Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
Thompson & Shackell, Ltd. PIANOS AND  L „ m i PIANOS AND ORGANS. Cheapest House t e Trade. ORGANS. 1 ORGANS. ESTEY ORGAN AGENCY, I 24, Queen-street, Cardiff. I BRANCH ADDJESSES:- I tiWANBRA. 33, Castle-street. PONTYPRIDD 6, Taff-street. NEWPORT 23, Commercial-street. Gt,()UCESTER 42, Bastgate- s tree t. IiLA NELLY .60. Stepney-street, BRISTOL 142, Newfoundland-road. MEKTHYR 114, High-street. ISR) OGEND .1, Wyndham-street. Toftria j Hire System, from 10/- Monthly. tzs* Large Discount for Cash. OLD PIANOS TAKEN IN EXCHANGE. LIST FREE ON APPLICATION. N.B.—ALL GOODS DELIVERED FREE TO ANY ADDRESS. 00 YOU SUFFER FROMt EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTEFtS9 F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA And 49a, Commercial Street, Aberdare. PtUCEB MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. J t Carmarthen Dairy, Seymour St. a Whitcombe St., ABERDAR. Cynyrch Liaethdy o'r Fath Oreu, yn cynwys Hufen Ceuledig Ammrwd a Devonshire, yn newydd bob dydd. Wyau Newydd Ddodwy—Gwarantedig. Darperir ar gyfer Partion Te. Anfonir Llaeth ddwywaíth y dydd. Treorchy Annual Eisteddfod WHIT TUESDAY & WEDNESDAY, 1914, Program Des, 2d. each. from the Secretaries, Eisteddfod Office, Treorchy. GOWERTON EISTEDDFOD, MAY 23rd, 1914. Male Voice Choirs, £ 20; Mixed Choirs, X12; Children's Choirs, jElO Solos (each) je2 2s. & £11s. Solos (Children) 10/6 and 5/- Programmes now obtainable (2d. Post free) from the General Secretary, Mr. W. T. MORGAN, Ivy Cottage, Gowerton. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. STORI'R STREIC (Gan Beriah). Bydd rhagbrawf Parti Aberdar yne Nghystadleuaeth Drama yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Neuadd Gyhoeddus, NOS IAU,! Chwefror 26,1914. j Drysau yn agored am 7. I 5; i ddechreu am 7.45. Bydd Beirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol yn bresennol. Mynediad i Mewn, 2/ 1/ 6ch. EI8TEDDFODAU DYFOOOL. Sadwrn, Chwef. 2S, 1914—Eisteddfod Gadeiriol Cymmer. I Mawrth Pasc, Ebrill 14, 1914.-Els- teddfod Moriah, Bedlinog. Mawrth Pasc. 1914.—Eisteddfod Flyn- yddol Penybont. Dydd Sadwrn. Mai 2. 1914.-Eistedd- fod Gadeiriol Cwmmawr. Sadwrn. Mai 23. 1914. Eisteddfod Gowerton. Llun Gwyn, 1914. Eisteddfod Gadeir- iol Burry Port. Mawrthgwyn Mehefin 2, 1914.— Eisteddfod Fforestfach. Mawrth a Mercher Gwyn. 1914.-Eis- teddfod Flynyddol Tveorci. Dydd Mercher. Awst G. In14.-Eis- teddfod Tregaron. PRELIM. TESTS AT THE  | C'TMMER C.M. CHAIR .1 EISTEDDFOD, SATURDAY, FEBRUARY 28, 1914. At Caersalem Newydd Vestn 1 "Mazurka," Pianofrte, under 14, 12 iloon; 2, "Leibeslied," Pianoforte, Open. 12.30 p.m.; 3, Solo, Boys under 16, Within the Gates of Light," 1 p.m.; 4, Open Solo, boys or girls under 16, "To You, 1.30; 5, Novice Solo, Open, 2.30; 6. Contralto Solo, "Joy is coming," 13.30; 7, Soprano Solo, "Ynys y Plant." 