Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
COLOFN Y BOBL IEUAINC.
COLOFN Y BOBL IEUAINC. Dan Olygiaeth Dyfnallt, Caerfyrddin. Anwyl Gymmrodyr letialne.- Hwyrfrydig a fum yn cydsynio a chais y Golygydd i ymgymeryd a chadw trefn ar y Golofn hon. Bellach, rhaid bwrw ati modd y gallorn ei gwneud yn ddi- ddorol ac adeiladol. Carwn yn fawr felly gael sirioldeb a chefnogaeth gwyr a gwyryfon ieuainc ein gwlad. Dis- gleiria'r haul yn danbaid heddyw ar awen ein gwlad. Aeth anii-yw o tdar dros y nyth, a pher yw eu can. Ond cwynir nad oes i ni gyffelyb argoelion am ymddangosiad gwyr a fedr ysgrifen nu iaith rydd. Dyma gyfle i'r lienor ieuanc a phrofiadol. Gwahqddwn yn daer bob math ar len rydd a fyddo a'i ogwydd i ddyrchafu meddwl a buchedd ein pobl. Drychfeddwl mawr vii ein hoes ni yw'r dyrfa—y mass-idea. Dyma/r syniad sydd y tu cefn i iindebau llafur, cyngrheiriau gwledydd, undebau eg- lwysi, etc. Braidd na ddywedem fod y drychfeddwl erbyn hyn wedi ei weithio i eithafion. Xid am nad oes iddo ei le yng nghwrs a thyfiant gwareiddiad uchel. ond am ei fod yn aehlysur yn ami i lesteirio datblygiad yr unigolyn. Mae'r cyfaill sy'n ysgrifennu'r tro yma ar Fynd gyda'r lliaws." wedi rhoi'i fys ar y perygl. Mae'i ysgrif yn sampl cymeradwy iawn o'r llenor cryno a fedr gwmpasu cylch mawr a'i roi mewn ych- ydig. Hwyrach y daw arall i drin agweddan ereill ar y mater. j MYN'D GYDA'R LLUAWS. j Efallai mai prif berygl dynion ieuainc yw y duedd i fynd gyda'r lluaws. Gesyd y duedd hon ni yn agored i fyrdd o beryglon eraill. Yn awr, ni charai neb ddeall y cyfrifid ef yn wan a diym- adferth. Ni charai neb ddeall y cyfrifid ef megis deilen yn y lli a deflir o don i don. Arwydd o wendid yw mynd, yn ddi- j feddwl, gyda'r lluaws,—arwydd o ddiffyg annibyniaeth a gwroldeb. Cof- iwch y ddihareb am y pysgodyn marw. Os am brofi ein hunain yn ddynion teilwng o'r enw, rhaid i ni allu dweyd "N a," a mynd yn erbyn y lli. Beth bynnag fyddo'r hwyl gawn gyda'r dorf, y mae gallu dewis ein llwybr a'i rodio, er i ni fod wrthym ein hunain, yn rhoddi i ni ymwybyddiaeth o nerfh. Pwy nad yw yn hoffi teimlo'n gryf I Rhydd hyn i ni fwynhad uwch nag a gawn mewn unrhyw dorf. Hudir rhai, weithiau, megis o'u hanfodd gyda'r llu- aws. Nid ydynt yn ddigon cryf i wrth- sefyll hudoliaeth y rhai a'u denant. Y mae gwendid y dorf yn drech na hwynt. Cofier mai peth y gellir ei feithrin yw nerth. Os nad ydym eisioes yn bysgod meirw, pa mor wan bynnag ydym, gall- wn ddod yn gryf. Gallwn ddechreu trwy gadw o afael y lluaws, a cheisio di- ddordeb mewn gwell llwybrau. Wedi dechreu cael mwynhad uwch, cyll y dyrfa'i dylanwad arnom. Wedi i ni brofi ein hunain yn ddynion, a dangos y medrwn gerdded llwybrau gwahanol i'r lluaws, pwy a wyr na ddilynna eraill ein hesiampl1 A ydyw yn talu i fynd yn erbyn y lluaws? Treiwn hi. Gall tipyn o annibyn- j iaeth gostu'n ddrud i ni ar y pryd, ond y mae'n werth talu pris go dda am fod i yn ddynion. Ddown ni byth yn ddyn- ion iawn heb dalu. Safodd Joseff; ieuanc yn erbyn ei frodyr. Nis gallai gydsynio a'u