bryn Gelli. Araeth fer ar "Dewi Sant" gan y Parch. T. Morris, X oddfa, Senghen- ydd, a wnaeth i ni deimlo yn fwy balch nag erioed o'n Xawdd Sant wrth glywed am ei dduwioldeb a'i aberth dros ei wlad, ei genedl, a'i Dduw. Deuawd gan Alwyn Owain Davies ac Eris Wil- liams, dau gerddor ieuengaf y cwm, yn swynol iawn. Adrodd, Saf yn wrol dros dy wlad," gan Penri Davies. yn Ilawn o'r ysbryd Cymreig. Can, "Bach- gen bach o Gymru, gan lorwerth Isaac, yn swynol a thyner. Yna cainc ar y berdoneg gan Miss Margam, ysgol- feistres Cwm Aber, Cymraes dalentog a diwyd o blaid daioni yn mhob cylch. Anerchiadau y beirdd, ac wele ychydig o'r gwlith: Y Penillion a Ganwyd: Mae dydd Gwyl Dewi wedi dod, Ac wele'i chlod yn eglur; Ymhlith y Cymry ymhob man Mae gwledd a chan a chysur, Wrth gofio'r duwiol enwog gawr A'i loew hyfawr lafur. Hawddamor i ddydd Dewi Sant, Mae plant ein gwlad yn canu, Gwerinwyr a ddysgawdwyr sydd Yn ddedwydd anrhydeddu Ei goffawdwriaeth hyd y nen- Gwlad awen gar Wyl Dewi. Mae'r hen genhinen yn ei bri Er oerni'r gaeaf garw, Ac felly'n cenedl er oer sen Mae'i heulwen eto loew, A gobaith cadw'n hiaith yn fyw, Rhy firain yw i farw. Fe gofir yn y dref, a'r wlad, Am frad y cyllyll hirion, Ein hiaith ga fri er troion sal Ei sisial raid i'r Saeson, A'u dysgu gant ddweud yr 'ech' Pe'u ceg lech elai'n yfflon. Er gwaetha'r danchwa daeth i'r cwm I dorri cwlwm cariad, A'r sathrfa Saesneg yma gaed, 'Raberiaid geidw'u bwriad- I ,gadw y Gymraeg yn lan Tra'r graian diria'r cread. DEWI AUR. Yna can gan Mr T. Day, I fynu a'r genhinen." Cafwyd pedair cystadleu- aeth ar y pryd ar araith Cenhinen Gwyl Dewi, Ffraetheb, Ton, Darllen. Pen- nill, Dewi Sant, gan Wm. Morse. Canu penhillion gan Rees Thomas a John R. gyda hwyl Gymreig. a Hen wlad fy nhadau" i ddiweddu. Cafwyd cyfarfod lluosog a llawen iawn. "Nid cenedl he.b iaith, nid Cymro heb Gymraeg. DEWI ArB, Ysg. Caerfyrddin. Cafwyd hwyl rhyfeddol wrth gofio Dewi yng Nghaerfyrddin ddydd Llun, Mawrth yr ail. Y Cymrodorion oedd yn gyfrifol am y dathlu. Am hanner awr wedi un cyfarfyddodd holl blant yr Ysgolion Elfennol yn y Pare. Wedi canu yno rai o hen alawon melys Cymru gorymdeithiwyd i Neuadd y Dref, y "Boy Scouts" Ileol ac aelodau o'r Cymrodorion yn arwain. Gymaint oedd yr orymdaith fel pan gyrhaeddwyd y scwar yr oedd y rhai olaf ymhen eithaf Heol Awst. Golygfa hardd oedd gweld y Neuadd yn orlawn o blant a'u diddor- deb yn Newi Sant yn fflam. Gwell fyth oedd clywed y cannoedd yn canu o galon Ar hyd y nos," If Y Gwcw Fach," Gwyr Harlech," etc. Doniol a diddorol yn wir oedd Llew Tegid wrth siarad a hwy. Hen gyfaill y plant ydyw ef, a phe b'ai mwy o'i fath yn ein hysgolion heddyw fel