Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
- - - -Bwrdd y Golygydd.I
Bwrdd y Golygydd. I Y Stori.—Rhaid ei gadael allan yr wythnos hon o ddiffyg gofod. Y mae stori odidog o eiddo'r llenores gain Mrs Basset (M. H. Charles) mewn llaw. Y Parch. J. J. Williams yn y Taber- nacl, Treforis.—Yn y nesaf. John Milton yn Gymro.-Diolch am eich ysgrifau gwerlhfawr. Daw hon yn y nesaf. Mewn Ltaw. "Muriel, "Caerdydd," "Shirgar," etc., etc. Cymry Abertawe a'r Cylch. -Diolch calon i chwi am yr hyn yclvch wedi wneud dros y "Darian." Y n eich plith chwi y mae ei chylchrediad wedi cyn- hyddu fwyaf hyd yn hyn. Stori Llo'r Onllwyn. Daeth hon i law, a daw ailan gynted y bo lie. Da gennym ddeall fod Dafydd y Ffermwr yn dal wrth ei gilydd.
. Salem Newydd, Ferndale.…
Salem Newydd, Ferndale. I Nos Iau, Chwefror 12fed, 1914, cynhal- iwyd cwrdd i anrhc-gu y brawd Thomas John, M.E., Brynawelon, Ferndale. Cyflwynwvd iddo anerchiad godidog ac oil paintings o hono ei hun a'i briod am ei lafur hirfaeth ac ymroddgar fel ysgrifen- ydd yr eglwys. Am bed war o'r gloch prydnawn rhodd- wyd te i blant yr eglwys ar draul Mr a Mrs. Johns. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan frodvr a chwiorydd yr eglwys, a chafwyd amser hapus a'r plant yn mwyn- hau eu hunain. Yn yr hwyr aethpwyd trwy y gwaith o anrhegu dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch. Isaac Jones, gyda chynorthwy y brawd David Davies, cadeirydd v pwyll- gor. Dechreuwyd gydag araeth gan y llyw- ydd. Yna cafwvd solos ag adroddiadau gan frodyr a ehwiorydd ieuainc yr eglwys. Organydd y cvfarfod oedd Mr C. L. Jones, L.L.C.M. Cyflwynwyd yr anrhegion ar rhan yr eglwys gan y brodyr David Davies, ag E. T. Jenkins, jeweller. Wedi hyny siarad- wyd ychydig eiriau gan y brodyr J. S. Lewis, M.E., Tylorstown; Tim Davies, Post Office, Treorky, a Hy. Evans, M.E., Cilfynydd. Adroddwyd pennillion o waith y brodyr canlynol: loan Griffiths, Thomas Hughes, Hy. Richards, Joseph George, a Hy. Evans, Cilfynydd. Cafwyd oed fa dda a therfynwyd yn y modd arferol. JENKIN JENKINS (Ysg.). ANERCHIAD. J Melus gofion gana benill I enynll sereh y fron, Drwy rinweddau wedi enill Bri yn mywyd Thomas John; Wrth ymgynn ull mae cyfeillion Yma'n tlawen wedi cwrdd, I gael adrodd hen adgofion, Gan droi ffol ofidiau ffwrdd. Tra bo enw "Salem Newydd Ar gofleehres oesan'r byd, Fe geir enw'r ysgrifenydd Mown lie amlwg iavvn o hyd; Fe enwogodd ef yn ieuanc Ltvybrau rinvvedd ar ei daith, Ac ni fyddai dim yn dianc Heb ei sylw gyda'r gwaith. Cenir llawer am enwogrwydd Arwyr dewr ar faes y gad, Canaf finau mewn boddlonrwvdd Am ddaioni cyfaill mad Svdd yn cadw ei anrhydedd Gyda meithrin uchel dysg; I gymdeithas ymgelodd, A goleiint yn ein mvsg. Boed i'n cyfaill a'i gydmares Boed i'n cyfaill a'i gydmares Edrych ar y dysteb hon Gyda chofion pur a chynes Am ddaioni "Thomas John"; Addewidion mwyn dyddanwch Fo'n cysuro'r teulu'n iach, Gyda theimlad pur brawdgarwch Yn swn murmur Rhondda. Fach." Bvdd v dvsteb hon yn siarad Hen adgofion dyddiau gynt, A theimladau serch a chariad Yn ei gvfarch ar ei hynt; Boed hir oes i'r teulu dedwydd, A'u rhodfeydd yn lan a phur, I gael edryfh mcwn Dawenydd At- eii "Darltin ai- v Mur." H.R.