drygioni. Costiodd hynny'n ddrud iawn iddo. Do; ond pwy a ddywed iddo dalu gormod am ■enw a chymeriad fydd yn berarogl Ijya • byth ? Tybiwch gymeryd o Joseff ei lygru gan ei frodyr a'i gael i gydsynio a'u drwg hwy; buasai yn esmwythach arno. Eithaf gwir, ond cofiwch mai llwfryn ac nid dyn a fyddai. Cymwyn- aswyr y dorf, fel rheol, sydd yn mynd yn ei herbyn. Joseff fu'r cymwynaswr gore i'w frodyr yn y diwedd. Yr Unigol a'r Dorf. I Nis gallwn lai na theimlo fod tuedd mewn rhai cyfeiriadau yn ddiweddar i ddiystyrru yr unigolyn, ac edrych yn ormodol ar ddyn fel aelod o gymdeithas. Y mae ei berthynas a'i gyd-ddynion yn bwysig i ddyn, ond y mae efe ei hunan yn llawn mor bwysig iddo. Y dyn cryf, gwrol, fedr farnu a meddwl drosto ei hun yw'r aelod goreu o gymdeithas. Y mae un dyn felly yn werth torf o ddyn- ion gwan yn dilyn eu gilydd. Adeg ddedwydd yn hanes y byd fydd honno pan fydd ei dyrfaoedd yn ddynion byw i gyd, ac nid megis yn ddail hydref yn y gwynt. Golwg resynus sydd ar y dorf heddyw fel rheol--fel defaid heb gan- ddynt fugail. Engreifftiau. I Ymha bethau y gallem er mantais i ni ein hunain fynd yn erbyn y lluaws ? Ym mhopeth y teimlwn, ar ol ystyr- iaeth ddwys, nad yw yn werth dilyn y lluaws ynddynt. Os ydych yn arfer mynd i'r capel a'r Ysgol Sul, peidiwch aros i glebran ar y ffordd hyd nes bydd hanner yr ysgol neu ran fawr o'r gwas- anaeth drosodd, am fod eraill yn gwneyd hynny. Gwyddoch nad yw hynny'n iawn. Gwyliwn bob atnser pan waeddir fod y lluaws yn gwneud hyn neu yn gwneud y Hall. Ceisio apelio at eich gwendid wneir. Clywn lawer y dyddiau hyn yn gwaeddi yn barhaus fod y Huaws yn cefnu ar yr eglwysi. Am yr honnir fod y Iluaws yn mynd, tybia llawer fod yn rhaid iddynt hwythau fynd gyda'r llu- aws. Yr unig ddadguddiad rydd eu hymadawiad i ni yw fod yna lawer o rai j gwan wedi dod i fewn i'r eglwysi. Gwyl- ) iwch y rhai a ddywedant—Wele'r llu- aws." I Gwelwch weithiau nifer o'ch cymyd- j ogion, cyd-ieuenctyd, yn mynd i ym- bleseru ar y Sabath, yr ydych chwithau yn cymeryd eich denu ganddynt, ac yn troi yn eich hoi pan oedd eich gwyneb i gyfeiriad gwell. Meithrinwn nerth. Danghoswn ein gwroldeb moesol trwy fod mor ffyddlon a phrydlon ag fyddo bosibl i ni yng ngwasanaeth Ty Dduw. Eto, pan welwn y lluaws ar ddiwrn- i odau arbennig yn mynd i'r trefydd heb unrhyw amcan mewn golwg heblaw rhodio'r heolydd gyda'r dorf, edrych yn y ffenestri a wisgwyd i hudo dynion gwan, ac efallai fynd i leoedd amheus, nac awn gyda hwynt. Gwnawn gynnyg naill ai ar aros gartref i ddarllen llyfr da, neu fynd am dro i unigedd gwlad i fwynhau swynion natur, neu os mynner i brydferthu o gwnipas y ty a'r ardd. Dichon mai caled fydd gwneud y cynnyg, ac ar ot ei wneud y teimlwn mai ychydig oedd y mwynhad. Ceisiwch unwaith, ceisiwch eilwaith, a thrydedd gwaith, ac yn y man chwi a deimlwch fod i chwi fwynhad nas gwyr y dorf am dano. Os methiant hollol fydd eich ceisiadau, os na fedrwch fwynhau llyfr da, os na fedrwch fwynhau swynion natur-can yr adar, prydferthwch y coed a'r meusydd, a murmur y nant; os na fedrwch ymddifyrru trwy brydferthu o gwmpas cartref, peidiwch a dweyd hynny wrth neb, yr ydych mewn cyflwr gresynus-fel pysgod marw mewn Hit neu ddail gwywedig yn y corwynt. Ymwrolwch, byddwch wyr. j JOHN WILLIAMS. Frondeg, Glais. —
