Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Colofn y Pwlpud. I

News
Cite
Share

Colofn y Pwlpud. I Y PARCH. J. J. WILLIAMS I Yn y Tabernacl, Treforris. I Bum er's blynyddoedd yn disgwyl cyfle i glywed y bardd-bregethwr enwog o Bentre, Phondda, a Phrifardd y Rhon- dda, chwedl gohebydd y "Darian." A mi yn X hreforis, nos Sadwrn, Chwef. 19eg, cyfarfum a hen gar imi, a gwa- hoddodd fi gydag ef i gwrdd mawr y Tabernacl i'r odfa gyntaf. Yr oeddwn ym meddwl yr un peth fy hunan, ac oni buasai iddo ef fy ngwahodd, buaswn i wedi ei wahodd ef. Er pan ddeallais mai J.J. oedd dewis-ddyn y cyrddau, penderfynais na chai dim hyd y gallwn fy rhwystro i'w glywed. I Yr oedd yn dda gennyf weled cynull- eidfa dda wedi ymgynnull, er nad oedd y capel eang yn hanner llawn. Yr oedd yn gynulleidfa fawr er hynny, ag yetyr- ied mai nos Sadwrn ydoedd. Sibrydai rhywun wrth ddyfod allan, ar y grisiau, nad oedd gymaint ag y dylai fod o lawer. Yn yr Halls y mae mwyaf o bobl heno eJJe'r Hall. Mwy o bennau, mae'n wir, ond nid dynion, ebe yntau. Feallai fod llawer o wir yn ei eiriau, oblegid cyntilleicifa o liu  cynulleidfa o hufen y gwahanol eglwysi oedd yn y Tabernacl nos Sadwrn. Dechreuwyd yr odfa gan y Parch. Mr. Thomas, gweinidog Bethania. Gwnaeth y rhan honno o'r gwasanaeth yn raenus a chododd y gynulleidfa i yspryd priodol addoli. Cofiai am y gweinidog yn ei weddi mewn modd tyner iawn, a phrofid gan y modd cvffredinol yr amennid drwy y lie fod teimladau siomedig a phryder- us yn ffynnu oherwydd ei absenoldeb. Lie gwag sydd yn y Tabernacl heb y Parch. W. Emlyn Jones. Y mae ei ber- sonoliaeth swynol ac urddasol yn rhoddi bywyd mewn pethau. Ni fu neb arall yn weinidog yn y lie, ac anodd fydd digymod a'r Tabernacl unrhyw amser heb ei weled yno nid yn unig mewn odfaon pregethu, ond ymhob math ar gyfarfodydd. Hyderwn yr adferir ef yn fuan ac yn llwyr i'w bobl sydd mor fawr eu parch iddo a'u gofal am dano. Pan gododd y pregethwr i roddi emyn i ganu arwyddai agwedd y gynulleidfa ei fod yn uchel yn ei syniad hi. Deallais wedyn mai felly yr oedd hi, ac nad oedd nemor i bregethwr a gai fwy o groeso yno bob amser nag ef. Adlewyrchai hynny yn dda ar ei chwaeth, canys pre- gethwr cryf yn hulio digonedd o fwyd cryf yw gweinidog y Pentre. Pregeth felly a gaed y tro hwn wedi ei meddwl yn glir ac yn cael ei thraddodi mewn llais cryf, hyglyw, a dymunol. Pwnc y bregeth oedd, Nerth bywyd anherfyn- nol," sef rhan o'r adnod Heb. vii., 16. Y mae pob un o'r geiriau hyn, meddai, ymhlith y cyfoethocaf yn y Testament Newydd. Y mae pob gair yn gyfoethog ar ben ei hun, ond y mae y cyfeeth yn fawr iawn wedi eu rhoddi at eu gilydd. Dechreuodd gyda'r gair diweddaf, "Anherfynnol." Y mae yn air cryf, ac anodd i'w gyfieithu i foddlonrwydd. Hyn sydd yn cyfrif fod esbonwyr yn ei gyfieithu yn wahanol i'w gilydd, megis, anatodol, anadfeiliol, anfarwol, a thra- gywyddol. Yna ceisiodd edrych ar rhai o'r syniadau a gyfleai. Y mae'n fywyd nas gall angeu ei ddifa. Nis gall angeu wneud dim ag ef. Y mae mwy o son am angladdau yn yr epistol hwn na'r un; ond nid oes hanes angladd yn y bywyd hwn. Y mae'n fywyd