Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I Y GOLOFN AMAETHYDDOL

News
Cite
Share

Y GOLOFN AMAETHYDDOL CAN BRYXFAB. i Y Gweithwyr Amaethyddol. Nid yw o mi diben i'ch gohebydd Aeronfa Griffiths a miniiau ddadleu yng nghylch y driniaeth a ga y gweithwyr amaethyddoi yng Xghymru. Pan ddar- llenais ei ysgrif gyntaf meddyliais mai ysgrifennu ar antur yr oedd, ac mai pardduo y ffermwyr oedd ei amcan. Ond mae ei ail lythyr yn profi fod gan- j ddo rywbeth heblaw hynny mewn golwg. Nid yw yn rhyfedd yn y byd i mi dybio felly. ohevwydd mae pob dos parth o ddynion yn barod iawn i roi lach i'r ffermwyr. Nid oes neb yn cael ei feio fel y ffermwr mewn pob cvm- dogaeth. Rhaid iddo ddioddef gweled ei berthi yn cael eu cludo yn ddefnydd tan, a rhoi ei feusydd yn rhydd i bawb i gasglu mwyar a mushrooms. Os na wiia hynny heb rwgnach, difenwir ef yn ddibendraw ac os y gwysia rhywun o flaen yr Ynadon am hynny, cyfrifir ef yn ormeswr direswm. Nid yw yr awdurdodau nemawr gwell na'r dyn yn y stryd" chwaith. Os gwysia y ffermwr ddyn am ladrada ei bytatws a'i faip, ni wna yr Ynadon ond hanner chwerthin am ei ben, a gwneud i'r lleidr dalu am danynt, fel pe buasai yn gwneud hynny wrth ddrws y siop. Digon prin y cydnabyddir fod hawl gan y ffermwr ar y tir y tal yn ddrud am dano. Nid dweyd hyn ar antur yr wyf. Digwyddodd peth mor hyll a hyn yn fy ymyl fwy nag unwaith. Pan ddigwyddo i ryw blentyn, neu wraig dlawd fyn'd a chnepyn o lo heb dalu am dano, rhaid i'r troeeddwyr chwilio am arian i dalu y ddirwy a roddir arnynt, er y dichon na fydd ganddynt geiniog i gael crystyn o fara. Nis gwn i beth yw yr achos fod dynion mor barod i redeg i lawr ar y ffermwyr, a rhoi llai o chwareuteg iddynt nag i nemawr ddosparth arall. Awgryma eieh gohebydd fy mod yn teimlo dros anrhydedd y ffermwyr yn fwy na'u gweithwyr-am fy mod yn ffermwr fy hun, wrth gwrs. Nid wyf yn meddwl y bydd i neb o fy nghyfeillion gredu hynny. Feallai y bydd yn newydd i'ch gohebydd pan y nodaf mai nid ym inhlith y ffermwyr y mae y nifer luosoc- af o fy nghyfeillion. Ag eithrio diwrnod ffair neu farchnad, ewmni o weithwyr o bob galwedigaeth fydd gyda, mi yn treulio ychydig oriau yn ddifyr. Y tuallan i'm cymdogion, ychydig o fy amser sydd yn cael ei dreulio i drafod helyntion amaethyddol. Credaf y bydd sylw fel yna yn ddigon i brofi fy mod am roi cymaint o chwareu- teg i'r gweithiwr amaethyddol ag i'w feistr. Fel y nodais dro yn ol, nid oeddwn yn crjidsvn fod nemawr o ffermwyr Cymru yn ymddwyn tuag at eu gweis- ion fel y nodai eich gohebydd. Ond y mae yn sicrhau f<bd yr hyn a ysgrifen- nodd yn wirionedd; a rhaid i mi gy- meryd ei air, gan obeithio mai ychydig yw nifer y ffermwyr sydd yn trafod eu gweithwyr fel anifeiliad. Rhaid i mi nodi eto, nad wyf erioed wedi gweled pethau yn ymylu ar y desgrifiadau a roddir gan eich gohebydd. Ond fel y nodais, nid wyf yn gwybod sut y mae pethau mewn cylchoedd y tu allan i'm gwybodaeth i. Rhaid i mi ychwan- egu, fod cyfaill i mi, sydd yn awr yn byw rhwng bryniau Maldwyn, yn tyst- iolaethu fod sefyllfa y gweithwyr amaethyddol yno yn llaAvn cynddrwg a desgrifiad eich gohebydd. Felly, rhaid i mi gydnabod nas gallaf fesur cydwy- bodau ffermwyr Cymru i gyd wrth y llinyn sydd mewn arferiad ym Morgan- wg yma. Dyna eich gohebydd a min- nau yn deall ein gilydd. Ond Paham mae y gweithwyr amaethyddol sydd yn cae l eu camdrin yn goddef hynny y?? a-e y farchnad lafur yn agored iddynt hwy, fel pob gweithiwr arall. ?id oes neb o honynt yn cyflogi am eu hoes. Hanner blwyddyn, fel rheol, yw y Cv- tlindeb yn y ffair gyflogl," a gellir gadael y meistr annynol, trwy roddi mis o rybudd. Al,, y sawl a gyfloga am bris isel, ac a oddefa ei gamdrin, yn llai na dyn, ae yn llai fyth, os yr achwyna ar y setylna y mae Yllddi yn wirfoddol. Mae yn anhawdd i mi gredu fod un mab na merch mor wirion ag arcs mewn He gwael, pan mae digon o leoedd yn galw am eu gwasanaeth, lIe y cant well cyflog a gwell parch. Dichon fod eithriadau nas gall rhai gweithwyr amaethyddol fyned 0>u caethiwed. Nis gall gweithwyr sydd yn mynd ym mlaen mewn dyddiau sefyll am eu hiawnderau, fel dynion ieuainc. Ac mae y cyfryv.