4 p.m.; 8. Trio, "Duw bydd drugarog," 1 5 p.m. y 9, Tenor Solo, Baner Ein Gwlad," 5.30; 10, Bass Solo, Yr Ornest," 6.30. At Cymmer Old Chapel:—1, Solo, under 10. "Can y Robin Goch," 12 noon; 2, Solo, under 16, "I will be ever with Thee," 12.30 p.m.; 3, Duet, under 16, "Can y Cryd," 1 p.m. 4, Canu Penillion, dan 16, Unryw Alavv, Dull y Gogledd," 1.30 p.m. At the Anti-Room of the Hall ;-1, Recitatioil, under 10, Cadair Angel," 12 noon 2. Recitation, under 16. Mae digon o le'n uwch i fyny," 1 p.m.; 3, Recitation. Open. "Araeth Caswallon," 2 p.m. Hon. Sec., TOM EVANS, Cwalia Cafe, Cymmer, Porth. MpRIAH, BEDLINOG. Cynhelir yr EISTEDDFOD FLYNYDOOL uchod Dydd MAWRTH PASC, EBRILL 14eg, 1914. Beirniaid: Canu DAVEY JOXES, Dewi Carno, Rhymney. Adroddiadau, &c.: Y Parch. CIIWYS WILLIAMS, Brynmawr. Programmes yn barod i'w cael oddi- wrth yr Ysgrifenydd. John C'. Thomas. Trwy y post, lie. BRIDGEND Annual EISTEDDFOD Easter Tuesday, April 14, 1914. 1. MALE VOICE.—(Minimum Voices, 70)— "Down among the Dead Men" (Bantockl. Prize 920. And handsome Cup to successful Conductor. 2. MINED CHOIR.—(Minimum Voices, 50) "0 Ddaw rho' i'm Dy hedd" (T. Gabi'iel). £ 10. And Ok Chair to successful Conductor. 3. CHILDREN'S ACTIOX Soxo. (Minimum Voices, 25) Own Selection. £ 0 39 Programme Id. (per Fost, lid.) from the Sec., J. LAWRENCE PEAT. Cowbridge Road, Bridgend.  WiSETS CHAIR EISTEDDFOD To be held at TREGARON ON WEDNESDAY, AUGUST 5th, 1914 Male Voice Competion, jE70 in Prizes. Chair Poem Competion, jE6 6s. Further particulars later, or on appli- cation to the Secretaries. BURRY PORT WHIT MONDAY EISTEDDFOD Male Voice: 'The Assyrian Came Down' (Cyril Jenkins), &40. Second Male Voice "Little Church" (Becker), t8. Pro- grammes (ltd. post free) from-General Sec., Wm. Griffiths, Elkington Rd., Burry Port. CWMMAWR GRAND CHAIR EISTEDDFOD SATURDAY, MAY 2nd, 1914 (Labour Day). Male Voice, The Assyrian Came Down" 20 0 0 Mixed Choir, Ar lan'r lor- ddonen Ddofn" 10 0 0 Brass Band Contests. 28 0 0 And Specials. Hon. Sec., Mr. E. W. Davies, Solicitor, Tumble, Llanelly. Programme, lid. post free. PRELIMINARY PROGRAMME of the FFORESTFACH WHIT-TUESDAY EISTEDDFOD Will be sent on receipt of Stamped Addressed Envelope. General Secretary, David Jenkins, Gendros, Fforestfach. DRAMA DEWI SANT T BLANT YR YSGOLION, a Chym- deithasau Dynion Ieuainc. Mewn Tair Act. Cyfaddas i ddathlu Gwyl Dewi. Pris 2g. oddiwrth J. Davies, 35 Cemetery Road, Aberdafc Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially iolt rates: One week 4 wks. 13 wk* s. d. a. d. a. D 20 words 0 6 1 0 3 28 0 9 51 3 ft e 36 1 0 3 0 7 These charges apply only to the follow ing classes of advertisements :-Apart ments, Situations (Vacant or Wanted) To be Let or Sold, Lost or Found, &nil Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Post* Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b, charged. Advertising and Publishing Oifices Cardiff Street, Aberdarn. Hysbysiad o Bwys I Hysbyswyr, Gohebwyr a Dosbarthwyr. T eiml wn mai angenrhaid yw gwney4 yn hysbys y cyhoeddir y Darian bod dydd Mawrth, ac y danfonir hi i '1 holl ddosbarthwyr brydnawn yr an dydd. Dymunwn ar i bawb a anfonan1 hysbysiadau neu newyddion urgent ofalu eu bod yn cyrhaedd y wyddf I heb fod yn ddiweddarach na borr. Mawrth. Carem gael bob gohebiaert- arall mor gynar ag sydd bosibl. Anfoner pob gohebiaeth a phoh nil fodaeth yn dal perthynas a'r Daria;n i'r cyfeiriad a gantyn YN UNIG SWYDDFA'R DARIAN." ABERDAR. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllen- wyr gael y Darian oddiwrrh ddosbarth- wr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lie. yr wythnos, 6ch. am fis, l/7j y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post. <—' i
[No title]
SYLWER: Anfoner Llyfrau, &c., i'w hadolygu i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," a gofelir am wyr cymwys i roddi barn arnynt. Ni chyhoeddir adolygiadau o hyn allan, oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolyg- iad. I
- j Nodiadau'r Golygydd. |
j Nodiadau'r Golygydd. | Rhyw chwareu yn fwy na dim arall sydd wedi bod yn y Sennedd hyd yn hyn, a'r gwahanol bleidiau yn cynllwyn i ddrygu eu gilydd. Yr ydym wedi hen flino ar y dadlu ar yr hyn a elwir yn Araeth y Brenin. Y mae yn llawn bryd gwneud i ffwrdd a hen arferion sydd yn bwyta amser ein Seneddwyr, yn rhwys- tro ac yn arafu deddfwriaeth y disgwyl- ia'r wlad am dani. Gallai cymdeithas ddiwylliadol dda orffen ag araeth y Brenin yn barchus mewn ychydig oriau, a gallasai y Sennedd orffen a hi hefyd, a inynd ymlaen a'i gwaith. Gresynus dros hen y pethau a ddadlennir ynglyn a deiseb honedig yr Ymneillduwyr yn erbyn Dadgysylltiad a Dadwaddoliad. Deiseb Eglwyswyr a Thoriaid ydyw, a deiseb pobl nas gwyddant ystyr eu proffes grefyddol ei hunain ymhlith yr Ymneillduwyr, ac y mae llawer o'r dosbarth olaf i'w cael. Yr ydym yn hen gynhefin a'r modd y gwneir i fyny ddeisebau o'r fath. Ar- ferir pob ystryw y gellir meddwl am dani. Gallem nodi engreifftiau o fai yn arfer y twyll mwyaf gwaradwyddus i gael enwau. Gwyddom am deulu lli- osog o blant y cafwyd eu henwau yn ab- senoldeb eu rhieni pan oedd Dadgysyllt- iad ger bron y Sennedd flynvddoedd yn ol. Er nad yw'r ddeiseb bresennol yn werth y papur a wastrnffwyd ami, na nemor neb yn gwneud cyfrif o honi, eto i gyd nis gall unrhyw un ystyriol lai na gofidio o'i herwydd. Nid yn y dylan- i ( i yn ?- dylaia- wad a ga yn Sennedd ein gwlad y mae ei drwg, ond yn y llygredigaeth a ddat- guddia. Wrth gwrs y mae gan y sawl a ewyllysio hawl i ddeisebu ar unrhyw fater. Pan fyddo deiseb yn fynegiad cywir a theg o argyhoeddiadau y rhai sydd a'u henwau wrthi y mae yn deilwng o ystyriaeth. Ond mae llunio deisebau twyllodrus ynglyn a materion pwvsig ac arfer ystrywiau i gael enwau iddynt yn anheilwng o farbariaid, hel) son am rai honnant ofalu am fuddiannau ysbrydol gwlad. Y mae treisio cydwybod ac ar- gyhoeddiad xlyn yn mynd yn bur isel, ond y mae cymeryd mantais anheg ar anwybodaeth dyn yn inynd yn is na hynny. Ni thycia'r ddeiseb bresennol ddim yn erbyn Dadgysylltiad a Dad- waddoliad, ond nis gall na fu yn foddion dirywiad i lawer a'i llawnododd; gwel- sant rai a honnant fod yn gofalu am fuddiannau ysbrydol eu gwlad heb ddigon o ddynoliaeth ynddynt i fod yn onest nac yn eirwir.
Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.
Oddiar Lechweddau Caerfyrddin. Anerchiad byw iawn gafodd Cym- deithas Lenyddol yn Horeb, Pump Heol, nos Fercher diweddaf gan Mr Tom Sydney Bowen, Half Way, Llan- elli. Gwyr y cyfeillion oil am dano fel Eisteddfodwr ac adroddwr ac fel dar- llenwr mawr ar farddoniaeth ei wlad. Y mae yn ysgrifenydd Eisteddfodol ac yn arweinydd Eisteddfod diguro, ond dyma'r waith cyntaf iddo ym- ddangos yn y cymeriad o ddarlithydd. Cymerodd "Y Tri Adcryn Morgan Llwyd o Wynedd yn destyn, a phro- fodd ei hun yn edmygydd o Forgan Llwyd ac yn feistr ar lyfr annodd. Gohirio dathliad Gwyl Dewi sydd raid er siom i lu o blant Horeb. Y mae'r dosbarth a'r Ysgolion Sul yn y cylch yma, ynghyd ag Ysgol y Pump Heol, wedi eu cau oherwydd y frech goch. Gobeithir er hynny y ceir y dathliad cyn diwedd Mawrth. Clyw- ais fod Morleisfab, y cadeirydd apwyntiedig, ynghyd a'r telynorion, y brodyr Hopkins o Grynant, yn barod i ddod i'r dathliad unrhyw bryd. Araf iawn yw Gwylfa yn ddod a'i ail gyfrol farddoniacth allan, ond deallaf fod un o feirdd Tref yr Alcan yn cyhoeddi cyfrol o delynegion ar fyrder, sef y Parch. T. Orchwy Bowen, o dan yr enw Cwpanau'r Gwlith." Pris, is. Hyderwn y bydd dlysed a'i enw. Bardd a lienor arall a'r ysfa ddar- lithvddol wedi cydio ynddo yw Eur- wedd. Y mae wedi bod mewn amryw o'n cymdeithasau yn darlithio ar "Lyfr Job," a rhydd olwg newydd iawn arno, a'i ddarlith yn brawf ei fod wedi astudio'r llyfr yn fanwl. Gyda Haw y mae rhifedi derbynwyr y "Darian" wedi cynhyddu gyda'r IIyfr- 3 wcrthydd gwladgar hwri. MYRDDIN MIX Y MOR. -1
- Aberafon.
Aberafon. Drwy yr wythnos hon gwelir tua I dwsin a hanner o ddynion yn sefyll mewn mannau cyfieus ac yn cyfrif I' pobl, anifeiliaid, a cherbydau a dram- wyant ar hyd y prif-ffyrdd i ben islf y dref, y gwahanol weithfeydd, a'r docs. Amcan y cyfrifiad ydyw casglu tystiol- acth er mwyn gwrthwynebu cais cwmnioedd y rheilffyrdd i gau i fyny yr heol sydd yn arwain o orsaf yr R. & S. B. gydag ochr yr afon i'r gwaith alcan a'r docs. Colled fawr i'r canoedd gweithwyr sydd yn ei defnyddio fyddai cau y ffordd yma. Golygai chwarter awr yn chwan- eg o waith cerdded ar brydiau bwyd, etc., ac nid dibwys yw hyny pan na fvddo ond hanner awr i frecwast. Tybed fod y cynghorau trefol a dos- barth wedi ceisio yr anfantais i'r dref o gau yr heol yna heb ddarparu ffordd arall yn ei lie. Gresyn fod yn rhaid myned i'r gost o gasglu a pharotoi tystiolaeth, tystion, cyfreithwyr, etc., a'u danfon i Lundain i wrthwynebu mesur sydd a'i amcan i wella masnach y lie, tra y gellid yn ddigon hawdd dvfod i gyd-ddealldwriaeth ar y mater.
--I 0 Dir y Gogledd.