i I Nodion o Frynamman. j
Nodion o Frynamman. j GAN WALCH HYDREF. I Hermon. I Nos Sadwrn, Chwef. 21, cynaliwyd Eis- teddfod lwyddiannus yn y lie uchod. Cawd cystadleuaeth dda. Cloriannwyd y cantorion gan Mr John Morgan, Garnant, yn absenoldeb Mr. Maddocks, A.C., a chloriannwyd yr amrywiaeth gan Mr Wm. Jones (Gwilym Brynamman). Wele enwau y rhai buddugol:—Unawd i ferched o dan 10 oed: Rhanwyd y wobr flaenaf rhwng Dinah Hicks, Gwauncaegurwen, ac E. Williams, Garnant; 2il, Rosie Phillips, Gwaun-cae-gurwen. Adroddiad i rhai o dan 10 oed: Y wobr flaenaf, Mayverfil Jones, Penywaun; yn ail, Gwenny Thomas, Goleufryn, Park Street. Unawd i ferched o dan 16 oed: Yn oreu, Ceridwen Davies, Waun Leyshon. Adroddiad i rhai o dan 16 oed: Y wobr flaenaf, Hannah Mary Rees, Cainewydd a'r ail i Sephora Davies, Neuadd Road. Unawd i fechgyn o dan 16 oed: Yn oreu, DL Lloyd, Cwmgorse. Un- awd contralto, Margaret Ann Thomas. Tri phennill i Garreg Ffilfaen: Rhanwyd y wobr rhwng DI. Thomas, Gwauncaegur- wen, a "Braithlas," yr hwn nid attebodd i'w enw. Unawd tenor: Y goreu ydoedd Garfield Roberts, Llandilo Road. Unawd soprano: Rhanwyd hon etto rhwng Bessie Jenkins, Cwmgors, a Rosie Davies, Gwaun-cae-gurwen. Am yr vsgrif oreu ■dvfarnwyd y wobr i Mr. Sidney Lewis, Glyn Road, Brynamman. Unawd bass, Mr Owen Morgan, Tircoed, Glanamman. Adroddiad agored am y gadair, Miss Miriam Evans, Garnant. Her unawd: Y goreu ydoedd Mr. Garfield Roberts, Llan- dilo Road. Yr ysgrifenydd ydoedd Mr. Oliver Griffiths, Hermon House, Bryn- amman Road. Llwyddiant. I Llongyfarohwn y chwaer ieuanc bum' mlwydd oed, set Miss Gwenny Thomas, Goleufryn House, Park Street, ar ei llwyddiant yn mnl adrodd nos Tau, Chwef. 19, mewn cwrdd cvstadleuol yng Nghwm- llynfelI. Daeth allan yn oreu o amryw o gystadleuwyr. Ewch rhagoch yw ein dv- muniad, fel y gwelom chwi yn eistedd mewn cadair cyn eich bod yn ugain oed.
Cyngherdd Gerddfaol. I
Cyngherdd Gerddfaol. I Nos Lun, yr 16eg cyfisol, cynaliwyd cynghcrdd gerddfaol (orchestral con- cert) yn Neuadd Dewi Sant, Ton, yr atdyniad pennaf oedd Cerddorfa Mr P. G. Smith. Y mae y gerddlu hwn o offerynnau llinynol, pren a phres, I mewn bodolaeth er ys blynyddoedd I bellach, ond dyma'r tro cyntaf i bobl y Ton gael y pleser o'i gwrando. Daeth llond Neuadd ynghyd, ond amlwg yw nad oedd y dyrfa yn gyfar- wydd a'r gerddorfa, oblegid nid oedd y gwrandawiad mor astud ag y dylai fod. Rhaid yw wrth lawer cyngherdd eto cyn y sylweddola y werin y mwynhad g-wirioneddoI sydd mewn cerddoriaeth offerynol. Clod mawr sydd ddyledus i Mr Smith a'i gerdd- lu am eu ymdrechion i barotoi gwledd- oedd rhad fel hyn drwy wahanol rannau Cwm Rhondda. Dyma y ffordd i wrteithio chwaeth y werin, braidd yn ddiarwybod iddynt eu hun- ain. kraf iawn yw cynnydd cerddor- iaeth offerynol yng Nghymru, ond i fyny y mae y camrau, ac yn hwyr neu hwyrach fe brofa yr hen Genedl eu gallu offerynol hefyd. Ond trwy ddyfal bara y gwneir hynny i wrando ac i chwareu yn briodol weithiau y prif feistri ym myd eang cerddorfa- aeth. Canwyd tair o unawdau yn feistrolgar a gorphenedig gan Miss Florrie Jones, Penygraig. Cyfeiliwyd iddi ar ddwy o'r caneuon gan y gerddorfa lawn. Corau Meibion I Atdyniad mawr y flwyddyn brese-inol i gorau meibion fydd cystadleuaeth faivr Arddangosfa Bryste i gor o chwe ugain o leisiau am wobr o gant a hanner o burmoedd. Da gennyf ddeall fod yna symudiad vng ngwersyll cerddorol y Rhondda i geisio ffurfio cor meibion teilwng ar gyfer y gys- tadleuaeth uchod. Y mae yna do newydd o leisiau meibion wedi codi yn ein plith, ag y byddai yn dda iddynt uno a'u gilydd i fwynhau y pleser o ymbarotoi, a chymeryd rhan mewn gorchest gerddorol fel hon. Nos Sadwrn nesaf, yr 28ain cyfisol, ym- gyferfydd Parti Meibion y Rhondda- Pittsburgh yn Festri Ebenezer, Tony- pandy, er rhoddi ystyriaetb. briodol i'r cwestiwn. Gwahoddir yn gynhes feibion ieuainc y ddwy Rondda a feddant leisiau da ac a allont ddarllen cerddoriaeth yn weddol rhwydd i ddod ynghyd. Gobeithio y try yr an- turiaeth allan yn llwyddiannus, ac y gwelir corau meibion y Rhondda yn uchel eu bri unwaith eto.