Eisteddfod Tabernacl, Caer-…
Eisteddfod Tabernacl, Caer- fyrddin. (Parhad.) Pryddest y Gadair—"Gelynion Cymru Fydd." Derbyniwyd tair pryddest, yn dwyn y ffugenwau Ysbryd Glyndwr, Nissien, a Mor o Fawl i Gymru Fydd. Rhaid mynegi mai dipyn yn siomedig yw'r j gystadleuaeth, er fod yma bryddest wir deilwng o'r gadair. Y prif reswm am wendid y cerddi yw mai "Gelynion Cymru Sydd" a drinir. ac nad oes yma olwg eglur o'r maes a awgrymir, na phortread dychymyg byw o'r ystad sy'n aros y genedl. Sylwir ar y pryddestau yn y drefn a ganlvn :— j Mor o Fawl i Cymru Fydd Anodd yw gweled priodoldeb y ffugenw, os nad yr ystyr yw mai ffugenw ydyw mewn gwirionedd. Pryddest ferr, a go ddi- awen yw hon. Eiddil yw' r iaith, yr odl- iadau, a'r meddyliau, ac o r braidd y mae yma olwg ar Gymru Fydd na'i gelynion. Gwelir ansawdd y gerdd oddiwrth unrhyw bennill. Wele'r ped- werydd: "0: Gymru hoff, beth ddaw o'th Gymru Fydd Tra'th feibion yn anffyddlon iti sydd ? Bu farw'r s61 gwladgarol yn eu bron, Gadawant lanau'th barch ar grwydrol don, Gan anwybyddu harddwch dy borth- laddoedd, Lle'r adeiladwyd cychod goreu'r nef- oedd, 0 Gymru dlos, y nos ddaw i'th ffenestri, Tra'th blant yn gwrthod ysbryd dy glogwyni." A welwyd y fath bentwr o gymysgwch, er dydd daearu'r awenydd o'r felin agosaf at Abergwili 1 Baich y bryddest yw i Gymru fod yn ffyddlon iddi ei hun, a chenir hynny goreu y gellir, eithr prin y mae donn, heb son am for, o fawl. Ysbryd Glyn Dwr: Pryddest ferr eto sydd gan Ysbryd Glyn Dwr. Dech- reua gyda darn yn y mesur diodl-darn sydd yn frith gan wallau iaith a ther- fyniadau gwan, ac nid yw'r awenydd- iaeth nepell oddiwrth ryddiaith agos o hyd. Wedi nodi gelyn neu ddau i Gym- ru, eir ymlaen, dan odli, at y fyddin sy'n gweithio o blaid Cymru, heddyw. Y mae yn y darn hwn rai llinellau digon difai, a nifer o rai go ddiraen; a rhyf- edd yw'r bwyll odl yn y cwpled hwn: rhai fel ser y nen Oleuant yn ffurfafen moes a Hen." Collir golwg ar y pwnc, o hyn i'r di- wedd, a gorffennir drwy annog Cymru i ymbaratoi i'r gad. Pryddest bur gyffredin yw hon, ar y cyfan. Nid oes fawr swyn ynddi, na nemor o nerth a cheinder awen. Hwyrach mae'r peth nesaf at farddoniaeth ynddi yw'r diweddglo. Nissien Y mae gan Nissien gerdd sy' gyhyd a'r ddwy arall gyda'u gilydd. Y mae ei hyd hefyd yn fwy awenyddol, a threthir hen chwedlau brad Cymru i roi min ar y byrdwn, o ganiad i ganiad. Y mae'r iaith yn goethach yma, ac anfyn- ych y torrir ar y gyfaredd gan linellau cloff, neu derfyniad egwan, neu Jbriod- ddull estron. Rhaid ychwanegu nad yw hyd yn oed y gerdd hon mor llwyr ar y testun ag y gallasai fod. Eithr y mae'n fwy testunol o lawer nag un o'r ddwy gerdd arall, a cha'r maes bron yn llwyr iddi ei hun, yng ngraen ei harddull, pur- deb ei hiaith, a chyfanedd a newydd-deb ei chynllun. Cadeirier Nissien. GWILI.
