Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

COLOFN Y PLANT.

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. Wele i chwi am yr wythnos hon ystori fechan gefais o Ffrainc Y Saer a'i Fetoion. Mewn pentref bychan gwledig trigai saer a'i dri mab, yr ieuengaf tuag un-ar- ddeg oed. Yr oedd un o'r meibion yn grwca (hunch-backed), y llall ag ond un llygad ganddo, a'r trydydd yn gloff; eithr yr oedd y tri yn fechgyn deallus, diwyd, a gonest. Mewn plasty yn agos i'r pentref trigai boneddwr cyfoethog. ac yr oedd ei unig fab-llanc tua deg oed—yn ddiog iawn .heb awydd dysgu dim, ac yn anodd iawn ei drin. Am fod ei dad yn gyfoethog. credai Henri nad oedd bachgen fel efe yn y byd edrychai i lawr ar bawb o'i gylch, ac yn fynych gwnai bob difyrwch o dri mab y saer. Er ei waethaf, yr oedd wedi gorfod dysgu rhyw gymaint yn yr ysgol. ac er mwyn gwneud arddanghosiad o'i wybodaeth, rhoddodd lysenwau ar y tri bachgen. Galwodd y bachgen crwca yn 'Gamel,' yr unllygeidiog yn Cyclope,' a'r cloff yn 'Vulcan.' Gahvai wynt wrth yr enwau hyn bob tro y pasiai siop y saer. Er na ddeallai y .bochgyn ystyr yr enwau, gwyddent wrth don Henri yn eu llefaru mai rhai i ddangoe, gwawd oeddent. Cvn hir gOJMSMt i ysgolfeistr y pentref eu hesbomo. Dywedodd hwnnw nia,i creadur mawr, pedair-troediog, a chan- ddo gefn crwca, oedd Camel; mai rhyw hen gawr o r cyn-oesoedd oedd Cvclope, a chanddo un llygad mawr ar ganol ei dalcen ac mai Un o hen dduwiau'r paganiaid oedd Vulcan, daflesid gan Jupiter o'r net i'r ddaear, ac iddo wrth gwympo dorri ei goes a bod yn gloff byth wedi hynny. Beth amser ar ol hyn, digwyddodd Henri fyned i ddifyrru ei hun drwy bvs- gota yn yr afon fawr lifai drwy, I wlad honno. Er gwaethaf rhybuddion ei dad, camodd o gwch i gwch nes myned allan ymhell i'r afon. Tra yn ceisio camu i'r cwch olaf, llithrodd ei droed, ac wele'r pysgotwr bach yn yr afon. Yn ffodus, digwyddai un o feibion y SHer-y bachgen a'r cefn crwca—fod ar y Ian; anghofiodd ddarfod i Henri ei wawdio, non odd i'r dwfn, llwyddodd i ftj'Hieryd gafael yn y truan, a'i roi ar ei geln ei hun er dod ag ef i dir. Da oedd 1 Henri fod y crwc oedd ar gefn y bach- cr Jnj a\ ei ben ef uwch y dwr neu ni ^uasai byth wedi gallu dod i'r lan yn ?N-W. Wedi cyrraedd yn ddiogel. dv- ? edodd ei waredydd wrtho Fv mach- gen anwyl, na wneweh mwyach ddifyr- rwLoh°rcrec svdd ar ? y Camel. .rwdrt gwelwc'-li ei fod yn dda i ryw- beth^' -??d?" ?enach, mewn dol ar un y go d' h Itr fir' Y goed-ig, rheda.i ?-? ?1 ?r Y af. Yn s?d'n I 1 <5<vlw, fn". A' ??s yn Ar h «svh ???'" Trodd vn' 0 I 0 ynol, ag?w" elj ? .??"