Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

Advertising

! John Gower y Bardd.I

News
Cite
Share

John Gower y Bardd. I I Ganwyd ef tua 1320, a bu farw tua I I 1409. Cyfrifa y Saeson ef yn rhestr y beirdd Saesneg, eto, ni wyddant ddim am ei achau. Y traddodiad balch sydd am dano yn nheulu Ar- dalydd Stafford yw mai un Stitenham ydoedd. Medd Todd, yn ei Illustra- tions of Gower and Chaucer," a phwy na ystyriai anrhydedd ei achau yn ymchwyddo wrth gofrestu yn mysg eu henwogion y moesol Gower ? Ond dywed Lewis Topo. Diet. ei fod yn disgyn o Gruffydd de Gower, tywysog neu bennaeth Cymreig o un o'r hen deuluoedd brenhinol, a sylfaenydd neu foncyff teulu y Gower, y rhai a fuont hvnod mewn cyfoeth ac awdurdod tua j diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Yr oedd John Gower yn berthynas i Dr. Harri Gower, Esgob Ty Ddewi. Dvwed Williams Em. Welshmen fod tudalen enwadol y Confessio Amantis, argraffedig yn 1852, yn dweyd yn bend.int mai Cymro ydoedd. Y mae ei ddelw yn eglwys St. Mary Overies, a choronig o flodau am ei phen, yr hyn a arwydda ei fod yn farchog. Yr oedd yn farchog; profaf hyn i chwi .Van y trof at hen lyfr Theo Jones. Dengys ei ewyllys ei fod yn fyw yn t 1408. Mae ei gymun roddion i eglwysi ac ysbytai, ei waith yn gadael i'w wraig J;ioo, yn nghyda'i holl eiddo gwerthfawr, a rhenti maen- oriaethau Southwell, yn Swydd Nottingham a Multon, yn Swydd Suffolk, yn profi ei fod yn dra chyfoethog. Yr oedd y bardd Chaucer ac yntau yn gryn gyfeillion, ond oer- oedd eu cyfeillgarwch cyn diwedd eu hoes. Dywed Gower ei hun ei fod yn ddall yn ei henaint. Gadawodd dri gwaith mawr ar ei ol: "Speculum Meditantis," can yn y Ffrancaeg-yn traethu yn benaf ar edifeirwch pech- adur; Vox Clamantis yn Lladin, yn traethu ar y gwrthryfel yn nheyrnasiad Richard II., a Con- fessio Amantis yn Saesneg, ym- ddiddan-gerdd rhwng carwr a'i gyfaddefwr, yr hwn yw offeiriad Venus. Y mae ei weithiau yn dangos ei fod yn fwy dysgedig na barddonol. Cymaint a hyn sydd i'w weled vn v Cymru" dan olygiad Owen Jones, Llandudno gweler hefyd y "Brvthon" am Alban Eilir, 1863: yna trowch at hanes Swydd Brycheiniog gan Theo. Jones, wyr Theo. Evans, awdwr Drych y Prif Ooesoedd." Fe welir yn ddigon eglur fod John Gower yn farchog, ac yn dal cysylltiad agos a'r Cymry, oherwydd yr oedd yn Uchel Sirydd dros barthau uchaf Caerfyrddin a Brycheiniog. Fe wyr ugeiniau o ddarllenwyr y "Darian" am Lwydlo Fach, Tir Abad, yn agos i Lan- wrtyd. Saif Llwydlo Fach tua haner y ffordd rhwng Llangammarch a Llanymddyfri, yn union ar v ffin rhwng siroedd Brycheiniog a Chaer- fyrddin. Tafarndy hynafol iawn «edtl Llwydlo Fach, ac fe ddywedir gan yr hen frodorion fod y gegin yn un sir, a'r parlwr yn v sir arall. Mae olion amlwg o'r "hen" dv i'w weled hyd y dydd heddyw. Bum yno ddwy flvnedd yn ol. Yr oedd yn arferiad gan hen foneddwyr Cymru i gyfarfod eu gilydd ar Llwydlo Fach i ymdrin a materion gwladol, a gweinyddu cvfiawnder rhwng brodorion y sir- oedd cylchynol. Mae Theo. Jones yn dweyd fod plat pres ar ddrws yr hen dyfarndy ac arno a ganlyn — 1540. 