i Cyngor Cwmdu. I
Cyngor Cwmdu. I CLOC Y DRE. Mewn cy far fod o'r Cyngor beth amser yn ol gahvyd sylw at y priodol- deb o gael cloc i'r dre. Nid am nad oedd pawb yn gwybod yr amser na phrinder clociau yn y lie, on d am nad oedd y dre yn gyflawn heb beiriant 0 r fath a lie addas i'w gadw. Bu rhai or Cynghoi wyr encyd cyn hynny yn Llundain, ac yn rhyfeddu o flaen y cloc mawr. Dcth i'w bryd wrth syllu ar y Big Ben mai efe oedd yn cyfrif yn rhannol os nad yn hollol am fri y Brif-ddinas. Wrth ddychwelyd i edrychent allan er gweled a oedd clociau ielly yn y prif drcfi ar y ffordd. Gwelent rai, a chlywent ereill yn taro'r amser, ac weithiau dychii-iygent hynny gan awydd i wneud eu damcan- iaeth yn wir mai anhebgor yr oes oedd cloc y dre. Profodd grym dadl a brwdfrydedd y Llundeinwyr o blaid y cloc yn an- wrthwynebol. Tueddai rai i ymbwyllo er sicrhau barn y bobl ar y mater, ond tawelwyd hwy pan hysbyswyd fod y bobl i gymeryd eu barn hwy. "Ni yw'r bobl a'r Cyngor," chwedl y cad- eirvdd. Penderfynnwyd cael cloc. a chodi twr i'w oso d ynddo yng ngolwg cyrrion eithaf y cwm. Dechreuwyd adeiladu y twr, ac aeth y gwaith rhag- ddo'n hwylus. Nid oedd son am ddim ond am y cloc drwy'r holl le. Gwneid darpariaethau helacth ar gyfer dydd y dienhuddo. Ag eithrio ambell i gecryn direswm yng ngolwg gweddill, teimlai pawb fel plant pan font yn edrych ymlaen am fyned i "Ldwr y mor." Pan ddaeth y dydd hir ddisgwyl- iedig, yr oedd gwraig y cadeirydd yno, a'r prif wragedd ereill gyda hi mewn pali, a sirig, a syndal. Ni fyddai yn ddoeth amgrymu eu bod yn cystadlu am edmygedd yr edrychwyr. Perthyn y gwendid neu y rhinwedd o gynyrchii cymeradwyaeth i'r ddau ryw am ei fod yn wreiddiol i'n natur ni. Annoethach fyth fyddai awgrymu i neb led-feddwl tynnu sylw oddiwrth y cloc ati ei hun, ond ymysg llawer o'r "ladies" bu j mwy o son am y gwisgoedd hynny nag am ddim arall y dyddiau canlvnol. I ran gwraig y Cadeirydd y dis- gynnodd y gorchwyl o gychwyn y cloc mawr ar ei yrfa orchestol. Teimlai ami un yn eiddigedtts wrthi y funud honno. Arni hi y tremiai pob llygad, ac wrthi y disgwyliai pob calon; mewn gair, hi oedd y byd i gyd ar y foment, Y foment nesaf yr oedd pedwar wyneb ly cloc yn y golwg a'r olwynion vn symud, a banllefau byddarol y dorf enfawr o edrychwyr yn adsain trwy Gwmdu na chlywsid mo'u cyffelvb erioed. Wedi hynny, ymneillduwyd | i ddathlu yr amgylchiad yn y dull cyffredin hyd oriau man y bore, a phob un wrth fyned adref yn bwrw golwg ar y cloc, nid yn gymaint i weled yr amser ag i weled ei fod yn parhau i fynd. Os digwyddodd rai o honynt obeithio iddo aros gan feddwl i hynny gymylu ychydig ar ogoniant arwres y dydft, yn orfer y j bu hynny, canys yr oedd y cloc ym mynd a mynd a wnaeth o ddydd i ddydd, ac o nos i nos, a mynd oedd tafodau gydag ef wrth son am