Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Rhwng Cloriau'r Wythnos.
Rhwng Cloriau'r Wythnos. GAN "CWILSYN." I Nid cynt na chodwyd y Heni oddiar ffenestr y flwyddyn newydd na welid yr hen, hen fyd yn edrych yn hynod o gynefin yn mhob cyfeiriad. Diolch i'n henafiaid am ddosparthu amser mor naturiol, o ran hyny bu natur ei hun yn eu dysgu i ddarllen y tymhorau. Bu y dderwyddon yn pedwaru v flwyddyn, ond Eglwys Rhufain fu yn ei haddumo a gwyliau a choffhau eu seintiau lluosog ar ddyddiau arbenig. Er nad yw hyny nac yma nac heddyw yn Nghymru, eto bu cenedl y Cymru nlwaith ar ei gliniau er eu mwyn. Yr oedd bywyd yn hamddenol a rha- mantus rhwng plygion y caddug hwnw. Heddyw nid oes genym egwyl i ymdroi gyda defosiynau felly. Rhy brysur wir. Oes y mynd a'r rhuthro ydyw hon, fel y mae y blynyddoedd a'u hanes yn cael eu trosglwyddo fel ystadegau yn h^fcrach na ffrwd o brofiadau dynol. Cymaint yr ysfa am ddal yr eiliadau ar eu hop fel y cwynir fod y telegraph yn rhy araf, ac y gwelir yn fuan frysheb- iaeth mwy gwibiog. 0 ran hyny y mae y fath doraeth o bynciau o flaen meddwl y wlad fel y mae yn rhaid penderfynu y rhan fwyaf o honynt fel ergyd o ddryll. Sionca y meddwl yn annghyffredin wrth chwil- droi gyda newydd-deb ac amrhywiaeth y dydd. Ond un o'r pynciau anhawdd- af heddyw ydyw sut mae dadrys cym- deithas fel y mae yn edrych o bethau y byd fel peiriant a'i olwynion wedi eu dirgloi. Cwestiwn y mor sydd yn apelio at hyrwyddwyr llyngesoedd y byd. Pwy fydd meistres y mor yn mhen y deng mlynedd nesaf y mae Lloegr a Germani yn geisio benderfynu. Nid yw wiw gwadu er pob ymgais i ddealldwriaeth heddychol (er fod pob peth yn gymyd- ogol yn bresenol) y mae rhyw ysfa fil- wrol yn yr awyr-gylch sydd yn ddin- ystriol iddo. Darogenir y gwelir ych- wanegiadau at draul y Llynges yn fuan. Dywedir ein gorfodwyd i adeiladu y rhyfel longau fwriadwyd i Canada dalu am danynt. Mae rhyw ddrwg yn y cehwrn. Myn Lloyd George mai ar y tir y mae y drwg ac nid ar y mor. Mae canlyn- wyr Henry George-y proffwyd o San Francisco-yn fywiog iawn y dyddiau hyn yn egluro y Single Tax. Hawliant y byddai yn rhatach a llwyrach medd- yginiaeth na chynllun Lloyd George. Rhai o wendidau y diwygiadau diwedd- ar yw y catrodau o segurswyddwyr sydd yn eu perarogli. Cyflwynir y mesur tir gyda rhwysg areithyddol yn fuan, a charafan y Llywodraeth yn gysurus o lawn rvvng Home Rule, Dadgysylltiad. a Meeur Tir. Mae y Ceidwadwyr—cyfeillion hon- edig yr amaethwyr—mewn penbleth gyda'r diffyndoll. Ymddengys ym- ddygiad mor annheilwng, ddiffyg egwyddor amlwg yn y braid Doriaidd, oherwydd y maent wedi gwastraffu addewidion am ddiffyndoll iddynt. Yn ddiweddar mae America wedi gostwng ei tholl ar nwyddau tramor yn fawr, er dychryn i glymbleidiau masnach y wlad. Un o greadigaethau yr lanci yw y Trusts, ond druan o Jonathan, mae'n edifar ganddo yn ei galon am yr am- rhyfysedd. Ac y mae y pla yn gafaelyd fwy fwy yn y wlad hon. Ofnir fod rhan o'r annealldwriaeth Thwng y wlad hon a'r Unol Daleithau yn