Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Cadw'r Wyl ... Y Cymry yn…

News
Cite
Share

Cadw'r Wyl Y Cymry yn cofio'r Sant. 1 Yn Abertawe. I Ni fu y fath firi a'r ddathlu Gwyl Dewi erioed o'r blaen yn Abertawe. Mae y llanw cenedlaethol wedi codi a chyrhaedd mannau na chyffyrddodd crioed o'r blaen, a llawenydd i galonnau y ffyddloniaid yn y lie ydyw sylwi ar hyn. Wele rhestr o'r modd- au y cymmerodd y dathliad le yn y gwahanol gylchoedd:- Nos Sadwrn i. Ciniaw yng Ngwesty'r Cam- brian. 2. Cyngherdd Gymraeg yng Nghapel y Wesleaid Saesoneg. 3. Y.M.C.A., Cyngherdd, Caneu- on, etc., yn Gymraeg. 4. Mond Buildings, Y.L. League, Cyngherdd Gymraeg arbennig. Dydd Llun i. Dathliadau cyffredinol yn yr Ysgolion Elfenol. Pob ysgol yn ei ffordd a'i threfn ei hun. Torri'r ysgol- aon i fynny haner dydd. 2. Cyngherdd plant yr ysgolion dan nawdd Pwyllgor- o'r Athrawon a Chymrodorion y dref. Cor o blant— 500 mewn nifer. Hwn yn cael ei gynnal yn neuadd enfawr Albert nos Lun am 7 o'r gloch. Y Bonwr T. J. Rees, Goruchwyliwr Addysg, yn y gadair. Nos Fawrth Gwledd y Cymrodorion yng Nghwesty -Eang y Cameron. Gwest- wyr, Maer Casnewydd ac Is-faer Abertawe. Cefais fanylion o'r modd gwreiddiol y dathlwyd yr wyl yn Ysgol Elfenol, Hafod, Abertawe, dan arweiniad a threfniant y Bonwr Arthur E. Jen- kins, un o'r athrawon; efe fu yn dar- lithio mor hyawdl beth amser yn ol ar "Ganeuon Gwerin Cymru." Mae plant yr ysgol hon bron yn ddieithriad yn dyfod o aelwydydd Seisnig, a chair, pwysig a mentrus oedd penderfynu dathlu yr wyl trwy y ddefod o "gadeirio y bardd," fel y gwneir yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Awd trwy y ffurf yn llythyrenol: Y Corn Gwlad, y Cleddyf, a'r Gadair yn bresennol, a chadair hefyd ennillwyd yn Eisteddfod Meirion gan Hermas, yr hwn fu mor garedig a'i rhoi yn fenthyg i'r pwrpas hwn. Yr oedd y gystadleuaeth yn agored i'r safonau uchaf, a'r hwn ysgrifennai yn oreu a mwyaf cywir unrhyw ganig Gymraeg oddiar ei gof oedd i'w gadeirio, ac fel hyn yr hysbyswyd y gystadleuaeth a'r drefn drwy yr ysgol Chairing Ceremony. I. By the Sound of Trumpets. 2. The Keeper of the Records will call the muster roll of the Bards. 3. Adjudication on the Chair Poem. 4. The successful Bard is asked to stand, and he will be escorted to the platform by two of the principal Bards. 5. He stands before the Chair. 7. The sword is placed over his head, and the question, "A oes hedd- wch" is asked three times. The answer Heddwch" is given by all- louder each time. 6. Bardic address will be delivered. 7. Chairing Song by Trevor Og- born. 8. "Hen Wlad fy Nhadau. Dyfarnwyd yr un yn dwyn y ffug- enw Bethel yn oreu am ysgrifenu "Hen Wlad fy Nhadau," a chadeir- iwyd ef yn nghanol brwdfrydedd byddarol, ac wele, anerchiadau'r beirdd, wedi eu dewis wrth gwrs i'r pwrpas gan yr athraw; detholion ydynt o Can a Thelyn Watcyn Wyn, a dau bill Saesoneg ysgrifen- wyd gan gyfaill er amrywio y sere- n'loni, ac er mwyn i'r plant ddeall peth o'r gweithrediadau, gan mai Saeson bychain unieithog oeddynt- Tra bo cylch ar fin yr aig A thra bo craig yn crogi, fra bo tonnau'r Werydd maith Ar fin y traeth yn torri, Bydd awen Cymru'n lan ei gwedd A 1 gorsedd yn rhoi gwersi. Hoffir telyn Cymru'n wir A thynni'r c&n o'i