dano. Parhaodd y cloc i fynd hyd pen yr wythnos pan y safodd. Aeth yn wbxvb trwy'r lie y diwrnod hwnnw, ac aeth pawb yn gall wrth geisio dyfalu yr achos iddo sefyll. Credai rhai yn ddi- amheuol mai peth rhad ydoedd; ereill mai ar awyr llychlyd Cwmdu yr oedd y bai, a chredai rhyw ychydig of- ergoelus i ryw un ei felldithio. Galwyd y Cyngor ynghyd mewn brys. Buwyd yn ymgynghori yn bwyllog ac yn gall am oriau, tra'r holl le yn aros yn bryderus am eu dyfarniad mewn blys ac ofn rhag ymyrryd o ryw anfad-ddyn ag ef. Safai heddgeidwaid wrth y drws yn aros y gorchymyn i gychwya ar y gwaith o'i roi yn y cyffion ar arch y clerc. Nid oedd galw am ddim o'r fath, gan y barnai'r Cyngor fod hynny yn amhosib gan na fu neb yn y twr, chwaethach gyda'r cloc er y dydd y decheuasai ddweud yr amser. Dywedodd pob un ei farn. Barnai y cyntaf mai ar y twr ei hun yr oedd y bai, nad oedd yn beraith unionsyth. Cofiai am gloc saith niwrnod ei dad, los symudid ef o'i le fod helbul yn ei gylch i'w osod i weithio. Dywedai ei dad fod yn rhaid iddo sefyll yn "per- pendicular." Y casgliad y deuai iddo y byddai'n rhaid ail adeiladu'r twr. Adgyfododd crybwylliad am yr hen gloc saith niwrnod lu o adgofion i'r lleill, a dechreuwyd eu hadrodd i'w gilydd nes myned o'r Cyngor yn debyg i gwrtini'r Simne Fawr yn un o fythynnod anghysbell y wlad. Cofiai tun am gloc ei dad yn sefyll, a'i dad yn brysio am noson ddrychinog i ymofyn am hen Iuddew oedd yn byw yn y pentref cyfagos. Hwnnw yn brysio yno yn oriau pell y nos a helynt mawr yn y ty. WTedi edrych o hono ar ci olwynion, yn rhoi olew arno, a'i gychwyn fel cynt, ac yn codi chweugain am ei lafur. Awgrymai un arall y gallasai marwolaeth neu amgylchiad o'r fath yn yr ardal effeithio arno. (Chwerthin.) Nid mater i chwerthin ydoedd, ebai, oblegid cofiai un adeg pan oedd nifer •yn yr ardal yng nghyffiniau yr afon i bob ceiliog yn y lie golli ei gan. Par- odd can y ceiliog i un arall feddwl am offeryn yr eglwys yn peidio gweithio, a'r pentrefwyr yn priodoli hynny i ysprydion drwg, ond wedi chwilio yn cael allan mai adar oedd yr ysprydion yn nythu ynddo. Fel yna treuliwyd oriau difyr ond difrifol uwchben mater safiad y cloc. Yn y diwcdd, cododd y Cadeirydd lar ei draed, a dywedodd ei bod hi yn bryd dirwyn y drafodaeth i ben. Er syndod i bawb cynygiodd Thomas Dupe, yr aelod dros adran y Pcnhwnt, iddynt adael y cloc lie yr oedd i rydu a phydru. Ymhellach, i renti y twr i ryw showman i wncud He i lithro j ynddo o i fyny i'r gwaelod fel y gwelid yn y ffeiriau. Yn y fel hyn I llwyddid i adfer peth o'r arian a j wastraffwyd. Ar hyn, wele'r Cadeir- ydd ar ei draed yn ei alw i drefn gan adgofio yr aelodau mai amcan y cyf- arfod oedd nid rhenti'r twr, ond gyrru'r cloc yn ei flacn. Cynygiwyd eu bod yn gwahodd y gwneuthunvr yno i weled ei waith a rhoddi