Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
BEVAN & COMPANY, Ltd, Wales' Largest Furnishers. FURNITURE FOR THE MILLION! WONDERFUL GROWTH OF OUR PIANOFORTE TRADE We attribute the vast increase which has taken place in our Musical Instrument Department to the fact that we are giving far better value than it is possible for any Firm solely dependent upon this B anch of Trade to supply. We cordially invite intending Purchasers to bring with them the best expert iter can get, and to critically examine the quality and vatuë of our In truments on offer. We have supplied P any hundred* of Piaros and Organs throughout Wales and the border Counties, and thero is not a single Instrument which we h we supplied failiog to give unbounded satisfaction! Scores of unsolicited Testimonials for your inspection Every Pianoforte warranted Ten ¥ ears. Terms Cash, or generous arrangements for Credit. T'he I Alexandra,' 18 gns.; The Renowned I Priincipality,' 28 gnsr; The Brighton' (Overstrung), 35 gns.; The Superb Ming (as design), 40 gns -.L- Near Empire, & 97 St. Mary Street, CARDIFF; Taff Street, PONTYPRIDD; Wind Street, SWANSEA; NEWPORT, &c.
I Y Stori. ;
Y Stori. LLWYBRAUR SARFF. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr." GAN M. H. CHARLES. Un o ffermydd gore ardal Troedyr- arth oedd Pantybrenin, ac un o ddyn- ion mwyaf adnabyddus y cylchoedd hynny oedd Evan Powell, ei pherch- ennog. Adnabyddid ef fel un a feddai lawer iawn o dda'r byd hwn, ac hefyd fel un a feddai galon lied eang i gyf- rannu bob amser pan welai wir angen. Ystyrid ef hefyd yn un o golofnau y capel, er na fedrai siarad dau air yn y gyfeillach, ac na phlygodd ei lin erioed o fewn y muriau. Edrychai plant yr Ysgol Sul i fyny ato mewn edmygedd, er na chynorthwyodd yr un o honynt i ddarllen brawddeg o'r Gyfrol Sanctaidd; ond pan ddeuai •adeg y trij) i lan y mor, yn ol arfer ,a d eg y tr i pobl y wlad, ni cheid neb parotach i gynorthwyo nag Evan Powell. Yn wir, byddai holl geffylau ac olwynion fferm Pantybrenin at wasanaeth plant a phobl y capel y dydd arbennig hwnnw. Cymwynasgarwch felly, a charedigrwydd oedd y prif elfennau yng nghymeriad Evan Powell. Yr oedd Pantybrenin yn hen lety gweini- dogion, a byddai atgofion melus am garedigrwydd dihafal y preswylwyr yn aros yn hir yng nghof llu o bre- gethwyr y Gair. Yr oedd natur hefyd fel pe ar ei gore yn gwasgar ei phryd- ferthion dirifedi o amgylch y He. Ceid rhyw harddwch eithriadol yno ymhob tymor o'r flwyddyn, nes peri i bob ymwelydd feddwl am baradwys. Yr oedd Evan Powell yn wr a dynnai sylw ymhlith tyrfa. Yr oedd ei gorff yn lluniaiddj a'i holl osgo yn arbennig. Pan yn ei ddillad, gore, yn eistedd yn y gadair fawr o dan y I pulpud, byddai'r pregethwr yn pre- gethu mwy i'w gyfeiriad ef nag un cyfeiriad arall; ac 'Js niJid ef i ysgwyd ei ben fel arwydd o gymeradwvaeth i'w dipyn pregeth, braidd na ddiolchai fwy am hynny nag am yr ychydig dhl ar ddiwedd y dydd. Ond gwr wedi cael y lie gore i eis- tedd am fod modrwy- aur ganddo oedd Evan Powell. Yr oedd yr eglwys yn y wlad yn credu mai un o gymwyster- au diacon oedd ei fod yn meddu poced lied drom a rhyfedd cyn lleied o eglwysi drwy'r byd Cristion- ogol heddyw fedr daflu carreg ati. Nid y dyn mwyaf ysbrydol yn fynych, ond y dyn mwyaf ariannol a gaiff y lie gore yn eglwys Iesu Grist. Yr oedd eglwys Troedyrarth yn hen eglwys, ac yn enwog fel un a roddodd gychwyn i lawer eglwys arall. Gwnelid y pentref i fyny, fel y mwyafrif o bentrefi Cymru, o gapel ac efail, siop y crydd, a theml Satan, yn dwyn yr enw The Angel." Yr oedd y fynedfa i'r capel yn union gyferbyn a'r dafarn, a gallai'r