thanne; Hoffa'r Cymro ganu clod Ei wlad mewn Eisteddfode. Tra bo dwr y mor yn hallt, A gwallt y don yn gwynu, Bydd rhwng mynyddau Cymru lan Wyr diddan yn prydyddu, 'A bydd y delyn yn ei hwyl, Ac anwyl wyr yn canu. Dydd y gadair, dyma'r dydd Ar Walia sydd yn galw, Plant y Cymry ddont ynghyd 0 barthau'r bvd pryd hwnw, Dyma'r dydd a dyma'r awr Mae'r babell fawr yn llanw. Around the sword of peace we meet To chair the bard,—the victor greet, A bardic function we display, And honour thus Saint David's Day. We hail to-day the victor bard Our school's fair honour may he guard, A patriot poet may he be, And climb in time the topmost tree. YAc reI  dathh'ivd Gw)'l Dew} V n I Ac fel y,na ?, dathl-?-vd Gwyl Dew? yn Yseol m5'00' T Abertawe, yn [ 1914. A Tih  werth a ff rwyt h  hâd cenedlaethol a hauwvd Bvd a ?:au y Saeson bychain h> ganftd! ldd° ddw>n ffr^tharei gan e TALNANT. "Eu Hiaith a Gadwant." I Dygwyl Dewi yn y Barri. Cas gwr na charo'r wlad a'i macco." Er mai ychydig iawn o Gymry mewn cymhariaeth ydym yn y Barri-rhyw bum' mil allan o 33,000 o boblogaeth, gwneir ymdrech anhraethol i gadw'r hen iaith yn fyw ac i Jbeidio anghofio'r graig y'n naddwyd o honi. Er caleted y frwydr mewn tref sydd bron ar y gor- orau, gwelir yma fod y Cymry wedi deffro i'w dyledswydd tuag at Gymro, Cymru a Chymraeg. Ni fu mwy brwd- frydedd erioed na welwyd yn nathliad ein gwyl eleni yn yr ysgolion ac yng nghyfarfod blynyddol y Cymrodorion. Gwna ein hysgolion waith anhygoel i feithrin yspryd Cymru Fu ym mhlant y gwahanol safonau, ond er yr holl lafur a thrafferth ofer yr a llawer iawn o hono heb symbyliad rhieni i siarad Cymraeg ar yr aelwyd, a gwahardd y plant i'w hateb yn Saesneg, fel y gwneir yn gyffredin. Dyma'r unig dref, ni gredwn, y cyn- helir ynddi gystadleuaethau blynyddol i holl blant ein hysgolion (yn Saeson ac yn Gymry) mewn siarad, darllen, hanes, cerfwaith a gwaith nodwydd-yr oil i feithrin serch cynhennid yr ieuainc at wlad eu tadau. Da gennym am ddeffro- ad llawer pen-teulu i hyrwyddo yspryd brwdfrydig y plant gogyfer a'r gwahan- ol gystadleuaethau ac am glywed yr hen iaith wedi ei hadfer ar aelwydydd lie y gwedid hi dros amser. I Credid, ar ol dathliad yr wyl yn Y sgol Heol Hannah y llynedd, na cheid gwell rhaglen na'r hon gynhwysai ddarlith ar hen wisgoedd y Cymry tua chan mlynedd yn ol-pan droediwyd yr ardal hon gan yr enwog lolo Morgan- nwg-ar wneuthuriad y "minco," y "cotwm" a'r "clocs"; ar gadeirio'r bardd, ynghyd a llawer o hen ddefodau brodorion y rhan hon o'r Fro. Ond cafwyd rhaglen arbennig elevi. Y fatb syndod nodir ar wyneb-pryd plentyn pan w61 ac y clyw efe delyn am y waith gyntaf! Ie, a chlywed am ei pheirian- waith a'i hanes diddorol ym mywyd tri- golion "Gwlad y Delyn." Diolch i Mrs Silyn Roberts, B.A., y Barri, am ei disgrifiad byw o honi i'r plant, ac am ei chanu fel ag i ddangos yn eglur iddynt fwynder a swyn-hudoliaeth offeryn cerdd ein cenedl. Mwyn yw canu clod ein sant Ar buraidd dant offeryn, Ca pob Cymro yn y wledd Hudoledd gyda'r delyn, Heddyw serch at wlad y g&n Hyd Amman red yn dwymyn." Dad-lennwyd darluniau Dewi Sant ac Owen Glyndwr, y naill yn esiampl o fywyd y gwir Gristion, a'r llall y milwr olaf a arweiniodd fyddin er adennill rhyddid ei wlad. Ni wyddys hanes