cyfrif am i dwyII. Yn hytrach, rhag i hyn ei dramgwyddo ei wahodd yno i egluro yr achos iddo sefyll. Ar hyn v cytun- wyd. Daeth y dyn yno ar yr awr a'r dydd a drefnwyd, ac aeth yn syth i wetcd ei gloc. Y mhcn ychydig funudau yr ocdd ym mynd, pob olwyn yn troi, a phob cvnghorwr yn troi gyda hwynt i ddiolch yn lie bygwth i'r dyn caredig o Lundain am ei ymwared. Ond ni chymerai y gwr hwnnw ddiolch, er iddo dyfod oddiwrth wyr mor urdd- asol a Senedd Cwmdu. Cewch dalu am hyn, ebai, oblegid ni chytunais a chwi i ofalu am dano. Talwn gyda phleser, ebai'r Cadeirydd, ac yr ydym ni yn arfer talu'n dda. Erbyn hyn gwawriodd arnynt iddynt esgeuluso penodi swyddog y cloc. Digwyddasai yn ol y ddiareb, fel arfer, "Call wcdi digwvdd." Ni fuont ynglyn a pheth 'o'r fath o'r blaen, ac ni wyddent lai nad perpetual motion oedd eiddo doc y dre i fynd nes dirwyn amser i ben. Cynhyrfwyd Cwmdu unwaith yn rhagor gan hysbysiad yn gwahodd ymgeiswyr i ddewis dyn o'u mysg i warchod y cloc a'i gadw i fynd. Gyrr- wyd gair cyfrinachol at wneuthurwr y cloc, ac yntau yn ateb yn gyfrinachol yn cymeradwyo dyn o Lundain. Dyli- fai'r ceisiadau i fewn dydd ar ol dydd yn cynnwys hanes gwrhydri ym myd clociau Cwmdu na wybuwyd am dano o'r blaen. Credai pob un yn ffyddiog y dewisid ef, ac edrychai i gyfan- soddiad pob llun ar gloc y cai gyfle arno er paratoi i ofalu am Gloc y Dre. Pan ddaeth dydd y penodi, daeth y gwr bonheddig o Lundain. Cafodd ei olwg, ei iaith, a'i ymddygiad ddylan- wad anorchfygol ar y Cyngor, ac etholwyd ef yn unfrydol. Aeth blwyddyn heibio, a'r cloc ym mynd yn ddiatal. Codwyd ei gyflog, a phender- fynnwyd dewis cynorthwywr idclo, Sais arall o Lundain. Yn awr, ca ei holl amser i gadw'r doc i fynd, a'i gynorthwywr i'w gadw yntau i fynd. Gymaint yw dylanwad gwyr y cloc ar Gwmdu, fel y maent yn dysgu siarad Saesneg fel Saesneg Llundain, a'r Cyngor yn siarad Saesneg Llundain, a phawb yno yn ymfalchio fod doc a Saesneg yno fel sydd yn Llundain. TEGERIN. Cwynir na ehlywid fawr o seiniau y delyn yn ystod y Xadolig. Yn y dydd- iau a fu byddai mewn bri yn ystod prif wyl y flwyddyn, fel yr uchelwydd a'r gelynen. Heb yr offeryn cerdd a nod- wyd gwnelai Cymru wylo deigryn. lIy- dei-wn y daw mwy yn fedrus ar ei thanau, am y gwnelai hyny help i gadw y Gymraeg yn fyw a llanw llawer bwthyn a swyn cenedlaethol. Mor hyfryd gwrando y telynor neu y delyn- ores yn tynu o 'i thanau felusion nodau cerdd nes bywhau ein meddyliau a'n calonau. Hyderwn y gwna mwy 0 rieni gael gan eu plant gymeryd at ddeall ei phwrpas yna gellir disgwyl ei chlywed yn fwy mynych fel yn nyddiau j ein tadau.
Advertising
o FOR PRICE LIST. USt MMEE NDING G BELTS and USE BIFURCATED RIVETS. the i?rorg5. Neat and OF all local Trcll- rnongers. or sen(i I for bnx (,,4rsortf'?i? to- T" Rive' (o.. L' d
|0 Dreforis.
