Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIANOS AND  st H T d PIANOS AND PIANOS AND ftC, h1 eapest u House in the Tmdes ORGANS. I ORGANS. "eape OUBe In e ra e.. ORGA NS. ESTEYaORGAN AGENCY, 24, Queen-street, Cardiff. BRANCH ADDRESSES:- SWANSEA 33, Castle-street. PONTYPRIDD 6, Taff-streei. NEWPORT .is, Commeroial-atreet. GLOUCESTER.42, Eaatgate-street. j IiLANELLY .60. Stepney-street. BRISTOL 142, Newfoundland-road, j MERTHYR 114, High-street. BRIDGEND .1, Wyndham-atreet. ( Tamti Hire System, from 10/- Monthly. | rEt- Large Discount for Cash. | OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. I N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. DO YOU SUFFER FRONl EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Carmarthen Dairy, J Seymour St. a"Whitcombe-St AU ABERDAR. Cynyroh Uaethdy o'r Fath Oreu, yn cynwys Hufen Ceuledig Ammrwd a Devonshire, yn newydd bob dydd. Wyau Nowydd Ddodwy-Gwarantedig. Darperir ar gyfer Partion Te. Anfomr Llaeth ddwywaith y dydd. FORGE FACH, CLYDACH, Ger ABERTAWE. CYNHELIR Y NAWFED Eisteddfod Flynyddol yn y lie uchod, Sadwpn, Gorphenaf 11, 1914. <X)RAU MBIBION, Castella (Dr. Protheroe) Gwobr JE20 CORALU CYMY8G, "My Love is like the red, red Rose (D. Emlyn Evans) „ xio AIL-GORAU MEIBION, In the Sweet bye and bye (Dr. Protheroe) „ ie6 PBir FBIBMIAD Dr. DAN PBOTHEROE, Chicago. Bhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddiwrth D. CLYPACH THOMAS, yr Ysgrifenydd am y pris arferol. Trfeorchy Annual Eisteddfod WHIT TUESDAY A WEDNESDAY, 1914 ADJUDICATORS Dr. McKnight, Dr. Coward, Emlyn Davies, Esq., A.R.C.M., Brynfab, &c. COMPETITIONS Chief Choral, j £ 100 Second Choral, J61 5 Chief Male Voice, JG30—40; lecond Male Voice, J610 Juvenile Choir, JB10 Poem, 3 Guineas and Chair. Brass Bands, Ambulance, Home Nursing, Needlework, Drawing, Shorthand, Poetry, Recitations, &c Programmes, 2d. each, from the Secretaries, Eisteddfod Office, Treorchy. GOWERTON Now EISTEDDFOD, MAY 23rd., 1914. Male Voice Choirs, £25; Mixed Choirs, £ 12; Children's Choirs,.tlo; Solos (each) E2 2s. &:Cl IB. Soloe (Children) 10/6 and 5/- Programmes now obtainable (2d. Post free) from the General Secretary, Mr. W. T. MORGAN, Ivy Cottage, Gowerton. Can, Llen a Cwe riq Owalth y dlweddar Myfyr Wynn, sef BACHAN IFANC Y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM SIRHOWI A'R CYLCH, DARNAU BARDDCNOL A'R LLYTHYRA. NEWYDD. Pris 1/ Drwy'r Post 1/2. I'w gael o Swyddfa'r DAEIAN, rexx oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman EISTEDDFOD All DYFODOL. Dydd Sadwrn, Mawrth 28, 1914. — Cyngherdd Cystadleuol, Mardy, Rhon- dda. Dydd Sadwrn, Mai 2, 1914.-Eistedd- fed Gadeiriol Cwmmawr. Sadwrn. Mai 23, 1914. Eisteddfod Gowerton. Llun Gwyn, 1914.—Eisteddfod Gadeir- iol Burry Port. Mawrth-Gwyn, Mehefin 2, 1914.-Eis- teddfod Llanharan. Mawrth a Mercher-Gwyn, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Treorci. Dydd Sadwrn, Gorph. 