??? ?lygeidiog y11 dyfod tuag ato. Yr oedd hwn wedi i canfod rhwyd osodasid ar y ddaear gerllaw ev dal llwynogod. Ni welsai Henri hi, a phe yr aethai gam ymhell- ach. huasai wedi ei dda] ynddi. ac efallai wedi many o newyn oddigerth i "YWlln ddigwydd pasio a'i weled. Fy machgen annwyl." ebe'r bachgen un- llygeidiog, na wnewch niwyach ddifvr- rwch o un llygad Cyclope, gwelwch y i medr weithiau roi cyngor da i'ch dau lygad chwi. Dro arall, bn Henri mor ffol a chwareu a rhyw gi dieithr, cas, nes ei wneud yn holloI gynddeiriog. Yr oedd y ci ar neidio yn ddig fuag ato, a gwaeddodd Henri mewn braw. Yn sydyn. daeth ergyd cryf o ffon rhywun rhwng y ci a'i ysglyfaeth. Ffon pwy oedd hi ? Ffon fagl y bachgen cloff. "Fy machgen annwyl," ebe hwnnw, na wnewch mwyach ddifyrrwch o Vul- cain, gwelwch y gall ffonfagl fod o was- anaeth ambell waith. Y tro hwn, gwelodd Henri ei fai, a dywedodd wrth y tri bachgen oedd yno-yr oedd yr ys- garmes a'r ei wedi cymeryd lie o flaen siop y saer: Fy nghyfeillion: Fy achubwyr: Maddeuwch i mi, gwnaeth- um yn anweddaidd iawn a chwi. Yr wyf yn fachgen ffol iawn, ond nid wyf yn fachgen drwg. Diolchaf o gal on i chwi am eich gwrhvdri drosof. Eithr y daioni mwyaf wnaethoch a mi oedd fy ngwella o hen arferiad ffiaidd-hen fai anfad. Gadewch i mi eich cofleidio, a hyderaf y caf gyfle i ddangos i chwi fy niolchgarwch. HANES LLEOL. (Parhad.) G WE RSI CAN LEWIS DAVIES, CYMMER. Pan draethir wrthym hanes mvvy dyddorol na'i gilydd creir awydd i ynom ar unwaith i wybod mwy am dano-pwy oedd y c}ntaf a'i gwybu? -pa fodd y daeth i lawr i ni ?—pa gysylltiadau sydd iddo? etc., etc. Rhaid cofio fod hanes ysgrifcncdig Deheubarth Cymru' yn cyrraedd yn ol hyd Y Hwyddyn 43 O.C., hynny yw, o fewn deng mlynedd i Groeshoeliad em Hiachawdwr, ac amlwg felly yw fod iddo lawer o awduron. Ysgrifenna rhai o honynt am eu hoes eu hunain, ac y [o11:-1e i ni wrandaw yn astud ar y rhai Slaradant am y pethau a welsant. Ereill a ysgrifennant yn unig am y pethau y I clywsant son am danynt. Nici yw y rhai hyn, fel y gellwch dybio, mor foddhaol fel tystion. Syh\ och chwi erioed mor amrywiol fydd ystoriau gwahanol bersonau am yr un amgylchiad? Pwysleisia un y peth hwn ac arall beth gwahanol-pob un yn union yn ol lliw ei wydrau. Chwi gofiweh Sfathew, Marc, Luc, j ac loan yn ysgrifennu hanes ein CiM arcdw r—yr oil yn eirwir am e. bod oil o dan ysbrydoliaeth. Eto mor amrywiol vnt hwy Yr un fath yn union yw gydag ysgrifennwyr llai, a dyna brif waith hanesiaeth heddyw | yw gwyntyllu pob tystiolaeth er cael wybod hanfod a phwysigrwydd ei wirionedd. Pwy yw y tystion ? Rhaid inni bell- ach eu hadnabod, oblegid diddorol yw pob un edrydd ystori yn dda. Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain y tro cyntaf (55 C.C.), nid oedd gair ysgrifenedig pendant am ein hynysoedd. Gwyddom, serch hynny, lawer am eu cyflwr yn y cyfnod cyn-hanesiol, oblegid sieryd amryw o weddillion y cyn-oesau am danynt eu hunain, yn enwedig os bvddant o 1 ddefnydd caled, megis maen, efydd, neu haiarn. Edrydd Julius Caesar am Brydain .n y flwyddyn 55 C.C., ond am ei rhannau dwyreiniol a dehcuol yn unig y dywed efe. Tacitus, Rhufein- wr arall, ddywed egluraf am ein tal- aeth ni-Siluria, neu