Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Nodion 0 Abertawe. j - I
Nodion 0 Abertawe. j Dyma'r eira cynta'n disgyn, ) 0, mor dlws, mor gywrain yw; I Gwel ei burdeb mor ddilychwin, ¡ Mae yn dod o ddwyiaw Duw. Dyna'r olygfa pan y godasom boreu Llun wedi'r Nadolig-ond nid yn; blygeiniol iawn rhaid cyfaddef, a throi j v Hen oddiar y ffenestr. 1 ref a i I gwedd wedi ei newid, yr hagrwch wedi diflanu yn oriau tawel, dystaw nos. Mor brydferth oedd, ac aeth y meddwl yn chwim yn ol i ddyddiau mebyd ar lan y Plina swynol rhwng Nedd ac Afan, a'r pentref chd He'n magwyd, a chofiasom mai Dyma adeg hoff y plantos, Mae pob un yn groch ei lei, t Rhutho wnant yn ddiymaros I gofleidio blodau'r Nef. Cododd hiraeth o'n mewn am y dyddiau euraidd hvnny, pan gaffem fwynhad dihysbydd hyd yn oed, yn yr eira, yn pelio ein gilydd, gwneud cesyg eira a sleidro ar y rhew, ac os rhewai yr afon, yna gogoneddus oedd, a byddwn ein mwyniant yn ber- ffaith. » Ond druan o honom, erbyn hyn gwell ydyw swatio wrth y tan, a mwyn y gwely'r boreu, a phrofiad llawer o honom ddywedodd. Die bach fy nai pwy ddydd-" Uncle, do you like getting up in the morning, I don't. When I've got to get up, I don't most." Roi'r gos gynta allan yw'r gamp, onide? Yna icchyd i gorph a meddwl ydyw brasgamu tua gorchwylion y dydd. Anwyd sydd yn gormesu llawer o bobl Abertawe y dyddiau hyn. Dyma brofiad y Bonwr D. Rhys Phillips, F.L.A., Llyfrydd Adran Gymraeg Llyfrgdl Gyhoeddus y dref:- 'Rwyf yma'n fawr fy ffwdan Yn dyn wrth f6n y pentan, Gan spio'r eira'n syrthio lawr A minnau'n awr yn egwan. Mi dreuliais ddyddiau gwila Wrth fon y t&n a'r llyfra' A dolur pen a pheswch trwm Fel "Mari Mwm" yn hela. Gobeithiaf fentro allan At waith yn lied ddiegwan Ar fora Mawrth, os llwydd a ddaw, Er gwaetha'r baw a'r berman Dymunaf iwch a'r teulu Bob budd y flwyddyn newu, Digonedd mawr o fedd a maeth, A dechra'r daith'dan ganu!" 0 Gell y Beili Glas. Credwn fod yr 'ysforyd Cymreig yn nawseiddio pobl y dref yn raddol, a cheir awgrym cryf o hyn yn y der- byniad ffafriol gafodd Dirprwyaeth o Gymrodorion Abertawe yn ddiweddar gan y Cyngor Addysg. Amcan y ddirprwyaeth oedd ceisio darbwyllo y Cyngor o bwysigrwydd gwneud efrydiaeth o'r Gymraeg yn orfodol yn yr ysgolion elfenol. Rhoddwyd gwrandawiad astud i'r siaradwyr, ac addawyd ystyriaeth drwyadl i'r mater yn ei holl weddau, a'r tebygolrwydd yw y mabwysiedir y Gymraeg yn yr holl ysgolion dan nawdd Cyngor Addysg y dref. Gwnawd y Ddir- prwyaeth i fyny o'r boneddigion can- lynol Meistri John Meredith (llywydd y Gymdeithas); D. Morlais Samuel a D. Spurrell Davies (is- lywyddion); Parchn. David Price (B.), T. C. Evans (Ficer, Sant Mathew), Henadur John Jordan, Llansamlet, a Mr T. J. William Hughes (ysgrifen- ydd arianol). A chyflwynwyd hwy gan yr Henadur Ben Jones (cyn-lywvdd). Peryglus oedd cyflwr yr heolydd yn nghyffyniau y dref y ran fwyaf o'r wythnos, a dengys y digwyddiad can- lynol un 0 brofiadau v dyddiau gaeafol gawsom :—Prydnawn dydd Mercher disgynnai cwmni yn ofalus un o rhiw- lau rhewedig ucheldiroedd y dref, ac yn eu phth gynrychiolydd Cwmni Yswiriol. Dywedodd y brawd yn vmffrostgar, "Mi ddangosaf i ehwi'r ffordd i gerdded tyla wedi rhewi," ac aeth ati, ond cyn ei fod wedi roddi haner dwsm o gamau, Hithodd ei sodlau odditano, a chydag ystumiau digrifol, mesurodd ei gorphws ar hyd yr heol, a dyna ddiwedd ar ei ym- ffrost. "Taw pia hi, boys." Boddhaus ydyw cofnodi fod y streic drosodd yn masnachdai Lewis a Myles. Mae y boneddwyr hyn wedi cydnabod Undeb Gweinwyr y Siopau, a thrwy hynny wedi symud yr unig rwystr i heddwch, ac yn goron ar y peth roddodd y Meistri Lewis Lewis a'i Gwmni noson lawen i'r "staff" nos Iau yn y Cameron Hotel. Gwyn fvd na therfynau pob streic ar yr un cyweirnod. NOS CALAN. I Noson lawen oedd trefniant gymrodorion Abertawe ar gyfer Nos Calan, a chafwyd un o'r nosweithiau mwyaf dvmunol yn ei hanes. Daeth cwmni parehus ac urddasol ynghyd, ac yn eu phth rhai o brif Gymry yr ,irdal? egys Hen?dur Jordan, Uan- ??? n.???' Ben Jones (cyn- lvw^d\ npyn John Lewis (is- »VwVdd i' f N-A 7 Thomas Evans a T. Le ic T T. ewis Jones, ?? cynrychioli    yB?wyrD. Ed- gar Thomas Dr V ^11 Thomas, Dr. Gon? Lewis ?"