fclynyddau olaf Owen Glyndwr nac i sicrwydd am ei fedd, ond deffrodd ei ys- pryd mewn llawer Cymro ieuanc heddyw. Anwyl iawn gan y plant mwy fydd y gwr galluog hwnnw, y Dr. Evans- Hoyle, M.A., D.Sc., M.R.C.S., Cof- iadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru, fu garediced a dod i roi yn ei ffordd naturiol a dengar, ychydig o hanes creiriau Cymru a ddangosir o bryd i bryd yn Neuadd y Ddinas yng Nghaer- dydd. Lledwyd baner newydd yr ysgol, y Ddraig Goch, a wnaed gan un o'r genethod hynaf, a chanwyd penillion gyda'r delyn ar yr hen alaw adna- byddus, Pen Rhaw." Os una'r telynor dan gysgod yr yw, Mae miwsig yr alaw hyd heno yn fyw, Os drylliwyd y delyn, os torrwyd y tant, Mae'r cerddi yn aros ar wefus y plant." Nos Wener cynhaliwyd gwyl flynydd- ol y Cymrodorion, pan ddaeth ynghyd tua 350 o Gymry'r dref, ac y cadeiriwyd gan R. Silyn Roberts, M.A. Ar ol te ac ymgom, chwareuwyd drama newydd ddiddorol iawn, Yr Hen Deiliwr (gan J. Lloyd Jones, Ysw., Ysgolfeistr Ysgol Heol Gladstone). Disgrifia fywyd Cymry Sir Aberteifi tua 60 mlyn- edd yn ol, gan ddod i mewn a hanes Terfysgoedd Beca a hefyd yr hen gy- meriad hynod hwnnw, y gwahoddwr priodas. Nid y ddrama hon yw y cyntaf o waith Mr. Jones, ond dyma y goreu. Adnabyddir llawer o'r cymeriadau fel chwareuwyr penigamp, ac y mae cais taer am gael y ddrama eilwaith. Caf- wyd noosn ddifyrus iawn mewn awyr- gylch wir Gymreig, ond cof er- Ni ddeil unrhyw iaith yn hir A leddir hyd y flwyddyn." Ni osodir y cledd yn y waun ar ol Gwyl Dewi. Ym mis Mehefin cynhelir Arddangosfa'r Deffroad Cymreig ar radd eang iawn, er mwyn tynnu oddi- wrth oreu y presennol a'r gorffennol a'i drosglwyddo i ddyfodol goleu Cymru Fydd. Gwneled pob gwir Gymro ei ran yn ei gylch ei hun dros ei iaith. ei wlad a'i genedl, er mwyn datblygu defion goreu gwlad ei febyd. Mae'r hyfryd wawr sy'n torri draw Yn dweyd fod boreu braf gerllaw." Y Barri. MAIR ELLI. Rbondda. I Cyfarfod y Cymreigyddion. I Dathlwyd enw Dewi Sant gyda Ilawn hwyl Gymreig yn y Drill Hall, Pentre, nos Wener diweddaf. Mwynhawyd swper i-agorol-yi- amrywiaeth wrth fodd pawb oedd yn bresenol. Wedi clirio v byrddau awd at waith yr hwyr gyda bwriad wedi ei wan mewn sirioldeb. I gychwyn cafwyd llwnc destynau ac anerchiadau gan y beirdd: Milwyn, Cenech, Gwernogle, a Mr Edward Jones. "Bwrdd Addysg Cym- reig," Mr T. Millward, cyfreithjwr, a'r Parch. E. W. Davies, Hebron. Canu pen- I hillion, Mr John Evans yn ddatganydd, a Miss Maud Davies yn eyd-ddilyn ar y delyn. Unawdau gan Misses Maggie Jenkins, Beatrice Lewis, Mri. Christmas Owen, Tom Hughes, Tom Bonnell a Ben Devonald. Deuawd ar y crwth a'r ber- dcneg gan y chwiorydd Miss Tilly Thomas, R.C.M., a Miss Ada Thomas, Ton. Caw- sant ail-alwad brwdfrydig. Yn nesaf Pashant Siroedd Cymru. I ganlyn seinio corn gwlad galwodd yr Archdderwydd, sef y Parch. J. J. Williams, Siloh, Pentre, enwau tair-ar-ddeg o Siroedd Cvmru bob yn un. Traethodd brawd o bob sir yr hyn wyddai oreu dros ei un endeigol. Clyw- som mai ar Sir Flint v sylwodd y Parch. T. D. Jones, BodringaIIt; Parch. J. Old- field Davies B.A., Ton; Sir Ddinbych, Wr. E. W. Thomas, Llysygraig, Sir Feir- lonydd; Ceredigion, Milwyn Howells. Cawn fod y neuadd yn orlawn, a'r teimlad Cymreig ar ei bwynt uchaf. Ymddengys