Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

I Marwor Tanllydi

ARGR AFFWAITH.

Eisteddfod Gadeiriol Minny…

News
Cite
Share

Eisteddfod Gadeiriol Minny Street, Caerdydd. Testyn y Gadair-" Yr Aelwyd Gymreig. Denodd y testyn tlws a barddonol hwn feirdd gwych i ganu arno. Daeth un a deugain o awenyddion i'r gystad- leuaeth, ac y mae mwyafrif o'r prydd- estau yn wir dda. Syhvn arnynt ar antur ac nid fel y safant yn y gystad- leuaeth. Bugail y Mynydd.—Pryddest ragorol, llawn o feddwl. Gresyn fod cynifer o wallau sillebol mewn cerdd mor dda. Afradlon.-Cerdd sionc a melysj ond nid oes iddi ddyfnder na gwir galon yr aelwyd Gymreig. Can y bardd heb feddwl digon cyn cychwyn. Tant Hiraeth.—Can semi a dirodres, ond heb feddu llawer o angerdd. lorwg.-Cerdd lithrig o naws awen- yddol ond heb feddu na dyfnder nac uchder. Peredur.—Nid cystal a'r rhai blaen- orol o dipyn, arwynebol yn hytrach yw y gerdd hon. Nid oes llawer o chwaeth na barddoniaeth mewn cwplet fel hyn. Daw'r eneth Ion, frysur hulio'r bwrdd, O'i ffordd mewn braw v gath a'r ci red ffwrdd!" Rhwng y Bryniau.—Pryddest llawn o deimlad ac anwyldeb. Hapus Luddedig.—Cerdd a llawer o deilyngdod ynddi, ond mae ynddi lawer o linellau cloff ac afrwydd, a lluaws o wallau mewn odlau. Wrth y Tan.—Cerdd dyner a lion ei hysbryd. Hoff genym eistedd wrth ei than. Y Ddraig Goch.Cerdd dda iawn, a'i hysbryd yn iach a llawer tant barddonol ynddi. Hafod y Cwm.—Cerdd dlos a hyfryd. Yr oedd yn ein swyno wrth ei darllen. Bachgen o'r Wlad.—Nid cystal. Ceir yn hon llawer o bethau da, ond tuedda i gymysgu ffigyrau ac nid yw yn hedeg yn uchel, ond ymgais dda er hyny. Adlais.-Pryddest lied arwynebol yw hon, a rhai darnau anystwyth ynddi. Nid yw barddoniaeth yr aelwyd Gym-I reig yn cael lie ynddi. Awel Burol y Bore. Pryddest ys- twyth a glan, yn dweud llawer am nod- weddion yr aelwyd Gymreig ond heb eu barddoni. Oudochiad.—Agor yn dda a dymunol, darnau gweinion yw rhai canol y gerdd. Nid yw v bardd ar ei oreu o bell ffordd. Mab yr Hafod.—Pell o'r gadair yw cerdd ac ocllau fel hyn. Trist yn odli gyd Chalfari; Wern gyda thrachefn Fam gyda mam. Rhaid i Mab yr Hafod" ddysgu odli yn gywir cyn an- turio eto i faes cvstadleuaeth. Awenydd y Wawr.—Cerdd ysgafn ei cherddediad a diniwaid ei hawenydd- iaeth. Gallasai y bardd ragori. Deigr ap Deigron. Ceir lluaws o darawiadau barddonol iawn yn y gerdd hon, a lluaws o'r rhai mwyaf anfarddon- ol hefyd. Tuedda i gymysgu y ffigyrau yn awr ag eilwaith, megis "Cyfandir- oedd yn boddi," etc. Bugail yr Hafod. Cerdd hwylus iawn, a thant awenyddol per yn seinio trwyddi, ond nid chwaethus mewn pryddest i'r aelwyd Gymreig yw y gair "dresser. Llion.-Cerdd wir dda a than yr ael- wyd Gymreig yn gynes iawn ynddi, ond nid hapus gweld y bardd yn newid ei fesur mor sydyn yn ei benill cyntaf, a synaf hefyd weled cynifer o odlau amhur mewn cerdd mor awenyddol a hon. Llywarch Hen.—Pryddest dda iawn. Ambell odl amhur ac ambell linell an- ystwyth. Hen Gymro.—Cerdd yn darllen yn hyfryd iawn, ond rhyfedd mor amhur mae ei hodlau. Gerallt y Cymro.—Darllena hon eto yn lied lithrig, ond lied gyffredin yw ei hawenyddiaeth. Ni cheir tlysni yr ael- wyd Gymreig ynddi. Acen Hiraeth.