11, 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Forge Fach, Clyd- ach, ger Abertawe. Llanharan Eisteddfod Whit-Tuesday, June 2nd, 1914. THIEF EVENTS: CHIEF CHORAL, "Insulted, Chain'd." Prize £20. MALE VOICE, The Aesyrian came down." Prize;elb. SECOND CHORAL, "Dddiau Dyn sydd fel ulaswelltvn." Prlzet7. Solos (Vocal & Iiistrumental), Recitations, etc. For full partica ara see Programmes, rid. post free, from the Secretary, J. THOMAS ARGRAFFWAITH DA, GLAN a DESTLUS GYDA PHRYDLONDEB, yw nodweddion Thomas a Parry, Cyf., 12 qEOL CAER, ABERTAWE. Lie mae Cymry hyddysg yu y gelfyddyd. Ond anfon Llythyr-gerdyn ceir Eaiamplau o Adroddiadau Eglwysfg, iestynau a Rhagleni Eisteddfodol, Tafieni Cyfarfodydd Cerddorol, Ac. Pellseinydd Centraq 151. Cofiwoh yr enw- THOMAS a PARRY, Cyf., ABERTAWE. Mae rhai yn son am godi Cymru yn ei hol ein hawydd ni yw gyrra'r Hen WJad yn ei blaen. I'r amcan hwn yr ydym yn oyflogi Cymry sydd ar y blaen yn y gelfyddyd o Argraffa. ANFONWCH AM SAMPLAU. MARDY, RHONDDA, A GRAND Competitive Concert will be held on Saturday, March 28th, 1914. Champion Solo (Open), Competitor's own selection. R3 3s. and a Silver Cup. Open Recitation, Competitor's own selection. JEl Is. Also several other items. Programmes to be obtained from W. L. HOWJSLLS, 33 James St., Mardy, Glam. BURRY PORT WHIT MONDAY EISTEDDFOD Male Voice: 'The Assyrian Came Down' (Cyril Jenkins), £40. Second Male Voioe Little Church" (Becker), £ 8. Pro- gramn s lid. post free) from-General Sec., Wm. Griffiths, Elkington Rd., Burry Port. CWMMAWR GRAND CHAIR EISTEDDFOD SATURDAY, MAY 2nd, 1914 (Labour Day). Male Voice, The Assyrian Came Down" 20 0 0 Mixed Choir, Ar lan'r lor- ddonen Ddofn" 10 0 0 Brass Band Contests. 28 0 0 And Specials. Hon. Sec., Mr. E. W. Davies, Solicitor, Tumble, Llanelly. Programme, ltd. post free. Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially low rates: One week 4 wks. IS wka. a. d. a. d. a. d. 20 words 0 6 1 C ■ • i8 „ 0 8 a a 1 0 36 „ » 1 0 I 0 7 < These charges apply only to the follow- ing classes of advertisements:—Apart- ments, Situations (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, and Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Postal Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will bm charged. Advertising and Publishing Olleso, Cardiff Street, Aberdare. Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. Teimlwn mai angenrhaid yw gwntv4 yn hysbys y cyhoeddir y Darian r bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi i'r holl ddosbarthwyr brydnawn yr at dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonanf hysbysiadau neu newyddion urgent ofalu eu bod yn cyrhaedd y swyddfr heb fod yn ddiweddarach na borr Mawrth. Carem gael bob gohebiact* arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phob tra fodaeth yn dal perthynas a'r Darian i'r cyfeiriad a ganlyn YN UN IG SWYDDFA'R DARIAN," ABERDAR. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lic. yr wythnos, 6ch. am fis, 1/7 i y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post.
[No title]
SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad.
