Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.

- - - - - - - ,-Yn Fan ac…

Ar y Twr yn Aberdar.

I-'-.! Bethesda, Abernant.

COLOFN LLAFUR.

ITrefforest a'r Cylch.!

I -'- - - -'-' ! CISTEDDFODAU…

I.Ar Lannau'r Tawe. i

News
Cite
Share

I Ar Lannau'r Tawe. i Blin calon oedd gennyf glywed am I farw y brawd a'r cyfaill John Hill, o Hills' Terrace, Ynystawe. Nid oedd yn iach er's wythnosau, a daeth y diwedd boreu dydd Iau diweddaf-ar ddydd ei I ben blwydd! Cyfaill mwyn a theim- ladwy oedd efe, a'i wen yn siriol a gwresog ar bob amser. Cyrhaeddodd y I 73 mlwydd oedd. Cydweithiais ag ef am dymor fel swyddog i Gymdeithas ( Ddirwestol Clydach a'r cylch, a chefais  ef yn weithiwr diwyd dros yr achos. Yr i oedd mewn cysylltiad agos a'r Glofeydd I Cwdwneadi. I Clywais fod y brawd Tom Davies wedi darllen papur diddorol iawn ar y testyn, Os byddaf byw," mewn cyfar I fod gynhaliwyd o dan nawdd Cym- j deithas y Bofcl Ieuainc yn Ysgoldy I Moriah, Ynystawe, nos Fercher diwedd- j af. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Thomas Thomas (gweinidog), al siaradodd y brodyr W. Aaron, D. H. I Lewis, R. Evans, a J. Hokins. Canodd Winnie Evans yn beraidd, a chanwyd yr offeryn gan Mary Aaron. Cynhaliwyd gyfarfod Uwyddianus o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol yn Ysgoldi Carmel, Clydach, nos Fawrth diweddaf, pan darllenwyd papurau galluog gan y chwiorydd Blod- wen Maybery ar y testun, "John Wil- liams y Cenhadwr," Hannah Williams ar "Deborah," a Jennie Bevan ar "Robert Marrisoo." Llywyddodd y Parch. J. M. Williams (gweinidog). Ar fy nhaith nos Fawi\!i diweddaf troiais i mewn i gyfarfod gynhaliwyd o dan nawdd Cymdeithas y Bobl Ieuainc yn Ysgoldy Calf aria, Clydach, ac yna clywais ddau bapur diddorol gan y brodyr Henry J. Rees (Down Street) a Tom W. Jones (Heolynant). Y cyntaf ar y testun "ilhai o Fendithion Selon," a'r olaf ar "Grefydd yr Aelwyd." Llywyddwyd y cyfarfod gan y brawd John J. Davies (Heolynant) a chym- merodd y chwiorydd Mrs. T. Valentine Evans a Mrs. D. Roderick, a'r Jorodyr John Davies (Heolynant), Ivor Jones (Heolygraig), Samuel Boundy (Waver- ley Street), a Llewelyn J. Davies (Rockfield House) ran yn yr ym- ddiddan. Adroddodd y brawd ieuanc Willie J. Roderick (ysgrifenydd) "De- ffroad y Werin" yn effeithiol. Trwy garedigrwydd dwy chwaer o'r gyntilleidfa, croesawyd plant Gobeith- lu Hebron mewn noson o wledd a chan yn Ysgoldy Hebron, nos Fawrth di weddaf. Daeth tyrfa o gynrychiolwyr ieuainc gobaith yr oes ynghyd, a mawr oedd eu hyfrydweh. Gwledd annys- gwyliedig oedd. Llywyddwyd y cyng- herdd uih nol gan Mrs. D. Eiddig Jones, ac awd trwy raglen ddiddorol gan y bobl ieuainc. Clywais fod y brawd am cyfaill Evan Llewelyn Davies, B.Sc. (Fardre Road), wedi traddodi darlith ardderchog a)' y testun