Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Y Stori.

Advertising

! Eisteddfod Bodringallt.…

I Ystrad Mynach. i

I Beirniadaeth. j

- Nodion Heolycyw.

News
Cite
Share

Nodion Heolycyw. GAN "CREUDDYNV CYNGHERDD GLASUROL. Nos Sadwrn, Ionawr iofed, 1914, cynhaliwyd cvngherdd flynyddol eglwys Bethel Newydd. Tua'r adeg hon o'r flwyddyn y mae trigolion y cylch yn edrych ymlaen at gyngherdd (Bethel, gan ei bod erbyn hyn wedi gwneyd enw iddi ei hun ymhlith y cyngherddau sydd yn cael eu cynal yn y rhan hyn o'r wlad. Yr oedd y pwyllgor wedi sicrhau gwasanaeth arti.stes" sydd a'u henwau rai o honynt yn adnabyddus yn Nghymru a Lloegr, a thrwy hynny cafwyd y capel wedi ei lanw. Yn absenoldeb y cad- eirydd apwyntedig, Dr. D. J. Thomas, C.C., Nantymoel, cadeiriwyd gan Mr. John Evans (Cenin). Anfonodd Dr. Thomas rodd sylweddol at y treuliau. Awd drwy y rhaglen fel y canlyn:- Pedwarawd, Regular Royal Queen," gan yr "Artistes." Unawd, "There's a Land," gan Madam Garnett. Unawd, "Dear Heart," gan Miss Maggie (Davies, yn neillduol o dda, a gorfu iddi ail ymddangos ar y llwyfan. Unawd, The Last Watch," gan Mr NN-. Morgan Griffiths. Canodd mor idda fel y bu raid iddo ganu yr ail waith. Unawd, "Neptune Toll," gan Mr Edward Evans, ac encor iddo yn- tau. Adroddiad gan Miss Gwen Thomas, "Y Plentyn a'r Ci." Gorfu iddi hithau ail ymddangos. Deuawd, "A Night in Ven ice," gan Madam Garnett a Mr Griffiths. Anerchiad gan y cadeirydd yn ddiddorol. Un- awd, "Thy Sentinel am I," gan Mr Evans. Deuawd, "In Springtime," gan Madam Garnett a Miss Davies. Unawd, "Golden Silence," gan Madam Garnett. Bu hithai dan orfod i ddod eilwaith, a chanodd "Y Deryn Pur." Unawd, "The Enchantress," gan Mis^Davies. Adroddiad gan Miss Gwen Thomas, r' Breuddwyd.^ Deu- awd, "The Battle Eve," Mri Griffiths ac Evans. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, y can- torion, yr adroddes, a'r berdonyddes, ac hefyd i Mrs George Hawkins am roddi lluniaeth i'r "artistes gan Mr J. L. Morgan.

Nodion o Abertawe.