nghylch Mexico yn ddyledus i faes- ydd olew y Cwmniau Prydeinig yno. Deuant i gystadleuaeth uniongyrchol a Trusts Olew America. Mae Arglwydd Murray-y Master of Oily bank—a'i fys ar y bwttwm. Gydag Arlywydd Wilson mae y Taleithau yn ddiogel, a thefcyg y gwelir ef yn fuan yn delio a hwynt gyda gweinyddiaeth dwrn-galed. Druan o'r Eglwys Sefydledig—hi teddyliem oedd y peth cadarnaf yn y cythrwfl cymdeithasol presenol, ond dyn a'n helpo. Kikuyw! Hikuyw! Mae'r esgobion yn torchi llewys a Balkanu ar rydd gymundeb. Cyfnod rhyfedd am eangu terfynau ydyw, a dryllio deddfau tra- ddodiadol. Mae celwrn pob sefydliad yn berwi dros yr ymylon, ac yn wir pan eir i adolygu hanes y ddeng mlyn- edd diweddaf gallwn fod yn dra diolch- gar i'r chwildroi gymeryd ffurf mor esmwyth yn y wlad. Meddylier am y Diwygiad Protestanaidd, a'r anrhaith ,ddialgar ar fywyd ac eiddo. Yr ydym yn ymyl cyfnewidiadau pwysig mewn byd ac eglwys, ond yn gymharol es- mwyth pe byddai ein henanaid yn cyflawni y gorchwyl. Yr wythnos ddiweddaf trbisom i fewn i Farchnaty Aberdar-i wrando ar Es- gob Tyddewi yn annerch cyfarfod gwrthdystiol. Yr oedd yn dda genym glywed ei acen Gymreig, er yn traddodi yn Seisneg—iaith Eglwys Loegr yn Nghymru. Yr ydym yn synu na fuasai yr Eegob neu rhai o oreuwyr yr Eglwys yn gwyntyllu eu cwynion ar faea y "Darian," fel y byddo y werin Gym- reig yn y Deheudir yn cael cyfle i ddeall eu dadl. Mewn cyfarfodydd Seisnig fel y noson sonedig, yr oedd cyfangorph y Cymry yn anhyspys o hono. Er nad oedd ei syniadau ar wladgarwch ddim yn amgenach na snobyddiaeth yr Eglwys Wladol!
I Oddiar Lechwedd Penrhys
Oddiar Lechwedd Penrhys Mwy na thebyg fod y naynydd hwn wedi ei gamenwi. Nid yma yr amddi- fadwyd Rhys ab Tewdwr o'i ben. Ar Hirwain Wrgant y digwyddodd yr an- ffawd hono, yn ol bam Oarahuanawc, a rhai ereill heblaw, a digon tebyg fod llawer o fynyddau a lleoedd wedi eu camenwi heblaw y mynydd hwn. Mae Cwinni y Glamorgan wedi bod yn ffodus iawn yn eu hymchwil am lo yma. Cawsant afael ar wythien o lo da tuag brig y mynydd yma, ond ei bod dipyn yn ddyfyrllyd. Cwmni anturiaethus iawn yw Cwmni y Glamorgan. Digwyddodd damwain alaethus i ddyn ieuanc o'r enw King ar ddiwedd y dydd diweddaf o'r hen flwyddyn. Caf- odd ei ddarnio yn chwilfriw rhwng y rhaff a'r olwyn sydd yn tynu yr yspwriel i ben y mynydd. Ychydig ddyddiau cyn hyny deuwyd o hyd i gorph hen wraig weddw wedi marw mewn ffit. Yr oedd yn nyw mewn unigedd heb neb ond yr hen gi a hithau, a gorfu i'r heddgeidwad saethu v ci cyn iddo allu myned at y corph. i Mae cerddoriaeth ar ei chynydd yn ardal Trealaw yn bresenol, a gobeithio y gwna harhau felly, fel y cawn rhywbeth i'n difyru a'n dyddanu ar y daith. Blin genym fod llawer o'r hen drigol- ion yma wedi eu dwyn- Is du lawr y ddystaw wlad, A cheulan diddychweliad." Yn eu plith gellir enwi Mr. Miles Miles, blaenor ffyddion gyda'r Methodistiaid Calfinaidd dros lawer o flynyddoedd. I WM BASSETT. I
I Nodion IIIn y Ffordd. I
