Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Colofn y Beirdd. ; ->

SYR W. J. THOMAS, YNYSHIR,I…

- - - -_. Gohebiaeth Fasnachol…

jAr Lannau'r Tawe. I

News
Cite
Share

Ar Lannau'r Tawe. I Cynhaliwyd cyrddau adrodd yng Nghalfaria, Clydach. nos Sul diweddaf a'r t-) blaen. Daeth cynulleidfa- oedd lluosog ynghyd. Llvwyddodd y Parch. T. Valentine Evans. Diolch i ymdrech y brawd John R. James, arol ygydd yr Ysgol Sul, ddarpariwyd rhag- len hynod o ddiddorol, a chafwyd gwiedd o gan ac adroddiadau gan lu o ddysgyblion ieuainc. Darlithiodd y Parcli. D. Eiddig Jones yn hyawdl ar y testun, Y Cymro ar Grwydr," mewn cyfarfod lluosog yn Ysgoldy Hebron. Clydach, nos Iau di- weddaf. Darluniwyd y ddarlith gan yr hud luttern. Liywyddodd y chwaer Emily Morgan. Yr wythnos o'r blaen y dvchwelodd y parehus weinidog adre' o Switzerland, a dangosodd trwy'r ddarlith ei fod wedi teithio a'i lygaid yn agored. Rhagorol, Eiddig! Rhoddodd Cwmni Brythoniaid y Glais ddau berfformiad rhagorol o'r ddr.ima Gymreig, Jac Martin" (ysgrifenwyd gan y Parch. J. Tywi Jones) yn Neuadd GyhoedduR Clydach, nos Sadwrn a nos Iall diweddaf. Daeth Uuaws ynghyd i weled a chlywed y ddrama ddiddorol hon, a chwareuwyd y rhannau yn y modd mwyaf effeithiol gan bob aelod o'r cwmni. Claddwyd yr hen wr, y diweddar David R. Thomas, o Grove House, Heol Penywern, Clydach. ym Mynwent Eben- ezer, Llwynbrwydrau, prydnawn dydd Iau diweddaf. Yr oedd yn 78 mlwydd oed, a gwasanaethodd yn ffyddlawn y swydd o ddiacon yn Salem-eglwys Methodistiaid y lie. Cafodd angladd parchus, a gwasanaethodd y Parched- igion J. Vincent Thomas, Clydach, T. C. Lewis, Llwynbrwydrau; D. E. Thomas, Treforis; T. H. Jones, Llansamlet, a J. Beynon, Sciwen. ar y claddedigaeth. Sylwais fod y Parchn. D. G. Jones, Pontardawe; T. V. Evans, D. E. Jones, J. M. Williams ac S. Cutting, Clydach, hefyd yn bresenol. Dydd Mercher, yr wythnos ddiwedd- af, yng Nglofa Clydach-Merthyr, di- gwyddodd damwaill i'r brawd ieuanc Morgan Davies, o Dy'rmynydd, Clyd- ach. Gwasgwvd ef rhwng dwy ddram lo, a thorodd asgwrn ei benlin. Darllenodd Henry T. Dukes, Heol Sybil, a Willie Rees, Ynystawe, ddau bapur gwerthfawr ar y Tri Merthyr," a Thystiolaethau Dynion Dysgedig am Grist," yn Ysgoldy Calf aria, Clyd- ach, nos Fawrth, yr wythnos diweddaf. Llywyddodd y Parch. T. V. Evans, a chafwyd areithiau byrion a chymwys gan eraill ar y papurau. Mantais ynte anfantais yw y Cine- ma r' oedd destun dadl ddiddorol yn j Ysgoldy Carmel, Clydach, nos Fawrth, yr wythnos diweddaf. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. J. M. Williams, gweinidog. Agorwyd y ddadl gan y brodyr ieuainc Rowland Hill ar yr ochr gadarnhaol, a Willie Howells y nacaol. Cawd ynidriniaeth effeithiol ar bwnc amserol. Terfynodd y ddadl mewn I dedfryd agored (open verdict). I LLEW. I

Traethgan Judas Maccabsus.

Bwrdd y Golygydd.I

Pedair Mlynedd ar Ddeg oI…

Treharris a'r Cylch.

Cymreigyddion Rhondda.

ILlwynbrwydrau.