Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Llythyrra Sion Sana.:

I Nodion o Rymni. I

EISTEDDFOD GLYNNEDD Y NADOLIC.

Byr Hanes.

Mudiad y "Boy Scouts."

|Taith i Lydaw. t

News
Cite
Share

Taith i Lydaw. t GAN GLANLLYW." I (Parhad.) I f Teimlad 0 Unigedd. I Ac er tramwy o honof rai o'i chym- oedd a'i glynnoedd anhysbell. Teimlwn i wastad fod gennyf gwni difyr. Yr oedd ) y defaid a'r wyn yn fy adwen. ac nid I dieithr oeddwn i'r adar a'r pysgod. Teimlwn anian yn agos ataf i'm dyddanu fel un o'i phlant, ond daetli 1 teimlad o unigedd llethol drosof ar gai (quay) San Malo'r bore hafaidd hwnnw yn Awst ynghanol tyrfa "0 bofcl a siar- adai am y cyflymaf, a minnau wrth j gwrs yn dybied eu bod yn siarad yn gyflymach nag yr oeddent yn wirionedd- ol. Clywais am ffrenshan o'r blaen, ond dyma hi yn awr. Bu swyddogion y I Llywodraeth yn dirion a mwyn wrth wneyd eu gwaith o arolygu'r luggage, I neu fel y dywedant hwy baggage. Cef- > ais fy hun yn rhydd. Rhaid oedd brys- io am y Coleg yr oeddwn i dreulio rhai j wythnosau ynddo mewn Ysgol Haf i ddysgu'r iaith, neu yn hytrach gymaint ■ o honi a ellid yn yr amser, a rhaid cyd- nabod y dysgir mwy o'r iaith mewn mis yn y wlad ei hun nag mewn chwe mis adref. I PENNOD II. 1-1 San Malb. j i Dyna'r fturf leol ar gynhaniad yr enw gyda'r acen ar y sill olaf. Hen dref front brydferth ydyw San Malo, a cliyda llaw onid oes gwrth-ddywediad yn hynny, megis y clywais hen gymeriad ys- mala yn fy mhlwyf genedigol yn son am bersonoliaeth hardd ryw wr, Oti, oti, mae e'n fochyn o ddyn glan." Dyna'n union ydyw'r dref hon. Saif ar graig yn ymestyn i'r mor a muriau trwehus o'i chwmpas. Gellir synied am eu trwch pan ddealler y gellir gyrru cer- byd llydan dros y rhodfeydd sydd ar eu pen. Yn wir, gallai dau gerbyd fynd heibio i'w gilydd heb i'r naill orfod aros a dweyd wrth y llall, fel y dywedai dau gar o Shir Gar, oedd yn berchenogion trwynau go hirion, wrth gwrdd eu gil- ydd, Rhaid gofalu nad awn yn erbyn ein gilydd neu bydd crac dychrynllyd." Amgylcha'r muriau hyn, gyda'u rhod- feydd hyfryd, y ddinas. Pleserus yd- oedd mynd am dro drestynt a gweld y llu ynysoedd sydd o gwmpas ymhob man a syllu ar y bau anferth yn ymestyn i gyfeiriad trwyn Gronin gerllaw Can- cale, a meddwl mai tudraw i hwnnw mae bau Mont St. Michel, a chartref y Norman ddaeth i Gymru fel estron a'i raijb am dir, ond a goncrwyd ac a wnaed cystal Cymro a neb n y wlad. Edrych- wn i'r cyfeiriad arall a chanfyddwn bwynt ar ol pwynt yn estyn ei big i'r mor nes collwn Cap Trehel, y pwynt eithaf, mewn niwloedd yn y mor. Odditanom bron gwelir Dinard ffas- iynol, Parame wych a San Servon glyd. Maesdrefi prydferth San Malo ydyw'r rhai hyn, ond fel llawer o ferched eraill, talach, lletach ac amhich eu plant ydynt na'u mam. Bu'r muriau hyn yn fantais fawr ac yn angenrhaid i'r dref yn nydd- iau'r brwydro a'r rhyfela, dyddiau y goresgynwyr ffprnig i,'r morladron en- byd; ond erbyn heddyw troant yn rhwystr i'w chynydd a'i dadblygiad. Da yw nodded i'r ieuanc, ond os noddir gormod try'n anfantais. Rhaid i fywyd wrth gyfle i ledu ac ymeangu. Fel bo dyn, felly tref. Gwireddir hyn yn San Malo. Nid oes lie iddi dyfu. Cyfyng- wyd hi o fewn i'w muriau ac arhosodd heb gynyddu fel yr arhosodd Reuben rhwng y corlannau, tra mae ei chym- dogion Parame, San Servan, a Dinard wedi lledu eu pebyll ac