I 0 Dir y Gogledd. I GAN GLYNDWR. Dydd Iau, ym Mynwent Glanadda, Bangor, yr oeddis yn claddu Mr David Davies, cysodydd, Eleanor St., Caer- narfon, ac efe yn 73 mlwydd oed. Fel Davies Bangor yr adwaenid ef, er mai brodor o Langollen yaoedd. Yn ei angladd yr oedd nifer dda o aelodau Undeb yr Argraffwyr (T.A.), o'r hwn yr oedd efe yn aelod. Y dydd o'r blaen sefydlwyd y Parch. H. H. Watkins, o Bryn Crug, yn wein- idog Eglwys M.C. Dinorwic. Y mae efe yn bregethwr cymeradwy. fl Achosir cryn siarad yn y Gogledd gan y si fod y Parch. W. O. Jones, Lerpwl, yn bwriadu dyfod allan fel ymgeisydd Seneddol dros Eifion (De Sir Gaernar- fon) fel Rhyddfrydwr Annibynol. Gan- wyd ef yn Eifionydd, a bu yn gyd- ysgolor a Mr Lloyd George yn Ysgol Llanystumdwy. Y mae yn ysgolor gwych. Cvnrychiolir Eifion yn awr gan Mr. Ellis W. Davies (un o chwipiaid y Blaid Gymreig). Y mae yn Eifion nifer fawr o'r etholwyr yn aelodau o L n- debau Llafur. Gwneir llawer o stwr yn y Gogledd yma oherwydd fod oddeutu 15,000 o Ymneillduwyr yn Esgobaeth Llanelwy wedi arwyddo deiseb yn erbyn Dad- waddoli Eglwys Loegr yng Nghymru. Y mae Cadeirydd Pwyllgor y Deiseb- wyr yn flaenor gyda'r M.C., ac yn Dori rhone. Tebyg fod y 15,000 yn go debyg. Pa werth sydd mewn deiseb o'r natur yma 'I Gwelir fod pob ystryw wedi ei harfer gan y bobl hyn er cael pobl ddiniwed i'w harwyddo. Er engraifft, dywedwyd wrth un hen wraig mai deiseb er rhyddhau Sumner (neu Bull). y llofrudd, ydoedd, ac iddi hithau ei harwyddo o dan y dybiaeth yna! Gor- fodwyd siopwr arall i'w harwyddo neu golli ei gwsmeriaid os na wnai. A dyma'r bobl sydd yn canu am Wlad Rydd!" Yn ystod yr ystormydd diweddaf dat- guddiwyd hen fynwent yn Trearddur Bay, dwy filldir o Gaergybi, Mon. Credir mai hen fynwent Eglwys St. Ffraid yw. Darfu i ohebydd archwilio un ysgerbwd (skeleton), sef eiddo cawr. Yr oedd asgwrn yr en o faintioli an- fertli. y danedd yn hollol wyn, ac ond ychydig wedi colli. Y mae yr hen fyn- went ar ran u ystad Arglwydd Sheffield. Credir fod tywydd garw, o dro i dro. wedi codi y cyrff i fyny nes o'r diwedd eu cael i'r ainlwg. Barna rhai beirdd mai yr englyn goreu sydd ym Mynwent fawr Llan- beblig (Caernarfon) yw eiddo Owen Williams, Waunfawr, ar ol y eadeir- fardd Gwyndaf Eryri:— Diainau im', dyma anedd-Gwyndaf, Fu geindwr cynghanedd; Yn wir, mi garwn oi-wedd Er ei fwyn yn nghwr ei fedd" Onid yw y ddwy linell olaf yn dda? Gwr ieuanc addawol iawn gyda'r grythen ydyw Mr Seth Owen, Talysarn, Nantlle. Y mae yn awr yn efrydydd yn Ngholeg y Gogledd, Bangor. Mae galw illynych am ei wasanaeth. Nos Fawrth diweddaf yn Neuadd y Penrhyw, Bangor, bu Cwmni o Landeg- fau, Mon., yn perfformio y ddrama Beddau'r Proffwydi. Llawer o gan- mol oedd ar y ddrama, ond nid cymaint ar bob un o aelodau y cwmni. Y mae y boneddwr caredig Mr David Davies, A.S., Llandinam, wedi addaw £1,000 i Eglwys M.C. Tabernacl, Ffes- tiniog, ar yr amod iddynt hwythau