I Nodion IIIn y Ffordd. I GAN EOS HAFOD. I Cynaliwyd cyfarfod dirwestol gan y j Rechabiaid yn Hope (B.), Gelli, nos Sadwrn diweddaf. Mae y gymdeithas j hon yn un weithgar iawn. Sul a'r Llun, yn nghapel y Wesleyaid Seisnig, Pentre, cymerodd cyfarfodydd cen- hadol le. Mwynhawyd yr hyn ddywed- wyd gan weinidogion ac ereill. Dyma eglwys arall sy'n ymroddgar gyda phob achos da. Ionawr 8fed, bu farw Mrs. Gwen Roderick, gwraig barchus Mr. Chas. Roderick, Penrhys Road, Y strad, Rhondda. Dyoddefodd hir gystudd yn amyneddgar. Aelododd fel ei phriod yn eglwys Nebo (B.), Ystrad. Merch ydoedd i'r diweddar Mr. Thomas Rees, '1 a breswyliai, a'i briod, Mrs Rees, yn hen amaethdy Pantysteddfa. Yr oedd- ent, fel eu plant, yn adnabyddus iawn I i blwyfolion Ystradyfodwg. Mae y Parch. T. D. Jones, gweinidog Eglwys Gynulleidfaol Bodringa-llt, wedi bod yn gaeth i'w wely oddiar Nadolig gan y bronchitis. Mewn canlyniad mae y gwr parchedig wedi methu pre- gethu aip rai Suliau. Deallwn ei fod erbyn hyn yn well. Mae gofal eglwys Elim (Saesneg) fel Bodringallt ar Mr. Jones. Mae taer ddymuniad ar rieni gadw eu plant yn yr ysgolion dyddiol yn bryd- Ion a chyda chysondeb. Mae gwyneb y flwyddyn newydd gyda ni, ac aw- gryma hyn y daw y tywydd yn fwy ffafriol i'r dysgyblion ieuainc fynd at eu gwersi. Gofid cofnodi fod llawer o rieni yn esgeulus iawn yn nghylch addysg eu plant. Erfynir yn barchus am welliant o hyn allan ganddynt. Claddwyd yr hyn oedd farwol o'r diweddar Dr. Edwards, Cymmer, yn Llethrddu, Trealaw, dydd Mercher di- weddaf. Ymddengys ei fod yn feddyg medrus a phablogaidd. Gorphwysa yno dri o feddygon ereill y gwyddom am danynt, sef Idris Davies, diweddar Llysygraig, Ystrad; Charles Jones, Tonypandy, a Johnson, fu yn ngwas- anaeth Dr. Idris Davies. Gwelais nodiad y dydd o'r blaen fod y bechgyn yn y Ueiafrif yn nghyfrifiad cyffredinol y ddau ryw. Y rheswm am hyn yw fod cynifer o'r blaenaf yn cyf- arfod a damweiniau angeuol ar dir a mor. Cymerer er enghraifft danchwa Senghenydd, a suddiad y Titanic. Yr wyf yn cyfrif rhai miloedd o'r ddau ryw yn wythnosol, a mwy nag unwaith yr wyf wedi cael fod y merched a'r bech- gyn yn gyfartal. Wedi i'r bechgyn fyn'd dros y pedair-ar-ddeg oed yr ant i'r lleiafrif. Peth anfynych yw gweled bran ar ei hadenydd yn y Rhondda. Gwelais un yn ymdaith o un rhan o'r cwm i begwn arall iddo yr wythnos ddiweddaf. Clywid ei greddfol laia, ac nid anghyf- arwydd yw i mi er yn ieuanc. Peth mynych fyddai ei glywed pan wisgai y dyffryn ei goedwigoedd mawrion. Y tro yma cofiais yr hen ddiarheb, sef Gwyn y gwel pob bran ei chyw." Gwir hyn mewn llawer cyfeiriad arall. Dydd GweQer diweddaf bu farw y Cynghorwr Dinesig David Williams, Tonypandy. Cafodd deimlo cystudd trwm am beth amser. Bu a wasanaeth mewn llawer cyfeiriad. Yr oedd yn foneddwr addfwyn. Cysylltodd ei hun fel aelod a blaenor o eglwys gref Eben- ezer (A.), Tonyandy, am flwyddi lawer. Bydd ei le yn wag iawn yn yr eglwys adnabyddus hon fel llawer cylch defnyddiol arall. Adeiladydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac hoffai y Gymraeg.