estyn cortynnau eu preswylfeydd. Os attaliwyd hi i ledu ei hesgyll gan y muriau ithfaen, gwnaeth ddefnydd helaeth o bob modfedd o dir bron o fewn i'w therfynnau. Gosododd dai ar bob dernyn. Edrycha fel pe bai wedi glawio tai. Maent ar bennau eu gil- ydd, yn ami heb drefn a hynny yn unig o herwydd prinder tir. Dywedir fod yr Hollalluog wedi rhoi cymaint o dir yng Nghymru fel pe gwastheid eu mynydd- au a'u bryniau y byddai yn gyfandir mawr. Paciodd Duw ef mor dyn o fewn ychydig arwynebedd rhag ofn i'r Saeson ac estroniaid eraill ei ddwyn. Ni phac- iwyd tir yng Nghymru mor dyn ac ni ddodrefnwyd tai y Cymry mor llawn o gelfi ag y paciwyd San Malo a thai. Nis disgwylid ffyrdd llydan mewn lie o'r fath. Pe gwneid, arosai siomiant mawr i'r disgwyliwr. Strydoedd culion iawn, iawn wedi eu llorio yn dda gan mwyaf, neu fel y dywedem yn blant, eu pavo'n biwr. Gwneir lie i ddwfr lifo yn yr ochrau, a gadewir iddo redeg un- waith y dydd, a thra y llifa bydd pob un | yn brysur yn dysgyb y bryntni o flaen ei dy, a dyna lanhad strydoedd ar ben. Gellir dyfalu felly nad ydyw yn un o'r dinasoedd glanaf, ac fod arogl heb fod yn ber yn beth rhad iawn. Clywais ddweyd lawer gwaith wrth arogli ciniaw dda y byddai darn o fara gyda'r arogl yn bryd da. Ni fydd awydd am fara wrth arogli fferylliaeth strydoedd San Malo. Er hyny i gyd gellir ei galw yn dref fechan brydferth iach. Chwyth awelon iach y mor o bob cyfeiriad trwy eu heolydd culion gyda meddyginiaeth yn eu hesgyll. Mae swynion lawer ynddi i wahanol fathau o ddynion. Mae'n ganolfan ar- dderchog i weld y lleoedd sydd o'i chwmpas a'r wlad oddiamgylch, ond mae digon o swynion ynddi ei hun. Os mai rhialtwch ofynir ceir digonedd os nad gormod o hono yn ei thai difyru ac I ar eu strydoedd. Os chwenychir gwych- der gwisgoedd, ceir hynny ar ei thraeth aur ac yn ei gerddi tlws. Pe dymunir sylwi a syllu i ffenestri siopau gellir gwneyd hynny gyda'r un rhwyddineb yma a gartref. Os yr eir yno gyda dy- muniant am gerddoriaeth ceir digon o'r gelf gain o flaen y gwestai cyhoeddus yn yr hwyr, ac o natur mwy cysegredig yn yr Eglwys Gadeiriol yn y bore. Bodd- lonir yr hynafieithydd yma. Ca gyfle i olrhain y gorphenol a chyda dychymyg I i'w ail alw yn ol ac adrodd rhai o'i ben- nodau cudd. Nid yw'r arwr-addolwr heb ei allor. Ceir hwynt yn nhy Cha- teaubriand sydd yn awr yn westy cy- hoeddus, ac yn ei fedd ar Grand Be, ynys fechan gerllaw ellir gyrhaedd ar draed pan fyddo'r Ilanw allan. Pe byddai'r teithiwr yn anfoddlon ar seigiau felly, onid oes digon o ramant a rhyfyg i wneyd i waed yr eofnaf garlamu I yn ei wythienau, ac i wallt y dewraf sefyll ar ei hen. yn y chwedlau a adroddir am y mor-ladron a ai allan ¡ oddi vma ar eu teithiau o anturiaeth. San Malo ydoedd amddiffynfa gref y gwyr hyn. Hi fu cryd Bourdonnais, Duguay-Tronin, Surcouf, ac eraill. Onid II oddiyma y cychwynnodd Jacques Car- tier ar ei fordaith i ddarganfod Can- ada? Erys Duguay-Tronin a Cartier yn arwyr i'r oes bresennoL Dangosir lie bu'r cyntaf yn pseswylio ac yn cyn- llunio ei anturiaethau lliosog, a chenir clodydd yr olaf yn ddiderfyn. Dinas yn llawn amrywiaeth ydyw. Treuliwyd rhai wythnosau dedwydd ynddi, a chawd cipdrem gyntaf i fywyd cenedl tebyg ac eto'n wahanol i ni, ac yn y tebygrwydd y mwyheir ac v pwysleisir y gwahaniaeth. 11

Pontardawe.I

Nodion o Frynamman. I

Advertising