Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC

Advertising

1 Yr Eglwys a Chwestiynau…

Gohebiaethau.I

News
Cite
Share

Gohebiaethau. I GOFYNIAD GAN J.E. I Mr. Gol. Newydd,—Syr, gobeithio eich bod mor garedig a'r hen Olygydd. Rhoddai ef ychydig ofod i mi bob amser i ofyn gofyniad, ac hyd yn nod pe bu- asai chwant arnaf, i gribo gwallt rhyw Johnson gawr, ac am wn i na chawn racanu mwng ambell i fiermwr mawr hefyd ar y telerau fod raid i'r personau hyny gael fy nghyfeiriad yn llawn os. gofynent am dano yh y Swyddfa. Yr wyf yn berffaith foddlon i hyny, ac yn foddlon iddynt gael yr hen un hefyd, lie yr oeddwn tua deg ar hugain o flynydd- au nol, os mynant. Gwelaf fod hen Foss y Farddoniaeth wedi ail ymaflyd yn ei waith etto. Er ei fod yn dirion a hyfforddus wrth roi sylwaf fod ei hen fflangell ganddo o hyd fel cynt. Yr wyf o'r farn ei fod yn mynd mor bell weith- iau a gwneuthur bye-laws ei hun. Os nad wyf wedi anghofio, gwelais y gorchyniyn am beidio diweddu englyn gyda chynghanedd sain o gwbl. Beth a all hyny fod ond bye-law, tra y mae englynion lolo Morganwg yn llawn o honynt. Pwy ddydd etto, sylwais arno yn gorchymyn alltudio y gair "dwyf" ar gair odiaeth gyda'r "blodeu blydd." Gwrthyd hefyd y geiriau "rhagwn" a "cwthwn" am y rheswm, meddai ef, nad ar lan y Fenai yr ydym yn byw. Yr wyf yn gwybod taw nid ar lan y Fenai y mae ef na minau yn byw, ond beth am y canoedd Gogleddwyr sydd ar hyd ein gweithfaoedd, ac yn anfon y Darian i lanau y Fenai a lleoedd eraill. Gwn am danaf fy hun fy mod yn anfon dwy Darian bob wythnos i ddau wahanol gyf- eiriad sydd fwy na deuddcg mil 6 filltir- oedd yn mhellach na'r Fenai, hefolaw llawer un arall fyddaf yn anfon i'm hen gyfeillion pan fyddo rhywbeth neullduol ynddi yn taro eu harchwaeth hwy. Pa- ham mae y Boss wedi digio wrth y gair "Odiaeth," tybed? Ai o achos fod Joshua fab Nun a'i bartnar wedi dyweyd fod tir y wlad fuont hwy yn ysbio yn dir odiaeth o dda, ac o bosibl ei blodeu yn fwy blydd na blodeu grug sychion Penypych neu Fryniau Fforch-orchwy 1 Neu am fod Abram wedi cael gwraig "odiaeth" o lan. Cafodd un o'i ddis- gynyddion wraig odiaeth o lan hefyd. Ai tybed nas gellir dyfod o hyd i dir a merch odiaeth tua ardal Pontypridd rywle? Ond fy ngofyniad yw, A oes yn rhaid i Bob fy mrawd, yr hwn sydd yn Patagonia, neu y brawd arall sydd gymydog i'r Athro J. Morris Jones ar lan y Fenai, ddysgu Tafodiaith Cwm- lluwch neu y Cwmbach arall sydd ar ei bwys, cyn y gallont anfon eu gohebiaeth i'r Darian ?—Yr eiddoch. J.E. I SIO:" CENT AC ERAILL. Syr,—Ychydig amser yn ol, os cofiaf yn iawn, fe addawodd y gwr o'r Hendre, ysgrifenu ychydig am yr hen frodorion amgylch ogylch Cwmtridwr a Chwmyrisga, ond hyd yn hyn y mae yn ddistaw. Rhaid maddeu iddo, oher- wydd bu'r corwynt mawr a thanchwa ofnadwy Senghenydd yn destynau pwysig iddo ar y pryd. Hyderwn y daw allan e 'to, a hynny yn fuan, yn ei elfen oreu-ameuthyn hyfryd fyddai ysgrif gref o'i eiddo am yr hen gym- eriadau hynod a