Micheah-neu y Gwlr a'r Gau.
Micheah-neu y Gwlr a'r Gau. (2 Chronicl 18). Darn Adroddiadot i Gystadleuaeth Eisteddfod Fforestfach. BEIRNIAD: DYFNALLT. Mewn gwledd yn Samaria eistedda'r brenhinoedd, Sy'n dal gorseddfeinciau yn enw y nefoedd, A'i falchder dan glwyfau, try Ahab ffroenuchel, I ymbil ar Juda'i gydymdaith i ryfel; Ei ddigter sy'n fflamio am daro Benhadad, A'i galon yn gwaedu am Ramoth Gilead. "Fy nghyfaill," medd Jehosaphat, ymnertha, Yr ydwyf fi fel tithau—golud Juda, Yn rhan o Israel. Gloywon fydd fy arfau, A dewrion fydd fy ngwyr ar faes dy frwydrau; Ond dirmyg ddaw i'r cledd yn llaw'r cyfarwydd, Heb nerth, a nawdd y nef,—myn air yr Arglwydd." Proffwydi'r llys mewn brys gydgesglir yno, Ceir pedwar cant am Iwyddiant yn proffwydo. Ond metha'r teyrn o Juda weld yr heulwen, Ysbrydion storm sy'n gwibio drwy'r ffurfaf en. "A oes yn aros," meddai, "wr o broffwyd I'r Arglwydd Dduw yn Israel ?" Beth a roddwyd Y llys ar dan? Mae'r lie fel berw'r eigion, Pan fyddo'r storm am gerdded i'w wael- odion. "Oes, erys un," medd Ahab, ond drygioni Broffwyda'r gwr i mi. Ni ddaeth daioni O'i enau ef. C&s gennyf fi fab Imla." Na ddywed felly," ebe brenin Juda. Arweinir Micheah yn nillad gwarad- wydd, I'r llys sydd mewn adfyd dan felldith yr Arglwydd. Mewn goslef sy'n eirias o wawdiaeth ddieflig, Gwas gonest gyferchir gan bennaeth llygredig: j A awn ni i fyny i Ramoth Gilead, Gan hawlio i Israel addewid Benhadad ? Rhaid ennill y ddinas fu'n noddfa yn Israel, Disgynnaf i'm bedd yn fy ngwaed cyn ei gadael. Ateba'r proffwyd gyda gwen dosturiol, Sydd megis tan o'r nef i'w deyrn annuwiol: Dos," meddai oni ffynnu! Ni ddaw drycin. Pwy gwyd ystorm heb air proffwydi'r brenin Cwyd Ahab fel viifyd-niaen storm yn ei enaid, Cynddaredd ei galon dry'n fellt yn ei lygaid; Tarana'i fygythion-tyngheda. Micheah I ddweyd y gwirionedd yn enw'r Jehofah. Llonydda'r llys, mae dwysder tragwydd- oldeb Yn gorffwys fel tystiolaeth Duw ar wyneb Y proffwyd gone st. "GweIitis Israel," mtddai, Yn wasgaredig-yn ddinodded- crwydrai Fel praidd heb fugail." Dacw frenin Juda Yn gwelwi-cryna-oeisia godi-metha. frenin," meddai Ahab, oni thystiais Mai drwg lefarai'r ynfyd hwn? Ni chefais J Ond melldith gan yr ellyll. Poeraf arno, j Mae'm Haw am dynnu'r cledd i'w wthio drwyddo." Er braw a berw'r llys, fe saif y geirwir Fel angel yn ddigyffro. Ni ddychrynir Ei enaid gan y corwynt. Gwelais," meddai, Yr Arglwydd ar ei orsedd lan, a safai Llu'r nef o'i amgylch.. Clywais ef o'r orsedd Yn caniatau i ysbryd ag anwiredd Yn fflam o'i fewn, ddod o ddyffrynoedd uffern, Fel byddai'n ysbryd celwydd yn y gethern A dwyllant Ahab. Wele floedd yn codi Fel cri anwared. Gwingo a gwallgofi Wna'r gau broffwydi. Dacw Sedeciah Yn taro'r gwr. Och, cilia'n ol-dolefa Mewn ing dihysbydd iddo golli'r ysbryd. Dyrchafa'i law fel gwr ar drothwy'r eilfyd- Ust," meddai, "peidiwch syflyd. 