Y Gwiredd o'r Anweledig ("The Reality of the Unseen"), mewn cyfarfod gynhaliwyd o dan nawdd Gym- deithas Eglwysig y C.E.M.S., yn Ysgol St. loan, Clydach, nos Lun diweddaf. Llywyddodd y brawd Edgar J. Russell. Clywaf fod P.C. Lewis, heddgeidwad o'r cylch, yn ymadael a Chlydach yr wythnos nesaf. Llwyddodd i gael gorsaf yn Nghas Llwchwr, ac a yno y Llun nesaf. Treuliodd tua dwy flynedd yn y cylch, a gwasanaethodd yn effeith- iol. Cefais ef yn garedig bob amser, a blin ydyw meddwl am ei golli o'n pfith. Y mae ei ymadawiad o Glydach yn golygu dyrchafiad iddo. Pleserus iawn ydyw i mi gofnodi or deiniad y brawd ieuanc a'm cyfaill Benjamin Evans, B.A. (o Goleg Bed- yddwyr Bangor), mab hynaf i'r Parch. T. Valentine Evans, Clydach, yn wein- idog i Eglwys Bedyddwyr Longsight, Manchester—un o eglwysi mwyaf pwys- fawr y ddinas. Cymmerodd yr ordein- iad le dydd Llun diweddaf, a lluaws mawr a ddaeth ynghyd i'r gwasanaeth. llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. A. E. Robinson (Grosvenor Street), ac efe ddechreuodd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio. Rhoddodd y brawd Benjamin Evans fynegiad clir a chadarn o'i gred, a phregethodd Prif Athraw S. Morris, M. A. (Coleg Bedydd wyr Bangor) y siars i'r gweinidog. Pre gethodd y Parch. W. Owen (Queen's Park), un o feibion Abertawe, yr hwn ôI ddechreuodd .bregethu yn Nghape! Gomer, ond yn awr yn un o bregethwyr enwog Manchester, y siars i'r eglwvs Offrymwyd yr urdd weddi gan y Parch. G. N. Williams (Chorlton). Darllen- wyd nifer o lythyrau oddiwrth weinid- ogion ac eraill a fethent fod yn bresen- 1 ol; yn eu mysg oedd llythyron oddiwrth Dr Witton Davies (Bangor), yn dwyn tvstiolaech uchel i Mr. Evans, m oddi- wrth weiiiidogion anghydffurfiol Clyd- ach, a'r Parch. D. Christopher Davies (Cenhadwr o Yalemba, ar launaur Congo). Llywyddodd y Parch. W Owen y cyfarfod croesawu gynhaliwyd yn yr hwyr. Siaradodd y Parch. T. Valentine Evans, tad y gweinidug ieu- anc, yn deimladwy, a darluniodd y cyf- arfod fel y foment mwyaf balch yn ystod ei lywyd. Gofynnodd i aelodau'r Eglwys ddangos eu cydymdeimlad gyda'V gweinidog ieuanc yn ei waith newydd. LIefarodd y Parchedigion oW. H. Morton, Hector Thomas, E. G. Cole, Cynghorwr Turner, a Alii. G. Owen, H. Hartley, T. W. Compton ychydig il'- iau priodol. Yn ystod y oyfarton (.V?w'yuodd y brawd (.eorge Da?es. ai rhan Eglwys Calfaria, CLYDACH bwrso ?ur i Mr Evans, a yioddn, brawd David Roderick nifer o lyfrai^ g^ei 1 LLwr iddo. Diolchodd Mr. L??i? eglwys yn Slade Lane am eu croesaw cynes, a datganodd ei bles >r r 1 cymaint. o weinidogion yn bresen-nol. Hyderai wneud yr oil oedd yn ei a er llwyddiant yr Eglwys a phregeth egwvddorion yr Efengyl yn onest ac yn ffyddlawn. Dymunaf lwyddiam, 1 m cyfaill yn ei weinidogaeth. LLEW.

Advertising