Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Llythyrra Sion Sana.:

I Nodion o Rymni. I

EISTEDDFOD GLYNNEDD Y NADOLIC.

Byr Hanes.

News
Cite
Share

Byr Hanes. AM MRS. MARY RICHARDS, KBENEZER, ABERDAR. Haedda coffa y ddynes dda hon ei gadw yn anniflan-mwy na chertio ei henw a'r farmor drud. Ni wiw ei ymddiried i ofal traddodiad ansicr. Bygythia treigl amser fallu gwaith y cyn a'r morthwyl. Ni fuda memrwn v teulu yr enw i'r pellter a deilynga. Distewi wna parabl ei phlant, a maes to law ni adewir neb yn weddill o'i llinach i gymaint a chynanu ei henw. Bydd maes ei chyfathrach wedi ei adael yn anghyfanedd, a hiliogaethau a golodant na ybuant o honynt hanu o lwynau un odidoced a hon. Ond os daearwyd ei chist yn y gweryd, ni chaethiwir persawr ei bywyd yn y griain. Derfydd yn ddlau yr atgof am ei phryd a'i gwedd, a gwvwo, ysywaeth, wna'r ywen ddy- noda fan ei phriddell. Dileuir yr ar- graff oddiar faen ei bedd, a malurir y inaen ei hun yn fan-lwch. Ond parthed ei pherarogl, ni chyffyrddir a ''dim o hono gan angeu a'r bedd. Erchodd Duw i gerub i warchae hwnw yn ofalus ddydd ei hangladd, ac hefyd ar fin ei bedd derbyniodd y gwynt gommiswn i'w wasgar hyd byth. Ar adenydd y gwynt y ceidw Duw goffadwriaeth y cyfiawn. Mae'r awelon a'r chwaon hefyd ymhlith tystion Duw. Hwy ydynt ei weini- dogion ffyddlonaf i gludo perarogi ei saint. Tramwyant hwv "vm mhen mil o oesoedd maith," can hoewed a'u hymdaith gyntaf trwy'r gwagle. Pan fydd esgyrn y cyfiawnion yn falurion dan dyweirch yr oesau, bydd yr awel- on pryd hynny yn ymdonni'n rhydd ac ysgafn yn yr entrych, ac arogl peraidd duwiolion y ddaear fydd drymaf ar eu min. Er i fTyddloniaid Scion farw, erys eu perarogl yn awyrgylch y byd dros ganrifot-dd dirif. Ni "thynghedwyd ccnadwri eu hywyd digymhar i ddi- flanu yn' niwloedd yr oesau. Daw ei delfrydau yn ffeithiau o dan eu baneri a'u coronau ar waethaf anghofrwydd y byd o'u henwau, ac ond, odid, fawr na fydd ein harwres yn ddylanwad cryf yn ffurfiad a datblygiad pob nef a daear newydd grëuir eto gan Dduw ar ei ddelw yn y byd hwn, yn ogystal ag yn y byd a ddaw? Er cuddio ei gwyneb ym mynwes y gweryd Haws claddu yr heulwen na chladdu ei pharch; Rhy gyfyng yw'r beddrod i rinwedd ei bywyd, Rhy fechan fai'r Wyddfa yn glawr ar ei harch." 1.—YN Y GNOL A THWYN-Y- CARNO. Ganwyd Mrs Mary Richards mewn anedd-dy di-a'r-ffordd o'r enw y Gnol, yn Rhymni, Gwent, Swydd Fvnwy, Chwefror y iofed, 1838. Siglwyd ei chryd a'r ysgythredd y graig ac yn swn chwibanau'r gwynt. Ar lethrau noeth y fangre honno y derbyniodd ei chorff lluniaidd gadcrnid ei adeilad- waith. Nid oedd Gwent yn wlad y gan pan anwyd hi, ac oblegid hynny ni chawsai meibion a merched yr hen fynydd-dir garw namyn bugeilio'r praidd borent ar ei lechweddau llwm, a nyddu eu gwlan ar droell yr hen rodau coed. Nid oedd y crwth a'r delyn, y berdoneg a'r organ wedi gweithio eu ffordd i fwth y gwerinwr Jiac i luest y .'tlawd pryd hynny; eiddo'r yswain a'r pendefig oedd y dodrefn cerddorol, ac felly ni hudwyd llancgesau'r Gnol i adael deadellau'r defaid a beudai'r gwartheg am beror- iaeth y gerdd a rhialtwch y ddawns a'r faswedd. Gwell oedd ganddynt hwy ymddiried yn eu miri iach ar gopa'r bryn tu cefn i'w hanedd na chellwair a'r drwg lechai yn swn soniarus y dympan, y nabl, a'r symbal. Plant y mynydd oedd plant y Gnol, ac nid rhit.. o hudoliaeth ddenai eu bryd oddiar fawredd ei gadernid. Yr oedd- ynt wedi eu magu yn rhy agos i'w fynwes i'w traed dramwy ar ddisber- od i gyfeiriad y gwastadedd. Pwy wyr nifer ac ansawdd y delfrydau awgrymodd yr hen fynydd-dir iddynt wrth ei weld yn plygu ei goryn ac yn lledu ei freichiau dros fargod ei bwthyn oedd yn llechu yn nghysgod ei ystlvsau? Ar ei fynwes lydan wrth weld y cornentycfd yn cusanu eu gil- ydd dros eu ceulannau, ac wrth lifo a dawnsio ar welyau eu gilydd ar dywydd tymhestiog yr etifeddodd Mary Richards ei syniad am werin- iaeth gyntaf. Oddiar ei goryn uchaf gwelai longau yn hwylio dros gulfor yr Hafren, ac ar ddiwrnod teg gwelsid brigau deri'r Fenni fel rhamant dlos dros dwyni y Rhos a'r Howi. Yr ucheldir hwnnw roes iddi olwg ar eangder bywyd. Cael dringo y rhiw- iau trwy guwch y ddrychin oedd ei gwynfyd. Cerddodd ganwaith i be- gwn y Gnol i gusanu glesni'r Asur, ac er nas cafodd estyn ei min i gyffwrdd a gwefusau'r lasnen, cafodd ymarfer ei hysgyfaint ac i rymusu ei hysgeir- iau, a bob yn dipyn daeth pob twyn a ehlogwyn i wybod am y doll y mynasai ei challineb dalu am wrid ei gruddiau. '.rculi°dd lawer orig yn oerni'r hin eiraog ar y drumau moel i anadlu'r awel bêr. Gwelsid hi ar hwyr-ddydd haf yn rhodiana hyd lwybrau'r ffridd. Nis arbedodd ddisgvblaeth i ddad- blygu ermigau ei phabell bridd. Marchogai ar ei merlin i'r felin a'r faelfa, a magai ewmau ar y siwrne. Rhwbio i wydnu ei chyhyrau wnai wrth droi y du yn wyn yn yr anwedd uwchben y fadell olchi. Nid cywilydd oedd ganddi i :yfrNx-Nlo'r anifail, a'i yru a'r cert i'r chwarel i gyrchu mieni i adeiladu teioedd ei rhiaint, neu i gyrchu p\\n o lo o frig y mynydd i'r (nol. Ni fu'n drais arni i ddigymod a chyrn yr aradr mewn taro. (1 barhau.)

Mudiad y "Boy Scouts."

|Taith i Lydaw. t

Pontardawe.I

Nodion o Frynamman. I

Advertising