Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Y Stori.

News
Cite
Share

Y Stori. DRYCHIOLAETHAU DAN Y DDAEAR. Stori Atebodd Ei DKjen. [Gan MANDREL CWT.] Gweithiai Rhys Puw a Deio Twm Sion mewn glofa yng Xghwm T- Drifft oedd i'r lofa. Er mwyn yr anghyf- arwydd, gellir dweyd fod drifft yn rhywbeth rhwng pwll a lefel. Ewch i lawr yn syth wrth raff i bwll; ewch i fewn ar y gwastad i lefel; o ran hynny, esbonia'r gair ei hun, chwedl ein hathraw ni yn yr Ysgol SuI; ewch ar oriwaered i'r drifft, neu acha slant chwedl y bechgyn yn rhai rhannau o Forgannwg. Hen awff o ddyn oedd Rhys Puw, a neb yn hoffi cydweithio ag ef. Yr hyn a'i gwnai yn gydymaith anniddan oedd ei hobi o adrodd straeon cyffrous am ddrychiolaethau a welsai yn y tan- ddaearolion leoedd, a lleisiau rhyfedd a glywsai yno ar adegau. Gellid tybied ei fod yn gynhefin iawn a chyfran fawr o'r byd anweledig. Adroddai y cwbl mor. ddidaro, a chydag osgo mor ham- ddenol fel pe na fyddai dim yn ddieithr neu yn anghyffredin yn y pethau rhyf- edd yr honnai ei fod yn dyst byw o lawer o honynt. Ffynnai y gred y gallai Rhys fod mor gartrefol ymhlith ysbrydion a drychiolaethau ag oedd ymhlith ei gyd- weithwyr. Siomid llawer pe clywent i Rhys Puw grynnu hyd yn oed ped ym- ddanghosai y gwr du yn ei ffurfiau erch- yllaf iddo. A chofiwch, Mr. Gol.. mai nid yng ngole'r dydd, neu yn y gadair wrth y tan y dywedai'r pethau hyn, ond i lawr rai cannoedd o lathenni islaw wyneb y tir. Yno y mae yn ddigon tywyll ac yn ddigon pruddaidd, a chael y wedd oreu ar bopeth a ddigwydd o'ch cwrmpas. Y mae'r glowr hefyd yn fyw i bob symud- iad, Fwn. a chynnwrf. Clyw dwrw cwymp o bell. Clyw dwrw a chlecian a chracio fuasai'n ddychryn i rai anghyn- efin. Daw swn o'r glo weithiau fel er- gydion o wn. a phryd arall o'r nenfwd. Achosir hyn oil gan y gwasgu a'r ym- ollwng a bar yr aflonyddu ar y glo. Ad- nejbydd y glowr profiadol y cwbl, ac nid ofna ddim, pan yn ei iawn bwyll. Ar- osasai yr amhrofiadol mewn dychryn wrth glywed llawer o'r pethau hyn, ond cai glywed y profiadol yn ei ymyl, yn hamddenol, yn rhoddi rheswm syml am y cwbl. Ond meddylier am Rhys Puw, a phob twrw a chrac, a chlec. a symud, yn ei adgofio o rhyw ddrychiolaeth anaearol a welsai, neu ryw drychineb a ddigwydd- asai, ac yn adrodd y cwbl fel gwirion- edd anwadadwy wrth ei gydweithiwr. Odid na wnai dychymyg hwnnw y lofa megis Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinlys Isaf." Xid rhyfedd fod cymdeithas Rhys yn difa nerth ac iech- yd ei gydweithwyr y naill ar ol y Hall. Fel rheol c-merid hwy yn glaf; yna ar- hoseut allan am wythnos i wella, ac i feddianu eu hunain. Nid oedd berygl yr elent i weithio eilwaith gyda Rhys Puw. Ymffrostiai Rhys yn y dylanwad an- hygar hwn o'i eiddo. Gwawdiai rai na fedrent ddai hanesion am bethau y bu raid iddo ef sefyll wyneb yn wyneb a hwynt. a phethau nas gwyddai pa mor fuan y byddai raid eu hwynebu eto Gyda'r awgrym olaf teimlai rhai eu nerth yn diflannu, ac o'r braidd na syrthient i lawr a chuddio eu hwyneb- au yn y llwch. Daeth diwedd, er hynny, i oruchwyl- iaeth dychrynfeydd Rhys Puw yn Nrifft y Graig. Dec-hreuodd un ameu ai cym- aint ddewrder Rhys a'i swn. Gwyddai hwnnw nad oedd y ddau beth hyn, fel rheol, yn mynd gyda'u gilydd. Aeth Deio Twm Sion i gydweithio a Rhys, a hynny, mae'n debyg, trwy gyd-ddeall a goruchwyliwr y lofa. Gorchfygwyd Rhys Puw yn waradwyddus, ar ei dir ei hun ac a'i arfau ei hun. Ni chai y straeon cyffrous fawr ddy- lanwad ar Deio Twm Sion, ac nid han- ner boddlon oedd Rhys i hyn, ac ym- daflai iddi gyda mwy o ynni nag erioed i Iunin dychrynfeydd yn y dyfnder du, tywyll. Un prynhawn trefnodd y ddau i ddychwelyd i wefthio'r noson honno. Gwnai y glowyr hyn yn ami pan nad oedd deddf AVytil Awr. Eu hamcan oedd gwneud y "gwaith marw" yn ystod y nos, fel y byddent yn ddi- rwystr i lanw glo yn ystod y dydd. Gwaith roarw yw yr hyn nas dwg elw uniongyrchol