prif-athrawon, ni fuasai perygl clwyfo neb gan ddywediad fel eiddo'r plentyn hwnnw y dydd o'r blaen, sef fod ei athro yn rhegi'r wers Gymraeg pan oedd ei thro hi i ddod. Baich araith y Llew i Gymry bach Ys- golion Caerfyrddin oedd mai amcan cofio Dewi yw cofio'r gwir arwriaeth hwnnw sydd wedi gwneud Cymru yr hyn yw, ac o ganlyniad i gofio'r harwyr i gyd. Eirias hefyd oedd sel y pumcant ddaeth ynghyd yn yr hwyr i'r un Neu- add. Cymdeithas gymharol ifanc yw Cymrodorion Caerfyrddin, ond mynd yn fwy graenus y mae bob tymor. Nis gall beidio fod felly tra Dyfnallt wrth ei Ilyw. Eto nis gall Dyfnallt wneud po- peth yr un pryd. Ac ni phetruswn ddweud pe bai i'r Gymdeithas swyddog- ion eraill tebyg i Ddyfnallt y buasai'n well lawer nag ydyw. Yr ymwelydd eleni oedd Llew Tegid. Yn llywyddu yr Mr John Lewis, Maes y dref. Aw- grymai popeth, pe ond enw'r ymwelydd, y ceid dathliad teilwng y dro hwn. Felly y bu hefyd, oddigerth y rhan or- faterol ga sylw rywfodd gan bob Cym- deithas ar Jbob dathliad. Ac mae gan Cymrodorion Caerfyrddin ei penwendid ei hun parthed y bwyd a ddarperir ar Wyl Ddewi. Tybiwn eu bod wedi credu fod mwy o "dorrad," chwedl yr hen bobl, mewn cael cwpanaid o de yn y naill law a theisen fach dri-chornel yn y Hall na chael bwrdd deilwng a phioled o gawl serenog. Un o ddwy brif nodwedd y cyfarfod oedd araith y Llew. Dewisodd yn destun Ein Gwyl Genedlaethol," ac nid oes angen dweud mai gwr hapus ei fynegiant yw'r arweinydd cenedlaethol. Mynnai fod gan y gorffennol ei neges arbennig. Nid yn unig mae yn fwynhad i grwydro i'r gorffennol ambell dro, ond mae'n ddyledswydd i fyw Ilawer iawn yno, ac i anfarwoli ei neges. Mae rhyw awydd am anfarwoldeb yn y dis- tadlaf o honom. Dull o geisio ailfar- woli y gorffennol yw y meini henafol, yr hen garneddau, etc., welir led y wlad yma. Nid colled i gyd, meddai'r Llew, nad oedd papurau dyddiol i'w cael yn yr oesau cyntefig. Eithr yn oes y papurau hynny, sef heddyw, ni cha en- wogion ond rhyw baragraff byr i'w coff- hau, ac fe lithra eu hanes yn fuan yn ddim ond breuddwyd megis. Da y dy- wedodd fod coffa gwroniaid yn magu gwroniaid. Ergydiodd yn drwm wrth son am gyn lleied o golofnau sydd i'n harwyr led y wlad. Nid mewn myn- wentydd y golygai (a phwysleisiodd hefyd nad yno mae eu lie) eithr yn hytrach ger mangre'r arwyr lie gall y plant o hyd chwarae o'u cylch a holi eu hanes. Ond nid mewn meini yn unig y gellid anfarwoli'r gorffennol a'i arwyr, meddai, eithr nid llai parhaol a dylan- wadol fyddai sefydlu gwyliau neilltuol. Byddai hynny nid yn unig yn coffa gwaith y gwroniaid, ond hefyd yn meithrin cariad at ein harwyr ac at ein gwlad. Mae dydd coffa eu nawdd Sant yn meddwl mwy i'r