gasglu swm tebyg ym mhen tair BTyn edd o amser. Nos Fercher diweddaf cynhaliwyd ymgomwest lwyddianus yng Nghapel Pendref (A.), Bangor. Yr amcan penaf oedd croesawu yr efrydwyr. Yr un nos waith cynhaliwyd ymgomwest gan Eglwys Penuel (B.). Bangor, i'r un am- can. ——— Cofnodir marw Berwron, Llosg-yr- odyn, Gaerwen, Mon., ac efe yn 73 mlwydd oed. Yr oedd yn dad i Mr G. O. Jones (G.O.J.). Golygydd y Clor- ianydd." Fel hyn y canodd Caerwyn yn dlws ar ei ol:— Gwladwr dirodres a thirion oedd ef. Garai gyfathrach a natur a nef Cerddodd yn astud dros erwau y tir, Salmau awenau a glybu yn glir Llifodd barddoniaeih y wawrddydd a'r ser Yn loyw i'w enaid a'i fyfyr per Mwynder cynghanedd a swynai ei fryd. Gweodd deleidion o olwg y byd. Gwybu ei galon am alar a loes, Cronnodd cymylau i wybren ei oes; Rhodiodd yn uniawn. a'i ffydd yn ddigryn. Gwelodd orwelion ei yrfa yn wyn Ciliodd yn dawe! dros drothwy y bedd, Mwyach caiff ddyddiau diddarfod o hedd Melus y gorffwys ar derfyn y daith, A thecaf obeithion ei oes yn ffaith. Tra llwybr yr aradr yn goch ar y maes, A chysgod y gauaf yn drwm a llaes, Clybu yr alwad —adnabu y lief. Ac adref yit ddistaw at Dduw aeth ef; Tecach yw Gwynfa na breuddwyd y bardd. Yno pob awen sydd ieuanc a liardd Os drylliwyd y delyn, y Llaw a'i rhoes, Gaiff fawl o 'i thannau mewn gwlad ddi-loes. CAERWYN. Yr oedd Berwron yn fardd gwych J n ei ddydd, ac yr oedd yn hollol gartrefol yn y mesurau caethion. Yr oedd yn adnabyddus iawn tua 30 mlynedd yn ol fel bardd.
IAberteifi a'r Cylch..
I Aberteifi a'r Cylch.. Claddwyd gweddillion Mrs. Morris; gweddw y diweddar Parch. T. J. Morris. Capel Mair, dydd Mawrth di- weddaf. yn nghladdfa gyhoeddus y dref. Ymgynullodd torf fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Cymer- I wyd rhan yn y gwasanaeth yn y ty gan y Parchn. l'hillips, Hebron, a Hermon- ydd Williams, Llechryd. Ar lan y bedd gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Esger James, Capel Mair; J. Williams, Bethania: J. Evans, Gideon, a D. D. Davies, Beulah. Siaradodd ei gweinid- og, Mr James, am barodrwydd yr ym- adawedig a 'i theulu i'w wneud ef a'i deulu yn gysurus ar ei ddyfodiad i'r lie, ac am ffyddlondeb a serch Mrs. Morris at eglwys ei diweddar briod. Dywed- odd y Parch. J. Williams (B.) ei fod yn adnabod Mrs. Morris er ys blynvddoedd lawer. Amgylchiadau dynodd y goreu oddiwrthi hi at ei phriod fu yn ddioddef- gar am flynvddoedd, ac amgylchiadau dynodd y goreu yn awr oddiwrth y plant at eu mham yn ei hir gystudd. Mae y dref yn cydymdeimlo a'r plant yn eu galar ac yn eu hamddifadrwydd o fam a thad fu yn bopeth iddynt yn ys- tod eu bywyd. I Drama. I Mae y ddrama erbyn hyn yn dod yn boblogaidd yn Nghymru. Gwelsom cyn hyn hen frodyr duwiol yn cicio yn dost pau fyddai ychydig o honom fel dynion ieuainc yn ceisio performio darn yn cynnwys cymeriadau Y sgrythyrol; ond erbyn heddyw mae yn beth cyffredin. Gwelsom a darllenasom