i'r ewmni, iiiegis rliipio'r top, neu dorri'r gwaelod. er mwyn cael y ffordd ym laen i wynejb y glo. Tori gwaelod oedd gwaith Rhys Puw a Deio Twm Sion y noson hon. Dyma'r tro cyntaf iddynt fod yn gweithio'r nos gyda'u gilydd. ac vr oedd Rhys Puw yn benderfynol o beri cryndod yn nghoes- au Deio cyn y bore. Ac os gallai straeon, o'r fath a ddywedai Rhys, wneud y Iota yn lie oeraidd yn ystod y dydd pan oedd swn gwaith a lleisiau eu gilydd yn help i glowyr, beth am danynt yn y nos, pan nad oedd ond Rhys a Deio yn y gwaith ? Y mae yn y lie ryw ddieithrwch rhyfedd ar adegau felly i'r rhai sydd fwyaf cynhefin ag ef. Stori neu ddwy o eiddo Rhys Puw fu- asai yn ddigon i'w wneud yn fedlam gwirioneddol i lawer un. Aeth y ddau i waered i'r drifft a throisant i "heading" ar y dde. Ymhen ychydig daethant at ffordd yn troi oddiar hwnnw drachefn. Ar awgrym Deio Twm Sion boddlonodd Rhys Puw i adael eu blychau bwyd ar wahaniad y ffyrdd (parting) yn y fan honno, fel y gallent ddyfod yn ol i le iach a diogel i gael tamaid a mwynhau mvgyn. Wrth "ole noeth" y gweithient yno. Cymer- asant bob un ei forthwyl a'i darad ¡ (ebill) i dyllu bob un ei dwll. Adrodd- odd Rhys pan wrth y gorchwvl hwn amryw straeon o'r nodwedd arferol. Awgrymai pob crac a chlec rywbeth iddo ef. Unwaith daeth swn fel ergyd o wn o'r glo, a syrthiodd ychydig o'r brig. Nid oedd hyn ynddo ei hun yn ddim. ond gwelodd Rhys ei gyfle. Bachan," meddai, ma riport yna yn gwneud i fi gofio am Morgan Wmffra druan. Rodd e'i gwitho yn lefal Cwm Hir. Rodd e a bachan arall wedi mynd nol i witho'r nos, fel wyt ti a finna heno ond fod y ddau yn gwitho, un ymhob talcan. a nid gyda'u gilydd fel y'n ni. Ond roen nhw yn y ddau dal can nesa'u giddyl, wrel' di, yn tori gwaelod. Roen nhw wedi trefnu i fynd miwn run nbswath, fel bysen nhw yn gallu gwitho yn swn 'u giddyl. Roen. Morgan wrthi'n twlli jist fel wyt ti fanna nawr, a fe glywe ryw swn yn y ffas o'r ty ? iddo—riport mawr a rw ?l path yn c?;,Po. Feddyhvs e ar y fyned hynny ddim am y peth. Odd e wedi clwad run peth gannodd o witha. Y peth nesa glywsa fe odd rhywun yn wilia yn y ffas, a feddylws e taw i bartnar e odd yn dod lan trw'r ffas ato fe, a fe wetws rwpath wrtho fe. Ond mi aped- ws i Jbartnar e o'r hewl arall. Gretws Morgan nawr fod yna rwrai erill wedi dod miwn atyn' nhw, a fe ddishgwlws mlan i'r ffas, a beth wyt ti'n feddwl welws e, Deio?" "Dyn a wyr beth weti di welws e falla iddo weld y d-l." N-age, bachan. Fe welsa bedwar ne bump o ddynon yn y ffas, yn troi -carrag ag yn symud dyn mas yn gorff. Chas e ddim ond amser i droi o'i ffordd nhw. Fe'i gwelws nhw wedi'n yn rhoi'r corff mwn dram ag yn mynd ag e ma's. A dyna odd yn od wel' di. rodd e'n gwpod nag odd dim dram wag ar 1 hewl e, ag yn gwpod hefyd nad odd dim ceffyl na dyn yn y gwaith y noswaith hynny, ond fe a'i bartnar. Fe glyws i bartnar e'r swn a mi waeddws arno, ond rodd Morgan wedi cal gormod o ofan i wed dim. Fe retws hwnnw ato fe, ond fe fuws yn hir iawn cyn ca'l gair ganto fe. Wedi i Morgan ddod dicyn bach ato' hunan a gwed yr hanas, odd dim rhacor o waith y noswath hynny. Fe ath y ddau ma's gyntad a galla nhw, a Morgan yn gwaeyd na netha fe ddim stroc o waith yn y talcan hynny wedi'n. A nath e ddim. Ond rodd yn drueni nag ath e a'i dwls ma's gydag e. Fe ath miwn bore drannoth i mo'yn rheiny a wir i ti, rodd e'r noswath cyn hynny wedi gadal mandral gwaelod yn y ffas, fe ath i mo'yn hwnnw, a dyma hen batall, bachan, lawr ar i ben e a'i ladd e yn y fan. A mi ddigwyddws po- peth fel odd e wedi i weld e. Wyddot ti'n amal iawn ddim ble ma'r hen bad elli yma, na phryd dwan nhw ar dy ben di. Pan fydd y top yn swno fel cloch y Bala, fe ddaw rhain ar dy ben di heb roi dim arwydd. O's yna rywun yn wilia ar yr hewl arall yna Deio?" (I barhau.)

Advertising

! Eisteddfod Bodringallt.…

I Ystrad Mynach. i

I Beirniadaeth. j

- Nodion Heolycyw.

Nodion o Abertawe.