mai hwn oedd y cyfarfod goreu sydd wedi ei gynal gan y gymdeithas a nodwvd. Gwelir fod y rhaglen yn cynwys amrywiol destynau a chyfeillion amryddawn yn eu modrus osod allan ar noson wir Gymreig. EOS HAFOD. Cymrodorion y Bont. I Dathlwyd Gwyl Dewi yn y Bont nos W ener, pryd yr eisteddodd tua dau cant o Gymreig wyr y dref a'r cylch i fwynhau cawl cenin a phethau eraill t-eilwng o rroffa yr hen Sant. b Yr osp eleni oedd y Prif Athro Roberts o bnsysgol Aberystwyth. Cadeiriwyd gan y Cynghorwr Huw T. Richards, Llyw- ydd y Gymdeithas. Ni raid nodi i bawb fwynhau y wledd ddauteithiol a ddarparwyd gan oruchwyl- iwr Gwesty y Cigydd. Ond nid i wneud cjhawnder a'r gwahanol ddysgleidiau, y daeth y Cymrodorion yng nghyd mor gryno. Nid oes oonooIaethoIdob mewn bwyta coes mvharen a chibyn berwedig er nas gellir Cymrodorion vn hir heb gym- horth y cogydd. Mae Cymrodorion y Bont ym mhlith y Cymdeittiasau mwyaf byw heddyw. lihaid ideli fynl.d rnag ei blaen, pan mae Cvmry pybyr feI Dr. j. Morgan R-ees, Ellis Owen, ae H. T. Richards a'u hysgwyddau o dan eai ? chesail. Mae hefyd wedi ei breintio ag ysgrifennydd sydd a bywyd ym mhob symudiad 01 eiddo. Gwvr holl Gvmdeith- asau Cenedlgarol y De, bellach, am egni a dyfalbarhad Dafydd Phillips o Ifron y Berw. Ond at yr wyl. Fel y gallesid disgwyl, yr oedd y Prif Athro yn llawn asbricen- edlaethol, a phob brawddeg o'i eiddo a'i hergyd tuag at ysgogi y genedl rhag ei blaen. Baieh ei araeth wrth gyflwyno y llwne-destyn, "Dewi Sant," oedd yr ym- drech a wneir heddyw tuag at gronfa v IJyfrgell Genedlaethol yn Aberystwvth. Fel y gwyddis, mae y Llywodraeth wedi addaw punt am bob ugain swllt a gyfrenir gan y Deheuwyr tuag at y sefydliad. Mae angen am ddeg neu bymtheg mil o bun- noedd o hyn 1 ddechreu Ebrill, i sicrhau llwyddiant y Llyfrgell, ac nid oedd oall H I gymhelliacl y Prif Athro i gj-franu y swm gofynol erbyn yr adeg apwyntiedig. Nid oedd yn pryderu nad oedd digon o arian yng nghoffrau cenedlgarwyr y De i wneud y gamp o dan chwiban, ac nid arno ef y bydd y bai, os bydd y Gronfa ychydig bun- noedd yn fyrr ar ddiwedd Mawrth. Dangosodd y modd y bwriedir i'r Llyfrgell Genedlaethol wasanaethu pob rhan o'r j wlad. Gellir trefnu i wahanol ardaloedd gael benthyg hen lawysgrifau, a llyfrau o bob math, a hynny am ddim ond talu eu cludiad yn ol ac ym mlaen. Ni raid i Mahomed fyn'd at y ^ynvdd, ond-eellir darparu i'r mynydd ddod at Mahomed a dyna fydd yn gwneud y Llyfrgell yn elw i bob parth or wlad. Y gwladgarwr diledryw Defynog a gyn- nygiai y llwnc-destyn, Cymrodorion rontypridd, a gwnaeth hvnny yn ei I ttordd ddeheuig ei hun. Cyfeiriodd at y I Bont fel mangre enwogion o fri, o ddydd- iau Gwilym Morganwg i ddyddiau, Dewi Wyn o Essyllt, Ieuan ap Iago a Dewi Harran. Doniol oedd ei gyfeiriad at y Pronwyd Nehemiah yn Iflangellu ei gyd- wladwyr am anghofio iaith eu tadau, a brygawthian yr iaith a ddysgwyd gan- wrth ddyfroedd chwerw Babilon. "Mi a ymrysonais a hwy, mi a'u melldithiais, mi a darewais rai o honynt, mi a bliciais eu gwalIt." Awgrymai y dylasai rhyw Ne- hemiah ddod eto i gymhwyso rhai Cymry sydd yn anghofio, ac yn dibrisio iaith eu hynafiiaid; ac ofnai, pe delai goruchwyl- laeth ielly i Gymru heddyw, y buasai llawer yn benfoel oherwydd cael "plicio