fu, gan ddechreu gyda Sion Cent a'i gyfoedion. A pheidied anghofio Twm Cilfynydd, bardd dircidus, a chantwr da efo'r delyn oedd Twm—Shakespeare Eg- lwysilan, dyma awdwr Can y I Cryddion Groeswen; Bedwas Stout; Can i Ffair Caerphili; Ffolineb Die Shon Dafydd, ac amryw na chofiaf yn awr; Eos Gwent, Glyn Bracnar, awdwr y gan arddcrchog ar Adfeiliad (leii.iti'r Gl,n, hen balas boneddwr, yn agos i Gaerfiili, sef un o destynau Cymreigyddion Caerffili erbyn eu Heis- teddfod, yr hon gynhaliwyd yn y Boar's Head ar yr neg o Fawrth, 1847 (hon oedd y gan fuddugol). Efe oedd awdwr Can v Fwylachen"; cyfansoddodd hi ar ol gwrando cerdd soniarus y fwyalch mewn coedwig frigawg yn ymyl ty ei dad, sef Glyn Bracnar. Cerdd ardderchog ydyw hefyd. Cyfansoddodd farwnad ar- dderchog ar ol y Parch. Thomas Morris. Os nad yw fy nghof yn pallu, de ganodd "Can y Cledd." Efallai y bydd gair am hyn gan Frynfab i ddwcyd. Bu cystadlu brwd un amscr mewnEisteddfodau a gvnhelyd dan arwydd y Cykhlcstrwyr (Coopers' Arms), Y stradmynach. Bu y diwedd- ar Dewi I-Iaran yn fuddugol yno ddwy- waith, ac Edward Lewis, Graigfach, Pontypridd, gafodd lawer iawn o wobrau. Wei, tyna ddigon bellach, gadawaf yr oil i Frynfab. Ond un peth carWn ddweyd fod hen oil painting" o Sion Cent ar gael y dydd hwn yn Eglwys Henafol Ken- chester, ar gyffin swydd Henffordd. Yr wyf yn son am hyn ar awdurdod Mr Scudamore, accountant yn ngwaith haiarn Rhymni. Mae Mr Scudamore yn ddisgynydd union- gyrchol o lwynau Owain Glyndwr, ac yn frodor o Kcnchester, lie claddwyd Sion Cent. Y traddodiad cvffredin oedd taw rhyw ddyn drvgionus, gallu- og, a chythreulig oedd Sion Cent, ac kn feistr ar y gelfyddyd ddu, ac yn arfer hud a lledrith, ond camsynied mawr ydyw hyn, oherwydd digon haws ydyw profi mai dyn da oedd, yn gwneuthur daioni iddi ei gyd- wladwyr, yn gystal ag un o'r gwlad- yddion goreu a feddai Cymru. Yr oedd Sion yn fardd ac yn ddiarebydd. Dvma i chwi y profion-o'r "Mytholo- gy and Rites of the British Druids," p. iog:- Dwy rhyw awen dioer cwybr Y sy yn y byd, loyw bryd lwybr; Awen gan Grist, ddidrist ddadl 0 iawn dro, awen drwyadl. A wen arall nid call cant— Ar gelwydd, fudr argoeliant, Yr hon a gafas gwyr Hu, Camrwysg prydyddion Cymru." Amcan Sion yma yw anghanmol ar- fer ion beirdd yr oes hono i wneud cyfeiriadau derwyddol yn lIe rhai Cristionogol yn eu caneuon, medd awdwr o fri. Eglurhad arall o ddoniau Sion Cent, sef "Dewis bethau Shon Cwm Trid- wr — Myfyr encilgoed Trem serchawg; Wynebpryd siriol; Boddlondeb i'r byd a fo; Cof am g&r a chyfaill; Hoffi rhagorgamp; Blasu y bwyd a fo; Ymddwyn syber; Huander hvbwyll; Hunan-ofnogrwydd; .Cyfanred ymgais; Ymorheula pen mynydd; Ymwerfela caeadlwyn; Gwrthruthraw rhuthr; Teulawr gwybodbell; Canmoliaeth cydwybod; Caru a garo; Maddeu a gasao; A Duw yn maddeu i bawb." Shon Cwmtridwr a'i Cant. Y r eiddoch mewn rhwymau cariad, JOSIAH JENKINS. 26 King's Road, Caerdydd. o. Y.-Henffych well i'r Gol. new- ydd.-J.J.

[No title]

Advertising