Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. I I -I

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. I Cefais gryn fwynhad wrth ddarllen y cynhyrchion anfonwyd i fcwn ynglyn a'r ddwy gystadleuaeth yn rhifyn lon- awr iaf o'r "Darian." Yn awr, ar y dechreu, cyn ceir cystadleuaeth eto, hoffwn adgofio'r ymgeiswyr o un peth —rhaid cadw'r rheolau. Gwelaf fod Mr Golygydd wedi nodi rhai rheolau j wrth roi'r gystadleuaeth hon, sef fod yn rhaid rhoi'r enw, y cyfeiriad, a'r oed, etc. Gwnaed hyn gan rai ond nid gan bawb. Collodd rhywun y wobr drwy beidio. Mae yma un reol arall hefyd. Fel hyn y darllenaf yn nes i lawr Cofiwch wneud y gwaith eich hunain. Ni ddaw lies i chwi os gwna rhywun arall y gwaith vn eich He. Yn awr mae rhyw aderyn bn,chan-un bychan iawn ond tra chyflym ar ei aden—wedi hedfan ataf o bell, dros fynyddoedd a moclydd, a dyffrynoedd ac afonydd, ac wedi sibrv.d rhywbeth yn fy nghlust am rai o'r rhai N?u yn cystadlu y tro hwn. Dywedodd am un bachgen fu yn disgrifio'r modd y treuliodd ei Nadolig fod ei dad neu ei fam yn sefyll gerllaw, ac, yn dweyd wrth y bachgen beth i ysgrifennu. Nid oedd yr aderyn yn hollol siwr pa un ai y tad ai'r fam oedd yno, ond lled-dybiai mai y fam. Am un o'r cystadleuwyr ereill- bachgen bach saith oed—dywedodd yr I' aderyn mai nid gwaith y bachgen bach hwnnw oedd yr ysgrifen lan, I ddifrychau oedd ar y papyr, ond mai ei frawd, llanc pedair-ar ddeg oed, ysgrifennodd y pennill i gyd yn ei le. Rhyfedd, onide? Pe bawn i chwi, mi ofalwn na chai yr aderyn bach neges tebyg eto. Gwnewch cich gwaith eich hun-mae y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr wedi gwneud felly y tro hwn—a dyna'r unig ffordd i dderbyn lies. Anfonodd deunaw i fewn am y gys- tadleuaeth i rai dan ddeuddeg oed. Edrychwch o ba le y daethant: — Saith o Aberdar, dau o Aberaman, un o Drecynon, un o Bontypridd, un o Dreforis, un o Gwmtwrch, un o Lan- samlet, un o Lanelly, un o St. Clears, un o Langennech, ac un na wn o ba le. Gan fod y gwaith mor hawdd- dim ond medr i ysgrifennu a thipyn o ofal oedd yn eisieu—nid wyf yn golygu syhvi ar y rhai hyn bob yn un. Mae rhai wedi yesgrifennu'n wael, rhai wedi sillebu rhai o'r geiriau yn anghywir, rhai wedi anghofio'r rheol- au fel y sylwais eisoes. Mae gan Caradoc bennill bach pert o waith Mynyddog, wedi ei ysgrifennu yn ddestlus. Trueni na fuasai Caradoc wedi rhoi ei enw a'i gyfeiriad. Dyma'r pennill "Os Cymry annwyl ydych, Na wadwch byth mo'ch iaith, Er myn'd i wlad yr estron, Neu groesi moroedd maith; Os holir chwi yn Saesneg, Yn Lladin neu Hebraeg, Gofalwch docd a ddelo Am ateb yn Gymraeg." Dywed un o'r cystadleuwyr ei fod yn 12 8-12 mlwydd oed. Mae hynny o leiaf 8-12 yn ormod, onid yw? Mae yma un bardd o dan ddeuddeg oed, wedi gwnejid ei bennill ei hun. Wyddis beth fedr hwn wneud vmhen deuddeng mlynedd eto! Wele ei bennill. Cywirwyd rhai geiriau oedd heb eu sillebu yn iawn "Mae bechgyn bach