Gwyddelol na chofio gwyrthiau Sant Padrig. Felly ein gwyl genedlaethol ninnau. Mae pethau goreu Cymru yn y gorffennol yn dod yn bethau byw yn ei bywyd heddyw. Ac mae Dygwyl Dewi yn dod yn ddydd "mesur" iddi-i fesur ein cynydd, mesur ein cynrychiolwyr ar faes y cyhoedd, mesur ein sefydliadau, etc. Mae yn fwy hefyd—mae yn ddydd o alwad ar Gym- ru i ddeffro. Pwy na theimla'r gwaed Cymreig yn llosgi yn ei wythienau wrth glywed y Llew 1 Y nodwedd arall i'r cyfarfod ac a'i gwnaeth yn wir Noson Lawen Wyl Ddewi oedd y ddrama ferr a berfform- iwyd. Tipyn o frethyn cartref oedd hon, o wlad Dyfnallt, yn dwyn yr enw Dydd Mawr y Pentref," a brethyii graenus ydyw hefyd. Rhydd i ni gip ar arwedd newydd i athrylith y prifardd, yn arwedd na welwyd o'r blaen, ond dy- wed y perfformiad nos Lun ei bod yn un y gall ein llywydd clodfawr fentro ei datguddio i'w genedl. Tair act ferr sydd i'r ddrama, a gellir myn'd trwyddi yn hwyIus mewn rhyw yspaid o hanner awr. Desgrifiad byw yw o ddull yr hen bentref Cymreig ddeugain neu hanner can' mlynedd yn ol o dreulio un diwrnod yn y flwyddyn trwy gynnal Eisteddfod. Dau irif gy- meriad y pentref Cymreig yn y cyfnod hwnnw oedd Prydydd y Pentre"—dyn a'i gyfoeth yn ddihareb, sef cyfoeth mewn athrylith a gwallt hirllaes, a Scweier y Plas warchaeai'r pentref —gwr a'i gyfoeth mewn bywyd braf ac amgylchiadau dymunol, ac mewn aur a helgwn. Ac nid yw Dyfnallt wedi anghofio rhain. Y cyntaf yw ysgogydd mawr y symudiad Eisteddfodol yn y- pentref, pib aur y pwyllgor i fynegu ei olygiadau ,a sicrwydd cystadleuaethau na bu eu tebyg trwy Gymru benbaladr tra'r olaf yw'r warant y bydd yr oil yn "paying concern," chwedl yr hen grydd. Yn yr act gyntaf mae Wil y Prydydd yn nrws y Plasdy yn dymuno cael gair gan y Scweier. Dyna rhyw chwe trodfedd o Seisyn main yn ei wysio i fewn,—beth ? Hawyr bach! Wil y Prydydd-gwr y wisg gyffredin sy'n byw yn yr hen gut wrth droed yr allt yn cae l myn'd i fewn i'r plasty! O'r anrhyd- edd! Ond hyd yn oed yno, bardd oedd Wil, a thra bu'r chwe trodfedd yn chwilio am y Scweier 'roedd Wil wedi dotio ar y farddoniaeth welai yn y dar- luniau harddent furiau'r ystafell. Dyma'r Scweier i fewn, yn wr lion yn ei "glos penlin," a mawr oedd ei lawen- ydd wrth wel'd un o'r "Beirdds" wedi dod i'w dy. Chwerthinodd yn iachus wedi clywed neges Wil, ac wedi llawer codwm flin dros eiriau twmpathog. y Gymraeg dywedodd y kuasai yn bleser "melldigedig" ganddo i fod yn Llywydd i Eisteddfod Blaencwm, ond y byddai'n* rhaid iddo, gan mai mewn capel y bu- asai, ac nid mewn "eclws," i beidio "iwso geire mawr. Amhosibl fyddai cael perffeithiach Hywel Myrddin a Mr J. F. Lloyd yn y cymeriadau o Wil y Prydydd a'r Scweier. Teilwng fu dathliad Gwyl Ddewi yng Nghaerfyrddin eleni pe ond ar gyfrif y perfformiad godidog o Ddydd Mawr y Pentre." AR Y MUR. Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen. Dathlwyd Gwyl Dewi Sant nos Sad wrn, Chwefror 28. Cynhaiiwyd cinio yn yr Old Oak Tea Rooms, a daeth nifer go lew ynghyd. Ni bydd dim swn mawr ynglyn a'r Gymdeithas hon byth, ac nid er mwyn y bwydydd y cynhelir cinio Gwyl Dewi. Para'r aelodau'n Gymry ar hyd y flwyddyn, a phwysiced y dydd hwn yn eu golwg yn unig a gyfrif am gynnal cyfarfod eithriadol i ddathlu gwyl ein Mabsant. j Nid oedd yno un ymwelydd o fri; cwmni o frodyr oedd yno'n nodi carreg filltir arall yn nhaith yr hen wlad, ac yn disgwyl y dyfodol gydag asbri ieuenctid. Llywyddwyd wrth y bwrdd gan y brawd G. Ifor Evans o Goleg Magdalen, brodor o Abergele, a chyn aelod o Goleg y Gogledd, Bangor. Efe yw pen blaenor y Dafydd, ac ni ellid cael ei ffyddlonach. Wedi'r bwyd galwodd ar y cwmni i dyngu llw o newydd i fod yn ffyddlon i ysbryd Dewi Sant ac i Ddafydd ap Gwilym. Gwnaethpwyd hynny'n ufudd gan bawb—a'r arwyddlun oedd ddwfr glan gloyw. Yna ymneilltuwyd i gael coffi a chan. Yr oedd yn ein plith Mr Robert Morris, Bethesda, aelod o Gor Mag- dalen, a mawr oedd ein braint. Canys y mae gan Mr' Morris lais godidog, a chafodd yr anrhydedd yn ddiweddar o gael gorchymyn i ganu ger bron Tywysog Cymru. Rhoddes y Tywysog iddo anrheg dlos werthfawr er cof am hynny. Swynwyd ni'n fawr gan ei ganu, ac y mae ar y Dafydd ddyled fawr iddo am ei gared- igrwydd a'i barodrwydd. Canodd y Cadeirydd yntau nifer o hen alawon Cymreig yn swynol dros ben fel y bydd efe'n arfer. Datganwyd hen alawon a baledi Cymreig eraill gan rai o'r aelodau, ac unodd y cwmni i ganu Yr hen wr mwyn," a phethau eraill. Cafwyd penhillion gan R. Bennet Hughes o Goleg yr Iesu (gynt yn Ysgol y Friars, Bangor), yn disgrifio rhai o'r aelodau'n ddoniol iawn, a darllenodd y cadeirydd gyw- ydd byr i'r un perwyl. Yr oedd yno gystadleuaeth hefyd-araith ddifyfyr ar y testun Llwy," o hyd dau funud. Cafwyd naw araith, ond rhoddwyd pump o'r naw ymgeisydd allan o'r gystadleuaeth am resymau rhyfedd iawn, a rhannwyd y wobr rhwng tri o'r pedwar oedd ar ol. Ni dderbyni- wyd y dyfarniad yn unfrydol! Ter- fynwyd cyfarfod hwylus dros ben drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Yn y City Temple, Llundain. Gyda miloedd ercill o Gymry cawsom y fraint o fod yn y He uchod nos Lun, Mawrth 2il, mewn gwasan- aeth crefyddol Cymraeg. Cynelir cyf- arfodydd coffa am Dewi Sant mewn gwahanol weddau, ond credwn fod cyfarfodydd crefyddol mewn mwy o gydgordiad a bywyd a chenhadaeth y gwrthrych nag unrhyw wedd arall. Mae y pedwar enwad