Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Llythyrra Sion Sana.:

News
Cite
Share

Llythyrra Sion Sana. Mishdir Golycudd, Ma llawar siort o honon ni yn y byd yma, ys dywad yr hen wraig hynny pan welws hi lawar siort o griaduriad yn y" shew. Ma rhai o honon ni'n rhy ddof a rhai'n rhy wyllt. Y dyn w i'n leico yw'r dyn cymhetrol—y dyn sy'n cerad canol yr hewl ag yn mynd yn i bwyea'n rispectajol. Dynon felny sy'n cadw'r byd yn y balans. Ma rhai mor araf a dot fel na fyse'r byd bytli yn symud; tyse pawb run fath a nhw. Ma nhw felsa nhw wedi dod i'r byd i gysgu am no swath a wath gyda nhw shwd i atal pethach ar u hoi yn y bedrwm. Wi'n j cofio hen frawd yn gwed i hrofiad yn y gyfeillach, a dyna odd un sylw yn i arath a. bob amRar-" lodgars y'n ni yn j y byd." A gwed y gwir i chi. O'n i | ddim yn leico'i syniata fa i gyd. er nag odd gytag a ddim ond rhyw ddau ne dri o honyn nhw ar i elw. Ma galw'n hiinen yn lodgars yn hunen yn lodgars yn y byd yn cydnapod fod gan rywrai efill haw] i'r llefvdd gora yn y ty, a rv'n ni'n gwpod yn iawn ta nesa i'r drws yw lie lodgar. a ma raid i iddo fe dalu ticyn go lew am gal aros fanny hed. Hynny yw, wvddoch chi, os na fydd ticyn o ras go low yn y land ledi. Ma landledis da yn y byd yma. ond nid yn amal ma lodgars yn cwrdd a nhw. Dynon dof, araf, sy'n folon bod yn lodgars. Mae gyta ni ddynon erill, ma rheiny'n rhy wyllt. Tyse rhain yn cal u ffordd nhw fysen wedi hala'r byd i ddistryw cyn pen pythewnos. Ma nhw'n gneud cyment o fes a gallan nhw. ond pan ddaw hi'n smash ma nhw wedi gofalu u bod nhw'n saff ol rt -irtied. Nawr wi'n gwpod fod llawar math o ddvnon g wyllt- yto. Ma rhai yn eithafol o gydwybod, er nag yw u cydwybota nhw ddim llawar j o werth, ond fe ellir madda iddyn nhw ma rhywfath o gydwypod yn well na dim, a falla fod rhyw iws i'r bupol hyn. i Ond ma dynon gwyllt erill i gal; dynon sy'n gneud u hunen yn wyllt am i bod hi'n talu iddyn nhw. Dyw'r rhain ddim j mor wyllt na mor eithafol ag y'ch chi'n meddwl. Ma nhw'n gwpod beth ma nhw'n nend. On i'n gwed mwn llythyr o'r bl&n fod rhai'n cymryd mantas ar y j werin pan fydd hi'n cysgu. Ma rhain yn cymryd mantas arni pan fydd hi'n j wyllt. Mi neith y rhai hyn arian o bo- j path. Os bydd ty dicyn yn dlawd mwn j rhyw stryd, mi tron e'n arian yn y fan. Os clywan nhw ryw blentyn bach yn chio isie bwyd, a chenta pwy mor wag fydd i fola bach e, nhw of alan fod 'u pocetu nhw'n llawnach. Ron nhw ddim j llawer u hunen at ddim ond ma nhw'n gwpod shwd i neud arian o bawb. Allach feddwl fod y rhai hyn yn wall- go wyllt bob amsar; ma nhw fel hyri- can. Os buodd ganddyn nhw gydwypod ma, nhw wedi i rhoi hi yn u pocetu ys llawar dydd. Dyma'r dynon sy'n gallu poeri baw ar bopath. Wi'n synnu witha y fath dyfnderoedd o faw all fod yn 'u coluddion nhw. Ma rhain yn plastro'r byd a baw. Ma pob prygcth- wr yn hymjbyg ond nhw ag un ne ddau arall. Ma popoth roir i'r werin yn ddi- werth, ag yn wath na hynny, ond y pethach fysen nhw'n roi tysen nhw'n | gallu. Ma nhw'n poeri baw ar bum swllt yr hen bopol, ag yn poeri baw ar yr un rows y pumswllt; ma nhw'n poeri baw ar yr inshiwrans, am nag yw e cys- tal a'r un na allan nhw ddim i roi e; ma nhw'n poeri baw ar ddatgysylltiad, yn poeri baw ar Ymreolaeth yr Iwerddon, ag felly yn y blan yn ddiddiwadd. Er u bod nhw'n siarad yn dduwiol iawn wrth boeri, wi'n specto taw toman o faw y'n nhw'n hunen, a na ddalan nhw ddim llawar o whilo idd u hanas. I Rhowch i fi'r dyn cymhetrol sy'n gallu parchu dynon erill sy'n treio gneud rhwpath ag yn gallu barnu peth- ach yn ol u gwerth a'u teilyngdod genta o ble byddan nhw'n dwad. SIOX SANA. I

I Nodion o Rymni. I

EISTEDDFOD GLYNNEDD Y NADOLIC.

Byr Hanes.

Mudiad y "Boy Scouts."

|Taith i Lydaw. t

Pontardawe.I

Nodion o Frynamman. I

Advertising