0 Dreforis. » Cynhaliwyd cyfarfod gwobrwyo plant yr Ysgol !Sul yn Seion, Treforis, nos Sadwrn, Ion. 10. Cyflwynwyd Beibl liit-dd a thystysgrif i'r ffyddlonaf yn yr ysgol, a thystysgrifau i'r lleill. Rhodd- wr y tystysgrifau a'r Beibl oedd Mr E. John, Caemawr. Bwriada ef ac un arall, Mr. 1). Davies, Pleasant Street, wneyd yr un ueth am y dwy flynedd sy'n dod. ( afwyd cyBtadleuaethau mewn c'anu, adrodd, traethodi, a bardd- oni yn yr un cyfarfod. Dyma bennill cydtuddngo) i'r pwlpud: Twr cadarn y Gwirionedd Yw'r enwog bwlpud gwiw, Lie saif o'i fewn genhadon hedd I draethu meddwl Duw Ar hwn ceir llyfr y llyfrau, Sy'n cynwys bywyd byd, i A'r nefoedd fawr yn gwylio'r sedd, Tan waeddi hedd o hyd. Yr awdures oedd Mrs James, Seion. Y cydfuddugwr oedd Mr Trefor Lewis, Seion. Beirniaid y canu oedd Mri. Henry Thomas a Melville Roberts, Tre- foris. Beirniaid yr amrywiaeth, Mri. H. Howells a Joseph Lewis, Treforis. Llywydd, Mr D. Thomas. Cyfeilyddes, Miss Amy C. Tihbs, Ynysforgan. Caf- w.yd cyfarfod rhagorol. Achos Newydd i'r Bedyddwyr yn Llansamlet. Cyfarfu pwyllgor jkglyn a'r achos uchod yn Llwyfeni-palas hardd Mr. Aaron., Ynystawe, nos Iau, Ion. S. Ar 01 llawer o siarad daethpwyd i'r pen- derfyniad: "Ein bod yn awgrymu i eglwysi'r dosparth godi ysgoldy newydd yn Llansamlet, a'n bod yn gofyn i Gwrdd Dosparth Abertawe gydweith- vedu yn y mater, ac i fod yn rhannol gyfrifol am y draul. Llywydd y pwyllgor oedd Mr Aaron. Diolchwyd iddo ef a Mrs. Aaron am eu care dig- rwydd yn ein croesawu i'w ty i gynnal y pwyllgor. Dyma deulu sy'n ceisio byw eu crefydd yn y byd ac yn eu car- tref yn gvstal ag yn yr eglwys. Llon- gyfarchwyd Miss Aaron am ei llwydd- iant N-li y byd cerddorol.
Advertising
Stewarts yn Clirio. Y Gwerthu wedi Dechreu   ?B ?m? ? 3l]/ mr lUi W If NoPay- ¡ ill M ■hUS |l Dros 20,000 o ddefnyddiau gwisgoedd a'u pris wedi gostwng o 34/ 30/ 25/- a 20/ i 13/3. Pris isel," meddwch. Ie ond hysbysiad da. Dug i ni gwsmeriaid newydd—boddlona'r hen—ceidw'r lle'n glir-ceidw ein gweithdai i fynd, a'r dvvylaw'n ddiwyd ar adeg sydd fel rheol y tawelaf yn y flwyddyn. Wele i chwi rai llythyrrau o gymeradwyaeth heb eu ceisio. Credwn y cytunwch a ni eu bod yn siarad drostynt eu hunain gyda golwg ar werth y nwyddau. Ein hunig anogaeth i chwi yw, gelwch yn gynar. Yr ydym am eich bnddloni, ac fel y gwyddoch, yr hydiau goreu a'n gyntaf. 2 Years' Wear. Grimsby. Dear Sirs, I have just discarded the Suit which you made me during your January Sale two years ago for 13/3. I have worn it continually for 23 months, and being a joiner it has had some rough wear. Yours truly, C.H. 3 Years' Wear. Middlesbrough. Dear Sirs,—I have pleasure in letting you know that I am still wearing the suit I purchased in January, 1910. This is wonderful wear for any price, let alone your price of 13/3. If anybody wants to know the value you give refer them to Yours truly, J. T. W. i Years' Wear. Preston. Gentlemen,-I bought a Suit (13/3) from you four year ago, and am still wearing it. It' s the best suit I ever had at such a price, and believe me, I am perfectly satisfied with it. Yours sincerely, G.N. Oni fydd y Wisg yo gweddu ni fydd rhaid i chwithau dalu Dyna'n ffordd ni, ac telly y mae llawn foddlonrwydd i chwithau yn sicr. Os na eilwch alw, bydd yn dda gennym anfon patrynau i chwi, ynghyda chynllun. syml o hunanfesuriad, a llinyn mesur yn rhad trwy'r post i'ch cartre. t:- 'a..a'\ Y Brenin Deilwriaid, 6 Canon Street, AbelldaPe; Oxford Street, Mountain Ash. (Branches in most principal towos between London and Aberdeen).