Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y Stori. I

News
Cite
Share

Y Stori. I MARWOR TANLLYD. (GAN M. H. CHARLES, GADLYS, [ ABERDAR.) I (Parhad.) j Yr oedd yn dywell erbyn i mi gyr- j aedd y Rhondda. Yr oeddwn yno ddiwrnod yn gynt nag y disgwvliai neb fi, a gwnes fy ffordd i'r hen fwthyn bach yn nghanol yr ardd. Gwyddwn y cawswn groesaw gwir- j ioneddol yno os oedd yr hen wraig | fach yn fyw, ac 0, fel y dyheai fy nghalon am symlrwydd a gwirionedd, j yr oedd cymaint o'r ffug yn mhob man. Curais wrth y drws, a daeth vr hen wraig a'i gwyneb mwyn car- cdig i'w agor, ac heb ronyn o syndod j vn ei gwedd ceisiodd genyf ddod I. fewn. "Y r oeddwn yn eich disgwyl," j meddai. Clywais mai chi sydd i gymeryd lie Sam Jones." "Sam Jones," meddwn mewn syn- dod, "onid John Hughes oedd gaff er y pwll yma?" "Y machgen bach i, mat' John Hughes wedi gweled tro chwerw lawn; ar fvd er ys blynyddau. r oedd yn berchen arian mawr, ond feli collodd nhw i gyd yn rhyw waith glo gerllaw Abertawe. Dywedir iddo gael ei dwyllo yn fawr, a phum mlynedd ar ol hyny fe gafodd ergyd o r palsi, ac mae un ochr iddo byth yn dditfrwyth. Gorfu iddynt fynd allhn o'r ty mawr i roi lie i Sam Jones. Nis gwn beth fuasai wedi dod o hono ef a lrs: Hughes pe buasent heb Gwen. Mae hi wedi gweithio'n galed er cael y j ddau pen i'r llinyn yn nghvd." "Ond mae byd da ar Gwen, onid oes, yn wraig i Tom Powell?" Yn wraig i Tom Powell yn wir Na, pan glywodd ef fod arian John Hughes wedi mynd, siaradodd ef fawr a Gwen wedyn. Gwraig arianog oedd ef am gael, er cael digon o wisgi, a llwyddodd i gael Jane, merch yr hen gaffer." Pwy yw hwnw, .ynte?" "Williams Plas Gwyn yn awr, ond yr hen gaffer mae pawb yn ei aIw." Ac yr ydych yn dweyd fod Gwen yn weddw," meddwn, er gwneyd yn sicr o'i geiriau. "Odi wir, mae'n hen ferch erbyn hyn." Cefais wybod eu bod yn byw mewn ty bychan yn ngodreu'r mvnydd. Dywedais wrth yr hen wraig y buaswn yn aros ganddi eto, hyd nes v buaswn yn gwneyd cartref i mi fy hun; ac wedi cael ychydig i'w fwyta es i chwilio am Gwen. Yr oedd fy llawenydd bron yn or- mod i mi ei ddal. Daliodd Gwen yn ffyddlon i mi drwy'r cyfan, ac anfon- ais lawer i saeth-weddi o ddiolchgar- \vch i fy Nhad Nefol am ei holl dru- gareddau. Ond dechreuodd rhyw- beth arall godi ei ben, cefais fy hun yn ymfalchio yn aflwyddiant John Hughes. 'Rwyf wedi cael y gclvn dan fy nhraed," meddwn. "Dynia fy Waterloo inau wedi dod, cofial ei wawd a'i ddirmyg, a'i eiriau cas—'y ci tlawd hunanol,' a dyma gyfle • minau ddial arno 'nawr, y mae i bob ci tddydd, ac 0 wele fy nydd inau wedi gwawrio." Teimlwn fy hun yn rhoi ffordd i ryw deimladau anymunol iawn, ac amharwyd fy llawenydd i raddau helaeth, ond sisialodd fy nghalon wrthyf—"Yn nghanol holl drugareddau Duw, pa fodd y gelli II ymddial?" Wrth fy mod yn agoshau at y capel, canfyddais oleu yno, a chofiais I mai noson y gyfeillach ydocdd. Troais i'r cyntedd. Yr oedd yn rhy ddiweddar i fyned i fewn. Ond gwelais fod yr hen Ddafydd William yno o hyd, yn parhau yn ffyddlon i ddil y goleu. Ychydig oedd yn bresenol, ond yn I ddiddadl yr oedd yr addewid fawr yn cael ei chvflawni yno. Daeth rhyw deimlad hyfryd drosof yn y fan hono Wrth wrando ar ryw wr leuanc ar ei uniau yn son am faddeuant Duw. Vna. cododd