eu gwallt am eu pechod. Ond nid oedd yn ofni dim yng nghylch tynghed Cvmry Pontypridd, wrth gwrs. Dywedai ei fod .s. Dywedai e l fod ef wedi ei godi o dan yr hen oruchwvl- iaeth yng Nghymru, pan oedd yn drosedd i blentyn ynganu gair o Gymraeg yn yr ysgol; a dywedodd mai am y trosedd hwnw y cafodd ei flas y "gansen" gyntaf. Erbyn hyn yr oedd pethau wedi cyfnewid, a r Gymraeg yn cael ei dysgu yn yr Ysgol- ion dyddiol. Yr oedd ef, y boreu hwnnw, wedi gosod Rhaglen Gwvl Dewi yn ei ysgol ef, mewn Cymraeg pur ar y "Log Book," a:' nid oedd yn credu fod cvmaint ag un o Bwyllgor Addysg Cynghor y Rhondda a wnai ei feio am wneud hynny. Nid oedd ychwaith yn ofni cael ei ddwrdio gan y Prif Arolygydd-O. M. Edwards, na chan Swyddfa Addysg y Doyrnas. Gresvn na hyddai pob ysgolfeistr yn y wlad yn meddu cvmaint o wladgarwch ac asgwrn cefn a Defynog. Rhaid i'r Sais ddysgu Cymraeg os yw am gadw ei le yn nyfodol addysg Cymru, a rhaid "plicio gwallt" ym mhob Cynghor, os yr esgeulusir yr ysgolfeistr a gar ei iaith, ac a'i dysg i blant ei of a]. Atebwyd dros Gymrodorion v Bont gan y Parch. J. Evans, M.A. Cafodd hwyl neillduol wrth wneud hynny. Nid oedd- wn yn meddwl fod cymaint o arabedd yn y cylaill hwn o'r blaen. Doluriodd ochrau y dyrfa a i ifraethebion, ond barnai rhai y gwnelai hynny y tro yn lie peleni i d^eulio y "IIwyn eidion" a'r "cibyn pob- edig.  Yr oedd rhyw lane yn ei ardal enedig- ol, meddai ef, yn gorfod cN- eryd ei ddognau addvsgol unwaith vn y flwyddyn- ychydig fisoedd yn y gauaf. Erbyn y i nwyddyn ddilynol yr oedd yn ol yn yr un man drachefn—yn nosparth vr A.B.C. Pan ddechreuodd ymgodymu a'r lythyren 2 yr ail dro, credai y dylasai fod wedi tyfu j yu lar neu geiliog mewn blwyddyn o amser. Crybwyllodd Mr Evans am "gywion" y I larch. Emrys James, sef y dosparth barddol sydd ganddo yn y Bont, a llawen- hai weled rhai o honynt wedi tyfu yn geil- I iogod, ac yn dechreu canu y noson honno. Cymerwyd rhan gerddorol yr wyl gan Mr J. E. Jones, Llanilltyd Faerdref; Madam Mills Reynolds, Pontvpridd, a'r Telynor Tudor Powell, Efail Isaf. Dyma'r tro cyntaf i ni glywed Mr J. E. Jones yn canu gyda'r tannau, er fod ei fri fel datgeinydd yn y ganghen hon, wedi dyfod yma o'i flaen o Ogledd Cymru. Canodd amryw ddarnau oedd wedi eu cyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr wyl gan Fardd y Gymdeithas, a bu "mynd" yn iawn arnynt, gan fod llawer ergyd lleol ynddynt. Mae y telynor a'r datgeinydd o fro Illtyd yn deall eu gilydd i'r dim. Os bydd ar unrhyw gymdeithas eisiau noson lawen, y bechgyn hyn am dani. Dyma rai o'r pennillion a ganwyd gyda'r tannau: Hir y bu gwladgarwyr Cymru Rhwng y bryniau ban yn cysgu; Ond pan oeddynt yn hreuddwydio Fe ddaeth Arthur i'w clihuno. Cydgan: Clywch y gan! Clywch y gan! Trwy y tir tyrr y tan, Y Marchogion o Afallon 1w mawr In Cymru lâll. Mae ysprydion ein cyndadau A'u coeleerthi ar y bryniau; A banerau'r Ddraig yn chwyfio Uwchben cenedl wedi deffro. Ni chaiff bronnau Cymru fagu Etifeddion i'w gormesu; Dryllio cyffion y canrifoedd Am eu hawliau mae y miloedd. Draw o Went i Ynys Cybi Mae'r gwladgarwyr yn arfogi; Ac yn gynnar Bwria'r Barri Ei ha rwriaetb i Eryri. Os yw hawliau b 'I y Brython Wedi bod dan draed yr estron, Ei hiaith erya ar ei tharian Yn ei hanwyl