31. H.S. "Fiat Justitia Ruat Mundus." Syr John Gower. Dyna fel y mae gan Theo. Jones, ond barnwyf fod Jones wedi camsynied y 1540 yn lie 1340. Ystyr y frawddeg ar y plat ydyw, "Let Justice be done, though the world perish," neu yn Gymraeg yn debyg i hyn Gwneler cvfiawnder pe trengai y byd." Bu y plat uchod yno am flynyddau lawer, ond o'r diwedd, trwy ddrygioni'r ieuenctyd, fe gollodd y tyfarnwr y pl&t, ac yna mewn ychydig amser fe osododd y pennill Lladin canlynol ar bren cerdin yn ei le- "Festina lentc paulisper Siste Viatur Cor delassatum Pocula plena levant." Nid yw Jones wedi arall eirio yr uchod. Cvfieithwch chwi ef goreu y galloch. Yr wyf wedi cynnyg trwy gymhorth cyfaill a Geiriadur Lladin fel hyn Hasten slowly for a little while Stay Traveller, Full cups refresh The weary heart." Rhywbeth yn debyg i hyn yn ein hiaith ni Brysia'n araf am enyd fach Safed y teithiwr, Cwpanau'n 11awn o faeth Adfywiai'r galon flin." Rhyw brydnawn tesog yn yr haf daeth clerfardd heibio o Abergwesin, a phan welodd y pennill Lladin ar y pren cerdin, dywedodd mewn eiliad: "Pwy oedd y dyn ysgymyn A ddododd ar bren cerdin Ar ben Llwydlo, llwm yw'r lie, mor llydan Eiriau Lladin." Cyfeithiwyd hwn gan Jones fel hyn "What foolish wight On wych did write To make the people stare A Latin phrase In such a place As Llwydlo bleak and bare." I Pan glywodd y tafarnwr y clerfardd yn dannod tylodi Llwydlo ffromodd yn enbyd, a cheisiodd gyfansoddi atebiad, ond yr oedd yn hollol di- bwynt ac heb farddoniaeth meddai Jones,, ac nid yw wedi ei roi i fewn yn ei lyfr. Felly bum yn holi hwnt ac I yma am yr atebiad, ond nl chefais hyd i mi ohebu a Mr Evan Jones, ffermwr cyfrifol ac hynafiaethydd en- wog Tynypant, ger Llanwrtvd. Dyma rhediad y pill: "Mae Llwydlo'n llawn trwy'r I flwyddyn 0 fara can ac enllyn Nid oes un lie ar wyneb daear Mor llwm ac Abergwesin." Tua thri chan Hath yn mlaen o'r hen dafarndy, tua chyfeiriad Talgarth, ar ben bryncyn bychan sych ar y llaw chwith, a thua deugain llath oddi ar y ffordd, mae cylch ceilogod, ac yma byddai y bobol o'r ddwy sir yn cyfarfod i ymladd ceiliogod. Trwy ymddiddan a hen wr dros bedwar ugain oed yn 1800, daeth Theo. Jones jo hyd i'r hyn oedd ar y plat pres. vVel, ynte, trwy fod enw Syr John Gower arno, mae'n ddigon amlwg mai Cymro ydoedd, ac yn dal cysyll- tiad arbennig a gwlad Brychan-hen wlad fy ngenedigaeth. Pan fu Syr John farw, claddwyd ef yn St. Saviour's Church, Southwark, Llun- dain. Ar y mur oddifewn i'r Eglwys mae plat pres mewn coffadwriaeth am dano. Heb fod yn mhell o Lwydlo Fach, saif fferm hynafol Sarn y Cyrddau, neu Sarn y Cyrtau. Dywedir fod Court Leet i drefnu materion gwladol yn cael ei gynal ynddo. Clywais gan Mr Evan Jones, Tyny- pant, mai Rhyd y Sarnau oedd enw cyntefin y He, enw desgriffiadol ddigon —oherwydd y mae nant yn rhedeg ger y ty, a heol Rufeinig Sarn Helen yn trawsu y fan tua chyfeiriad Ystrad- fellte. Daethpwyd o hyd i ddarn o honi ar dir Cefnwaunhynod, Ystrad- fellte. Y r eiddoch, yn wladgar, Caerdydd. JOSIAH JENKINS. I Caerdydd.

Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.

.O Dir y Gogledd. : I I

Abertysswg. II

Advertising