ddwy ddrama o Drysorfa yr Adroddwr gy- hoeddwyd gan Cynalaw sydd yn awr yn byw yn Aberteifi yn dwyn yr enwau, Dafydd a'r Cawr." Drama wobrwy- wyd yn oreu mewn Eisteddfod, a r HaD ydyw Prawf Lleiddiaid y Gymraeg." Mae y ddwy yn ddiddorol dros ben, ac anogwn Dramayddwyr i ddanfon am dauynt. Mae Cynalaw wedi bod yn hysbysebu yn y "Darian" a diameu y gwna eto yn fuan pan wedi eryfhau ych- ydig mewn nerth corphorol er ymgy- rneryd a'i waith. Darlith. Nos Lun diweddaf bu y Parch. Alex- ander Rogers yn rhpddi darlith ar Arwyr Protestaniaicl" yn Hope Chapel. Cynorthwyid ef gan hud- lusern yn rhoddi darluniau o amryw o'r arwyr mewn hanes Protestaniaeth. Di- lynodd yr arwyr o Caradog drvvy hanes- iaeth i'r dyddiau presenol.. Dywed- odd nas ceir hanes i brofi mai St. Austin oedd y cyntaf i ddyfod a'r Efengyl i Brydain, am fod eglwys Brydeinig a Christionogaeth yn Mhrydain cyn hyny. Mae Mr Rogers wedi bod yn Aberteifi amryw droion yn darlithio fywyd yn y myna«hdai, .etc., ac y mae yn cynhyrfu y Mynachod Pabyddol sydd yn y lie. Ni fyddai allan o le i roddi ysadegaeth o gynydd Pabyddiaeth yn Mhrydain Fawr o'r flwyddyn 1851 hyd ddiwedd y jflwyddyn 1913. 1851 1899 1904 1912 1913 Offeiriaid Pabyddol 958 3235 3818 1428 4476 Eglwysi, Capelau, etc 683 1854 2008 2182 2264 Tai Crefyddol. etc.. Dynion 17 260 303 339 340 Crefyddol, etc., Menywod 53 557 754 878 895 Cyfrifir fod 5,862,085 o Babyddion heddvw yn y Deyrnas Gyfunol. Nifer Pabyddion yn Nhy yr Arglwyddi. 33 Nifer Pabyddion yn y Ty Cyffrpdin. 86 Cyfanswiti 119 Gwobrwyo Teilyngdod. I'rydnawn Sul diweddaf cyflwynwyd anrhegion i Miss Duprez, Xapier St.. am ei gwasanaeth ffyddlon yn Eglwys Sant Fair, Aberetifi, am lawer o flyn- yddoedd. Bwriada Miss Duprez fyned i'r ystad briodasol yn fuan a un o fas- nachwyr llwyddianus Sir Forganwg. Cyflwynwyd iddi cruet stand arian gan ddeiliaid yr Ysgol Sul, ynghyd ag awi- lais ac addurniadau gan aelodau ei dos- barth. Dymunir iddi oes ddeclwydd yn yr ystad briodasoL Anerchiad. f Bu Mr. Eustace Davies, cyfreithiwr- Caerdydd, mab Mr D. Davies, Tre- forgan, Aberteifi, yma yr wythnos hon yn rhoddi anerchiad ar gwestiwn y tir. Ymwelodd a Llechryd a Blaenporth. Efe ydyw ysgrifenydd y Welsh League ar ran trethiad tiroedd. Profodd Mr Davies ei fod yn feistr ar ei waith, ac yn deall y cwestiwn yn dda. Dangos- odd fel y mae y gwahanol fesurau bas- iwvd yn ddiweddar yn effeithio er dai- oni i'r amaethwvr, ac y bydd hwn eto yn sicr o brofi yn fendith i'r dosbarth amaethyddol. Cadeiriwyd yn Llechryd gan y Parch. H. Hermonydd Williams, ac yn Blaenporth gan Mr Evans, Cryn- ga. Mae tad Mr Davies, sydd yn trig- ianu yn Treforgan, yn Rhyddfrydwr i'r earn, a thrueni na chaed cyfle i'w osod ar y Cyngor Sirol, gan fod ganddo ham- dden at y gwaith. Mae yn gwneud gwaith da ar Bwyllgor Rhyddfrydol y Sir. ac y mae ar Bwyllgor Rhyddfrvdol Cenedlaethol gyferfydd yn Amwythig. Aberteifi. D. JONES.