Gwyr y Llythyrdy yn deall…
Gwyr y Llythyrdy yn deall Barddohiaeth. Anfonodd y Parch. Valentine Evans gopi o'ch papur gwych i'w hen ffrynd, Mr Thomas Thomas, un o ffyddlon ddiaconiaid Eglwys Ruhama, Peny- bont., gan weu ei enw a'i gyfeiriad i fewn i bill a osododd ar yr amlen, fel hyn Y llythyr-gludydd hynaws, Rho hwn i Thomas Thomas, A driga draw yn Frondeg glyd, Can's dyna enw'r palas; Ac enw'r hewl yw Coity Road, Yn nhre Penbont mae honno; A gwn pan gwrddwn, d'wedyd wna- 'Can diolch, frawd, am dano.' Cyrhaeddodd yr uchod ben ei daith yn ddiymdroi, a'r bore hwn wele air yn ol yn ffurf penill oddiwrth y cyfaill: Fe ddaeth y "Darian" i fy llaw, Yn fore anghyffredin, A gwelais ynddo lawer iawn 0 bethau gwerth eu darllen Y pennaf peth o honynt oil Yw stori'r Marwor Tanllyd; Wrth wneuthur hyn, 'rwy'n credu caf Fy rhan yn nhir y bywyd.
-Penclawdd. I
Penclawdd. I Nos Sadwrn, Chwefror yr 21ain, cyn- naliwyd cyfarfod yn Festri'r Trinity i sefydlu adran o Gymdeithas y Cymro- dorion yn y lie. Daeth tri o frodyr o Gymdeithas Gymrodorol Gowerton i'n cyfarwyddo, a chafwyd cyfarfod brwd- frydig a hwylus. Cymerwyd y gadair gan Mr. Davies, Gowerton. Cafwyd bras-gynllun o waith a threfniadau y Gymdeithas yn Gowerton gan Mr Grif- fiths, Ysgol Ganolraddol, Gowerton, ac araeth bwrpasol a brwd gan Dewi Sam- let. Cymhellir pob Cymro sydd yn caru ei iaith, ei wlad, a'i genedl i ymuno a'r Gymdeithas heb oedi. CYMRODOR.
————————-;I H. I Hirwaun.…
———————— H. Hirwaun. Bore Sadwrn diweddaf, Chwef. 21ain, ymwelwyd a'r gymdogaeth hon gan ystorm o fellt a tharanau. Tua chwech o'r gloch y boreu tarawodd mellten ar nen ty hen amaethdy Coedcae'rfelin, yn ymyl y Gas- works, gan ysgubo'r simneu i ffwrdd a i niweidio cryn dipyn o dalcen y ty. Yr oedd y teulu heb godi, ond yr oeddynt yn effro, a chlywsant yr adeilad yn cael ei ysgwyd ddwywaith. Gyda'r ysgwydiad olaf syrthiodd y darn uchaf o'r simne, a niweidiwyd rhai o ddodrefn y llofft yn >r ystafell lie y cysgai George, y gwas, yr hwn a waeddai gan fraw fod ei wely yn orchudd- iedig gan rwbel ,a sulfur bron ei fogi. Ym- welsom a'r ty rai oriau wedi'r peth ddygwydd, a gwelsom yr effeithiau. Di- lynodd y follt y bibell gyda thalcen y ty i'r llawr, a chododd gareg fawr o'r ddaear ac a'i hyrddiodd i gyfeiriad yr afon (Cynon). Yr oedd Miss Hopkins, yr hon amaetha y tvddvn. a'r teulu wedi braw- ychu'n ddirfawr, ond yr oeddynt yn falch na chollwvd bywyd na dyn nac anifail. Pe disgynai ar ferwedydd mawr y Gasworks oedd yn ymyl. gallasai wneud galanastrit ofnarlwv. DEWI CYNON.