fynedfa honno dystio am y gyfathrach felltigedig a fu rhwng y ddau dy am flwyddi lawer, hyd nes y llewyrchodd goleuni dirwest lan, ac y dechreuwyd ffieiddio yr hen sarff." Yr oedd Evan Powell yr un mor gartrefol yn yr Angel ag oedd yn y capel, ac yn gefnogydd eiddgar i'r naill le fel y llall. Safai ar ddrws y dafarn yn ystod yr wythnos heb wrid ar ei wyneb, ac eisteddai dan y pulpud ar y Sul gan ledu ei freichiau fel un oedd yn ymwybodol nas gallai yr achos fyned yn y blaen hebddo. Ond er fod set fawr Troedyrarth yn wybyddus yn yr enwad fel un dra gwlyb," eto, ar rai adegau, ceid ami i fravtW yn ddigon cryf ei argy- hoeddiad i ddweyd llawer o adnodau dros ddirwest. Poenai'r brodyr hyn Evan Ppwell yn fawr, ac er mwyn angliofio yr adnodau, gwthiai ei law yn ddyfnach nag arfer i'w logell, a chwvddai y casgliad er lliniaru'r boen. Dynes dawel, addfwyn, oedd Elen Powell ei wraig, yn cario allan i'r llythyren yr addewid a wnaeth wrth yr allor. Amlwg ydoedd er hynny i'r sylwedydd craff mai dynes wedi ei choncro oedd. Meddai wyneb hyfryd, ac ami dro gwelid ei llygaid yn ser- ennu pan draithid y gwirioneddau hynny a gyffyrddent a'i chalon. Llonnid y pregethwr, am y credai ei fod yn cael amen wirioneddol oddi- wrthi, er yn ddistaw; ond cyn hir, crynnai ei gwefusau, a llifai'r dagrau dros ei gruddiau, a deuai llinellau'r gorchfygiad yn fwy i'r amlwg nag erioed. Dynes ddwad oedd Elen Pow- ell. Yr oedd ei hen gartref rhyw ddeugain milltir o Droedyrarth. Caf- odd ei dwyn i fyny ar aelwyd dra chrefyddol, ac yr oedd ei rhieni yn nodedig yn ei phlwyf fel dirwestwyr selog. Yn wir, ar yr adeg honno, cawsant lawer iawn o'u gwawdio a'u dirmygu. Gelwid hwy yn benboeth- iaid disynnwyr a llu o enwau ereill, ond dalient er hynny'n ffyddlon i'r faner ddirwestol, a thrwythent feddyliau eu plant anwyl yn egwyddorion dirwestiaeth bur. Felly, nid rhyfedd fod croes Elen eu merch mor drom. Meddyliodd, pan briod- odd fab Troedyrarth, ei bod wedi gvvneud match go dda, ac na fuasai symud y ddiod o'r seler ond gwaith I lied hawdd; ond yr oedd wedi treulio deng mlynedd ar hugain yno erbyn hyn, a'r "hen sarff wedi ei chodymu I lawer tro. Brwydrodd yn galed y blynyddau cyntaf pan yn ieuanc a hoenus, a'i bywyd yn llawn o obeith- ion digymyl. Ond gosododd Evan Powell ei droed i lawr, Y fi sydd ben yma," meddai, "ac fe fydd glas- ied o ddiod ar fwrdd Troedyrarth i bob ymwelydd cyhyd ag y byddaf fi yma, felly dim rhagor o nonsens i mi." Fel hyn y treuliodd Elen Powell ei bywyd. Brwydrodd yn hir ac yn ddewr. Ufuddhaodd yn dawel i holl orchymynion ei phriod, gan obeithio y buasai yntau rhyw ddydd yn cyd- synio a chais mawr ei bywyd, sef alltudio'r ddiod am byth o'u cartref, ond y cwbl yn ofer. Yr oedd henaint a phenllwydni wedi eu goddiweddyd, ond yr oedd Evan Powell yn cymeryd cymaint o ddyddordeb yn y Macsi gartre yr adeg honno ag erioed, a phan ddeuai rhyw ymwelydd yno, nid oedd ball ar y "Dablen," a gwenai'n foddhaus os c'ai rywun i'w chanmol. Yn wir, ymfalchiai yn ei waith, a dywedai'n fyny,ch:- Pe rhoddid gwobr am y dablen ore yn y sir, 'rwy'n sicr mai Troedyr- arth y cawsai hi, oblegid 'rwy'n gwy- bod y ffordd i facsi oddiar pan own i'n bedair ar ddeg oed; ond un peth wyf wedi methu ei wneud, sef cael gan Elen i'w brofi. 'Rwy'n credu pe bai hi ond ei brofi unwaith, y rhoddai bob cynhorthwy i mi i'w wneud wedyn. Ond y mae'n ei ffieiddio fel gwenwyn marwol. Mae wedi llynci rhyw hen syniadau ynglyn & dirwest, ac yr wyf wedi methu'n lin a'i chael (i'r un tir a mi, a cheisia berswadio Ann i wneud yr un fath; ond merch ei thad yw Ann, 'does dim hen lol fel yno'n poeni dim ar Ann." (I barhau.)