0 olygfa, Mae Ysbryd Duw'n ymddiddan a Micheah. Fel anwar yn dawnsio ar fynwes y ddrycin, Rhoi gwledd i'w gynddaredd wna Ahab y brenin- Ewch," meddai'n farbaraidd, a'i acen yn greulon, Cymerwch fy ngelyn at Joas ac Amon, Boed iddynt ei fwrw i'r oeraf ddaear- gell, Na flined y fraich fyddo'n ysgwyd y fflangell; Ei fara a'i ddwfr fo cysudd a blinder, A'i wely'r caletaf fedd ing a chyfynder Pan ddeuaf o Syria a bri y gorch- fygwr, Mewn bedd dan ei grogbren y claddaf y bradwr. Yng nghanol gwawd, ac yn ei waed cychwyna Gwr Duw o'r llys, ond ..uwch y cyffro bloeddia— "Ni ddeui'n ol yn fyw os Duw lefarodd," I A gwir fu gair Micheah—ni ddvch- welodd. "ODED" Skewen. James Clement.
I Gohebiaethau.
I Gohebiaethau. I SYLWEDD Y CERDDORION. I Mr. Gol.,—Da oedd genyf weled sylw gan "Coch y Berllan" o'r perfformiad o "Santa Claus at the School" yn Ys goldy Siloa y nos dranoeah i'r Nadolig. Y rheswm am ein bod yn dysgu llyfrau bach—hwn yw y pumed—yn yr iaith I fain yn lie dysgu rhywbeth Cymreig, a lliw y rhedyn a'r grug arno, yw nad oes genym "cantatas" pwrpasol yn y Gym- I raeg. Y mae yn wir fod "Y mgom yr Adar" gennym, ond y mae wedi ei gami i farwolaeth, ac heblaw hyny nid yw yn amserol ar adeg y Nadolig. Pie mae ein cerddorion na chofient am ein plant? Pie mae Mr. Tom Price wedi bod na chyfansoddasai rywbeth o'r natur hwn? Y mae ganddo ef ddegau o ddarnau bach rhagorol i'r plant, ond dim un 'cantata,' ac y mae llawer o honynt gan y Saeson. Carwn yn fawr-ac yr wyf yn rhoddi yr awgrym iddynt gyda phleser-weled ein cerddorion yn troi eu llaw at gyfansoddi cantatas i'r plant. Fe fydd plant Cymru yn ddigon parod i'w canu, a'u harweinyddion ddim ond yn rhy falch i'w dysgu.—Yr eiddoch, etc., DAL SIGNO. AT J.E. -1 Mr. Gol.Gwelais ateb y gwr uchod i'r "Gwehydd Bach" yn y "Darian," a drwg genyf na allaf ei ddeall o gwbl. Mae dynion may yn siarad mae'n wir, tu hwnt i gyrhaedd rhai distadl. A gaf i eto yn ostyngedig ofyn iddo, beth oedd ei amcan, gan na ofynodd neb ei farn ef ar y llinell—" A dyn y meddwl dynol" nag ar englyn "Pwyll." Cymer- ais yn ei lith cyntaf, a hyny ar eiriau ei hunan, "mai gwr ieuanc oedd, ond er- byn hyn mae'n amlwg ei fod am ein har- gyhoeddi ei fod yn rhyw un pwysig, yn gwyjbod am y "gareg siglo" a'r sarff dorchog, a hen ohebwyr y Darian, ac hefyd yn broffwyd. Wel, nid