Seven Sisters a'r Cylch. I
Seven Sisters a'r Cylch. I Nos Fa wrth diweddaf, yn y Picture Palace, rhoddwyd dau .berfformiad er cynorthwyo David Lewis, Brick How, yr hwn gyfarfu a dajnwain yn y lofa diwedd y fiwydcly)! o'r blaen. Uwnawd elw clir o bedair-punt-ar-ddeg. Da iawn! Ond rhyfedd mor gul ydyw syniadau rhai dynion am gynorthwyo mewn angen. Gwrthododd rhai hrynu tocyn am eu bod yn wrtiiwynebol i'r Cinema, ac am iddynt wrtliod, (yhoeddir trwy y lie eu bod yn erbyn achos teilwng. Gw.vddom fod yr achos yn ddigon teil- wng, He y mae teulu i'w cynal a'r gwr yn ei wely er's misoedd a fawi- obaith y daw o hono byth. Ond gwyddom hefyd fod y cyfeillion uchod wedi bud yn dda iddo o'r blaen, a bu rhai o honynt a ehwrdd gweddi yn ei dy, ac yn cysuro t i feddwl, a sicr na fyddant ar ol o gyn- orthwyo eto pan fydd angen. ond nid trwy gyfrwng y Cinema. Dydd (iwener diweddaf cyfarfyddodd pwyllgor glofa Seven Sisters a'r perch- enog. Mr. E. Evans Bevan, Y.H., i ym drin a'r cwetsiwn o gael turn byr dydd Sadwrn. Yr oedd y pwyllgor yn dra gobeithiol y llwyddent, gan fod y fraint hon yn nieddiant rhan helaeth o'r CWHl yn barod, ond gwrthododd y perchenog ddadleu y mater o gwbl, a dywedodd eu bod wedi bod yn ymladd am yr Act, ac am iddynt ei gweithio fel ag y mae. Sylwn hefyd fod yna awdurdod yn gofalu ei fod yntau yn gweithio yr Act ddiweddaf allan yn dra manwl. Yn nghapel yr Onllwyn (A.) nos Iau a nos Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd cantata, "The Moabites." Cafwyd cynhulliadau lliosog a datganiad ar- dderchog gan y cor, dan arweiniad n. Ellis Gruffydd. Cadeiriwyd nos lau gan y Cynghorwr Prosser, a nos Sadwrn gan Mr W. W. Williams, M.E., Onllwyn. Nos Lun, yn Nghapel Saron, Crynant, cafwyd dadl dan nawdd y Gymdekhas Ddiwylliadol. Y testyn oedd, A ydyw yn iawn darllen nofelau ?" Cy- merwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Noah Jones, a'r nacaol gan Mr. J. E. Jones. Wedi clywed y ddau Jbapyr caf- wyd dadleu brwd gan y gynulleidfa, a chariodd yr ochr gadarnhaol gyda mwy- af rif o un.
Heolyfelin, Aberdar.I
Heolyfelin, Aberdar. I Nos Iau diweddaf cafwyd perfformiad o'r oratorio Judas Maccabeus" yn v lie uchod. Trodd y cyfan allan yn llwyddiant eithriadol. Yr oedd y pwyllgor wedi sicr- hau gwasanaeth rhai o artistes enwocaf y deyrnas. Y mae enw David Hughes yn digon ynddo ei hun i dynu torf ynghyd, gan oi fod yn ddidadl yn un o'r datganwyr goreu fedd Cymru, Gwlad y Gan Ond er cystal oedd David Hughes, y tro hwn yr oedd ei gyd-ddatganwyr yn llawn mor dderbyniol gan y dorf. Synodd a swynodd Madam Jenniet Ellis bawb oedd yn bresen- ol, ac ni ehlywodd neb Sound an Alarm yn cael ei ganu mor wefreiddiol a chan Tom Bonnell nos Iau diweddaf. Mwynhad mawr i ni hefyd oedd gweled a clywed ein talent leol Miss Megan Davies yn cael cystal cymeradwyaeth a neb o honynt. Yr oedd genym orchestra lawn hefyd dan ar- weiniad Mr Gomer Jones, R.C.M., Bridg- end. Cafwyd pob boddlonrwydd yn eu chwareu medrus a gwefreiddiol. Dau o aelodau'r eglwys oedd y pianist a'r orgau- ist, Mr. Tom James a Miss E. A. Edwards, a gwnaeth y ddau eu gwaith cystal a'r goreu. Dichon mai'r. hyn roddodd y boddhad a'r syndod mwyaf i'r dorf oedd gwaith y cor yn datganu'r choruses. Dj- wedodd y cadeirydd nad oedd wedi clywed dim tebyg yn Aberdar er's blynyddocdd, a? nid oedd yn debyg y clywid cystal eto am dro