Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Gwahannod Llyfroniaeth y "…
Gwahannod Llyfroniaeth y Darian." GAN "WYDDONWY. I I Dvmunwn hysbysu'r darllenwyr— yn mhob cwr o'r wlad-y gallant gael unrhyw lyfr neu gylchgrawn y sylwir I arno yn y golofn hon drwy unrhyw I. ddosbarthwr o'r "Darian." Rhodder yr archeb i'r dosbarthwr lleol; a phan gyrhaedda'r archeb yma mynwn ninau weld ei fod yn cael telerau ar- ferol. Cyfeirier Gwyddonwy Evans, "Darian" Bookroom, Aberdar. -u_
[No title]
Mae Cyngor Dosbarth Mountain Ash wedi tynu yn ol y rhanau hynny o Ddeddf Oriau Siopau 1912 mor bell ag y mae a fyno hynny a gwerthu llyfrau, yn nghyd a stationery a "fancy goods." Er pan ddaeth y gyfraith hon i ryw nid oedd ryddid i newyddiaduron-ar ol un o'r gloch ganol dydd lau yn mhob wythnos, nac ar ol tua saith neu wyth o'r gloch y nosweithiaru eraill (ag eithrio nos I Sadwrn, pryd yr oedd yn ddeg o'r gloch)-i werthu un math o lyfrau, nac inc, na phapyr vsgrifenu. Yr oedd hyn yn gam ofnadwy a newydd- iadurwyr, allasent gadw'n agored faint a hyd fynent i werthu newydd- iaduron, ond a rwystrid i werthu pethau eraill ydynt lawn mor gyfreithiol ac arferol yn eu gal- wedigaeth hwy. ¡ Ymgymerodd Undeb Lleol y Xewyddiadurwyr a'r mater, a gwnawd apel unfrydol at y Cyngor gyda'r canlyniad a nodwyd. Mae symudiad tebyg yn y gwynt yn mhlith newyddiadurwyr Aberdar, Rhondda, Merthyr Tydfil, Rhymni, a manau era ill. A bydd yn dda i ddos- barthwyr y "Darian" ddeall y gall- ant drwy uno a'u gilydd a chael y mwyafrif i wneud apel at y local authority" yn mhob ardal er mwyn sicrhau yr unrhyw fanteision. Nis gallant wrthod lie bo unoliaeth. "What is EducatIOn" (2/6 net, Bell) gan Proff. Leather, C. B. Gwr cyfarwydd ag addysg yn mhob agwedd arno-corphorol, moesol, ys- brydol, a meddyliol; addysg er mwyn masnach, er mwyn byw, a thrwy fyw; addysg gan y Wladwriaeth— addysg pawb, yn hen ac yn ieuanc, y lluaws a'r ychydig. Llyfr yw hwn ddylai fod yn llaw pob un sydd yn byw wrth addysg, yn ymwneud ag addysg, ac yn teimlo diddordeb yn ei waith. Mae Mr. E. Phillips Oppenheim, y nofelydd enwog, wedi cyhoeddi cyfrol dan yr enw "The Lost Leader" (Ward, Lock, 7d. series). Dylai werthu yn dda yn Ne Cymru. Er mwyn y fantais feddwn ni o allu rhoddi awgrymiad, wnai egluro rhyw gymaint ar dywyllwch y testyn. Nid oes yma brinder "leaders," a phe chwilid, hwyrach y cawsid o hyd i rai yma ddylasent fod yn rhywle arall. Rhosydd.—Nid wyf yn siwr; ond mae'r "Veteran D. W. Lewis yn Mrynamman o hyd. Ymholwch; mae'n bosibl fod rhai o'i gryts ef yn dod heibio i chwi bob wythnos os nad bob dydd. Mae'n rhaid cael ffordd i'r "Darian ddod yno rywsut. J.D., Maesteg.—Ysgrifenwch at y Gol. i'r Swyddfa bydd yn dda gan- ddo glywed oddiwrthych, a bydd eich dymuniadau da yn galondid iddo. P. & S. —You have a good chance now to make the charge. Push the penny paper as the most profitable. Study this new move well: it will surely help you. Show the "Tarian" poster weekly-this will help you also. Get someone to translate these lines for you- "Can di benill mwyn i'th nain, Fe gan dy nain i tithau." This may appear charitable, but it is also business. Blaendulais.-Hyd nes y gellir cael cyfrinfa yn nes i chwi, pan nesaf yn Nghastellnedd ewch i siarad a Mr Hemmings, llyfrwerthwr, yn Queen Street. Mae yn bosibl y gall efe drefnu i chwi gael copi rhad bob wythnos. Yr wyf yn hollol o'r un farn y dylai'r "Darian" werthu'n dda yn Nghwm Dulais. Ymrowch ati. M.D.P.—Mae "Gardd Aberdar" allan o gylchrediad er ys blynyddau. Yr wyf fi wedi ei cheisio lawer gwaith, ond heb ei chael. S.G.—Gellir cael holl weithiau'r Parch. D. Oliver Edwards oddiwrth Mr. Evans, yn Swyddfa'r "Seren," Caerfyrddin. J.D.J.—Os nad yw ar y "sheet" yn argraphedig, rhowch "standing order" am dano i'ch "wholesaler." Gellir ei gael drwy Williams neu Smith. Ysgrifennwch eto: mae yma groesaw neillduol i "newsagents."