Nodiadau'r Golygydd.¡
Nodiadau'r Golygydd. Cychwynnodd Mr. Tom Mann i Dde- heubarth Affrica yr wythiios hon. An- fonir ef allan gan y Syndicaliaid—yr adran wylltaf a mwyaf eithafol o'r gweithwyr yn y wlad hon, i wneud trefn ar rengoedd y gweithwyr yno. Ym marn arweinwyr profedig Llafur yn y wlad hon efe yw yr olaf byth ddylesid anfon yno. Nid yw'r dosbarth y perthyn efe iddo^n rhyw barchus iawn o gyfanrwydd a threfn y symudiad llafurol gartref. Bwriadai'r Syndical- iaid i anfoniad Tom Mann fod yn ateb i alltudiad y naw. Yn bresennol cyd- ymdeimla'r wlad a'r naw. arweinydd a esgymunwyd o Ddeheubarth Affriea a Haw uchel gan y Llywodraeth yno, a'r perygl yw i Tom Mann wneud rhywbeth a ddiffodda'r cydymdeimlad hwnnw. Bygythir anfon Larkin a Tillet allan eto. Paham na anfonid Mr. Neft o Lanelli allan i dynnu dannedd Botha? Byddai hynny yn well gwaith iddo na phoenydio arweinwyr Llafur yn y wlad hon. Difyr i Ddatgysylltwyr selog oedd darllen hanes ymweliad Esgob Llan- elwy a'i ddirprwyaetli a Mr Asquith i brotestio yn erbyn Dadwaddoliad yr Eglwys Wladol yng Nghymru. Dir- prwyaeth o ddefaid Ymneillduol oedd hon, wedi eu casglu at eu gilydd gan yr Esgob. Wedi mynd i Lundain, aethant yn ormod o ddefaid. Yr oedd hen hyrddod y corlannau adref bofc un, a neb yno allai roi cymaint ag un twp i siglo tipyn ar y Prif-weinidog. Cynnyg da oedd llunio'r ddirprwy- aeth hon hefyd. Yr oedd ganddi betisiwn wedi ei lawnodi gan filoedd. Ond rywsut nid oedd y rhai a'i lluniodd yn meddu fawr o ffydd ynddo. Dylas- ai'r petisiwn fynd i Dy'r Cyffredin, lie gellid chwilio i'w werth, ond ni fynnid iddo fynd yno, ac aed ag ef i'r Prif- weinidog er mwyn osgoi ymchwiliad Ty'r Cyffredin. Nid oedd gan y Prif- weinidog fodd i brofi gwerth y petisiwn, ac felly nis gallai wrando arno, ac aeth y petisiwn yn ofer. Tybir fod Cymru wedi mynd yn ddi- fater o Ddatgysylltiad. Nid yw hyn yn ffaith. Cymeryd yn ganiataol yr ydym fod popeth bellach wedi ei benderfynu. Pe amgen dichon y gellid cae l deisebau wedi eu llawnodi gan filoedd o Eglwys- wyr i ategu cais gwerin Cymru am Ddatgysylltiad. Ond beth gwell fydd- em o chwareu plant felly, gan fod y cwestiwn can belled ag y mae a fyno Cymru ag ef wedi ei benderfynu yn yr unig ffordd y gellir ei benderfynu. Y mae Mr Asquith bellach wedi nodi ei gynllun i geisio boddloni y rhai wrth- wynebant Ymreolaeth i'r Iwerddon. Cynhygia i bob Sir yn yr Iwerddon ben- derfynu trwy hleidlais pa un a dderbyn- iant Ymreolaeth. Ca'r siroedd a wrth- odant, eu cynrychioli yn Senedd Pry- dain fel o'r blaen. Ymhen chwe mlj-n- edd bydd raid i'r holl siroedd dderbyn Ymreolaeth oni fydd ganddynt fwyafrif yn erbyn hynny yn Sennedd Prydain. Boddlonai Syr Edward Carson i dder- byn y cynllun pe gadewid allan yr amser terfynol. Gallwn gasglu oddiwrth y drafodaeth yn y Sennedd fod rhyw lew- yrch o obaith i'r pleidiau ddeall eu gil- ydd ar y pwnc. Y gwir yw, nid yw'r teimlad yn erbyn Ymreolaeth yn Ulster yn gymaint ag y dywedir ei fod. Ceisir corddi pobl i I wrthwynebiad i Ymreolaeth a Datgy- sylltiad a phethau eraill, yn bennaf, er mwyn rhwystro gweithrediad y 'Ddeddf Seneddol.' Dyma'r fam a ffynna ymhlith pobl yn gyffredin yn y wlad. Os yw y Ddeddf Seneddol yn mynd i weithredu fel y bwriadwyd iddi, bydd y fendith fwyaf gafodd y werin yn y wlad hon erioed, a bydd y bobl gyffredin yn cael difyrrweh mawr wrth weled yr Arglwyddi yn tynnu eu gwallt- iau ac yn bwyta'u hewinedd.
