Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Llythyrra Sion Sana.:

I Nodion o Rymni. I

EISTEDDFOD GLYNNEDD Y NADOLIC.

Byr Hanes.

Mudiad y "Boy Scouts."

News
Cite
Share

Mudiad y "Boy Scouts." Byddai yn dda genyf gael sylw neill- duol rhieni ein gwlad er dangos iddynt y perygl o adael i'w bechgyn gael eu swyno i ymuno a mudiad Y Boy Scouts," ac aniryw o fudiadau arall o 'r natur filwrol a gerir yn mlaen dan wa- hanol enwau. Rhoddir llawer i esgusawd cryf dros gario yn mlaen y mudiadau yma, a chyfaddefwn fod yna ddaioni i'w ddeill- iaw oddi wrth ymarferiadau iachus yn y gwahanol chwareuaethau, a thrwy rodio ar hyd a lied y wlad. Ond nid allwn lai na sylweddoli fod y gwahanol fudiadau yma yn datblygu yspryd milwrol, peryglus. Mae y nodweddion milwrol yn eglur iawn ymhlith y Boy Scouts." Ac yn ymhellach, cynorthwy- ir y mudiad gan ddynion a alwant eu hunain yn "wlad garwyr," ac eto byddai rhyfel yn fuddiant materol iddynt. Fel y gwyr y mwyafrif, y mae popeth ynglyn a'r "Boy Scouts" yn filwrol-eu trefniant, eu dillad, eu termau, eu dril- iau, a'u dyledswyddau. Trwy hyny gwneir agweddau a thueddiadau milwr- ol y galluoedd cryfaf yn eu bywyd. Mae gan Syr R. Baden Powell lyfr yn dwyn yr enw, Scouting for Boys," a hwn ydyw rheol y mudiad dan sylw. Mae yn y llyfr hwnw bethau cyffrous. a ffeithiau sydd yn profi ein gosodiad i'r earn. Ar dudalen 269 mae yna bara- graph ar Pa fodd y mae yn rhaid i ni ddal ein gwlad," a'i amcan ydyw gwasgu ar feddwl y bechgyn y priodel- deb o ddysgu driliau ac anelyddiaeth, "fel y galloch gymeryd eich lie ymhlith gwyr eraill eich gwlad i amddiffyn ein gwragedd a'n plant a'n cartrefi, os bydd hyny yn angenrheidiol rywbryd." Ar dudalen 273 cyfeirir at "elynion" Prydain Fawr. Heb os, golygir yr Al- l maeniaid fel y "gelynion." Mae y paragraph yn gorphen gyda brawddeg hollol nodweddiadol o gorph y llyfr fel hyn Am y rheswm bydd pob Prydein- iwr ag sydd a gronyn o ddewrder ynddo yn barod i gynorthwyo i amddiffyn ei wlad." Sylwer mai "ei wlad" ddywed- ir. Felly pan y byddo Johnni Bach Jones yn myn'd i ffwrdd i ryfel bydd yn gallu dyweud yn wirioneddol, Yr wyf yn myned i amddiffyn fy ngwlad." Y math hyn o ffwlbri gwladgarol leinw lyfr Baden Powell o glawr i glawr. Gellid difynu llawer yn rhagor, ond ni chaniata gofod. Digon ydyw dweud mai am can y llyfr yw planu yr yspryd milwrol yn ein hieuengctyd. Dadau a mamau, gochelwch y diafol yma. Nid yw mudiad y 'Boy Scouts' yn ddim rhagor nag ymgais i gael dynion i yuit'estru yn y fyddin, ac amcan y dyn- ion sydd tu ol i'r gymdeithas yma ydyw cael cofrestriad milwrol i rym. Cyn y gallant wneuthur hyn, mae yn rhaid iddynt gael bechgyn ieuainc ein gwlad mewn cydymdeimlad a phethau milwr- ol. Gwladgarol wir Mae Arglwydd Roberts a Chymdeithas y Gwasanaeth Cenedlaethol yn edrych ac yn disgwyl yn ffyddiog ar i eglwysi, capeli, ac Ys- golion Sabbothol y wlad fagu milwyr i fyddin Ein Brenin. Ac nid ydynt yn edrych yn ofer. Yr wyf wedi bod yn ceisio meddwl beth ddywedai Crist ped ymddangosai ar y ddaear yn y dyddiau presenol a chael ein heglwysi yn arfer eu bechgyn ieuainc yn y grefft o saethu i ladd. Anghofir y gorchymyn dwyfol, "X a ladd" gan lawer sydd yn proffesu bod yn weinidogion Eglwys Crist. Mae saethu mwnwyr aur y Rand yn ystrydoedd Johannesburg yn profi fod gwasanaeth y fyddin yn unochrog, yn afresymol felly. Defnyddiwyd y milwyr gan yr awdurdodau i saethu y mwnwyr oeddent allan ar streic yn herwydd amodau anoddefadwy. Drwy y lofrudd- iaeth yma yn Johannesburg collodd llawer gwraig ei gwr diwyd, a liawer plentyn diniwed ei dad gofalus. Saeth- wyd, hyd yn nod wragedd i lawr gan filwyr Prydeinig. Saethwyd un wraig pan yn dyfod allan o faelfa gyda'i dau blentyn. Pan welodd dyn ieuanc, o'r enw Labuschange, yr erchyllwaith yma. aeth allan i'r heol, a chan daflu ei freich- iau i fyny, dywedodd, "Saethwch fi yn eu lie er mwyn Duw, gadewch y gwrag- edd a'r plant yn llonydd." Gallai yr heddgeidwaid ei gïlleryd ymaith ped ewyllysient, ond lladdwyd ef hefyd, a chafwyd fod yna gymaint a phedair-ar- ddeg o fwledi yn ei gorph. Llofrudd- iwyd y dyn ieuanc gan "ein milwyr ni." Meddyliwch hefyd. am y pump-ar- hugain eraill diamddiffyn a lofrudd- iwyd. Nid yw rhyfel yn ddim amgen na uffern. Nid yw saethu dyn i farwolaeth yn ddim amgen na llofruddiaefti. Dy- wedodd Leo Tolstoi, Nid oes yna un weithred mor groes i ewyllys Duw a lladd cvd-ddyn. Rieni Lymru, os rhaid arfer y wialen fedw. gwell yw hyny na gadael i'ch plant dyfu i fyny yn filwyr. Nid yw mudiad y "Boy Scouts" yn ddim amgen na "ffactri" i greu ysbryd milwrol. Mudiadau o'r un nodwedd yw y 'Church Lads' Brigade' a'r 'Cacfet Corps.' E. ARONFA GRIFFITHS, F.F.C.C. I Grove House, Abercrave.

|Taith i Lydaw. t

Pontardawe.I

Nodion o Frynamman. I

Advertising