oes genym yr un gwrthwynebiad iddo i fod yn wybodus, ond pob llwyddiapt iddo. Efallai bydd garediced a goleuo un bach fel fi mewn iaith syml fel gallaf ei ddeall. Yr wyf yn gwybod mai nid yr un sain sydd i'r "y" yn dyn a dynol; hefyd mai ychydig iawn o eiriau sydd yn yr iaith, yn y rhai y defnyddir yr ICy" yn y lusg o gwbl, mae "yn" felly. Am linell Caledfryn: "Y myn yn ceisio myned," dwedodd J.E., pwy sydd wedi dweyd llai nad y Lusg yw hi. Er i fi ddeall yn iawn a yw J.E. yn dweyd mai y Lusg yw hi Gwelsom farn Brynfab ac Ifano, Caerdydd, ar englyn "Pwyll" Hawen, a gawn ni farn J.E. os y gwel yn dda. Sylwasom ar ryw un yn y Teifi- Side yr wythnos ddiweddaf yn "cymhell ei ohebwyr, ac yn eu plith Brynfab ac Ifano," i roddi prawf iddo fod y llinell- au canlynol yn wallus Cyhoeddi gwarth caddug hyll Yw cain wasanaeth canwyll." —Hen Fardd. "Yn y chwa ei gwawr ni chyll Y wer gain eurog ganwyll." —Hen Fardd. "Nid cain yw dodi canwyll 0 wawl ter i odli twyll." Dywedai yr ysgrifenydd fod yn rhaid eu bod yn wallus os yw englyn Pwyll, Hawen, yn gywir. Beth yw barn J.E. i -Yr eiddoch, etc., ARTHUR LLWYD. I
Caerfyrddin. I
Caerfyrddin. I BARDD YR HENDRE. I Braidd na ddywedem mai'r talp ] glanaf o "Gymru, Cymro, a Chym- t raeg welsom erioed oedd Brynfab a'i ddarlith nos Wener ddiweddaf. I Daeth yma i annerch Cymrodorion, ae, yn wir dyna ddwyawr felys gafwyd gan y Gwr o'r "Ysgubor." Y r oedd delw'r mynydd ar ei ruddiau, a swyn yr hen fwthyn Cymreg yn ei osgo gartrefol, ac acen y bugail yn ei lais, a darluniodd yn fyw rhyfeddol "Arferion Cymru Fu." Yn boeth y bo'r Die a geisia wadu nad oes swyn yn y bywyd Cymreig. Rhwng darlith y Llew o Fangor ar "Chwedloniaeth Cymru Fu y llyn- edd, ac eiddo Bardd yr Hendre ar "Arferion Cymru Fu eleni, mae hen dref gysglyd Caerfyrddin wedi cael dau gynnyg godidog iawn, 'ddyliwn i, i atgofio ei hun o nodweddion Cym- ru fach adeg dyddiau bri dinas glannau'r Tywi. Y DALENT I ADRODD. Yn Miss Sally Phillips (Brynferch), Heol Parcmain, y mae hono yn amlwg yma. Hogen wen ugain oed fydd fii yr haf nesaf, a chyn hynny bydd ei thalent i adrodd wedi gwneud iddi fyw mwy nghalon y wlad yma na llawer un ga ei goron pensiwn. Y ng nghorff blwyddyn o amser mae wedi ennill pum cadair—pedair am yr adroddiad agored, sef ym Mhensarn, Llanelli, Login, a Bwlchnewydd, ac un yng Nghaerfyrddin y Calan di- weddaf am adroddiad i rai dan ugain oed. Ardderchog, Sal Hei lwc i ti eto. 'Rwvt yn glod i'th fam weddw, hynaws a charedig ei hysbryd, ac i'th frawd ymdrechgaf- sydd yng Ngholeg Cheshunt Caergrawnt ac a a. i'r maes cenhadol cyn hir. AR Y MUR.