I Nodion o Frynamman.I
I Nodion o Frynamman. I GAN "WALCH HYDREF." J Nos Iau, Chwefror 26, yn Moriah (M.C.), traddodwyd darlith yn y lie uchod gan y Parch. Rhys J. Huws, Glanamman, ar "Gyfalaf. Cawd darlith odidog a'r gwrandawyr wrth eu bodd. Cadeiriwyd gan y Parch. L. Rhystyd Davies, gweinidog yr eglwys. Yr elw i fynd i gynnorthwyo yr hen frawd Ebenezer Richards, Gorshelig, yn ei afiechyd. Unwyd mewn glan briodas yn y Cofresdy, Abertawe, dydd Iau, Chwefror 26, Mr Albert Bartholomew, mab Mr a Mrs Thomas Bartholomew, M. E., Gwauncaegurwen Co., Bryn- amman Road, a Miss Ethel Rogers, Royal Oak Hotel, Hafod, Abertawe. Traddodwyd darlith ar "Drioedd, hen a newydd," yn Gibea, nos Fawrth, Mawrth 3ydd, gan Llew Tegid, Bangor. Cafwyd yma eto ddarlith fuddiol ac adeiladol. Cad- eiriwyd gan Mr William Llewelyn, Bryncelyn, Cwmgarw Road. Blin genyf i wall i syrthio i fewn i'r nodion diweddaf, sef yn hanes yr Eisteddfod. Nid oedd yna enwau y beirniaid i fewn. Beirniadwyd y canu gan Mr John Pencrug Jones; am- rywiaeth, Mr Rees Jones, Quarry Road; prize bags,, Mrs Tom Bartholo- mew, Glyn House
I Caerdydd. I
I Caerdydd. I I Gwyl Genedlaethol. I Prydnawn dydd Llun diweddaf caw- som y fraint o fod yng ngwyl genedl- aethol Gymreig Corau yr Eglwys yn Es- gobaeth Llandaf. Yr oedd cynhulliad rhagorol o gantorion o'r gwahanol blwyfi, ac yr oedd yn bleser genym weled cynifer o aelodau Cor St. Mair, Aberdar, y rhai sydd wedi glynu yn ffyddlon oddiar y cychwyniad yn 1900. Yr oedd y cor undebol y flwyddyn hon eto fel y llynedd dan arweiniad Mr Thomas Thomas, Eglwys Dewi Sant, Caerdydd, a Mr W. C. Beale, Mus. Bac., F.R.C.O., organydd Eglwys Qadeiriol Llandaf, yn cyfeilio ar yr organ. Y llafar-ganiedyddion oeddynt y Parch. J. A. Lewis, B.A., Llandaf, a'r Parch. James Thomas, Periglor Treharris. Y pregethwr y flwyddyn hon oedd ein cyfaill gwladgar a galluog y Parch. Dewi Williams, B.A., Periglor Hir- waun. Pregethodd ar yr adnodau 17eg a'r isfed o'r drydedd benod o Epistol Paul at y Philipiaid. Gwnaeth sylwad- au buddiol a hir-gofir genym ar Esiampl." Yr oedd y canu i fyny a safon uchel y blynyddau gynt, ac yn glod mawr i'r arweinydd Ileol, canys hwy wnant y gwaith, a gwelir y ffrwyth yn yr wyl.