Ymneillduol, sef y Wesleyaid, yr Annibynwyr, y Methodistiaid, a'r Bedyddwyr, yn ym- uno yn flynyddol i gynal y cyfarfodydd yma, a neillduo'r gweinidogion yn cynrychioli yr enwadau a enwyd i weinyddu. Y ddau dewisedig y tro yma oeddynt Y Parch. Herbert Mor- gan, M.A., Bristol, a'r Parch. H. Barrow Williams. Dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen gan y Parch. J. R. Roberts, Llundain, a gweddiwyd gan y Parch. D. C. Jones, Boro'. Testyn y Parch. Herbert Morgan ydoedd Esaiah 54. 2, "Hel- aetha le dy babell. Estyn gortynau dy breswylfeydd, sicrha dy hoelion." Dangosodd fod y prophwyd am galonogi y genedl yn Babylon, fod gwawr ar dori arnynt, a bod eisiau iddynt barotoi ar gyfer eu rhyddhad. Dangosodd fod gan y geiriau gen-, adwri at y genedl Gymreig heddyw. Cyfleusderau Cymru yn fwy nag erioed o'r blaen-iaith y cyfle ydyw "Helaetha le dy babell," etc. Dan- gosodd mai drwg Cymry ydyw gor- mod o sel enwadol-angen undeb yn mhlith yr holl enwadau crefyddol i fod yn unol yn erbyn y drwg yn mhob ffurf arno. Tuag at bod yn gryf yn erbyn pechod rhaid credu fod Duw yn berson-nid yni yn was garedig drwy y greadigaeth. Credu yn yr Ysbryd Glan; meddu argyhoeddiadau dyfnion, a chael safonau ysbrydol uchel. Cvfeiriodd at gerbydau trydan- ol ein trefi; mai y fraich haiarn sydd yn rhedeg dros y wifren lie yr ym- guddia y trydan sydd yn rhoddi nerth i'r cerbyd symud. Unwaith y cyll y fraich haiarn y wifren mae y cerbyd yn hollol ddinerth, felly yr eglwys yn ngwyneb materoliaeth y byd. Rhaid cael y nerth dwyfol i symud y galluoedd, nid "bazaars" a threfniadau dynol sydd i wneud, ond dylanwad a nerthoedd yr Ysbryd tra- gwyddol. Rhaid codi ein delfrydau fel Cymry at bethau ysbrydol. Mae yna berygl i ni oddiwrth y cyfleusderau, os na fydd yr hoelion wedi eu sicrhau- "sicrha dy hoelion." Byddai helaethu y babell heb hynny yn gosod y babell mewn mwy o berygl. Sicrha dy hoelion mewn bywyd pur. Cadw dy afael yn yr hen argyhoeddiadau. Estyn dy gortynau, ond gofala am ffynhonellau dy ddylanwad, a thrwy hynny sicrha dy hoelion. Os yw dy gyfleusdearu yn tyfu tua'r nefoedd, gofala fod dy wreiddiau yn gyfatebol. Dyma bregeth a chenadwri arbenig ynddi at y genedl heddyw. Cafwyd pregeth ymarferol a da drachefn gan y Parch. Barrow Wil- liams oddiar y. geiriau, "A bu fel yr oeddynt yn ymddiddan a'u gilydd, yr lesu ei hun a neshaodd (Luc 24. 