Advertising
"SAEZINB" BLOOD MIXTURE. Croen lach a Gwaed Pur. Dyna yr hyn y mae y "Sarzine Blood Mixture" yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth. fel yr Yankee Patent Medicines ond os blinir ,chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau, pen ddynod, &c., yn tarddu o waed drwg at ammhur. mynwch botelaid o "Sarzine Blood Mixture." gan y Druggist nesaf atoch, 1/11 a 2/9 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn chwanegol, odai wrth y Perchenog. HUGH DA VIES, Chemist, MachynUeth.
Jiwbili'r Tabernacl yn Nhreforis.
Jiwbili'r Tabernacl yn Nhreforis. ARAETH SYR BRYNMOR JONES. Yn Saesncg y siaradodd ef. I Diolchai am dderbyniad mor groes- awgar. Yr oedd yno nid fel A.S., ond fel un o honynt eu hunain. Ganesid fcf lai na milldir o'r fan. Pan yn chwech oed y lie addoli yr elai iddo oedd Libanus, lie y pregethai ei dad. Teimlai yn ddwys wrth wrando ar y geiriau caredig am y rhai a acthant o'r blaen. Gresyn nad arbedasid Mr. Joseph Da vies, Glyncollen, i weled Jiwbili'r Tabernacl. Gwnaeth gyfeiriad diddorol at j iwbili'r I uddewon bob hanner can mlynedd, a dychweliad eiddo a wystlasid neu a werthasid yn ystod y tymor hwn i'w berchenogion cyntefig neu eu teulu- oedd. Jiwbili o nodwedd arall oedd yn v -Tabernacl; llawenhau oeddent hwy wrth gael eu traed yn rhyddion o lvfetheiriau'r ddvled. Ceisiai rhai A-awdio Ynineillduaeth trvvv ddweyd nad oedd iddi orffennol, ond ymestynai gorffennol pob eglwys rydd a democrataidd yn ol at y democrat o Nazareth. Llwyddasai crefydd oreu lie y codasai'r bobl eu hunain yr achosion. Sarhad ar grefydd oedd dweyd y byddai dad- waddoliad yn rhwystr iddi. ARAETH MR. W. LLEWELYN WILLIAMS. Iechyd i'n hysbryd oedd clywed parabl Dyffryn Tywi mor groew ar ei dafod ef, ac ar faterion Cymreig nid oes mo'i well am greu brwdfrydedd. Y mae ef yn dal i garu Cymru a'i phethau. Teimlai yn gartrefol iawn yn y Tabernacl. Cymru, meddai ef, yn y canoloesoedd oedd y wlad fwy- af diwylliedig. Wedi hynny diryw- iasai yn fawr, erbyn dyddiau'r Ficer o Lanymddyfri, mewn moes a diwyll- iant, a'r Gymraeg mewn cyfhvr gresynus. Beth a ddigwyddasai ? Chwalu'r mynachdai oeddent yn gymaint gallu er daioni yn y wlad, a thraws-feddiannu eu heiddo gaia hynafiaid y rhai sy'n gwrthwynebu Dadwaddoliad heddyw. Argraffesid y Beibl Coron-llyfr rhad y pryd hwnw yn 1631 er budd y Cymry, ond yn 1851 yr oedd 1,500 o'r