Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Abertawe: Yr Ynadon Newydd.

Gohebiaethau.I

I Cymry Cymreig Abertridwr…

-Taith i Lydaw.

News
Cite
Share

Taith i Lydaw. GAN "GLANLLYW." Pennocl II I. -SuI yn Sant Malo. Un o'r pethau a gwahaniaeth rhyngddynt ydyw'r modd y treulir y Sul. Nis gwn a ydyw pob Sul yr un fath, ond ceisiaf ddesgrifio'r Sul cyn- taf y bum i yno. Codais yn fore-nid am fy mod yn eithriadol hoff o hynny. Gwyr y rhai a'm hadwaen oreu mai fel arall y mae. Diddanaf fy hun fel y bachgen hwnnw y dywedai ei dad wrtho fod hwn a hwn wedi ffindio sofren ar y 'ffordd wrth godi'n fore. Atebai yntau na charasai fod yn lie yr hwn gododd yn foreach i golli'r sofren. Codais yn fore am mai dyna'r ffasiwn, a rhaid bod yn y ffasiwn gan nad faint y gost. Beth ydoedd colli vchydig o gwsg at ddioddef cyrn ar draed a phoen mewn pen fel rhai er mwyn bod yn y ffasiwn. "Protestant" i'r earn ydwyf, a pherthynaf i'r sect fanylaf hefyd, ond nid oedd na chapel nac eglwys Brotestanaidd yn y lie. Deallais ar ol hynny fod Eglwys Efengylaidd fechan yn San Servan. Felly troais fy nghamre i gyfeiriad yr Eglwys Gadeiriol. Mae hon mewn lie rhagorol ar ben y bryn, yn gan- fyddadwy o bob cyfeiriad fel y dylai eglwys fod. Saif hefyd ynghanol y dref, a dylai ei dylanwad dreiddio i holl gorneli a chilfachau'r lie, ond ofnaf nad felly mae. Yr oedd yn llawn; nis dywedaf o addolwyr, ond o bobl. Digon tebyg fod rhai wedi dyfod yno i addoli, eraill i syllu, rhai i fwynhau'r gerddoriaeth hyfryd. Cyn- ulleidfa eithriadol gymysg ydoedd. Cawd arddangosiad o ffasiynau di- weddaraf Paris gan rai. Syml a di- rodres ydoedd gwisg eraill. Yr oedd "cwilt" y gwely ar wyneb amryw, ys dywedai y diweddar Griffiths o'r Allt- wen, ac eraill yn dlawd eu gwedd a rheidus eu dillad. Ysgrifenai un awd- wr ar Athroniaeth Dillad," a dywedai y newidiai'r wisg nodwedd a chyfeir- iad y meddwl. Nis gwn a ydyw yn iawn ai peidio, ond gwn fod llawer o wastraff wrth wisgo ac y dilyna pobl eu gilydd." "Wa'th bod yn wraig gaffer na phido os na whisgiff dyn dipyn," meddai un, a chredaf iddi roi athroniaeth dillad yn weddol gywir. Adeilad ardderchog ydyw'r Cathe- dral hwn o ithfaen caled. Edrycha'r gadarn fel craig yr oesoedd. Mac ei nenfwd wedi ei "groino'n" dda, a cheir cerfwaith godidog a darluniau ysblenydd ynddi. Ychwaneger at hyn yr organ soniarus a'r canu hyfryd; y cor wedi ei wisgo mewn dillad coch- ion a gleision; yr offeiriaid yn ei du a gwyn, a'r rhai a weinyddent gerbron yr allor mewn gwisgoedd euraidd. Gall y darllenydd ddychmygu i mi gael gwledd i'r llygad ac i'r glust. Nid oes hafal i Eglwys Rufain am apelio at y synhwvrau. Prentis ydyw Eglwys Loegr yn ei man goreu yn hyn. Nid oes ymgais gan yr Anghydffurfwyr yn y cyfeiriad hwn. Er i'r llygad a'r glust gael gwledd, ni chafodd yr enaid fawr help oddiwrth y gwasan- aeth. Darllenai'r offeiriad ran o'r I Y sgrythyr yn ddieneiniad iawn, ac, ofnwn, difudd hefyd, ond pwy wyr "y mae y gwynt yn chwythu lie y mynno." Ni chawd yr un bregeth. Nis credant fawr yn hynny. Creai hynny feddy!- garwch yn y bobl, a symudent ymlaen at bethau gwell. Cadwed Cymru at ei phregethu. Dyna'i gwnaeth yr hyn ydyw. Ysbryd lied fasnachol welwn yn yr Eglwys ei hun. Gwnaed dau gasgliad yn y gwasanaeth. Nid oedd dim i ddywedyd yn erbyn hynny. Daeth yr offeiriaid eu hunain o gwm- pas yr ail waith. Heblaw hyn codent dal o ddimai neu geiniog am gadair i eistedd. Nid rhyfedd felly fod mas- nachu mawr yn mynd ymlaen tu allan i'r Eglwys ar Ddydd yr Arglwydd. Aflonyddid y gwasanaeth gan werthu tocynau'r sedd tu mewn, a chan grochlefain y gwerthwyr tu allan. Tra'n dod allan o'r Eglwys sylwais fod y siopau i gyd ar agor a mas- nach yn mynd ymlaen fel arfer. Yr oedd y cafes i gyd yn agored, ac yn gwerthu cymaint os nad mwy nag ar ryw ddiwrnod arall. Rhoid y prynhawn i gyd i bleser a chwareu. Yr oedd rhedegfa geffylau yn San Servan y prynhawn hwn. Gwelwn y bobl wrth y cannoedd os nad y mil- oedd yn tyrru tuag yno. Dywedir mai dyma'r diwrnod i gynnal popeth o'r natur hwn. Chwareuir y bel droed yn ddigywilydd, a rhoir y Dydd Sanctaidd i fvnv i bob rialtwch ac oferwaith annuwiol, a dywedir fod yr offeiriaid yn uno'n galonog gyda'r bobl yn hyn. Duw a'n gwaredo fel cenedl rhag syrthio i'r un pwll. Nid euthum gyda'r dyrfa y dydd hwn, gan nad oeddwn am dorri ar argyhoeddiad ac arfer oes. N1 ddaeth y dyrfa gyda minnau chwaith. Nid ydyw yn dilyn mae'r dorf oedd yn iawn. N.id ydyw'r mwyafrif yn an- ffaeledig. Nis medrwn aros yn y ty. Ni ddysgais y grefft o gysgu ar bryn- hawn Sul eto. Felly rhaid ydoedd myned allan. Crwydrais ychydig drwy'r dref. Tra'n cerdded yn hamddenol felly gwelais angladd— (I barhau.)

Advertising

IByr Hanes.|

Advertising

I Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Advertising