Colofn y Pwlpud.-1
Colofn y Pwlpud. -1 Pregeth Gwyl Ddewi gan Gwili yng I Nghalfaria, Pontarddulais. Dathlwyd Gwyl Ddewi mewn llawer dull a modd eleni. Gan i'r wyl ddisgyn I ar y Sul cafodd y pwlpud yntau gyfle i'w dathlu yn ei ffordd ei hun. Tra- ddodwyd llawer o bregethau ar hyd a lied y wlad yn ymwneud a materion o bwys i fywyd a chymeriad y genedl. Pregethai y bardd Gwili y Sul hwnnw ym Mhontarddulais, a manteisiodd ar y cyfle i fynegu ei gariad at ei wlad a'i genedl a'i awydd i wneud daioni yn y cyfeiriad hwn. Ei destyn oedd Neb. iii., 16. Dechreuodd trwy adgofio i rywun sylwi mai y gwahaniaeth mawr rhwng Ezra a Nehemia oedd fod Ezra yn tynnu ei farf ei hun, a Nehemia farfau dynion ereill. Yn ei ragym- ) adrodd cymhellai'r Cymry i adeiladu ar gyfer beddrod Dafydd neu "Ddewi," neu oreu'n gorffennol. Yna sylwodd: I (1) Y tynnai Nehemiah ysprydiaeth i adeiladu o feddrod unwr cenedl, a ffurfiwr ei bywyd cenedlaethol. Cen- edl o lwythau, fel cenedl y Cymry, fu cenedl Israel am lawer oes yng N ghanaan. Nid oedd undeb o gwbl rhwng llwythau'r genedl yn nyddiau'r Barnwyr. Barn y beirniaid yw mai enw o undeb cenedlaethol oedd yn Is- rael yn nyddiau Saul. Wedi dyfod o Ddafvdd yn frenin, ei brif nod oedd cyfanu rhwyg y llwythau a ffurfio cen- edl unol a chref. Ei orchwyl cyntaf oedd gorchfygu hen elynion dycnaf ei bob!, ac yna symud ei brif-ddinas. Wedi sicrhau o hono gadarnle newydd, aeth hwnnw o fesur ychydig ac ychydig yn ganolfan i'r llwythau oil, ac yn nydd ei fab yn brif gysegrfa ei bobl. Wrth uno'r llwythau a'u gwneud o un genedl ac ymffrost y cyflawnodd arwr y cadau ei orchest-gamp. Am hynny daeth ym marn yr oesoedd dilynol yn gynllun o frenin pobl. Codai Nehemiah fur Jerusalem adfeiliedig, a bedd arwr ac unwr ei genedl. Braidd nad obeithiai am ddadebru Dafydd yn swn y morth- wylion, ac na ddywedai yn yspryd ein galwad ni'r Cymry ar Arthur Deffro, mae'n dydd." Yr ydym ninnau, ar wyl ein Nawdd Sant wyneb yn wyneb a beddrodau un- wyr cenedl. Bu breuddwyd a sel, ac aberth a gwaed yn gwneud o wyr tair talaith Cymru genedl ddiwenwyn. A ddaw Gwynedd a Deheubarth i ddeall eu gil- ydd yn llwyr ac asio'n un ryw bryd ? A yw'r dylifiant pojbloedd i droi'n drech na'n rhagfuriau a pheri i Gymru fradychu ei hun? Cadwn ein lie ar y mur, a thynnwn ysprydiaeth o ami i feddrod. Sail i adeiladwaith cenedl yw gwlad. Yspryd yw cenedl: yspryd cyffredin pobl a fedd atgof am yr un dioddefiadau a buddugoliaethau, yr un anianawd, neu fywyd arbennig, a lun- iwyd gan wae a gwynfyd ei gorffennol yr un ewyllys a dyhewyd i wynebu ar frwydr heddyw, yr un gobeithion an- farwol ar gyfer gornest a choncwest yfory. 11 Ni chollodd mo'n cenedl erioed ei chred nad oedd yn ei haros oes aur ymlaen. Gwyddai olrheinwyr am fedd- au gwrolion lu, ond "annoeth bit bet y Arthur." Efe yw yspryd anfarwol ein cenedl. Huno y mae fel Dafydd y proffwyd, Jeremia a'i arfau llachar wrth ei ochr fyth. A' phan ddaw brig y wawr, a blaen belydr dydd, fe gyfyd Arthur a'i lu drachefn o'u hirgwsg. 2. Y tynnai Nehemia ysprydiaeth i adeoladu o feddrod carwr y pethau cain. Amlwg yw oddiwrth y cofnod- ion cynnar fod Dafydd yn noddwr a chynhaliwr y gerdd. Perganiedydd Israel" oedd ei hoff frenin i'r adeil- adwr. Ac er fod Jerusalem heb furiau, a'r gan yn ddistaw ar fynydd Seion, posibl y breuddwydiai'r eyweiriwr wrth edrych ar y bedd yn y dffryn am ddydd yr eisteddai pob gwr o Israel eto dan ei ffigysbren a'i olewydden ei hun, ac y deuai ceinder a phrydferchwch, a ham- dden a gorohian i fywyd ei bobl drachefn. Gallwn ninnau dynnu ys- prydiaeth i adeiladu o fedd ami i noddwr i'r pethau cain. Un o'r pethau ceiniaf a feddwn, fel cenedl, yw'n hiaith. 