yr hen Ddalydd William ar ei draed, a dywedodd—"Adnod o'r benod ddarllcnwyd ar y dechre sydd Mecli cyffwrdd a mi, frodvr bach—' Ti a bentyru farwor tanllyd ar ei ben ei. 0, dyna un bert yw tfwtithred dda. Ond gwyddoch chi, frodyr bach mae yn lawer bertrach pan bo chi yn ei gwneud hi i rytfun svdd "edi gneud lot o ddrwg i chi, dyna los<-i mae hi y pryd h\vnw. tbnvor tan- Ilyd medde'r Gair. a dyna mac lesu Grist yn weyd wrtho ni am neyd—'Gwnewch dda i'r sawl a wnel niwed i chwi.' Frodyr bach, faint 0 honom ni sy'n barod i neyd hyna heno? Os nad i ni'n barod, cofiwn nad i ni 'n perthyn dim i'r 'Brawd liena. Gwnaeth y geiriau syml a phlaen hyny fwy o les i mi na'r holl hyawdl- edd a glvwais erioed; aethant fel saeth i fy nghalon, a glynant wrthvf hyd heddyw. Dyma gyfle i tithau bentyru marwor tanllyd, beth a wnei di?" meddai rhywbeth wrthvf. Teiml- \n yr adeg hono fod A-i- Lili ar ei oreu yn ceisio fy nghael dan ei dracd, ond bu r geiriau hyny vn gvmorth i mi i'w wrthwynebu a selvll rhag tori'r berthynas a'r Brawd hena." Af :\lyned oeddwn tua thy Gwen. Meddyhais unwaith anfon nodyn iddi. Ond na. Pa angen oedd gwneud hvnymwy? Y?cdd yruna ofnai ?"Wet, vn si,-r fod "wcdi ei lorio bellac ac anl danaf h hun ni fu I)CIlach,  ?"? ? hun, nifu v ty- ei 0 *{ri0e ??hum i olwg .J un bvcha d 1 y ty. Ull ]:)"-Clian oed(I Symharu « ma \\< r v O"aff l?hy ma\vr v -affel- -r ?d Pob IJ 0 I anlg"v1cll d I" I)vth oli n drcI'IILIS -t ?an. ",urms wrth v dr-' < Citra is ,N-rtb v drm-s, agorwyd ef 1-1ughes. j, v Owen," meddai, "fy machgen a nwyl i, a chi ddaethoch yma ?" Methai ddweyd gair arall, ond amncidiodd arnaf ddod i fewn i'r parlwr. Mae'r storm wedi curo'n enbyd arnom ni oddiar pan ] welsom chwi o'r blaen, Rhys Owen." "Do, mi glywais beth o'r hanes," meddwn. Yr oedd golwg doreaig arni, ac olion dioddef yn ostyngeaig yn amlwg yn ei gwyneb; ond gwyneb j lwfrvd oedd, a pharai i mi feddwi bob j tro vr edrychwn arno am bethau goreu by a yd. "Yr oeddwn wedi cly wed cich bod yn clod yn lie Sam Jones. Mae Rhag- ■ luniaeth wedi bod yn dyner Vv'rthych chwi allwn feddwi; gobeithio eich bod erbyn hyn wedi anghono popeth anymunol fu rhyngoch chwi a John." "Nr wyf yn ceisio gwneud hyny," meddwn, "ond bydd eisiau llawer o nerth arnaf. Sut mae John Hugnes?" Y r unig beth sydd yn ei fiino yw ei fod wedi ymddwyn mor wael tuag atoch chwi." Bu yn fendith i mi wedi'r cyfan i symud o'r lie, ond gallaswn fynd o dan amgylchiadau mwy dymunol." Aeth Irs Hughes i alw Gwen, a'r eiliad nesaf yr oedd Gwen yn scfyll o'm blaen. Yr oedd v cyfan i mi v pryd hwnw megis breuddwyd. Yr oeddwn wedi breuddwydio cymaint am ein cyfarfyddiad a'n gilydd, a phan ddaeth-mor anhawdd oedd sylweddoli ei fod yn ffaith. Methem a chael geiriau, ac nid oedd eu hangen chwaith; ni allasai yr un iaith byth gyfleu ein teimladau yr adeg hono. j Siaradai un deigryn gyfrolau, a dad- ganai y gwasgiad llaw fwy o lawer: nas gallasai mil o eiriau wneud, ac, ond sylwi, onid distawrwvdd yw cydyuiaith munudau difrifolaf bvw- yd ? Yr oedd nodau yr ystorm yn arnlw g iawn ar wynebpryd Gwen hefyd, ac yr oedd rhyw dine newydd ,a thyner yn ei llais na chlywid mo: hono o'r blaen. Cyn hir gofynodd Ellwch chwi faddeu i nhad, Rhys?" j "Mi dreiaf," meddwn. "0 