hir. Ein harweinydd yw Mr J. J. Phillips, dyn ieuanc diymhongor, ond sydd wedi enill enw iddo ei hun fel un o arwein- yddion mwyaf medrus Cwm Aberdar. Y mae'r clod yn benaf i'n harweinydd am Iwyddiant y gyngherdd nos Iau diweddaf. Er fod llawer eraill wedi gwneud eu rhan yn distaw ac effeithiol. Beth bynag yw Cor Heolyfelin wedi bod yn y gorphenol, y mno iddo enw gwell heddyw. nag erioed. Gorfu i ganoedd droi 'nol nos Iau yn herwydd diffyg lie. Teimlwn yn flin yn herwydd hyn mewn un ystyr, ac yn fodd- haus iawn mewn ystyron eraill. Pasiodd y cor a'r pwyllgor yn unfrydol fod perfform- iad arall o'r oratorio i fod eto mor fuan ag sydd bosibl. Gohebwyd a'r artistes ar unwaith er ceisio sicrhau eu gwasanaeth yr wythnos hon, ond yr ydym wedi methu. Felly rhaid gwneud y trefniadau goreu posibl i gwrdd y rhai sydd wedi eu siomi y tro diweddaf. Cadwed pawb eu tocyn- au, fe wnaent y tro eto, ac nid oes arnom bryder na fydd y lie unwaith eto yn or- lawn. Ceisiwn fel cor, artistes, ac orches- tra. ragori digon y tro nesaf ar ddim a gafwyd nos lall diweddaf yn Heolyfelin. T.O. I
Advertising
tiMBBE <t%g! i'l'imAYmmmANis BALSAM N WELLHA || BESWCH ac ANWYD H Atnhrisiadwy gyda phhvit HR Poteli 1, a 216 OLL PFERYLR-WYR A
Colofn -y Beirdd. I
Colofn y Beirdd. I Anfoned ein cyfeillion barddol eu cynyrchion i'r Hendre, -u- Pontypridd.
[No title]
I CEINWEN LEWIS, Geneth Fechan Mr a Mrs David Lewis, 12 America Place, Porth. Un Iwydrudd, fad, ddiledryw,—ac Yw Ceinwen gariadfyw (anwyl Delw'i thad a'i dylwyth yw- A model o'i mam ydyw. DAFYDD O'R LLWYN. YR YSGOL SABBOTHOL. (Y Gerddoriaeth gan J. T. Rhys, Mus. Bac.). Yma cyfarfyddwn Arglwydd yn dy Dy Y ma yr addysgwn Am y ffordd sydd fry; Mae dy Air yn hyfryd, Mae dy Air yn bur, Dyma lwybr bywyd Tua'r nefol dir. Ysgol Iesu hoffwn, Deuwn yma 'nghyd; Yn ei Air myfyriwn, Hwn sy'n llanw'n bryd; Ynddo ymddigrifwn, Ynddo'r gwir a gawn. Ynddo ymhyfrydwn, Ynddo llawenhawn. Ynot y gobeithiwn, Arglwydd nef a llawr; Trwy dy Air addolwn, Ti, ein Hiesu mawr; Ar dy Air y pwyswn, Pa'm y byddwn drist? Am dy Air molianwn Anwyl Iesu Grist. W. SAMLET WILLIAMS. AR Y TRAETH. Rhodio'r traeth yr ydwyf heno, Yng ngoleuni'r IIeuad dlos Melys ydyw cael myfyrio Yn nhawelwch dwfn y nos. Santaidd ydyw oedfa'r tywod— Oedfa'n Hawn o syndedd hardd; Mae'r awelon a'r gwylanod Yn pregethu wrth y bardd. Llonned ydyw dawn y cregyn Sydd yn harddu'r eang draeth, Clywaf eu sibrydion dillyn Am ffyddlondeb cefnfor maith. Hardded ydyw'r tonnau gwynion Sy'n ymdorri ger y graig; Ac yn murmur hen gyfrinion, 0 ddyfnderoedd bron yr aig. Ar eu bronnau'n crynu, crynu, Gwelaf ddelw Ifin y lloer, Hwythau oil yn ei gusanu Rhag i'w serch gael mynd yn oer. Ust! mae'r greddfol lais yn galw, Ar y llanw eto'n ol; Dychwel yntau'n welw, welw, A fy hiraeth yn ei gol. Barri. J. TYWI EVANS. YNYS YR lICD. Cyn disgyn o lenni'r nos Dros orwel y tonnog for,— Cyn tewi o'r awel dlos, Yng ngherddi y nosawl gor. Mi rwyfais fy mad bach clyd Dros wynder y donnog fron I chwilio cartrefle'r hud, Lie cura'r calonna'u'n lion. Bu'r llanw yn chware'n ber Wrth ysgwyd fy llestr bach, A thlws oedd gweniadau'r ser Yn lloni fy niordaith iach; Ymledu wnaeth ochrau'r lli', A minnau mewn gofid syn, Oherwydd na welais i Heirdd lannau y swynfyd gwyn. Mi holais y lleuad wen, I Am ynys fy ngobaith gwell; Atebodd heb wg na sen Nad ydoedd hi ddim