15). (I) Daeth yr lesu pan nad oedd neb yn Ei disgwyl. Nid oedd Pedr, Iago, na loan, ei gyfeillion, yn Ei ddisgwyl. Dywedodd wrthynt y deuai, ond ni ddisgwylient am dano. Daeth yr lesu at Ei gyhoeddiad, nid fel llawer pre- gethwr heddyw yn ei dori. Daw Iesu eto pan na fydd neb yn Ei ddisgwyl. Faint o disgwyl sydd yma heno-dim llai beth bynag nag oedd gan y ddau ddisgybl. (2) Daeth at ddynion cyffre- din, mewn dull cyffredin. Fwy oedd- ynt y ddau ar y ffordd, nis gwyddom, yn sicr yr oeddynt yn ddynion cyffre- din. lesu yn myned allan o'r ffordd i ddangos mawredd dyn. Treuliodd Iesu y Sul cyn dioddef gyda Zacheus y publican, a'r Sabboth cyntaf wedi hyny gyda'r ddau yma. Disgwyl Duw mewn ffordd anghyffredin fyddwn ni. Disgwyl drwy John Elias fu pobl Beddgelert, ond drwy Richard Wil- liams, pregethwr dison am dano, y daeth yn y Diwygiad. (3) Dod at rai mewn tristwch, tristwch hiraeth, tristwch dyryswch meddyliol, a thrist- wch euogrwydd. (4) Daeth at y rhai oedd yn son ac yn meddwl am dano. Dywedodd hen forwr ei fod bob amser wedi sylwi fod yn werth mynd a'r llong gan milldir oddiar y llwybr er cael y "trade winds." Felly yn gre- fyddol, er cael gafael ar yr Iesu. Cafwyd cyfarfod rhagorol yn mhob vstvr. D. JONES. Aberteifi. Cymdeithas Cymreigyddion Caerffili. Cafodd ein Nawddsant a'i ddydd sylw arbennig yng ghaerffili eleni, a hyfryd ydoedd gweled rhyw dri chant o Gymry aiddgar y lie am y tro cyntaf yn Neuadd y Farchnad nos Wener, Chwefror 27ain. Cafwyd cwpaned o de wedi ei arlwyo yn y modd mwyaf Cymreig, gyda chyfarfod amrywiaeth- 01 yn dilyn. Melus oedd clywed nodau y delyn yn y cwrdd, a'n telynor am y nos oedd Mr R. Barker. Canwyd pen- hillion gyda'r delyn gan Mr W. O. Jones (Eos y Gogledd), Merthyr, sydd bellach yn adnabyddus yn y grefft. Canodd cor y plant dan arweinydd- iaeth Mr W. Williams, a chafwyd unawdau gwi Mri David Peters, J. R. George, a Mrs J. D. Hughes, gyda deuawd gan Mri William Williams a David Peters. Y brodyr wrth y ber- doneg oedd Mr Williams, Underwood, a Mr Wedlock. Y rhan fwyaf ddiddor- ol o'r cwrdd oedd y ddrama, "Ffwl Ebrill," o eiddo'r Parch. D. Tafwys Jones, ac a berfformiwyd gan Gwmni y Twr Cam. Comedi ddigrif dros ben ydoedd hon, ac amlwg oedd mai llwyddiant hollol fu yr ymgais gyntaf hon gyda'r ddrama. Cymerwyd cym- eriadau y ddrama gan Mri. James Davies, Tom Roberts, J. D. Hughes, John Roberts, D. T. Salathiel, Abra- ham Jenkins, B.A., a'r Parch. E. Pryce Evans, B.A., a'r boneddigesau, Mrs J. D. Hughes, Mrs Peters, Miss Gwen Lewis, Miss Roberts, a Miss Rowlands, B. A. Cymerwyd y gadair a siaradwyd ar Ddewi Sant gan y Parch. E. Pryce Evans, B.A. Dis- gwylir Dyfed i annerch y Gymdeithas nos Wener, Mawrth I3eg. ABRAHAM JENKINS. Ferndale. Nid annerbyniol fydd ychydig nodion am ymweliad y don flynyddol yn ein deffroad cenediaethol dros draethell Die Shon Dafyddiaeth Fern- dale. Yng ngwyneb y ffaith fod mwy- ,afrif mawr o rieni plant y lie poblog hwn yn Seisnegeiddio eu haelwydydd, lie