o Gymru Yn hwylus ac yn lion, 1'r ysgol ant i ddysgu Cymraeg yr adeg hon; Ac hefyd mae'r athrawon A'r athrawesau gyd Yn gwneud eu gore'i siarad Cymraeg-iaith dlvsa'r byd." Cymer ef olwg obeithiol iawn ar bethau. Dyma bennill bach tlws i Lygad y Dydd, wedi ei ysgrifennu yn ofalus gan fachgen bach deg oed. Trueni iddo anghofio un o'r rheolau. Ni ddywedodd o ba le y cafodd y penill. Wele ef — "Flodeuyn bychan tlws, Mewn gwisg o aur ac arian, Ai ti agorodd ddrws I'r Gwanwyn ddyfod allan? Mi wn fod blodau lu O'th ol yn dirgel lechu Rhag ofn yr oerwynt cry' Sydd dros y maes yn chwythu." Daw digon o Lygaid y Dydd i'r golwg yn y man. Dysgwch y pennill bach yn barod. Ond nid am y pennill tlysaf y rhoi'r y wobr y tro hwn, ond i'r un a ys- grifenno oreu gan gadw'r rheolau wrth gwrs. Y goreu yn ol hyn yw geneth fach naw oed o Lanelly, sef Eluned Morris, I 32 Gilbert Place, Llanelly. Anfonir "Teulu Bach antoer" felly i Eluned fach, gan obeithio y ca bleser ryw ddydd o'i ddarllen. Dyma'r pennill ysgrifennodd hi — Yr Awr XX-eddio. Y r awr weddio gara f- Arferaf drwy fy oes, Er mwyn y ddau gwrdd gxx-eddi- Yr ardd a bryn y groes; Y Gwr weddiodd yno Sy'n awr yn g\\rando'n cri, A digon yn ei wrando I'n llwyr fendithio ni." Nid oes ond pedwar wedi ymgeisio ar y gystadleuaeth arall. Hoffwn j weled mwy yn treio gan fod gwaith gwreiddiol fel ag a ofynnir yma yn ddiddorol iawn. Gobeithiw n gael mwy y tro nesaf. Y sgrifenna uri eneth I fach o'r Ysbytty. Drwg iawn gennym am ei hafiechyd, a gobeithiwn ei bod erbyn hyn yn holliach. Ni ellid dis- gwyl iddi ysgrifennu yn dda dan am- gylchiadau felly. Nid oes un o'r ped- war wedi ysgrifennu'r hollol gywir, | ond na hidiweh am hynny—wrth ym-I arfer y deuir yn berffaith. Gwell. lawer gweled gwallau, a deall fod y bachgen neu yr eneth wedi gwneud ymdrech deg a gonest. Y mae yma un yn dwyn yr enw Cymro Ieuanc wedi ysgrifennu hanes diddorol iawn, ond anghofiodd roi ei enw na'i gyfeiriad na'i oed. A beth os yw yn ddeg-ar- hugain oed? Y goreu y tro hwn yw— Samuel Williams (neg oed), 23 Harriet Street, Trecynon. Anfonir "Ar Dir a Mor" iddo un o'r dyddiau nesaf yma, a bydd yn siwr o'i fwynhau. Wele yr hyn ysgrifennodd, heb newid dim arno. Mae ynddo rai gwall- au fel y gwelwch, ond I leg oed yw Samuel Y Modd Treuliais Dydd Nadolig. "Treuliais Dydd Nadolig yn Llan- samlet, gerllaw Abertawe, yn ty fy nhadcu. Cefais lawer o fwynhad yno, sef mwynhau o'r twrci a photen Nad- olig. Yn y prydnawn treuliais yr am- ser wrth ddarllen y llyfr Swiss Family Robinson." Yn y nos mi eis i'r cynghanedd yn Salem. Yr oedd canu ag adrodd yno, ac yr oedd y cor yn canu, ac mi eis adre'n llawen iawn. Er y tywydd garw a'r gwlaw, ym- hyfrydais fy hun yn dda." Cofiwch ddarllen y Darian am yr wythnos nesaf. Bydd cystadleuaeth arall ynddi. Treied pawb dreiodd y tro hwn a mwy. O'R \VY I'R DYWI. I Gan Mr. Lewis Davies. I Tua diwedd y 12fed ganrif daeth yr ysgolor mawr