wlad ei hunan. Mwy nis gwelir mewn ysgolion Un yn brathu lien y Brython, Mae'r hen iaith yn cael ei dysgu Yn eu cwyn, ac yn eu canu. Mae y wawrddydd wedi torri, Ac mae haul hen Walia'n codi; Unwn ninnau'n nghan awenydd Yn y goleu gyda'n gilydd. Cwyl Dewi Sant. Gwyl Dewi Sant" yn ein gwlad sydd,— Mewn addas fri dedwydd; (heddyw A rheol fad yr wyl fydd Eto'n helynt aneilydd. Yn firain "Sant" anfarwol,—mawreddog Ymroddai'n grefyddol; Bydd ei waith a'i iaith o'i ol, I fydoedd y dvfodol. Y DRYW. Y Cadeirydd. Huw Richard, dyma'r dyn,—a gar ei iaith, Gwr a hwyl i'w derbyn; Er ei glod heb anair glyn, I'w chodi yn uwch wedyn. Gwas siriol, Cymraeg yn siarad^—bodSus^ A buddiol ei deimlad; Hyd farw dweyd ei fwriad, A fyn Huw yn wir fwynhad. Y DRYW. Y Prif Athro Roberts. Dyn i'w wlad o dan ei lwyth,-yw Roberts, A'i arabedd esmwyth; Ni wel neb un "hoelen wyth"—o Gymro Heb ei rostio yn Aberystwyth. | BRYNFAB. Cymreigyddion yr Ystrad. Nos Wener, y 27ain cyfisol, dathlwyd yr wyl uchod gan Gymreigyddion yr Ystrad a'r cylch yn Neuadd y Milwyr (Drill Hall, Pentre). Paratowyd swper moethus, ac am saith o'r gloch yr oedd tua thri chant yn cyd-eistedd wrth y byrddau i fwynhau ar- lwy destlus o gigfwyd, te a choffi, bara gwenith, bara barlys, bara ceirch, amryw- iol deisenni, cacennau a ffrwythau. Yr oedd yr arlwyad yn glod i ben a chalon Mr D. T. Pugh, goruwchwyliwr Cym- deithas Gydweithredol y Ton, yr hwn oedd gyfrifol am y bwydydd. Yr oedd y neu- add wedi ei haddurno yn brydferth. Crogid ar y mur lenni gwyrdd-las, ac yn argraffedig ar bob lien enwau ac arwydd- air tair sir ar ddeg Cymru, ac yn addurno y Ilenni yr oedd baneri amryliw, ond yn bennaf o goch a gwyn, nes yr oedd yr effaith yn darawiadol dros ben. Calon gynnes a llygad treiddgar y Parch. M. H. Jones, B.A., llywydd y Pwyllgor Gweith- iol, oedd gyfrifol am yr addurno a chyn- orthwyid gan fysedd bywiog a chwaethus Mrs. M. H. Jones ac amryw foneddigesau ereill. Cyfranid hefyd at brydforthweh ystafell y wledd gan wisgoedd hynod nifer o foneddigesau: rhai o honynt yn ym- ddangos yn bennoeth fel yr hen Geltiaid, ond yn gwisgo bob o fantell werdd yn hongian yn urddasol ar eu hysgwyddau. Nifer o honynt a wisgasant y cwcwll tal a'r bais a betgwn. Yr oedd yr hot fach gocos o Benclawdd yn amlwg iawn, a ffurf- iau diweddarach o gapiau, hetiau a gwisg- oedd, nes gwneud hanes Cymru yn eu gwisgoedd yn fyw ger ein bron. Wedi claddu llawer o'r bwydydd a chlirio'r byrddau, trowd at y llwyfan, yr hwn a ymddangosai fel coedwig fechan gan naturioled y trefnid y brigau derw a dail iorwg, ynghyd ag amryw delynau pryd- ferth, ac yn eu plith telyn odidog Miss Maud Davies, Brynheulog, oblegid hyhi oedd i "dynnu mel o'r tannau man." "J.J." lanwodd y gadair, a gwnaeth ei waith fel Archdderwydd. Galwodd yn gyntaf ar y dyrfa i uno mewn canu alaw Rhyfelgyrch Cadben Morgan" ar y pennill canlynol: Calon wrth galon, Gymreigyddion glan, Traethwn un pennill, canwn gan, Dathlwn Wyl Dewi gyda rhwysg a bri, Profwn mai Cymry gwir y'm ni; Clod ein Cymdeithas baro flwyddi maith, Gwneled ein haelwydydd yn bur i'n hiaith, Unwn o'r Pentre, Ystrad, Gelli'r Ton, I Gymreigio'r Rhondda 011 o'r bron." Cafwyd hwyl yn iawn wrth ganu i gyfeiliant y delyn, y crwth, a'r berdoneg. Yna awd