ymhell; Yng ngoleu ei thegwch syw Mi welais y draethell lan, A glaniais mewn hafan wiw I glywed perorol gan. Dihunais, a gwelai s rnai Breuddwyd a gefais i Am hafan heb weled trai, Na nos dros y tonnog li' Dygyfor y gyfid sydd, Yn llenwi fy mron yn awr, 0 beidio cael gweled dydd Ar ynys o hudol wawr. Barry. J. TYWI EVANS. MYNWENT BLAEN¥PLWYF. I Rhyw fangre gysegredig Yw'r fynwent newydd hon, Er nad y.w hi ond ieuanc Mae amryw yn ei bron: Mae plantos fu'n cyd-chwareu A mi mewn ieuanc nwyf Yn gorwedd heddyw'n dawel Yn Mynwent Faeh Blaenplwyf. Gwir gredwn bydd hi'n brydferth, Pan wneir ei chwblhau, Y muriau wedi eu trwsio A'r llwvbrau eu glanhau Y blodau'n gwenu'n dirion Ar fron y beddau du, Wrth feddwl fod eu sylwedd Yngwmni'r nefol lu. Caredig fu Sophia Mewn cymwynasau hael, Bu'n hynod ewyllysgar Yn ufudd a diffael; Hyderwn ca hi fyned I gwmni'r Hwn yr Wyf I dreulio tragwyddoldeb, 0 Fynwnt Blaenyplwyf. Mae Ilawer o adgofion, YVi mron y gladdfa hon, Tywelltir dagrau'n hicll Ar ol yr hwn a hon; Pan byddaf finnau farw, Am gael fy nghladdu r wyf Yn mysg fy holl gymdeithion Yn mynwent hoff Blaenplwyf. A.bercrave. AROXFA GRIFFITHS. A Joercrave. SYLLU'N WAHANOL. I Mor anymullol gweled dau Yn groes en golvgiadaii. I un, claer heulwen wna fwynhau Tra'r llall mewn dwfn drallodau Drwy gaddug sylla ambell ddyn Ar bobpeth wel o'i gwmpas, Un arall Villa fwynhau ei hun Yn mhob cylch gydag nrddas. Yn llaesu gweflau gwelaf wr Pan mae yn canfod pigyn Fry yn y berth uwchlaw y dwr Wrth geisio cyrhaedd rhosyn; Gwr arall mewn hyfrydol sain A glywaf draw yn chwerthin; Hwn, am ei fod yn nganol drain, Sydd wedi eanfod rhosyn' Ceir rhai llafur'wyr drwy eu hoes. Rhyw gwyno fydd eu tynged, 0 dan faich llafur blin a chroes Am fod eu dwylaw'n galed; Tra ereill weithiant wrth eu bryd Heb faich i ymdrafferthu, Byw ar fwynhad eu cartref clyd A'r Sadwrn, dydd y talu. Pan ddaw y ddrychin echrys hy' Cawn glywed llu yn gruddfan, Tra ereill drwy y cwmwl du Yn canfod emrynt arian; 1 rywrai mae y gaua'n bla, A rhewynt oer wna'u dychryn, Gwel ereill wanwyn gydag ha' Wrth droed y gaua'n canlyn. Pe medrem beidio syllu mwy Fyth ar yr ochrau tywyll, Yr ochrau goleu—dilyn hwy, Pe byddai'r haul yn sefyll; Fe fyddai'r byd yn llawer gwell A llwyr ddiflanai'r cwyno; Pe medrem syllu'n ddigon pell I'r lie mae yn goleuo. I Bronllwyn, Gelli. MURMURYDD. I
I B. Dyfnallt.I
I B. Dyfnallt. I Blin clywed am adfyd Mr Ben Dcvonald, Ton. Brawd llafurus yw ef gyda lien a chan. Gwelwn eisieu ei nodiadau derbyniol yn y Darian." Y sgrifena dan yr enw B. Dyf nallt. Nodweddir ei sylwadau bob amser mewn Cymraeg gloew. Heblaw gwas- anaeth fel hwn mae yn weithgar gyda chanu y cyssegr yn eglwys Jerusalem, M.C., Ton. Mae'n gyd-arweinydd mawl yr eglwys a Mr Moses Roderick. Tua dwy flynedd yn ol cyfarfu ein cyfaill a damwain flin iawn tra wrth ei waith swyddogol yn nglofa y Pen- tre. Yn ddiddadl, medrusrwydd medd- ygol a gofal tyner ei wraig, Mrs Devonald, gadwodd ei fywyd, gan fod y niweidiau dderbyniodd yn rhai poenus a pheryglus. Adferoda gyda amser nes ei alluogi i ddilyn y gorch- wyl o glerc yn swyddfa y gwaith. Yn anffodus, mae wedi ei gaethiwo i'w ystafell eto drwy effeithiau y ddam- wain. Clywaf ei fod yn well, a da fydd gan ei luaws admygwyr glywed hyn. Hysbysir y gwelir ei eisieu yn nghyfarfodydd y Cymreigyddion a chvlchoedd ereill. EOS HAFOD.