Cymrodorion Aberpennar.
Cymrodorion Aberpennar. Y Parch. Rhys J. Hughes fu yn anerch y gymdeithas uchod ar y 18fed cvf. Yr oedd ei wenith cartref yn ddi- ddorol, ac adeiladol. Fe ddeallir rhed- iad ei destyn pan ddywedwn mai Cym- ru, Cvmro, a Chymraeg oedd ei bopeth. Cynghorwn unrhyw gymdeithas a garai ddarlith dda i fynnur gwr o Amanford i'w hanerch. Yn y cyfarfod hwn an- rhegwyd y Parch. J. 0. Jenkins, cyn- weinidog Noddfa, M.C., ar ei ymadaw- iad am Cilfachgoch, a ffon ebony hardd. Bu Mr Jenkins yn un o golofnau y gym- deithas oddiar ei chychwyniad. Anfon- odd Ab Hevin englyn i'w anerch yn ei absenoldeb. Darllenodd y doniol Hywel X edd nifer o benillion hefyd. Wele hwynt:— Hyawdledd distaw fedd y ffon- Yn wir, mae tafod ffraeth gan hon, Ei ystyr hi yn ddigon plaen, Yw help i ddyn i fynd ymlaen. Cadd Mr Jenkins newydd Iwydd, Cyfeillion newydd wna yn rhwydd, Ond Aberpennar geidw'r blaen Am helpu brawd i fynd ymlaen. Pan yn bugeilio pridd y nef Y ffon fydd gymhwys iddo ef; Goresgyn wna bob tramgwydd faen, Trwy gymorth hon i fynd ymlaen. Bydd melys wedi croesi'r don, I wlad lie na bydd eisiau ffon, Gael cwrdd rhai roisant yn lie maen I Ryw help i ddyn i fynd ymlaen. HYWEL NEDD. I
Advertising
I ESTYN EICH OES Bwytewch ac yfwch yn gymhedrol, ond os digwydd annoethineb, gellwch ym- ddibynnu bob amser y bydd i PELENI LLYSIEUOL KERNICK lanhau'r cyfansoddiad, cryfhau'r nerves, iachau diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 1!1 a 2/9 gan yr holl Fferyll- wyr.
Taith i Lydaw.