at y llwnc-destynau, sef Y Brenin," gan Mr T. Millward, cyfreithiwr. "Dewi Sant," gan y Parch. M. H. Jones, B.A. "Addysg Cymru," gan y Parch. E. W. Davies (B.), Ton. Nid oedd dim i'w lyncu yn y cyfarfod, ond ysprydiaeth iach y testynau a'r areithiau, oblegid Cadwyd o'r ddefod Y cwpan a'r gwin, s A'r Cymro un diwrnod A'r ffug ar ei fin." Canu pennillion gan Mr John Evans a Miss Davies yn gampus. Yna cafwyd anerchiadau'r beirdd, a daeth tyrfa o hon- ynt i'r Ilwyfan. Y cyntaf i anerch oedd "Cenech," un o fechgyn anwyla'r lie yma, ac y mae yn dda gan bawb yma ei weld a'i glywed, a thyma ei anerch: Da yw son am Dewi Sant, A tharo tant y delyn, Nid oes le i delyn fud Yn nhud y gerdd a'r englyn, Ac nid oes ddiffodd ar y tfin Ar allor can pob dyffrvn. Mae Defion byw i'w hawl, A'u mawl ar dafod miliwn, Mae cenedl gyfan ar bob bryn Yn uno yn y byrdwn, A threnga stormydd gwawd y Sais Wrth weld ei phais a'i betgwn. Balchter Cymru yw ei hiaith, A'i gwaith yw siarad honno, Ac nis gwel wrth fentro byw Un estron i'w dinystrio; Hoff gan Gymru fach erioed Hen ddiliau doed a ddelo. Byw yw'r Awen yn ein plith, A'r gwlith ar fyrdd o'i blodau, Nid oes fedd i un o'r rhauij Er gwaethaf drain a rhwystrau, Ao yn frenin ar ei ardd Mae'r bardd yn swn y tannau. r — Da yw cynnal gwledd a gwyl I ddeffro hwyl Cymrodor, Angel gwyn y bywyd tlws Sy'n cadw'r drws ar agor, Ac ar frigau'r tyrrau tal Mae'r iaith yn dal yn drysor. Byw yw'r iaith bereiddiai thon Ar waethaf Die Shon Dafvdd, Ymhob cwmwd gwna ei thrig A miwsig lond ei meyeydd; A than nodded llawer ffrynd Ei gwen sy'n mynd a'r gynnydd. Wedi'r wyl ac wedi'r wledd Ni thorrir Bedd i Ddewi, Mynnwn eto ddysgu'r plant A chadw'r tant i ganu, Ac yngwyneb stormydd cur, Boed pawb yn bur i Gymru. Dilynwyd Cenech gan Gwernogydd, Mil- wyn, Myfyr Elfed, ac yn olaf "J.J. Archdderwydd dyfodol Cymru, a thyma ei anerch tlws yntau Pan oedd Cymru wen yn huno, Ar hyd y nos, Niwl a chaddug yn ei chuddio, Ar hyd y nos, Gwelwyd seren wen yn gwenu Drwy'r cymylau'n dirion arni, Ac yn c&dw gobaith iddi Ar hyd y nos. I Er fod corwynt blin yn curo Ar hyd y nos, Gwenu wnaeth y seren honno Ar hyd y nos, Dros lechweddau'r hen fynyddoedd Daeth trwy ganol y tymhestloedd Belydr arian i'r dyffrynoedd Ar hyd y nos. Dewi Sant, efe fu'r seren Ar hyd y nos, Safai'n unig yn yr wybren Ar hyd y nos, Dan ei hyfryd dywyniadau Cadwodd yspryd gwlad y bryniau I barablu iaith ein tadau Ar hyd y nos. Melys fu yr hen delynau Ar hyd y nos, A'r goleuni ar y tannau Ar hyd y nos, Heddyw pan mae'r dydd yn gwawrio, Cofiwn am y seren honno A'n cynhaliodd rhag diffygio Ar hyd y nos. Wedi'r anerchiadau canwyd rhes o ganeuon Cymraeg gan Tom Bonnell, Christmas Owen, Tom Hughes, Beatrice Lewis, Maggie Jenkins, a Ben Dyfnallt. Canwyd y crwth gan Tilly Thomas, R.C.M., a Ida, ei chwaer, yn cyfeilio, un o honynt yn brydferth iawn mewn gwisg Geltaidd a'r Hall mewn pais a betgwn a het fach gocos. Yr oedd ei chwareuad byw o'r alawon Cymreig yn wiedd nas angofir. Gofod a ballai i mi allu desgrifio pashant y siroedd tan arweiniad yr Archdderwydd "J.J." Fu dim yn fwy byw na'r dathliad eleni yn hanes y Cymreigyddion. Diolch- wyd i bawb wnaethant eu rhan. Cyfeil- iwyd ar y berdoneg yn fedrus fel arfer gan Mr T. J. Price. Unodd