IY Ddrama Gymreig, "Die Shon…
I Y Ddrama Gymreig, "Die Shon Dafydd." Mae'r ddrama heddyw yn boblog- aidd iawn, yn enwedig yn mharthau gweithfaol Deheudir Cymru. Arwydd o ddeffroad, ac adeg lewyrchus ar gen- edl yw adeg pan y bydd drama o'i heiddo yn boblogaidd. Yn wir i Gymro y dyddiau presenol y mae yna swyn ryfeddol mewn dadleni hanes y gor- phenol, ac nid ychydig yw'r adloniant a'r adeiladaeth hefyd geir wrth ganfod symlrwydd dirodres gwerin yr oes a fu. Nis gellir Jai na. theimlo ar unwaith fod yna haen dnvchus o deyrngarwch a gwladgarwch ddiguro yn rhedeg drwy gyfansoddiad yr hen Gymru fu. Parchent ei hiaith ac arferent hi yn ddiesgus. Ac onid gwir yw Iaith nas arferir, iaith i farw yw." Rhaid cyf- addef ein bod yn esgeulus yn y peth yma yn gyffredin, ac esgeuluswn ein iaith yn ddiesgus. Y mae i'r Ddrama Gymreig neges arbenig yn y cyfeiriad hwn, oblegid pan y cyll cenedl ei iaith, cyll hefyd lu o bethau gwerthfawr eraill o angenrheidrwydd. Drama sydd a'i chyfeiriad arbenig at hyrwyddo iaith y Cymro yw y ddrama Die Shon Daf- ydd." Cefais y fraint o weld perfform- iad ardderchog o honi nos Iau diweddaf yn Nhrecynon gan Barti Dramayddol Moriah (M.C.), Llwydcoed, Aberdar. Yr oedd yn berfformiad ardderchog J ymhob ystyr. Ac er fy mod wedi clywed a gweld llawer drama bellach, dyma'r goreu etto o ddigon. Y mae y parti uchod yn wir deilwng o ganmol- iaeth uchel am y perffeithrwydd diguro y daethant iddo ynglyn a Die Shon Dafydd." Yr oedd yn anodd dweyd pa un o'r cymeriadau oedd oreu. Hawdd oedd gweld eu bod un ac oil yn feistr- iaid ac yn hen gyfarwydd a'r gwaith. Cam a'r ddrama ardderchog yma fu- asai ei hanner gwneud. Da hefyd oedd genyf weled yr awdwr yn bresenol. Cododd ar gais y cadeirydd i anerch y dorf, wedi i'r banllefau o gymeradwy- aeth iddo dewi. Tystiolaethodd ei fod wedi ei foddloni yn fawr yn y perfform- iad. Rhoddodd gymeradwyaeth uchel iawn i'r parti. Yr oedd y lie yn or- lawn, ugeiniau yn gorfod dychwelyd yn siomedig heb gyfle i'w gweld. Deallaf fod disgwyliad hyderus am ail berfform- iad yn Nhrecynon. ac yn ddiddadl bu- asai yn gaffaeliad mawr i unrhyw ardal arall fanteisio ar y cyfle o geisio gan Barti Dramayddol Moriah, Llwydcoed. i roddi noson iddynt yn nghwmni llawen, difyr ac adeiladol Die Shon Dafydd." GWLADGARWR. J" ■ ■>II Ml Ml— Printed and Pviblished for the Pro- prietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff St., Aberdare, in the County of Glamorgan.
:Ferndale.