Cymdeithas Cymreigyddion Caerffili.
Cymdeithas Cymreigyddion Caerffili. Nos Wener diweddaf bu'r fonesig adnabyddus Eluned yn traddodi ei dar- lith ragorol ar Jones Llanddowror aelodau y Gymdeithas uchod, a chafwyd cwrdd hwylus dros ben. Teimlai pawb fu yno i ni gael gwledd lenyddol a meddyliol. Diolchwyd i Eluned yn gynhes ac mewn geiriau pwrpasol iawn gan ddwy foneddiges o'r Gymdeithas, sef Mrs. John a Miss Rowlands, B.A. Hefyd cafwyd unawd bwrpasol, sef jj Hen gadair freichiau fy mam," gan Mrs. Livingstone. Cymerwyd y gadair gan y Parch. Pryce Evans, B. A. Nos Wener, Chwefror 27ain, dethlir Gwyl Dewi yn Neuadd y Farchnad, a bwr- iedir rhoddi lie amlwg i'r delyn ac i'r ddrama y noson honno. A. JENKINS, Ysgrifenydd. J
Undeb y CymdeithasauI Cymraeg.
Undeb y Cymdeithasau I Cymraeg. EU HIAITH A GAD WANT." I At Offeiriaid, Gweinidogion, Pregeth- wyr, ac Eglwysi Cymru. Dathliad Gwyl Dewi Sant. —Gan y digwydd Dygwyl Dewi Sant eleni ar y Sul, awgryma'r Undeb uchod y priodoldeb o gyfeirio yn y gwasan- aeth a'r bregeth at ein gwyl fawr gen- edlaethol. Da fuasai gennym pe cyfeirid yn yr un modd ymhob eglwys Saesneg yng Nghymru ac ymhob eglwys Gymraeg drwy'r byd i gyd. 0 hyn allan bwriedir ystyried y Sul o flaen Gwyl Ddewi Sant fel Sul Cen- edlaethol Cymru. Estynned Cymry gwladgar bob cymorth i'r mudiad hwn. Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion." -I)ros yr Undeb, D. ARTHEN EVANS. I Ysgrifenydd.
Marwolaeth.
Marwolaeth. Mrs. Davies, Curre St., Aberaman. Am dri o'r gloch prynhawn Sul di- wedctar bu farw y ehwaer uchod yn 73 oed. Yr oedd yn weddw er's blynydd- oedd. Gadawa chwech o blant—pedair merch a dau fab—i alaru ar ei hot. Un Ol meibion yw'r bardd a'r Ilenol- a'r cyfaill hoff Eurfab. Yr oedd yn chwaer i'r diwoddar Herbert Davies, dilledvdd; Sunny Bank. Cledtiir ei gweddillion dydd (all nesaf yng Nghladdfa Gy- hoeddus Aberdar. Cychwyna'r angladd am :i.:i(). Yr oecid yn aelod ffyddlon yn Eglwys Gv,awr, Aberaman.
Cribynion.