ddwy fil a argraffesid ar ol. 0 ba le y daeth i Gymru ymwared o'r cyflwr gresynus oedd ynddo? Nid o leoedd uchel ond o'r werin ei hun. Deffrodd gwerin Cymru i ymladd ei brwydr ei hun. Peth cymharol hawdd yw cael diwygiad yng Nghymru. A'r hyn 'sydd yn hynod yn hanes ein gwlad yw, er fod y tan yn rhwydd ei ennyn, y mae yn amhosibl ddiffodd y fflam. Yr oedd dvlanwad dynion fel John Elias a Herber ar gynulleidfaocdd yn annileadwy. Cychwvnodd un gcn- hedlaeth o Gymry wedi eu tanio symudiad na ddiflanna byth. YMNEILLDUAETH AT HAN- I FANTEISION. Bu adeg nad oedd hawl gan swyddog gwladol i fod yn Ymneill- duwr. Nis gellid cael trwydded hyd yn oed i werthu carrai esgid heb fod yn Eglwyswr. Bu holl allu'r wlad yn erbyn yr achosion Ymneillduol. Llwyddasant drwy'r cwbl. Ymfalch- ient yn awr mewn ysbryd o fen- dithio'r gwaith da ar fywyd a chym- eriad y genedl. DYLED CYMRU I YMNEILLDU- AETH. Ymneillduwyr roddasant fywyd mewn cerddoriaeth. Nid oedd canu corawl yn y wlad cyn eu cyfodiad hwy. Deuddeg rifai cor mawr yn Eisteddfod y Fenni yn 1830. Ym- neillduaeth eto roddes fywyd newydd yn llenyddiaeth y wlad. Nid oes genedl dan haul wedi gwneud y gwrhydri llenyddol a wnaeth Cymru. Yr oedd diwylliant yma yn eiddo'r werin. Canasai Telynog rai o'r darniau perffeithiaf, ac yr oedd ef yn 12 oed yn forwr; yn 17 oed yn lowr, ac yn y bedd pan yn un-ar-hugain. Gwenffrwd eto cyn ei fod yn 22 oed yn eyfansoddi can na fydd farw tra bardd yn bod. Beth a'i gwnaeth yn bosibl i greu fel hyn?—eu meddyliau oedd wedi eu symbylu, a'u diwvllio, a'u heneinio gan grefydd rydd Ym- neillduol. Heddyw yr oedd Cymru yn uwch ei breintiau nag unrhyw I wlad. Edrychai ar Jiwbili'r Taber- nad fel cysgod symudiad mawr a I chyffredinol. Diwedodd ei araeth ragorol trwy annog y bobl ieuainc i gofio aberth y tadau.
Gelli, Rhondda.I
Gelli, Rhondda. I Nos Wener, Rhag. 26ain, cafwyd gwledd o de a danteithion ym Mryn Seion, a daeth tyrfa ynghyd i'w mwyn- hau. Huliesid y byrddau yn rhad ac am ddim gan garedigion hael o'r eglwys. Gweinnyd wrth y byrddau er boddlon- rwydd mawr gan y gwragedd a'r merched. Cododd y wledd awydd am un gyffelyb eto. Arolygwyd y wledd gan ein gweinidog-y Parch. D. G. Evans. Y Sul diweddaf derbyniwyd un ar ddeg yn aelodau, ac adferwyd dau. Adferasid y cymundeb o'r blaen ddeg. Y mae agwedd lewyrchus ar yr achos— Daw r hen delynau adre." JOHN PARIIY.
Tabernacl, Treforis.