Ferndale. Rhagfyr 3iain cynhaliodd aelodau CN-indeitlias Ddiwylliadol Trerhondda (A.) noson lawen i ddathlu llwyddiant y gymdeithas rhan gyntaf y tymor. Daeth Uuaws o'r aelodau ynghyd i'r Festri. Llywydd, y Parch. G. Pen- rith Thomas, gweinidog. Cafwyd g\vledd o ddanteithion bras i'r corph, xn-edi ei darparu gan swyddogion Institute y Gweithwyr, dan arolyg- iaeth Miss B. Davies. Cafwyd dat- ganiadau gan Misses C. H. Jones, i Blodwcn Evans, ac amryw fathau o i ddv' fv"rwtfh adeiladol eraill. Gwn y bydd yn llawen gan luaws cyfeillion Miss Nellie Lewis ddeall ei bod wedi enill "diploma'' o GoIeg Cerddorol Llundain. Merch ydyw i Mr Howell Lewis, adeiladydd, gynt o Ferndale. Llongyfarchwn hi yn galonog. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gymdeithas Gydweithredol yn y Tabernacl (A.), lonawr /ed. Llywydd, Mr Tom Morgan. Cafwyd adroddiad gan Mr Robathan, archwiliwr Caer- dydd, o sefyllla bresenol y gym- dcithas. Dymunai'r pwyllgor gyflwyno i sylw y gymdeithas yr adroddiad canlynol am y cyfnod yn diweddu Rhagfyr 2il, 1913 :—Gwerth- iadau, 4,74,839 13s 3c; yr elw oddi wrth y cyfryw yn ^13,697 8s 9c, ac y mac y pwllgor yn cymeradwyo eu rhanu yn y cyfartaledd a ganlyn, sef, 3/10 y bunt yn y grocery a'r drapery, a 3/1 y bunt ar y cig. Cyfanrif yr aelodau gan gynwys y canghenau yw 2,972. Darllemvyd cofnodion y cyfar- fod cyhoeddus blaenorol gan Mr Henry Davies, prif oruchwyliwr, a chadarnhawyd hwynt fel rhai cywir. Penderfynwyd rhoddi £10 tuag at drysorfa v Ddarllenfa Genedlaethol; ^10 10s i Ysbytty Caerdydd, a £S 5s i Rest Porthcawl. Cadarnhawyd gweithrediadau y pwyllgor ynglyn a symudiad Mr T. Williams, goruch- wyliwr o Siop Pontygwaith i'r Mardy. Etholwyd y rhai canlynol ar v pwyll- gor am y flwyddyn ddyfodol Mardy, Mr John Reynolds; Tylors- town, Mr John Rowe; Ferndale, Mr Morris Jeffreys. Ionawr sed cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel North Road ynglyn ar Ddarllenfa Genedlaethol yn Aberystwyth. Llywydd, Mr D. Lleufer Thomas, prif-ynad Pontypridd a'r Rhondda. Siaradwyd gan y llywydd a Proffeswr Anwyl, Aberystwyth. Cafwyd eglurhad manwl a chlir gan Mr Thomas a Mr Anwyl. Trefnwyd pwyllgor ar y díwedd yn cynrychioli Mardy, Ferndale, Tylorstown, a Phontygwaith i gasglu tanvsgrifiadau ar gyfer talu am adeilad y ddarllenfa hon,
Advertising
Cut a Quarter Off Your Coal Bill. Take Advantage of the Special Offer To-day. Coal is an expensive item on tha Household account at this time of the year. Wise coal consumers use h RADION and are able to effect a wonderful saving. Just think of the amount of coal that is used daring this weather—you seem to be making-up the fire all the time. If you use Radian a very great difference will be noticed. A fire made up with Radion-treated coal burns much longer and gives out far greater heat than untreated coal. RADION is not & coal substitute or a patent fuel. It is a com- bination of various minerals, in a clean, easily handled powder form, which when mixed with water and sprayed on even the most inferior coal imparts to it the wonderful heating and slow combustion qualities of Anthracite Coal. It will thus be seen that RADION is as valuable to the householder as to the manufacturer, and as useful in a small grate as in a furnace. Radion treated Coal burns with a bright glowing flame and with very little smoke, foot or ash. RADION baa been proved, after very exhaustive tests, to save 25% of the cost of coal and to give one-fifth more heat per ton consumed. A Free Offer of the Wonderful Coal Saver. In order that all readers of TARIAN Y GWBITHIWR may test for them- selves the undoubted Coal-economising power of RADION the Directors of Radion, Ltd., have arranged to send a sample of their wonderful preparation for lengthening the life and increasing the efficiency of coal, to all filling in the coupon below. Tear out and Post now. To Messrs. RADION, Ltd. (Dept. WiJ). 44 Wilson Street, London, B.C. I enclose 3d. in stamps for enough RADION to treat 5cwt. of coal. This 3d, to bo refunded to me, when having proved the value of RADION, I purchase a 1/-packet (sufficient to treat a ton of coal) from my Ironmonger or Grocer. Name Address. Date I Please write very plainly.