na chlywsant hwy eu hunain, ond y Gymraeg yn tanio eu calonnau wrth ymgomio. Gwelwn ddoethineb rhyw- rai yn gwasgu ar blant yr ysgolion dyddiol i ddysgu gweithiau athrylith- gar ein beirdd a'n cerddorion i'w harfer ar yr Wyl Genedlaethol i gofio am un gysegrodd ei fywyd i wareiddio Cymru. Profa arholiadau yr Ysgolion Sul mai ychydiv o dan ddeunaw oed yn Morgannwg fedr ysgrifennu llythyr yr iaith eu mamau. A chan fod yr arferiad wedi ei seilio yn yr ysgolion, gresyn meddwl nad oes y fath beth a chymdeithas o Gymry yn bodoli yma i hyrwyddo yr achos clodfawr hwn yn ei flaen. Pa sawl gweinidog sy'n tagu y Gymraeg ar ei aelwyd, yn ennill ei fvwiolaeth drwyddi, ac yn dweyd nad oes iaith tebyg iddi i addoli? Mae gwaith yr athrawon a'r athraw- esau i ddysgu y plant i seinio y cydseiniaid Cymraeg yn an- hawddach am fod eu rhieni yn eu meithrin yn Saeson uniaith. Dath- lwvd Gwyl Dewi eleni yn ysbryd hen drigianwyr Blaenllechau, y Ffaldau, a Dyffryn Safrwch, sef ag alawon fy ngwlad, y ddrama, a thynion dannau'r d'aly Un rhaglen sydd gennyf, sef YsgCl y Babanod, dan arolygiaeth yr Ysgolfeistres, Miss Hughes, i'r hon y mae rhieni plant Ferndale mewn dyled mawr am ei hvmdrech. Wedi cyflwyno yr Wyl i ofal Duw Dewi, ac erfyn am ei fendith i feithrin rhiniau Dewi yng nghalonnau'r plant gan Mrs Lloyd, Gwawrfryn, awd trwy y rhaglen ganlynol:—Can, "Eisteddfod Cymru," Cor o Blant. Braslin o hanes Dewi Sant, Isathrawes Miss A. Ro- berts. Unawd ar y delyn, Miss Selina Thomas. Anerchiad, Parch. B. Wat- kins (M.C.). Ton, "Y Melinydd," Cor o Blant. Dechreuad a phrioldol- deb gwisgo'r Genhinen, Isathrawes Miss Evans. Canu penhillion gyda'r delyn, Maggie John. Adroddiad, "Dewi Sant," Dosbarth o Blant. Anerchiad, Mr E. Williams. Unawd ar y delyn, Miss Thomas. Hanesyn am Mari Jones a'r Beibl," Isathrawes Miss Bull. Anerchiad, Ficer Evans. Ton, "Cymry Bychain Ydym," Cor o Blant. Hanes, "Penrhys," Isathrawes Miss Lloyd (Gwarfryn). Darllen pen- hillion "Gwyl Dewi" gan Joseph George. Unawd, "Hen Wlad fy Nhadau," gan Miss C. Roberts, a'r delyn yn perdoni. Emyn a gweddi i ddiweddu cyfarfod mewn awyrgylch gwir Gymreig. Diolchwyd yn wresog i'r ysgolfeistres a'r isathrawesau am weithio mor selog dros y Gymraeg. S.T. AR HYD Y NOS." Cofia'r Cymro dewr gwladgarol Wyl Dewi Sant, Gwron dewr ac mor deyrngarol Oedd Dewi Sant; Canwn ninau gyda'r delyn Am hen wron mawr y cenin, Gariad pur at bob ryw elyn, Gwyl Dewi Sant. Mae'r ysgolion 'nawr yng Nghymru Yn cadw'r wyl, Cymyl duon sy'n gwasgaru Trwy gadw'r wyl; Dydd Gwyl Dewi gofiwn ninnau Tra yn byw yng Ngwlad y Bryniau, 'Rhwn fu byw bron ar ei liniau- Cofiwn gadw'r wyl. JOSEPH GEORGE.

"SARZNE" BLOOD MIXTURE