Tabernacl, Treforis. CYFARFODYDD Y JIWBILI. Rhoddais addcwid i Olygydd parchus y Darian y buaswn yn rhoddi braslun o weithrediadau Jiwbili yr Eglwys uchod, y rhai a gynhaliwyd Ionawr 1, 2, 3, a 4, 1914. Mae ef wedi rhoddi crynhodeb rhag- orol o'r cyfarfod mawr a gynhaliwyd nos Wener, pan y cafwyd gwleddoedd breision gan y pedwar cawr, Ar- glwydd Pontypridd, Syr D. Bryn- mor Jones, Mr William Jones (Arfon), a Mr Llewelyn Williams, ac yn sicr nis anghofir eu hareithiau gan neb a'u clywsant. Hwyrach y bydd yn ddiddorol i rywrai gael gwybod ychydig o hanes cychwyniad yr ymdrech olaf hon. Darfu i'n gweinidog parchus, y Parch. Emlyn Jones, hysbysu y bydd- ai yn ymddiswyddo yn Mawrth, 1915, ar derfyn ei 50 mlynedd yn y weini- dogaeth, ac y byddai yn dda ganddo weled yr holl ddyled wedi ei chlirio cyn hyny. Cymerwyd y peth i ystyr- iaeth, a phenderfynwyd myned at y gwaith ar unwaith, ac i geisio cyr- haedd y nod yn yr amser crybwyll- edig. Ffurfiwvd pwyllgor o bobl icuainc yr eglwys, ac ymwelwyd a'r holl aelodau. Yn ffodus, rhoddodd Mrs Davies, Glyncollen, ^"i.ooo er cof am ei phriod, Mr Joseph Davies, Y. H., un o ddiaconiaid yr eglwys. Rhoddodd y rodd dywysogaidd hon ysbrydiaeth i'r eglwys yn gyffredinol, fel mewn chwech wythnos o amser yr oedd £ 2,600 mewn llaw. Swm y ddyled oedd Z,2,200, felly gwelir fod ^400 yn weddill ar ol clirio yr oil. Penderfynwyd dathlu y Jiwbili ar un- waith, a gwnawd hyny yn deilwng o'r eglwys fawr a'r capel ardderchog sydd yn addurn i'r egwyddor wir- foddol mewn crefydd. Fel v canlyn y cynhaliwyd y Jiwbili DYDD IAU. Rhoddwyd te i blant yr ysgolion perthynol i'r eglwys, ac i'r holl aelodau a ddymunent ymuno, a dywedir i 1,200 ymgyfrannogi o hono. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfar- fod cvhoeddus, pan y cymerwyd rhan gan weinidogion y gwahanol en- wadau, ynghyd a lleygwyr parchus y cylch, y gweinidog yn gadeirydd. Cafwyd areithiau doniol ac adeiladol. Nid oedd ffin enwadaeth yn y golwg yn y cwrdd hwn, ond Ymneillduaeth semi ar ei gorsedd. Ym mhlith y lleygwyr, siaradodd Mr Oakley Wal- ters, Y. H., un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hwn a ddywedodd fod gwerth eiddo yr eglwys heddyw yn ^40,000, ac fod y cyfryw yn cael ei gyflwyno i'r bobl ieuainc i wynebu y dyfodol dros Iesu Grist. Dywedodd Air William Williams, Wern, Glan- wr, ei fod yn lion iawn i weled y ddylejd wedi ei chladdu, a chafwyd ganddo adgofion melus am yr achos yn yr hen gapel. Lihanus, aC yn y Tabernacl. Hefyd, siaradodd Mr Ben Rees, King's Cross, Llundain, brodor o'r ardal yma, yr hwn a ddywedodd eiriau tyner, caredig, ac adeiladol. Cyfarfod rhagorol oedd hwn. DYDD GWENER. Yn y prydnawn cafwyd pregeth Seisnig gan y Parch. J. Morgan Gibbon, Llundain, cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru. Pregeth gref, yn llawn o'r "optim- ism mwyaf gobeithiol. Y traddodwr Vn ei fan goreu, ac ar brydiau yn ysgubol. Pwysleisiai y ffaith ein bod yn byw mewn adeg ddifrifol, a bod yn rhaid i'r eglwys yng nghanol y cyfnewidiau i ddal yn bur i'w phen, a bod yn fyw i'w gwaith a'i chen- adwri. 