—Cerdd Ian a nwyfus. Mae gallu gan yr awdvvr i linio llinell gain. Alitud.-Cerdd felys iawn, glan a byw ei hysbryd. Taw.—Yr ydym yn mhell islaw "All- tud" ac "Acen Hiraeth" yn awr. Lied gyffredin yw hon. Nid bardd yn ei iawn bwyll osodai Cymreig i odli a Cymreig. Mae swn anaddfedrwydd yn y gerdd hon o'r dechreu i'r diwedd. Morgan.—Cerdd yn llawn o dan Cym- reig yw hon a'i cherddediad yn felys dros ben. Ym Mwthyn Cymru.—Cerdd loew a hyfryd yw hon hefyd, ond heb fod yn ddigon Cymreig ei cherddediad. Un Mewn Dychryn yn Dechreu.—Nid yw cystal a'r un flaenorol, mwy arwyn- ebol o lawer, a chan yr awdwr ar antur. Dan y Derw.—Emynol ei harddull yw y gerdd hon, ac heb fod yn taro o gwbl i fyd swyn yr aelwyd. Dechreu Canu. Melys dros ben. Hoff genym gwmni hwn. ond pa fodd y Ilithrodd dawn ganddo i odli a hwyr? Pie 'roedd clust v bardd? Yn y mesur hwn, rhaid cael yr odl union. Abad.-Cerdd feddylgar, ond mae yn ddi lawer o odlau gwallus a diofalwch. Nid persain yw prin a gwin yn y brif odl. Sur Esperance.—Cerdd lan a nwyfus eto, ond nid yw dyfnder gloewder yr aelwyd Gymreig yn cael ei gyrhaedd ynddi. Hen Adgof Hiraeth.-Dyma un yn can fel y myn. Nid oes ganddo namyn na chorfan nag odl gywir. Dylasai cys- tadleuydd fel hwn ddangos ei gynyrch- ion ar bob cyfrif i rhyw fardd profiadol cyn danfon i gystadleuaeth. Nid Twm o'r Nant.-Lled gyffredin yw y gerdd hon hefyd ar y cyfan, er fod amibell gwplet go dda ynddi. Nid yw ei hargraff yn gywir o hyd ychwaith. Alltud y Liethrau.-Cerdd ragorol yw hon. Gwyr yr alltud sut i ganu yn llednais a pher. Ifor Emrys.—Go hen ei harddull yw y bryddest hon. Mae ei hodlau yn hynod o amhur hefyd. Yr ydym allan o awyr- gylch awenyddol y testyn ynddi. Rhaid i Ifor Emrys feddwl ilawy a saernio vn well. Mab ei Derw.Pryddest fendigedig yw hon. Glan ei gwisg a'i llinellau wedi eu saernio yn gelfydd, a chedwir ni yn awyrgylch swynol yr aelwyd Gym- reig o'r dechreu i'r diwedo. Selah.—Llawer o deilyngdod yn hon, ond mae ei hodlau hithau yn amhur iawn. Can y bardd ar garlam heb aros digon i ganu ei darluniau. Adsain yr Adfail. Cerdd hyfryd a swynol ond nid awenyddol bob amser. Nid barddoniaeth yw lilnellau fel hyn At Genhedloedd o ddysg uchel Llifa heddyw ei chyfaredd, Drwy gyfryngau cerdd a novel Can y bardd a deddf y Senedd." A pha fodd y syrthiodd y bardd i hep- ian gydag odli geinferch a Cromlech? Yr Hen Gadair Freichiau.—Pryddest a llawer o wir farddoniaeth ynddi ond yn colli mewn cyfanrwydd swynol yn aelwyd Gymreig. Tan Twm Ergo. Cerdd soniarus iawn. Mae llu o bethau rhagorol yn hon. Dyna ni bellach wedi mynd dros y Pryddestau i gyd, a gellir dweud yn ddi- trus fod y mwyafrif o ddigon yn wir deilwng o'r gadair, ond y mae yma am- ryw er hyny yn rhagori mewn teilyng- dod, sef Bugail y Mynydd; Rhwng y Bryniau Wrth ei than Hafod y Cwm Llion; Alltud; Morgan, ac Alltud y Lethrau. Ond y mae un arall sydd yn apelio yn gryfach atom ac yn cydio yn ddyfnach yn ein calon, sef Mab ei Derw, felly cy- hoeddir ef yn wir deilwng o eistedd yn Nghadair Eisteddfod Minny Street, Caerdydd, am y flwyddyn 1913. Ar air a chydwybod, BEES REES (Teifi). Caerdydd.

Trefforest a'r Cylch.

Advertising