gwnewch pan welwch ef," meddai. "Gwn na ellwch beidio, mae ef fel yr oen yn awr, yn ddyn newydd." "Oes gw ahaniaeth ganddo pa un a f aadeua f ai na xx,-naf ?," Dyna'r un peth sydd yn ei flino er ys blynyddau. Anfonasom Ivthvr- j au i chwi, ond cawsom hwy yn ol, "ynI hcrwydd eich symudiad o Newcast'e. Cyfaddefodd y cyfan wrthyf, a rhoddodd i mi bob llythvr a ddmioii- asoch. Dowch i'w vveled," meddai. Dilynais hi i ystafell arall, ac 0, olygfa rhy anhawdd yw ei desgrifio. Y na yn gorwedd ar wely bychan yt oedd John Hughes, y dyn mawr fu gynt mor hunanol a balch, ie, y dyn a geisiodd fv newynu; dyna sisialodd y gwr drwg wrthyf pan welais ef, ond N lar-,x,or tan- yn union cofiais am y Marwor tan- llyd. Es yn mlaen ato. Estynodd ei Jaw i mi. Cymerais hi. Daliai fy llaw yn dyn, crynai ei wefusau, ac meddai, "Dyma'r amser wedi dod o'r diwedd; 0, diolch, 'rwyf wedi hir ddisguyl am yr awr hon. Odi chi'n maddeu i mi? Gwnes gam mawr a chwi ac a Gwen, ond gweddiais am gael byw er cael eich clywed yn dweyd eich bod yn maddeu i mi." Edrychai i fy wyneb fel pe byddai ei einioes yn ymddibynu ar fy atebiad. Gwna f fy ngoreu i faddeu ac anghofio'r cwbl," meddwn. "Diolch i chwi, yr wyf yn eithaf boddlon i fynd gartref bellach; cefais fy nhynu drwy beiriau chwcrwon, ac hyderaf fy mod yn awr yn gymwys- ach, meddai. Yn mhen ychydig wythnosau un. wyd (nven a minau mewn glan bri- odas yn y capel lie yr arferem fyned. Gwnawd pob peth yn dawel. Gwa- hoddodd Gwen ychydig o'i ffryndiau i'r boreufwyd; gwahoddais inau ddau her. IJrynd anwyl i minau, sef Dafydd N\"illi iiii a'r wraig fach o'r bwthyn yn nghanol yr ardd. O'r dydd hwnw gwellhaodd John Hughes yn rhyfedd, \I c yn fuan daeth yn alluog i eistedd mewn cadair ac i fyned allan gydag ychydig gymorth i'r awyr agored. Daeth ty mawr y "gaffer cyn hir yn rhydd, a threfnais i fy nhad a fy mam-yn-nghyfraith gael treulio eu blynyddau olaf yn hwnw gyda mi Dyddiau y profiadau uchel oedd y dyddiau hyny yn yr hen dy. Gwas- garwyd ni fel adar bach gan y storm a'r drycin, ond daeth yr haul i wenu arnom, a dygwyd ni yn ol wedyn o dan yr hen do. Sylweddolais y blynyddau hyny yn fwy nag erioed ystyr "pen- tyru marwor tanllyd ac fel y dywed- ai Dafydd William, Y fath un bert I yw gweithred dda, yn enwedig os byddweh yn ei gwneud hi i rywun sydd wedi gneud lot o ddrwg i chi. Yr oedd yn brydnawn hyfryd yn mis Mai. Crwenai natur drwyddi, a charolai yr adar bach eu cerddi sein- ber i'w Crewr. ICisteddai Gwen gyda'i thad a'i mam ar y lawnt bryd- ierth o llaen y ty tra clychau'r gog yn canu ac yn arllwys eu perarogl drwy'r wlad. Aethum atynt yn annys- gwyliadwv, a chenyf yr oedd cerbyd ise1 wedi ei wneud yn arbcnig at was- .maeth John Hughes a'i briod, a cheftyl rhad lon yn ei dynu. "Dyma C eltyI rhadlon VI1 ei dynu. "Dyma anrheg i chwi eich dau," meddwn wrthynt, a chynorthwyais hwynt i'r cerbyd. Troais fy wyneb oddi- wrthynt, canys gwelais y "marwor tanllyd yn llosgi nes oedd v dagrau vn treiglo'n ddafnau gloewon dros eu gruddiau. Llonwvd fy nghalon inau gan ryw deimlad hyfryd annisgrifiadwy, a chotiais eiriau yr hen Ddafydd Wil- liam, "Gweithred dda sydd yn dod a ni i agosrwydd perthynas a'r Brawd hena.' (Y diwedd-)

IJ Cystadleuaeth y Ddrama…

Dosbarthwyr y 'Darian.' I