Taith i Lydaw. GAN "GLiVNLLYW." (Parhad.) Wedi cerdded y bau dros ei draeth cregin gwyn, gwnes adduned na ddilynwn y mor yr holl ffordd i ben fy nhaith. Tra'r meddwl hwn yn fy mryd, gwelais grwt. bach yn tynu tatws yn y maes. Gofynais iddo sut vdoedd croesi i Cancale. Cyfeiriodd fi yn foddlongar iawn. Dilynais ei gyfarwyddyd, a chan fy mod wedi fy nwyn i fyny yn y wlad yr oedd tynu llwybr llygad yn nalutiol i mi. Felly tynais i ben fy nhaith, weithiau'n croesi'r caeau, weithiau ar ffordd gul a chloddiau uchel iddi, a phryd arall ar y ffordd fawr. Felly wrth fy mhwys- au ac wrth fy mhleser y deuthum i I Cancale. Y peth cyntaf wnes wedi cyrhaedd ydoedd mynd i'r stesion i holi pa bryd yr c1ai'r tren diweddaf oddiyno. Er fy syndod a'm gofid, cefais fod y diweddaf wedi mynd am chwarter i bump. Felly 'roedd rhaid aros yno'r noson honno, neu gerdded yn fy ol eto. Gwelais mai gwell yd- oedd trampio'n ol, ond nid cyn gweld popeth a ellid yn yr amser at fy ngwasanaeth Dinas fechan a rhyw chwe mil o boblogaeth ynddi ar lechwedd serth ar dir creigiog yng ngolwg bau an- fcrth Mont St. Michel ydyw Cancale, neu Cancaven a rhoi ei hen enw arni. Nid ydwyf yn cofio gweld gwell golygfa erioed na'r hon dorrodd ar- naf wrth ddod i'r lie. Ymagorai'r bau mawr o fy mlaen. Yn y pellder draw yr oedd Normandy, cartref ein gorchfygwyr am dro, a Mont St. Michel fel pe wedi ei enhuddo yn yr awyr, a'r tonnau o'i gwmpas ymhob man yn golchi ei draed cedyrn. Y mor fel gwydr gloyw a'r awyr bnglas uwchben, y llongau pvsgota bvchain, gyda'u hwyliau gwynion wedi eu lledu i dderbyn yr awelon tyner, yn dawnsio ar y tonnau man—arddunol olygfa. Digon o dal am flinder y daith. Nid y bau eang yw'r unig olygfa gwerth ei gweld yn Cancale. Gerllaw mae Trwyn Grouin, y penrhyn a wa- hana'r Traeth Aur oddiwrth Fau Mont St. Michel. Odditanom saif y creigiau cedyrn a ddaliant heb syflyd ymosodiad creulon y tonnau cynddeiriog ac a'u gyrant yn eu hoi A Iloches gan mewn cywilydd i'w lloches gan chwyrnu a malu ewyn. Tuhwnt iddynt hwy y gorwedd y gwelyau llymarch (oyster-beds) byd-enwog a dderbyniant gymaint o ofal a sylw'r preswylwyr, ac a roddant elw cyfa- tebol yn ad-d&l. Nid oes derbyn heb roddi, na rhoddi heb dderbyn. Rhaid hau cyn medi. Rhaid dioddef llawer i fwynhau'r helaeth. Try gofal a diwydrwydd pobl Cancale yn enill mawr iddynt. Cariant drafniaiaeth rvfeddol ymlaen. Dywedir mai dyma un o brif farchnadoedd v hvd mewn llymeirch. Ar drai'r mor gwagheir y ddinas bion yn ilwyr o'i gwvr a'i gwragedd i ffermu'r cragen-bysg hyn. Gadewir y plant a'r hen bobl i ofalu a gwarchod gartref. Wrth grybwyll hyn tarewir yr ymwelydd a'r argraff fod rhywbeth arbenig yn wynebpryd y bobl hyn a'u gwnant yn "type" arbenig. Gwelvvn, er cymaint cyfarcdd y lie, fod yn bryd i mi osod fy nhraed yn y tir, os am gyrhaedd San Malo cyn canol nos. Modd by nag cyrhaeddwyd cyn hynny, wedi llwyr flino a'm corph yn ysig, fy aelodau'n friw a'm traed yn ddolurus. Tybiwn na fyddai taith arnaf am beth amser ar ol hyn, ond d. dd wedi noson dda o gwsg meddygm- I iaethwyd fy nghorff i raddau digonol i awyddu ac i'n galluogi i gymeryd taith arall drannoeth, ond cyn dar- lunio honno, carwn nodi rhai arferion a dcfodau a sylwais ar y daith hon. I Sylwais eu bod yn hen ffasiwn, rhyfeddol gyda'u dull o amaethu. Par- hant i dori'r llafur a'r cryman ac a'r bladur o hyd. Defnyddiant y ffyst i ddyrnu hefyd. Mae hyn yn nod- weddiadol iawn o honynt. Nid ydynt yn barod nac yn aiddgar i symud yn mlaen gyda dim. Ceir tuedd ormodol ynddynt i aros yn yr un man gyda phopeth. Glynant fel gelod wrth eu hen arferion. Mae eu hymlyniad