0 ran ei phriod- ddull, a holl ofyn ei gwe, y mae gyn ystwythed a cheined a'r Roeg. Deil i'w chystadlu a'r Eidaleg yn ei llafar- iaid persain, a'r Hebraeg ym mawredd hyawdl ei geiriau soniarus. Ond odid nad hyhi yw'r. hen beth byw tlysaf ar Gyfandir Iwrob, a goroesodd waethaf Philistiaeth oesoedd aneirif bron. Y mae bedd rhyw Daliesin; bedd rhyw Gruffydd ap Nicolas, neu Gruffydd Roberts, neu Gruffydd Jones; bedd rhyw Ddoctor Morgan, neu Ddoctor Davies neu Sion Dafydd Rhys a Ilawer bedd newydd, hyd fedd y diledryw a'r dilediaith Ddan Isaac Davies, i'n sym- bylu i gyfanu mur yr iaith. Daw ysprydiaeth drachefn o'r beddau ini goledd ein lien. Ni fedd nemor i wlad fechan lenyddiaeth gyn geined. Rhamant Cymru fu manna cuddiedig Iwrob yn yr oesoedd canol. Nid un golofn sydd i deml ein balch- ter. Daw Ilefau o Aberconwy, ac Ys- trad Marchell, a Glyn y Groes; o Fynwy a Margam, a Chwrt y Brodyr yng Nghaerfyrddin a'u byrdwn yw na raid i ni wyro pen am brinder ein ll$n. Ac os trown i Dalyllychau, neu eilwaith at "fur Ystrad Fflur a'i phlas," y mae i ninnau yno feddrod Dafydd. Ni welodd yr oesoedd canol ei fwy ond un, neu odid ddau; ac ym myd arddull ac awen y mae'n loywach na Chaucer ym mher- seinedd ei eiriau a llyfnder ei fynegiant nid yw'n ol i Dante yn ei ddawn i ddlyn natur, a dehongli ei chyfaredd, ni welodd yr oesoedd canol neb o golofn ab Gwilym, y prydydd a'i gywydd fel gwin. A chyferbyn a beddrod Dafydd, illwyn yw coffa am noddwyr y tant a'r alaw. Ar gyfer beddrod ami i Dafydd, noddwn ein pethau cain,—ein hiaith, ein lien, a'n can. (3) Y tynnai Nehemia ysprydiaeth i adeiladu o feddrod noddwr arch a chref- ydd ei bobl. Penderfynnodd Dafydd y byddai Jeru- salem, nid yn unig yn brif-ddinas ei bobl, ond hefyd yn brif-ddinas eu cref- ydd. Ar ol dwyn yr arch yno, yr oedd yn dristwch ganddo ei gweled rhwng y llenni, ac yntau'n trigo mewn ty o gedrwydd. Dilys y gwyddai Nehemia am santeiddrwydd calon Dafydd, ac am ei sel dros grefydd y nefoedd. Y mae i Gymro ysprydiaeth o'r mynwentydd o feddrodau noddwyr crefydd. Daeth Ilawer tro ar fyd er dyddiau'r gymanfa fawr, a'r llefain o flaen yr arch. Oer- odd tan y diwygiad ac aeth cri am fara beunyddiol yn uwch na'r cri am fara'r bywyd mewn ami i gwm. Ond gwaedd y beddau yw y bydd gogoniant y ty di- weddaf yn fwy na'r cyntaf, ac y gelwir y muriau eto'n lachawdwriaeth, a'r pyrth yn Foliant." Nid all Cymru fyw ar na materoliaeth nac amheuaetli yn bir. Y rmie beddau'r gorffennol yn wystlon ei phriodas a byd yr yspryd; ac ni chaiff orffwystra mwy nag Awstin nes gorffwys yn Nuw. Ar gyfer beddrod Dewi a'r Saint hawdd yw breuddwvdio am genhadaeth fawr ein cenedl i fyd. Ni ddywedir mwy na fedd y Celt ddyhewyd i lywodraethu pan welir ei yspryd gwrol a thyner, rhaman- tus a dyfeisgar yn ymlid pebyll nos y fall ar ffo drwy Brydain o'r bron. Tor- rodd dros Gymru weledigaeth o'i chen- hadaeth ysprydol i fyd Hithau, yn ei hawr, anisbur wenwlad, Ufudd fydd i'r weledigaeth der; A goleua lamp ar nos y gwledydd Ddyry loywach gwawl na mil o ser. Cerddodd Cymru gynt o fro'r goleuni I orllewin bau'r wylofus for; Ond fe gerdd yn ol drachefn i'w dwyrain A diluwia'i llwybr a gole'r lor.