Giraldus Cambrensis i faes hanes. Fel pob ysgolor yn y cyf- nod hwnnw ysgrifennai yn Lladin, ond siaradai Gymraeg hefyd. Mor wa- hanol hynny i'r crach-ysgolorion gred- ant heddyw fod anwybodaeth o iaith eu mamau braidd yn anhebgorol i wir fawredd. Rhoddodd Giraldus,. neu Gerallt Gymro fel y gelwir ef fynychaf gan ei gyd-genedl, ddesgrifiad o Gym- ru a'i thrigolion yn un o'i lvfrau, ac fe roddodd mewn un arall hanes man- wl o'r gylchdaith gymerodd gyda Baldwin o Gaergaint yn 1188 i bre- gethu Rhyfeloedd y Groes trwy Gymru. Mewn canlyniad i'r adfywiad llen- yddol yn y i2fed ganrif, cawsom ni yn Siluria rai cynhyrchion neillduol o bwysig. Dyna Lyfr LlandAf -h'r I Annales de Margan—heb fyned ym mhellach-y ddau o werth uchel. Galfrith o Landaf gasglodd y blaenaf yn nechreu y ganrif a nodwyd, ac y niaegennyrn heddyw lawer cyfle i brofi dilysrwydd yr hyn a ddywed. Beth pe baem yn gwneud un prawf bach arno Faint o honoch breswylia yn ardaloedd Glynnedd, Rhigos, Pen- deryn, Hirwaun, a Chefncoedycym- mer ? Gwrandewch beth ddywed cyfieithiad Saesneg Llyfr Llandaf am ffin ogleddol yr csgobaeth wyth canrif yn ol Along the Purddin until it falls into the Nedd; along the Nedd up- wards as far as the influx of the Mellte; along the Mellte as far as Sychryd; along the Sychryd to the Gamnant and to Gavanog; from Gavanog to Deri Emrys; from Deri Emrys to the source of Ffrwd y Wyddon and Cecin Clisty, along Ffrwd y Wydden to Tav Vawr; along Tav Vawr downwards to Cymmer. Gwn yn dda am amryw o'r enwau nodir, a diau y gwyddoch chwithau hefyd. Heblaw yr Annales de Margan gasglwyd gan fynachod yr hen abatty ger tywod Aberafon-y mae eto ar gael rai cannoedd o weithredoedd ym meddiant y Talbotiaid a daflant lawer o oleuni ar hanes Morgannwg a'r cyffiniau. Gofelir yn fawr am y memrynau hyn, ac y mae haneswyr o safle Clarke a De Graig Birch wedi trafferthu llawer i wneud dosparthiad trefnus ar eu cynnwys. Er mor ddyddorol yw y Trioedd a Bucheddau'r Saint, ychydig o werth hanesyddol roddir arnynt yn awr. Nid oes sicrwydd ychwaith am awduraeth y Brut gafwyd yn Aberpergwm yn 1764. Tadoga rhai ef i Garadog o Lancarfan ei hun, ond boed hynny a fo, y mae o ddyddordeb neilltuol i ni I yn Siluria. Rhaid peidio anghofio y beirdd hefyd. Rhifant rai cannoedd, a dywedant lawer o hanes (heb yn wvbod iddynt, fynychaf) yn eu can- cuon. Yn y 15ed ganrif daeth y gelfyddyd o argraffu i fod, yr hyn a ychwaneg- odd at ein gwybodaeth yn fawr. Yn 1540 cawn Leland yn ein plith yn croniclo ei deithiau, tra yn y flwvddyn 1578 wele Hanes Mc-rgannwg gan Rhys Merrick o'r Cotrel, gwaith, er yn brin, sydd eto ar gael. Bydd gyda ni lawer i'w ddweud am y gwahanol ysgrifennwyr hyn, ond* gan mai cyflwyno dieithriaid i'w gil- ydd yw dyledswydd gyntaf moesgar- wch, dyna hynny o orchwyl wedi ei wneud. (I barhau.)

Byr Hanes.

Advertising

- - -..-.- -.-Cymanfa Bedyddwyr…

I Glais. ! 1

Oddiar Lechwedd Penrhys.

Advertising