wrth y Babaeth yn ddiarhebol. Dywedir eu bod yn eithriadol ymlyngar ymhob cysylltiad. Nid oes wasanaethyddion mwy teyrngarol i'w cael na hwynt. Ceir galw mawr am eu merched yn nhai'r pendefigion a'r gwyr mawr ym Mharis. Peth cyffredin ddigon ydyw gweled llu o honynt ym mharciau a gerddi cyhoeddus y brif-ddinas fel mamaethod yn gofaiu am y plant. Ai codi o'u hymlyniad wrth eu crefydd wna eu teyrngarwch i bopeth arall, neu ynte cwyd eu hymlyniad i'w cre- fydd o deyrngarwch eu natur nid ym- geisiwn benderfvnu, ond digon yw cydnabod y ddau. Cawn olion o hynny ar bob llaw. Dengys y ffyrdd a'r tai brofion lawer o'u hymlyniad wrth eu crefydd. Ceir ar bob croesffordd bron ?groes a llun yr Iesu arni, ac mewn ageni pwrpasol ym muriau'r tai oddi- allan gwelir delwau lawer o'r Fair Forwyn. (I Cwrddais a lluaws o'r offeiriaid ar fy nhaith y dydd hwnnw, wedi eu gwisgo mewn du hyd eu traed. Gwisg- ent hugan neu grysbais fawr am danvnt a het a chantel fawr ar eu pennau. Cerddent yn bwyllog ac ystyriol. Rhoddent syniad o urddasol- rwydd eu swydd yn eu symudiad. Cyfarchent fi yn foesgar fel pobl y wlad yn gyffredin. Nis gwyddwn ddigon o'u hiaith i ymddiddan llawer a hwy, ond gwelwn yn eu hwynebau arwyddion o fywyd myfyrgar meu- dwvaidd. Canfyddwn yn eraill du- eddiadau mwy daearol. Pob un at y peth y bo. Nid meudwyaid nac offeriaid oedd yr unig rai a gwrddwyd ar y ffordd. Cwrddwyd a gwladwyr syml a di- rodres, gwragedd llwyd eu gruddiau, a lodesi glanllon eu gwedd, ac ambell sotyn, a'r ffordd yn rhy gul iddo, neu feallai y dywedai fel hen gymeriad yn fy mro enedigol, "N a, na, pe byddai'n gulach byddwn ta thre ers tipyn." Shon Heidden yw'n bwgan ni, ond Shon Osai (cider) ydyw gelyn y Brythoniaid, a rhyfedd fel yr ymostyngant ac yr addolant ef. fel yr N I Dyma un o'r ffurfiau gwaethaf ar ddiafol-addoliad y gwn am dani. Gwyn fyd y dydd y daw Bacchus i'r llawr, ond ofnaf y cymer flynyddoedd lawer yn Llydaw, fel yng Nghymru, cyn y daw. Gwlad llawn o "cafes" ydyw, ac arwydda hynny y gall ym- yfed mawr fynd ymlaen yno, ond nis gwelais, er hynny, ar fy nheithiau i I gyd lawer iawn o olion amlwg ar neb. Dichon y cynefinant a'r osai ac a'r gwinoedd, nes y medrant yfed llawer heb effeithio arnynt, ac y gallant hwythau ddweyd fel yr honai un gwr wedi iddo yfed ugain peint, "I can carry it and carry it well." Nid oes ond un argraff dda yn aros arnaf ynghlyn a'r "cafes." Wrth fynd drwy un o'r pentrefi bychain, clywais ddwy eneth ieuanc ar ddrws un o honynt yn canu un o gerddi'r wlad. Nis cofiaf y geiriau, ond mae swyn yr alaw wedi'm dilyn yn hir ac yn debyg o'm dilyn lawer blwyddyn eto. PENNOD V.—O SAN MALO I I SANT LUNAIRE. Cychwynwyd y daith hon gyda'r bad o San Malo i Dinard. Ceir am- ryw agerfadau'n croesi nol a blaen yn barhaus tra byddo'r llanw i mewn. Gydag un o'r rheiny yw'r ffordd hwylusaf i groesi'r dyfroedd hyn. Edrychant yn hud-ddenol o hyfryd ar ddiwrnod hafaidd tawel, ond golwg gilvvgus ddigon sydd arnynt ar ddi- wrnod gwyntog garw. Nid ydynt yn rhydd o beryglon. Ceir lluaws mawr o greigiau man a welir yn amlwg pan fydd yn drai. Nid hyfryd edrych arnynt felly. Doluriant y llygaid, ond cuddir hwynt gan y llanw caredig nes troi'r olygfa ddolurus yn wledd gain. Oni adgofia hyn ni o'r cariad hwnnw ni feddwl ddrwg ac a guddia luaws o bechodau. Nid oedd na thawel na gwyntog, teg nag ystorm- llyd y diwrnod y croesais i, ond rhyw- beth rhwng y ddau. Feallai mai dyna oedd oreu. Yr oedd digon o vvynt i'n siglo dipyn heb ein dychrynu, ac yr oedd yn ddigon tawel i fwyn- hau'r wib wrth weld y tonnau 'r dawnsio'n gynhyrfus ar fron y Hi. (I'w barhau.)