Ferndale.
Ferndale. GAN "IOAN." i-longyfarchwn yn galonog y cyfaill divmhongar Mr Cledwyn P. Watkins, Cartref, ar ei 1 wyddiant yn pasio yn anrhydeddus arholiad y London Matriculation yng Ngholeg Caerdydd. Yr oedd nifer yr yni-eiswyr y-n 1,500, ond ni lwvddodd ond 600 i gyrraedd y safon. Llawenydd oedd gan ei luaws cyfeillion ddeall fod Cledwyn yn un o'r rhai llwyddianus. Y mae hyn yn glod mawr iddo, yn gymaint na ddarfu i'r arholiad hwn ymyraeth a'i ahvedigaeth fel athraw yn yr V-sgol ddyddiol yn Llanbradach. Llafunodd yn ddyfal yn ystod ei oriau hamdden. Y mae ei yrfa addysgol o'r cychwyn wedi bod yn lhvyddianus. Mab ydyw i'r Parch. B. Watkins, Penuel (M.C ). Bydd y Parch. j. E. Harris yn ymadael yn fuan a'r lie, ac yn tori ei gysyiltiad ag eglwys -North Road, a hynny oherwvdd afiechyd blin sydd wedi ei oddiweddyd er ys misoedd. Danfonodd ei lybudd i'r eglwys, ond dangosodd yr eglwys ei pharch tuag ato a'i chvdymdeimlad ag ef drwy wrthod cydnabod y rhvbudd. Barnodd Mr Harris mai gwell oedd iddynt dderbyn y rhvbudd, a diolchodd yn gynes i'r eglwys am amlygiad mor sylweddol o gariad brawdol tuag ato yn ei gystudd. Y mae yn flin gan bawb yn y lie hwn fod iechyd y brawd yn ei orfodi i ymadael. I Gaer- dydd yr a fel y byddo yn agosach at gyfryngau adferiad i'w iechyd. Yn Festri Penuel (M.C.), Chwefror 28ain, darllenwyd papurau gan Mr John Evans, New Street, ar Dr. Barnardo Mr Geraint Watkins, Cartref, North Road, ar "Dr John Roberts, Cenhadwr," a Mr David Lewis, North Road, ar Dr Living- stone." Llywyddwyd gan Mr Robert Jones, New Street. Yn ddiweddar bu etholiad prif ys- grifenydd Dosbarth No. i Rhondda ynglyn a'r Ffederasiwn. Pleidleisiwyd fel y canlyn :—Mr David Lewis, C.S., atalbwyswr yn No. 6, Tylorstown, 4,449; Mr John Thomas, Cambrian, 3,770; John Hammond, 3,004; Mr T. R. Thomas, Ferndale, 2,510; Mr John Morgan, 'Mardy, 2,475; dyma y pump uchaf, a bydd etholiad arall ar y rhai hyn. Y mae cryn fantais gan y Cynghorwr David Lewis am ei fod yn cyflawnu y swydd hyd nes yr etholir ysgrifennydd sefydlog. Felly nid yw gwaith y swydd yn ddieithr iddo. Deallaf fod camargraff ar feddwl rhai o'r gweithwyr ynglyn a'r swydd hon. Credir y bydd raid i'r ymgeisydd llwyddianus adael ei alwedigaeth a rhoddi ei holl amser iddi. Nid yw hyn yn gywir; gall ei chyflawnu yn ei oriau hamdden yn ei breswylfod, am nad yw y gyflog yn ddigon i hawlio iddo gyfyngu ei hun iddi. Yn Festri Trerhondad, Chwefror 25am, darllenwyd papur diddorol gan Mr Emlyn Thomas ar Handel," a chan Mr Martin Davies ar "Martin- Luther.
[No title]
Golygir i'r Amgueddfa Cenedlaethof yng Nghaerdydd fod yn werth £ 230,000. Cyfrennir hanner y swm hwn gan y Senedd ar yr amod y cesglir yr hanner arall. Casglwyd yn barod £ 50,000. Gofynnir am 265,000 yn ychwaneg.