uwchlaw gallu pechod i'w lygru. Yr epistol hwn sydd yn son fwyaf am amhechadurus- rwydd Crist. Y mae'n fywyd uwchlaw ymadfeilio. Nid yn unig y gall ddal er- gydion angeu a phechod, ond y mae heb elfennau llygru ynddo ei hun. Wrth roddi'r syniadau hyn at eu gilydd, ceir syniad am gyfoeth y gair. Sonid am y proffwyd, yr offeiriad, a'r brenin yn yr epistol, ond marw oedd eu hanes. Tu ol i'r cwbl yr oedd un, lesu Grist, yn aros am fod bywyd anherfynnol ynddo. Edrychai ar yr epistol fel drama. Nid yn unig y mae'r cymeriadau yn myned o un i un, y mae y llwyfan hithau yn myned. Y cysur yw fod un yn aros yn nerth ei fywyd anherfynnol. Y gair nesaf yw 'bywyd.' Nid yw yn siarad am fywyd o'i gyferbynnu a marwolaeth, ond a chyfraith gorchymyn cnawdol. Ai yr hen offeiriad i'w swydd yng ngrym cyfraith, ond Iesu Grist i'w swydd yng ngrym bywyd cymwys. Dy wedai un wrtho yn ddiweddar nad oes dim yn fwy pwdr heddyw na'r modd y rhennid swyddi. Ni allai neb yn y wlad gystadlu a'r teulu brenhinol am yr or- sedd. Y mae swyddi nas gall neb ond dynion ariannog obeithio eu cael, a swyddi ereill a ga y sawl sydd yn Slcr- i hau mwyaf o bleidleisiau. Y mae hynny yn resynnus, oblegid gorfodir dynion i gerdded o amgylch fel crwydriaid i gar- dota am yr hyn sydd yn ddyledus iddynt ar gyfrif eu cymhwyster. 0 dan y drefn hon y dyn all dynnu'r gwifrau sydd yn llwyddo. Y cadno ac nid y dyn sydd yn llwyddo. Ond y mae'r Gwaredwr yn ei holl swyddi ar dir cymhwyster bywyd, a dyna rym y gair bywyd yma. 'Nerth' yw'r gair arall. Nerth bywyd yw'r cymhwyster; ond nid bywyd yn unig sydd yma, ond bywyd anherfynnol. Beth yw y nerth hwnnw? I.-Herth i lynnu wrth ei fwriadau. Bywyd a gyfoethogwyd a bwriadau mawr oedd eiddo TeRu. Deil Ef ei afael ynddynt, nes cyflawni'r cwbl am fod ganddo nerth bywyd anherfynnol. Y mae gan bob bywyd mawr raglen. Am- bell dyn yn gadael ei raglen ac arall yn ei gorffen. Y mae'r bachgen ym myned gartref o angladd ei dad a rhag- len ei dad i'w gorffen. Gadawodd Dafydd ei raglen heb ei gorffen, ond aeth Solomon a hi gartref o angladd ei dad a chysegrodd ei fywyd i'w gorffen. Gwyn fyd y dyn sydd yn magu bachgen i orffen ei raglen. Dywedai gweinidog wrtho yr ofnai fod y plant a fegir yn awr yn anheilwng o'u tadau ac yn an- alluog i gymeryd eu lie. Gadawodd Napoleon ei raglen heb ei gorffen. Marwolaeth a luddiodd Dafydd a Napo- leon i orffen eu bwriadau. Y mae Iesu Grist yn llwyddo i orffen ei waith am fod ganddo nerth bywyd anherfynnol. Yr oedd Jowriadau y Mab gymaint a chariad y Tad. Yr oedd Duw yn caru'r byd; pan yn son am gadw y mae yn cadw pawb. Yr oedd y byd ar raglen y Mab yntau. Llanw'r byd a, gwirionedd Duw yw amcan yr Efengyi. Yr oedd ei fwriad ynglyn ag enaid yr un mor drwy- adl, sef "cwbl iachau," achub hyd ,> r eithaf. Eithaf beth ? Eithaf popeth. Achub hyd eithaf llygredd. Meddyl- iwch am ffynnon a'i dwfr yn loyw. Ewch i'r gwaelod a gwelwch rywbeth yno heblaw dwfr. Y mae leau Grist yn bwriadu glanhau gwaelod y ffynnon. Achub hyd eithaf amser. Pa mor hen bynnag yr k dyn bydd Iesu Grist yn I glynnu wrtho. Achub hyd eithaf per- ffeithrwydd. Beth bynnag a all hynny olygu, bydd yn ei orffen yn ogoneddus. Y mae'r gwyddonydd a'r athronydd yn I gadael eu gwaith cyn ei orffen. Mathew Henry yn dianc cyn gorffen ei waith. Yr oedd Judas ym meddwl gwneud epistol m'awr iawn, oblegid yn nechreu ei epistol dywedodd y bwriadai ysgrifennu ar yr iachawdwriaeth gyffredinol, ond gadawodd hynny ar un bennod fechan. Gafaelodd Iesu Grist mewn gwaith caletach, sef achub hyd yr eithaf, ond y mae Ef yn bwriadu ei orffen. I 2.