Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.I

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. I (Dan Olygiaeth Moelona.) I Wele heddyw waith yr ail oreu yn ) y gvstadleuaeth ddiweddaf, gydag enw a chyfeiriad yr awdures. Ni newidiwyd dim ar yr hanes ag eithrio gwall neu ddau mewn sillebu. Cyn darllenir hwn gennych bydd Gwyl Dewi drosodd, a sicr gennyf y bydd- wch yn awyddus am gyfle i adrodd pa fodd y dathlwyd yr wyl gennych chwi. Dyma gyfle i chwi ddweyd hynny wrth Gymru gyfan. I CYSTADLEUAETH RHIF 3. I (a) Rhoddir llyfr (heb fod dros swllt o bris) i'r bachgen neu ferch a ysgrifenno'r llythyr goreu i mi yn disgrifio unrhyw ddathliad o Wyl Dewi eleni. Yn awr, wrth roi hanes fel hyn mewn llythyr, disgwylir i chwi, nid yn unig i enwi y gwahanol bethau wnaed, ond hefyd i ddweyd pa ar- graff gawsant arnoch chwi, beth feddyliech am danynt, etc. Ysgrif- ennwch lythyr hir, a chofiwch drefnu eich gwaith yn briodol. (b) Rhoddir llyfr (heb fod dros chwecheiniog o bris) i'r bachgen neu ferch dan 12 a ysgrifenno oreu hanes byr am Dewi Sant neu unrhyw Gymro enwog arall. Cofiwch y rheolau arferol. Ca'r goreuon ymddangos. Gyrrwch eich cynhyrchion i fewn i Swyddfa'r "Darian" erbyn Mawrth iofed. Diolch i'r sawl anfonodd Gatecism ar Ddewi Sant i'r golofn hon. Daeth i law yn rhy ddiweddar i'w gvhoeddi cyn yr AVyl eleni. Ni fydd waeth o aros blwyddyn. ISLWYN. I Un o feirdd mwyaf Cymru oedd y Parch. William Thomas (Islwyn). Ganwyd Islwyn ger Ynys Ddu yn Nyffryn Sirhowy, Ebrill 3ydd, 1832. 'Efe oedd yr ieuengaf o naw o blant. Morgan Thomas oedd enw ei dad, a Margaret oedd enw ei fam. Bardd- oniaeth oedd ei hoff waith. Enillodd amryw gadeiriau a gwobrwyon. Efe oedd un o brif feirdd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cymherir Islwyn i'r morfil-yn byw yn nyfnder y don ym myd barddoniaeth. Mae caniadau Islwyn yn gyfoeth i'r athronydd. Un o blant natur oedd. Bu ei farddon- iaeth yn achos i greu cyfnod newydd yn hanes barddoniaeth Cymru. Yr oedd yn He-nor gwych. Bu yn olygydd i'r Cylchgrawn, yr Ymgeis- ydd, y Glorian, y Gwladgarwr, a Barddoniaeth y Faner a'r Cardiff Times. Yn 1854 dechreuodd bre- gethu gyda'r Methodistiaid. Bu farw Tachwedd 20, 1878, a chladdwyd ef ym Mynwent y Babell, bro ei febyd. Rhan o'i weithiau:- TLYSNI CYMRU. I Os bechan ydwyt Gymru-wiw, Os cyfyng yw dy le, Cydgasglwyd ar dy fynwes her. Bob ceinder is y ne. Ein rhandir yn eangach fu, Ond digon dy amrywiaeth di. Y NOS A'R GWLITHYN. I 0 law nos y cain rosyn-goronir Ag ariannaidd wlithyn, A'i arogl ef drwy y glyn, Syw iawn dtLI sy yn dilyn. 0 wlithyn gorwyn, mor gu Yw dy w6n wrth dywynnu Hylif em, dy loewaf wawl Ni fedd un teyrnedd, i'm tyb. Na phalas dy gyffelyb. Pa hyfryd loewder sy'n pefru? Beth wyd ? Ai llygad cariad cu ? Ogonawl wlithyn gwiwnef, Ai dafn wyd o afon nef? A dwr nef dioda'r nos >1 o dyner flodionos, M*wvn-^yI oIl dan len>—^nt i huno Mwy i freuddwydio am froydd Eden. ^argaret George, 1 I Mount Pleas- ant Street, Trecynon; oedran 12eg mlwydd oed.

Cyfarfod YmadawolI

Advertising

I John Milton y Bardd yn Gymro.

I Byr Hanes.

INodion Min y Ffordd.i

Caerfyrddin.

Advertising