Onllwyn.
Onllwyn. Y mac ugain o weithwyr Glofa Maesmarchog, ger Onllwyn, wedi eu gwysio i'r llys gan Mr Bevan, y perchennog, am absenoli eu hunain o'r gwaith er mwyn mynd i angladd bachgcn a gawsai ei ddiwedd yn y lofa. Rhoddasent bedair awr ar hugain o rybudd o'u bwriad i absenoli eu hunain. Ymddengys iddynt wneud hyn fel rhyw fath o brotest o herwydd nas cawsent wybod i'r bach- gen gael ei ddiwedd hyd nes yr oedd y diwrnod gwaith drosodd. Gyda difrif- wch y dywedwn nad yw yi" ymdrech i gadw hysbysrwydd am adamweiniau angheuol a ddigwyddant yn eu plith oddiwrth y gweithwyr yn arwydd o lawer o barch i fywyd dyn. Yr hen arfcriad oedd rhoddi gwybod i'r holl weithwyr pan ddigwyddai damwain, ac os yn angheuol rhoddid i fyny'r gwaith am y dydd. Yr oedd yr arfer- iad hwnnw yn fwy dynol na'r hyn a wneir yn awr. } GOH.
Advertising
?-?  ?? ?? Cadewch !m! w!a*?d a chwi am I ???? Ddiffyg Gwaed I -????????J?? Cyfansoddir ein gwaed gan gelloedd M S coch a gwyn-y coch i faethu'r corff, y gwyn i ymladd ag afiechyd. Mewn L Diffyg Gwaed, mae'r celloedd cochion yn ddiffygiol, fwy neu lai. Felly ni all y gwaed gynnal y corif yn briodol a'i faethu. Mae'r llygaid yn farwaidd, ^Sh*. ML y wyneb yn wyn, a daw teimlad M o ludded difrifol drwy yr holl gyfan- .?N soddiad. Nid oes dim mor eHeithiol ???? ?? ?M mewn achos o Ddiffyg Gwaed a ? ??tt-'r? ? 'Wincarnis' Oherwydd lleinw' Win. L y -=?i 1 camis' y corff a gwaed cock, newydd, cyfoethog, a rydd ddisgleirdeb yn y ??t llygaid, ddwg rosynnau i'r gruddiau, J ac a rydd ynni newydd, bywiogrwydd ??????ty ? ? ??? ?? M<M??, a bywyd newydd i'r holl gorff. ttttttm Dechrenwch wella yn ■■■ RHAD \jH Aafonwch am brawl-gostrel rhad o Wincarnia' ?N???B?? ?\?j??t t -aId rhyw Sas and digon i wneud Ues. AmMuef ttMNBj??M?? stamp ceiniog (i dalu'r cludiad). N<W?)B?B?jB????N?? ? .???N tri stamp cein:og(tdalu'fctudtad). ■ ??NM W. IM Winearuls Works, Norwich. I I >Oymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. M %,?',Ymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. fPtLE?GRm? ? ? \p\}±sJL^ ..? j ?B MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel-for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the: miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3.J.corge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mbob man, mewn Blychau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwye- I-Gofynweh yn eglur am ";George's Pills," a gwelwch eich bod vn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORCE, NI.H.o.S., HIR WAIN, ABERDARE.