0 berthynas i gyfarfod yr hwyr, diangenrhaid i mi ysgrifenu, gan fod y Gol. wedi gwneyd. Dywedwn hyn yr oedd Cymru Ymneillduol ar ei goreu ynddo, a'r Bedyddwyr, y Methodistiaid, a'r Annibynwyr yn cael eu cynrychioli ynddo gan Ar- glwydd Pontypridd, Mr William Jones (Arfon), Syr Brynmor Jones, a Mr Llewelyn Williams. Crefydd Cymru, dyheuadau Cymru, a go- beithion Cymru yn yr ystyr oreu oedd yn yr holl areithiau, a chodwyd y gynulleidfa anferth i frwdfrydedd angerddol. DYDD SADWRN. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y prydnawn, pan yr areithivvyd gan v Parch. H. Elfed Lewis, M.A.; ei irawd, y Prifathraw T. Lewis, M.A., B. D., Aberhonddu, a Mr Thomas Jones, Abertawe, cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Seisnig Deheudir Cymru. Cafwyd yn hwn eto y tan Cymreig yn amlwg, yr egwyddor wirfoddol yn y goleu goreu, a Chymru grefyddol yn ei swyn a'i symledd. Mae yr enwau uchod yn siarad drostynt eu hunain. Cafwyd gwledd. Yn yr hwyr pregethodd Elfed- "Edrych ar Iesu." Yn ol ei swyn ar- ferol a'i symledd urddasol, rhoddodd gyfeiriad i'r eglwys yn ei chyfnoq newydd ar ddechreu blwydyn. Yr oedd y gwlith yn drwm ar y macs vij y bregeth fyw hon. Bendith arni. Y SABBATH. Pregethwyd gan y Parch. H. Barrow Williams a'r Parch. D. J. Lewis, B.A., Tumble. Yr oedd yr Efengyl yng ngwisgoedd ei gogon- iant, a'r dylanwadau dwyfol yn ysgwyd y cynulleidfaoedd mawrion. Yr oedd dau gawr yn y pwlpud, a j Threfn yr lachawdwriaeth yn llosgi yn eu calon ac ar eu min. Methodd ugeiniau a chad lie yn yr hwyr; yn icr yr oedd 2,500 i fewn, ac hen emvnau anwyl Cymru yn cael eu canu gydag hwyl anghyffredin. Gwnaeth y j Cor ei waith yn odidog hcfyd. Caf- wyd ganddo, 0 great is the Depth"; How lovely are the Messengers," a "By Babylon's Wave." Sabbath i'w gofio oedd hwn j ym mhob ystyr, a diwcddglo ardder- chog i'n Jiwbili. Pan yn adolygu y cyfarfodydd, mae rhai pethau yn sefyll allan yn amhvg iawn. Nerth yr egwyddor wirfodd- ol; brawdganvch yr cnwadau Ym- neillduol; cariad y Cymro at ei iattli mewn pcthau crefyddol—yr oedd yr areithiau a'r prcgethau Cymreig yn codi v cynulleidfaoedd i gopaon bryniau gorfoledd; parch y Cymro j crefvddol i goffadwriaeth y tadau a'r gweinidogion-yr oed(I enwau yr hen ddiaconiaid a'r cyn-weinidogion fuont yn llafurio yn eglwys y Tabcrnacl- Thomas Jones athrylithgar; Herber fawr, ac Emlyn, y cerddor-bregethwr, yn tanio pob enai y mae y  d Wei, y mae y Jiwbili drosodd, a'r eglwys yn gwynebu y dyfodol yn wrol ac hyd- erus. "Ymlaen" yw ein harwyddair, a phenderfyniad yn ein calon i wneyd yr eglwys yn ganolbwynt dylanwadau dyrchafol a thragwyddol. Mae ideli hanes godidog, a phan y dywedwn fod rhif ei haelodau oddeutu 1,000, gwelir fod ei rhagolygon yn ardderchog. Mae Emlyn wedi treulio 44 o flynyddjfu yma, ac er yn hynaf- gwr bellach Ý mae yn fyw i'w waith, a thorf o bobl ieuainc gobeithiol, yn llawn o fywyd crefyddol, yn gwynebu y dyfodol gwyn. Yn yr Aipht yn hir yn griddfan, Cwyno buom ar ein rhan, Ceisiem ganu, Bryniau Canaan Dd'ont i'r golwg yn y man Heddyw dan ein traed mae'r "Bryn- iau Rhyddid yn yr ewyl sydd, Ninnau'n dawnsio a'n calonau Yn cyhoeddi "Toriad Dydd I TREFORFAB. i
It ; BeirniadaethI