-Nerth i godi cyfryngau newydd at ei wasanaeth. Son am gyfryngau meirw y mae'r epis-I tol o hyd. Sonia am y proffwyd, yr offeiriad, a'r brenin, ond yr oil wedi myned. Daw Iesu Grist i'r hen swydd- au gan eu hanfarwoli. Gweinydda'r swyddau hyn trwy gyfryngau. Y peth cyntaf a wnaeth wedi esgyn i'r nefoedd oedd rhoddi cyfrwng. Y mae'n codi cyfryngau o hyd. Pan yn pregethu ar y "perarogl," holai hen bregethwr yr apostol ymha le y cafodd ef y perarogl. Yn shop yr adothecari 1 Yn yr ardd flodau 1 Paul yn ateb mai taro yn erbyn rhosyn Saron a wnaeth, a bod ei arogl arno byth. Mae'r allor ym mygu heddyw am ei fod wrth y gwaith yn codi cyfryngau. Dydd prudd yn hanes cen- edl yw dydd claddu cyfrwng. Dywedir fod pob aradr ym Mon yn segur y dydd y claddwyd John Elias. Yr oedd plant cartren George Muller yn brudd y bore y bu farw eu noddwr. Ond os yw'r cyfryngau ym myned, y mae nerth bywyd anherfynnol yn yr Un a'u cododd i godi ereill yn eu lie. 3.-Herth i ddisgwyl yn amyneddgar ffrwyth ei. waith. Ar feddau dynion y bydd eu cyn- haeaf yn tyfu yn gyffredin. Y tad yn edrych ymlaen i weled ei blant wedi tyfu fyny. A yn blygeiniol i'w waith dan y ddaear, ac yn dychwelyd yn lluddedig. Mae ym meddwl medi o ffrwyth ei lafur caled rhyw ddydd. Yn anisgwyliadwy hyrddiref i dragywyddoldeb cyn syl- weddoli ohono ei obeithion. Felly y mae yn y byd hwn. Ereill a lafurias- ant, a chwithau a aethoch i fewn i'w llafur hwynt. Carai weled rhai a fu yn hau yn dod yn ol i weled y cynhaeaf. Hauodd John Penry ac ereill yn dda. Yr ydym ninnau heddyw yn gweled y cynhaeaf. Y mae'r lesu yn byw yn ddigon hir i weled ei gynhaeaf yn dyfod i fewn. Gwelir Crist yn y darlun o flaen Pilat yn yr Ecce Homo, a phelydr o oleuni o'r wybren bell yn disgyn ar ei wynepryd oedd yn dadguddio ei dang- nefedd perffaith. Tangnefedd un yn gweled ei gynhaeaf yn dyfod i fewn oedd hwnnw. Dywedir fod adar Nor- way yn hedfan yn gyflymach nag adar ein gwlad ni. Yr esboniad yw fod y dydd yno'n fyrrach nag yma. Yr achos o'r aflonyddwch sydd mewn bywyd yw y syniad o fyrdra bywyd. Gwelir nos- wyl yn agoshau o hyd. Ond y mae un heb arwydd brys arno nac ar ei waith am y bydd byw i weled ffrwyth ei laf Jr. Bydd rhai o ddarllenwyr y "Danan" yn cael rhan o'r mwynhad a gefa,.s i fy hun wrth ddarllen y braslun amherffaitb hwn o bregeth un o bregethwyr poie Cymru. Bydd adgof yr odfa yn y Tabernabl y nos Sadwrn hwnrlw ng nghadw yn hir yng nghof llawer heblaw fy hunan. Dymunwn oes hir a llwyud- iant mawr i'r bardd a'r pregeth vr rhagorol o'r rhondda.

Advertising

Y Gweithwyr Amaethyddol. I

Llythyrra Sion Sana. I

ARGRAFFWAITH. I

Advertising

Marwolaeth I

Advertising