pawb i ganu yn galonog "Hen Wlad fy Nhadau," ac ymadawsant gan feddwl yn uwch o'u iaith, eu gwlad, a'u cenedl nag erioed, a chan feddwl am Ddewi, "Fod yn dda ganddo genedl yn gwisgo ei gwyrdd, Ond gwell ganddo genedl yn dilyn ei ffyrdd." B.D. I Cymmer, Glyneorrwg. ) Diwrnod a hir gofir gan blant y Cymmer fydd dydd Llun, Mawrth yr ail, pan y buont yn dathlu Gwyl Dewi Sant mewn modd na welwyd yma o'r blaen. Ffurfiwyd gorymdaith o'r ysgol i Neuadd y Gweith- wyr, ac awd drwy raglen faith, yn cynnwys canu alawon gwerin ac alawon gwladgarol, canu penillion a pherfformiad o ddigwydd- iadau pwysig yn hanes Cymru. Canwyd yr alawon "Gwyr Harlech," "Cadlef Gwyr Morgannwg," a "Rhyfel- gyrch Cadben Morgan "Y Cwcw Fach" (gan y Babanod), "Y Gwenith Gwyn," "Pant y Pistyll," "Y Fwyalchen," a "Morch y Felin," o dan arweiniad Miss Bronwen Davies a Mr D. J. Jones. Canwyd penillion yn ol dull y Gogledd gan blant y safonau uchaf, a Gwladys Thomas ac Olwen Evans (yr hen a fu yn gyd-fuddugol ar ganu penillion yn Eistedd- fod Dewi Sant Cymmer, Porth, y Sadwrn diweddaf) ar yr alawon "Nos Galan," "Llwyn Onn, a "Phen Rhaw, o dan ar- weiniad Mr. J. Rees Jones. Perfformiwvd 'dramas' byrion o waith athrawon yr ysgol ar y testynau, "Caradog yn Rhufain" a "Thywysog Cyntaf Seis- nig Cymru gan y Babanod, a Glyndwr a Berclos," "Cromwell a Poyer," "Marw- olaeth Dafydd Gam," a "Gwrhydri Gwen- Ilian yng Nghydweli," gan blant yr Ysgol Fawr. Yr oedd yr oil o'r gweithrediadau o dan lywyddiaeth Miss C. John, yr ysgolfeistres, a Mr Lewis Davies, yr ysgolfeistr, ac i'w hymdrechion hwy a'r athrawon a'r athraw- esau y priodolir y llwyddiant neillduol fu ar y gwaith. Cafwyd araeth ar "Gymru" gan yr ysgolfeistr. Rhoddwyd 'treat' i'r plant trwy garedig- rwydd Mr a Mrs W. P. Jones, Surveyor y Cyngor Dosbarthol, ac wrth fwynhau y wledd teimlem fel ein bardd adnabyddus: Mae son am Gymmer yn y 'North,' Mae Cymmer, Porth, yn amlwg, Cefn-coed-cymmer ar lan T&f, Lie digon braf i'r golwg, Ond p'run o'r holl Gymerol ach Fel Cymmer bach Glyneorrwg. I Pontardulais. Daeth cynulliad rhagorol ynghyd nos Wener diweddaf i neuadd newydd yr Hope i fwynhau gwledd o basgedigion foreision, o tan nawdd Cymrodorion y Bont. Yr oedd golwg hyfryd ar y byrddau, a phawb mewn hwyl Gymro- aidd. Gwahoddwyd Ficer Aberper- gwm (y Parch. J. Ll. Thomas, M.A.) yn "ymwelydd," gan yr hwn y cafwyd anerchiad ysgolheigaidd ar Dewi Sant. Llywyddwyd gan y Parch. D. Lloyd Morgan, D.D., a chymerwyd rhan hefyd yn y llwngc-destynau gan y Parchn. R. W. Davies, G. Williams, G. Jones, W. R. Lloyd, ac R. G. Davies, yr Henadur Rhys Harris, Mri. Isaac Davies, T. H. Jones, Thomas Davies, D. J. Davies, D. A. Tomas. G. J. Thomas (Telynor), ac amryw gantorion, yr athrawes M. E. Davies a Mrs. Morgan. Anturiwn nodi I na fu rhagorach dathliad yng Nghymru benbaladr. l Qorymdeithiau Gwyl Ddewi. I Gorymdeithiodd plant y tair ysgol leol, tua 2,500 o honynt, hyd yr heol- ydd ddydd Sadwrn, yn cael eu blaenori gan ddwy Seindorf. Ymunodd llu o oedolion gyda hwynt, a theimlid fod yr olygfa yn un llawn ysprydiaeth. Rhodd- wyd te i'r plant, a chynhaliwyd cyfar- fod cyhoeddus yr wyr. Gwelir fod y Bont—o'r ddwy ochor i'r afon—wedi gwneyd ei rhan yn deilwng i ddathlu prif wyl y Cymry.

Advertising