Cribynion. Pa le yr & Mrs Hughes yn awr wedi i'w dwy ferch briodi? I dy ei mab-yng-nghyfraith yn Ynysybwl, neu at ei mab-yng-nghyfraith ym Mhontardawe ?" "Mae un am iddi fyn'd i Bontar- dawe, a'r llall am iddi fynd i Ynys- vbwl. "Y fath feibion-yng-nghyfraith caredig Begio eich pardwn. Mae yr un sydd yn byw yn Ynysybwl am iddi fynd i Bontardawe, a'r un sydd ym Mhontardawe am iddi fynd i Ynys- ybwl." Yr oedd gwr cyfoethog mewn rhyw ardal yn groes iawn i'r Genadaeth dramor. Yn y capel un Sul, pan ddaeth y blwch casglu heibio iddo, ni wnaeth ond botymu ei logell ac ysgwyd ei ben. "Nid wyf yn arfer rhoi at achos o'r fath," ebai, yn bur wawdus. "Wel, cymerwch ychydig geiniogau allan o'r blwch," ebai y casglwr yn ddigon digyffro. "Arian i baganiaid sydd ynddo." "Dyma un o fy hynafiaid," ebai boneddiges a syllai ar ddarlun yn un o orielau Caerdydd. "Syrthiodd wrth ymladd dros ei wlad yn Waterlw." "A ydych chwi yn disgyn o linach y dewrion ?" Cofiodd y sawl a gyferchid fod cefnder iddo wedi bod yn dangos pobl 'i fewn i Cinema yn y ddinas. "Y-ydwyf," ebai. "Y m mha le y cwympasant hwy?" "Nid felly yn hollol, ond yr wyf yn cofio clywed fel y safai yn ei wisg filwrol o flaen palas Dwyreiniol heb ddim ond gwialen fechan yn ei law, gan gadw torf anferth mewn trefn pan oeddynt yn ceisio gwthio heibio iddo. "Yn wir! Y fath wron!" O mae yn debyg nad oedd yn tybio ei fod yn gwneud un gwr- hydri. Gwnaeth hynny bob nos am dair blynedd a hanner." Un o ferched y bleidlais bia y rribiniad canlynol "Pa le mae fy ngwlawlen," gofynai ei wraig i'r Aelod Seneddol dros Lan- ystumdwy. "Fy nghariad, yr wyf yn ofni fy mod wedi ei adael ar 01 yn rhywle." "Yn rhywle, ai e? Mae yn ddychryn meddwl fod yr etholwyr mor ddwl ag ymddiried materion y deyrnas i ddyn na wyr ym mha Ie y gadawodd wlawlen ei wraig!" Yr oedd cybydd digamsynied yn dweyd wrth gyfaill iddo fod ganddo bellwelyr cryf iawn. "Gallaf rifo pob seren gydag ef," meddai, "er nad yw y blaned Sadwrn yn ymddangos yn fwy na phisin tair' yn y pellder o gan milldir." "GaUaf dy gredu yn hawdd," ebai y cyfaill. "Ni fuasai neb ond tydi yn ymboeni.i ddarganfod pisin tair' yn y pellder o gan milldir." Yn un o bentrefi glan mor Cer- edigion, yr oedd dau bysgotwr o'r un enw yn byw. Collodd un o honynt ei wraig, a'r llall ei gwch yr un nos- waith. Aeth gwraig ieuanc y gweini- dog oedd newydd ddod i'r lie i gyd- ymdeimlo ar un oedd wedi colli ei wraig, ond trwy gamsynied aeth i dy y pysgotwr oedd wedi colli ei gwch. Mae yn ddrwg iawn genyf am eich colled," ebai y wraig ieuanc. "O! peidiweh hidio," ebai Ab Cor- wgl. Nid yw y golled gymaint a fedd- yliwch." Yn wir!" ebai y wraig yn syn. "Ie, yn wir ddigon, nid oedd ond hen peth digon bregus. Mi a'i cyn- nygiais i Twm fy mrawd am ddim, ond ni wnaeth ond ysgwyd ei ben. Yr wyf wedi bod yn edrych allan am un arall er's tipyn." Darfyddodd cydvmdeimlad y wraig ieuanc fel diffodd canwyll. Rhedodd Peter Huws i weithdy Siams y Crydd un noson, a golwg ddychrvnedig arno. Dywedai ei fod wedi gwel'd yspryd wrth gamfa'r eglwys. "Sut glem oedd arno," ebai gwr y "lapstone. "Tebyg i beth ydoedd allet ti feddwl ?" "Yr oedd yn debyg i asyn anferth, a golwg- ystyfnig arno." "Dos tua thre', y lleban, a phaid a dweyd gair wrth un dyn byw; yr wyt yn rhy blentynaidd i adnabod dv gysgod." Pa mor hir dybiech chwi y pery fy mhrawf?" Edrvchai v cyfreithiwr dipyn yn sobr i wyneb y lleidr a am- ddiffynai. "Yr wyf yn meddwl yr af trwvddo o dan ddwv awr, ond vr wvf yn ofni y cymmer ddwy flynedd i chwi. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street. Aberdare, in the County of Glamorgan.