Wlad yr Esyll- i wvr-a hvnnv vn fuan ar ol v j flwyddyn 51 O.C. Ni fu efe erioed yma yn bersonol, ond cafodd fantais i i ybod yn dda am danom o herwydd ei gyfeillgarwch a Suetonius, gordhfyg- \\r y Derwyddon ym Mon. Braidd na ddywedwn fod Tacitus yn gyfaill y Brytaniaid hefyd, gan mor garedig Y i sieryd am ein Caradog ddewr. Ym mhen rhai blynyddoedd ar ol gorch- fygiad ein cydwladwr mawr hwn, dacth yma atom ddau Rufeinwr cnwog ereill, sef Julius Frontinus a j ? Julius Agricola, a dywedir llawer am y  tir elwir heddyw yn Fynwy, Mor- gannwg, Caerfyrddin, a Brycheiniog j yn hanes eu hactau hwy. Mewn gair, bu y Rhufeiniaid yn ein hynys hyd y I flwyddyn 410, ac o'r amser y daethant yma gyntaf hyd y flw y ddyIn ymadaw- 'sant, nid oes llai na 98 o'r ysgrifen- wyr Lladin a Groeg yn gwneud cyfeiriadau uniongyrchol neu ddam- weiniol at Brydain. Wedi eu hamser hwy daeth yr Oesau Tywvll dros y j gwledydd, ac ni fuont dywyllach yn unman na thros ein gwlad ni. O'r burned i'r ddegfed ganrif swm hanes Ewrob yw ymgyrchoedd a rhyfeloedd, lladdiadau a thrychinebau. Gwan iawn, fel y gellwch dybio, oedd goleuni dysg yn y cyfnod gresynus hwnnw. Ychydig oedd yn ysgrifennu, a phwl ac amheus yw llawer o'r hyn Y5- I grifenasant. Yn wir, ceir nuvv o I hanes yr amser hwnnw gan groniclau gasglwyd yn ddiweddarach na chan ysgrifenwyr y cyfnod ei hun. Rhydd 'I Beda breswyliai yn Jarrow-on-Tyne beth o'n hanes o 673 i 735, ac fe geir mwv g'an Gildas, ennius. a Marc mwy gan Gildas, Nennius, a Marc v Meudwy ychydig yn ddiweddarach. Nid llawer i bonti pedair canrif gyfan, ai ie? I ddangos yr amheuaeth sydd ar yr ysgrifeniadau cynnar hyn, bernir heddyw mai nid Gildas ei hun vs- grifeunodd yr ystoriau sydd ar ei enw, j tra ar y Haw arall haerir mai efe yw I y gwir Nennius. Croniclwyd ychwan- | eg gan rywun anhysbys yn yr Annales Cambriae hcfyd, a dyna braidd yr oil sydd gennym hyd ynghylch y flwyddyn 940 pan w-naeth Hywel Dda o Ddyfed drefn ar gyfreithiau ei wlad. Diau eich bod wedi clywcd llawer o gan- rnol ar y, tywysog hwn. Ac nid heb haeddiant. Canys er na chofnoda y cyfreithiau ddigwyddiadau, eto dangosant gyflwr cymdeithasol y Cymry yn y iofed ganrif gyda'r fath fanyider, fel y safant o werth amhrisi- adwy i bob hanesydd Cymreig. Gyda lluosogiad y crefydd-dai (y soniais wrthych yr wythnos ddiwedd- af), daeth yr arferiad o groniclo gweithredoedd yr oesau i gryn fri. Cynhygiodd Sieffre o Fynwy (fu farw yn 1152) groniclo yn ei Frut y Brenhinoedd ymhellach yn ol lawer I na oedran Crist. Ni chymerir hwnw fel hanes gwir heddyw-ystoriau Hu Gadarn a Brutus a'r cyffelyb. Rham- ant hanesyddol fyddai, efallai, yr enw gorcu arno. Ond yng Ngharadog o Lancarfan y mae gennym ddyn o nod- wedd wahanol. Ei Frut y Tywysogion yw yr awdurdod uchaf o'r 7fed ganrif i'r iafed, hynny yw, o amser Cad- waladr i'w oes ei hun. (I barhau.)

IGohebiaethau.I

[No title]

Penderyn.I

Glais.

Advertising