I Beirniadaeth I I Ar Gyfansoddiadau yn Eisteddfod Tabernacl, Caerfyrddin. I CALAN, 1914. Traethawd—" Nodweddion Arbennig Gwroniaid Ffydd Llyfr yr Actau." Ni dderbyniwyd ond dau draeth- tawd, a diau mai siom yw hyn i'r pwyllgor, a'r Actau yn faes llafur Ysgolion Sul y Bedyddwyr. Dwg y traethodau'r ffugenwau "Addolwr Eiddil a Mab Diddanwch." Y maent yn dracthodau pur deilwng, er y gallasai'r goreu fod yn gywirach. Cymracg gwallus iawn sydd gan "Fab Diddanwch." Ni wyr mo'r gwa- h .] I "a' haniaeth sv r hwng "mae" ami, "ai" ac "a'i," ac v mae'r "h" yn dramgwydd parhaus iddo. Eithr nid dyma'i brif ddiffyg. Rhennir ei draethawd o dan raniadau priodol ddigon, ond ni wneir fawr cais at ddatblygu'r rhaniadau hyn, namyn cyfeirio'n ddiddiwedd at adnodau, yn null geiriadur, a dyfynnu adnodau yn eu crynswth, ac yna ychwanegu sylw byr neu ddau. Gwna'r traethawd hwn i ni feddwl am frasluniau Areithfa Mathetes, dro ar ol tro, a themtir dyn i ychwanegu ar ol pob adran y Manyler a geir yno. Y mae "Addolwr Eiddil" yn well lienor, ac er fod ei orgraff yn un bur ryfedd, y mae'n weddol gyson a. hi ei hun. Gallasai "Addolwr" adael allan rai o'i ansoddeiriau, ac ymswyno rllag defnyddio "pa" mewn brawddegau perthnasol. Priodolir ganddo fraw- ddeg adnabyddus Iago am ffydd heb weithredoedd i loan, ac nid dymunol yw sylwadau nawddogol fel "yr hen wron anwyl Paul," a'r cyffelyb. Wedi dywedyd hyn rhaid ychwanegu fod ymdriniaeth "Addolwr" o'r testun yn effeithiol a chyflawn. Y mae mwy o lawer yn ei bennau, neu dan ei bennau, nag sydd ym mhennau "Mab Diddanwch." Gwneir yma fwy na nodi nodweddion; ymdrinir a hwy yn ddeheuig. Ni all fod unrhyw amheuaeth am y goreu. "Addolwr Eiddil biau'r wobr. GWILI. (I barhau.) I = I
lMarwolaeth I I
l Marwolaeth I Y Parch. Hugh S. Williams, D.D., I Memphis Tenn., America. 0 Dowlais Gynt. I I Bu y gwr parchus a hyawdl uchod I farw Tach. 21, 1913. Tua deugain mlyn- edd yn ol pregethai'gyda'r Wesleyaid ar gylchdaith Merthyr a Dowlais. Fel I gwr ieuanc safai yn uchel fel pregethwr o ddylanwad, a rhwydd a hyfryd ei areithyddiaeth fel y cofia llawer. Daeth i America tua'r flwyddyn 1875, a phregethai i'r M.E.'s am ychydig flyn- yddau. Tynodd ei areithyddiaeth swynol a diglonc sylw eglwys Bresbyter- aidd gref yn Chicago, a rhoddodd alwad iddo. Wedi gwasanaethu yno am rai blynyddau cafodd alwad gan eglwys gref arall yn Memphis, Talaeth Tenn., America, He y bu farw. Yr oedd yn 68 oed, ac wedi ymneillduo oddiwrth ofal eghvysig am beth amser cyn ei farwol- aeth. I.OAN ARMA.
Advertising
DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. 21 High St. 6 Morris Lane. SWclllSGBi. 21 High St. 6 Morris Lane, ?WtiU.? Sr? e? ??. The Largest and Cheapest Steanj Cabinet Manufactory iq South Wales. Illustrated Catalogues free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above £10, or Delivered Free in our own Vast. urt-GES N MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel-for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF I I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddygini aeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. i, George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.-3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blychau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch DwyllwYp I—Gofynwch yn eglur am ";George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, Wl.H.P.S., HIRW.AIN, ABEflDARE. "TAR IAN Y GWEITHIWH" PAPYR Y BARDD A'R LLENOR. Y mae gennyni, Dystiolaethau lawer i efieithiolrwydd y "Darian" fel newyddiadut i hysbysebu Gwyliau Lien a Chan. TMOPINEE AM DELEEAU. « SWYDDFA: 19 Cardiff Street, ABERDAR.