Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

-,..".-----.- - - - _ _. -…

Mrs Hannah Harris, Cilfynydd.

I Ordeinio Gweinidog.

Taith i. Lydaw. I

Advertising

Llanelli. I

News
Cite
Share

Llanelli. I G\VYL GAXU MEUDWY DAVIES. Mae Llanelli'n hysbys ddigon fel I tref gerddorol. Gwnaeth ei meibion I waith mawr dros gerddoriaeth ar hyd y blynyddau. Mae corau Llanelli'n enwog, ac ar faes yr Eisteddfod nid oes gystadleuwyr mwy peryglus yn bod. Eithr ni chyrhaeddodd y dref ei safle bresennol heb lawer o drafferth, a phan ddeuir i ysgrifennu hanes ccrddoriaeth y lie, bydd rhaid rhoi I pennod helaeth i wyr fel Alaw Ddu, R. C. Jenkins, a Meudwy Davies, sydd wedi cysegru'u hamser a'u hathrylith i berffeithio caniadaeth yn y cylchocdd. Mae'r un ysbryd oedd yn dan yn enaid Alaw Dduw ac R.C. yn llosgi heddyw yng nghalon Mr Meudjvy Davies, sydd mor ddiflin gyda chanu ymhob man. ,Iae, n 'amheus a all yr un cerddor arall yng Xghymru ymorchestu mewn "record" tebyg i un Mr Davies. Am 35 rnlyncdd y mae wedi cynnal Oratorio Concert" heb gymaint a methu un- waith os Fawrth ddiweddaf per- fformiwyd "The Seasons'' (Haydn), ac yr oedd y dyrfa grel ddaeth ynghyd yn tystio fod gwerthfawrogi ar lafur yr arvveinydd galluog. Ac nid rhyw fath o gvnhulliad a lanwai'r Tabernacl y noson honno. Yr oedd mawrion y dref yno'n llu yn ogystal a'i phrif gerddorion, a gellir dweyd fod yno dyrfa ddeallus yn mwynhau'r canu. Aeth y cor mawr drwy ei waith yn hynod o lwvddiannus, a gwnaeth v datgeiniaid cyilogedig eu gwaith i foddlonrwydd mawr. Seren yr wyl yn ddiamcu oedd y soprano enwog o Awstralia— Miss Carrie Lanceley. Canodd mor felus fel y bu galw am ei chaneuon dro ar ol tro, a'r dorf yn ffoli ar bob datganiad. Yn sicr dyma un o gyngherddau goreu'r rhestr, a'i lwyddiant yn goron deg ar ymdrechion Mr Davies a'i gor ffydd- Ion. Y mae diolch diffuant carwyr cerdd yn ddyledus iddo am wneud cerddoriaeth uwchraddol mor boblog- aidd.

Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Traethgan Judas Maccabaeus.

Advertising

Iawnderau Dyn.

Advertising