- yn hwyrfrydig iawn i ymadael a mangre eu genedigaeth, er gorfod byw o dan galedi ac anffodion. Paham, eto, na byddai rhai o'r gweithwyr amaeth- .yddol yn gwyntyllu eu sefyllfa yn y wa.sg ? Rhai digon anllenyddol yw y gweision amaethyddol fel rheol. Ond mae yn gyniiwyn o beth na bvddai rhywun mewn pob sir yn ddigon o lenor ac yn ddigon gwrol i ddadlennu pethau yn eu lliw a'u Hun gwirionecldol. Nid oes dim fel goleu dydd y wasg i wella a symud hen arferion gorthrymus. Byddai gair o lygad y ffynon ar gynwr y gweithwyr amaethyddol yn Uawer mwy 0 awdurdod na dim a ysgrifennil'  vn ail law.  Mi a dybiaf fad y "Darian" yn cael RI darllen gan lawel' 0 Welthwyr ?aethvddol O ??' ??thwyr ynt gwvn i'w roddi yn erbyn en rneistr, eu 'ne i str. carwn gba'teei l f1rau °o^ ddiwrthvnt ;1 *ofaIafc godi y peth i'r gwynt v» ddigon mlwg i Gymru i gyd. O'r tu arall, mae y maes yn agored i'r meistri hefyd. Ni welwyd cweryl erioed heb ychydig o fai o bob ochr. Neu os bydd y gweision a mwy o ffydd yn Aeronfa Griffiths, rhodder eu hachos yn ei law. a rhodded I y meistri eu hachos yn fy llaw innau. Gan mai ni sydd wedi cychwyn ar y mater, feallai mai dyna fyddai y trefn- J iant goreu. Ca y ddwy ochr bob I chwareuteg felly. I Sir Aberteifi. j Nodai eich gohefcydd fod y pla gWYIl yn gwneud mwy o hafog yno nag mewn un sir arall o Gymru. Eithaf gwir, ond digon prin y geliir priodoli hynny i sefyllfa y gweithwyr amaethyddol. Nid oes a fynno "cawl cig moch," na chawl cig eidion hallt a hynny. Gellir gosod y ffaith resynus i lawr wrth ddrys- au a ffenestri y tai sydd ar hyd a lied y wlad. Yr oedd yr hen bobl yn credu fod digon o awyr iach yn dod trwy dwll y do i bob ty, a digon o oleuni yn dod i fewn trwy ffenestr o faintioli cledr Haw gwr. Pe chwythid hen anedd-dai Ceredigion i ddifancoll, ni fyddai mwy o son am y pla gwyn yno, a chaffai y gweithwyr amaethyddol fyw oes hir ar y cawl a'r llymru, os na chelent ddim gwell. Sir Frycheiniog. I Dywedai eich gohebydd nad yw sefyllfa gweithwyr amaethyddol gwlad y Bannau ond digon gwael. Mae yn anhawdd iawn gennyf gredu hynny. I ffair Aberhonddu y mae ffermwyr Mor- ganwg yn myn'd i edrych am weision. Yr wyf wedi bod yno lawer gwaith fy hun. Chwarter canrif yn ol gallwn gael bechgyn da yno, a digon o honynt am JE20 y flwyddyn. Y blynyddau diwedd- af, rhaid chwilota Ilawer i gael un am £ 35. Nicl oes un gweithiwr mor brin heddyw a gweithwr amaethyddol. Dyna sydd yn fy ngwneud mor hwyr- frydig i gredu eu bod yn cael eu cam- drin. Sir Frycheiniog yw un o siroedd goreu Cymru am weision allant droi eu dwylaw at bob math o wath. Yn rhai o'r siroedd eraill, ar ryw un gangen o waith fferm y ceir y mwyafrif yn rhagori, ond mae Bechgyn Brycheiniog yn meddu mwy nag un bwa gyferbyn a brwydr bywyd. Ond fe geir y gwael a'r gwych o'r sir honno, fel o bob sir arall. Bu un o'r rhai da gyda mi nes i ferch ei ddwyn oddiarnaf. A dyna helynt llawer o honynt sydd yn dyfod i'r ardal hon. Yr oedd dau o honynt yn fy ymyl y flwyddyn ddiweddaf-un yn wlyb ac un yn sych. Codai un ei arian bob nos Sadwrn, a'r llall bob hanner blwyddyn. Mae yr olaf yn aros, a'r llall wedi myn'd ar ol ei arian. Nid oes berygl i'r gwas sych fod heb ei barchu, lie bynnag y bo. Y gwas gwlyb fydd y nesaf i'r drws, a hwnllw fydd yir y "gwely gwellt" hefyd, a dyna ei Ie priodol. Ond rhaid gadael y pwnc hwn am unwaith etto. Dichon y daw eraill i'r maes. '\id llawer o aredig na llyfnu sydd wedi bod arno erioed.

Hengoed. I

Nodion o AbertaweI

IHirwaun.

INodion Heolycyw. I

Advertising