? Thomas, ?.A., D Clydach v Thomas, Spurrell Davies (is-lywydd), D. Mor- lais Samuel (is-lywydd), D. Pro- theroe Thomas, W. P. Williams (trysorydd), D. Hicks Morgan (ysgrifenydd), T. J. Williams Hughes (ysgrifenydd arianol), a llu ereill. Wrth gwrs, yr oedd y delyn yno, a "Megan Glantavve" yn tynnu mel o'i thannau. Llywyddwyd yn absennoldeb y Bonwr John Meredith gan y Bonwr D. Morlais Samuel, un o'r is-lywyddion. Gwnaeth ei waith yn ddeheuig ac i foddhad pawb. Caw- som bortread o "Tomos Barcle yn ymweliad a'r Bala gan y Bonwr D. Clvdach Thomas a'i Gwmni. Nis gellir gor-ganmol eu gwaith, mor naturiol oedd a byw; hefyd Mr D. Clydach Thomas yn ei bortread o ""Will Bryan ar 'Cheek'" a'r Bachan Main o'r Rhondda yn prynu ceffyl. Effeithiol dros ben oedd- ynt, a chawsant dderbyniad byddarol. Yr oedd y Bonwr D. Edgar Thomas (Ap Gwilym) yn ei hwyl arferol yn datganu penillion, a chafwyd unawd- au gwladgarol a mwyn gan y Bon- eddesau Beatrice M. Anthony a Catherine Campbell, a'r Bonwr James Powell. Ni fu'r beirdd yn ddystaw vchwaith. Cawsant eu cyfle i ddat- gan eu teimladau ar achlysur mor ddymunol, ac fel hyn y gwnaethant- "Wel, dyma flwyddyn arall Yn tynnu i ben yn ddiball- Gan scubo bant rhai pethau mwyn Fu'n swyn i lawer cyfaill. 'Rym yma'n deulu dedwydd Yn dathlu blwyddyn newydd; Tra paro'r gwr i dincian cloch M wy hapus eloch beunydd." Beili Glas." "Mwyn yw cwrdd fel hyn Nos Calan Pan fo ia ar lyn a chafan; Eira'n toi y tai o bob tu, Ninnau'n gynes yn y gwesty. Mwyn yw tannau tyn y delyn, Mwyn ein iaith ar ddecheu'r flwyddyn, Die Shon Dafydd hyU a'i deulu Yrrwn allan iddynt rhewi. Mantell wen orchuddia'r ddaear, Distaw ydyw cerddi'r adar, Ond bydd can ar fant y Cymro Pa mor galed bynag rhewo. TALNANT. Cyflwynodd Dr. Vaughan Thomas ei bill, ond yn anffodus nid yw wrth law i'w osod ar gof a chadw yn y Darian." Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch wresog i'r cyfeillion am eu gwasanaeth gan y Cyngorwr John Lewis, ac eiliwyd gan yr Hen- adur Jordan, ac ategwyd gan yr Henadur Benjamin Jones a Dr. Gomer Lewis. Terfynwyd trwy ganu Hen WTlad fy Nhadau," y Bonwr William Llewelyn yn canu yr alaw. Mae y Bonwr T. J. Williams, Cymdeithas Lwyr Ymwrthodol Aljer- tawe, wedi ymddiswyddo ar ol llanw y swydd am un-flynedd-ar-bymtheg. Hefyd hen swyddog arall o'r gym- deithas, a chanddo enw awgrymiadol, sef y Bonwr Brewer, ar ol saith mlynedd o wasanaeth fel trysorydd. Brewer yn elyn i drwyth gwenwynol y "brewers." Yn y cyfarfod blynyddol gynaliwyd nos Iau, yr 8fed, etholwyd y boneddigion canlynol yn swyddog- ion am y flwyddyn -I.lywydd, Charles Davies, un o gymeriadau mwyaf nodedig y cylch, ac yn ddir- westwr selog am flvnyddau lawer iawn; efe ydyw blaenor henaf eglwys Ebenezer (A.). Ysgrifenydd, Evan Francis; trysorydd, R. H. Tollick, a chyfeilydd, y Fonesig Gertie Thomas. Y mae dirwestwyr y dref wedi trefnu ymgyrch ar gaerau meddwdod yn ystod yr wythnos, yn cychwyn Ionawr ioed. Bwriedir cynal cyfar- fodydd bob nos yn y Central Hall. Y siaradwyr fydd y Boneddwyr W. H. Wingate Millar, cenadwr arbennig v Western Temperance League, a Johnson, y ddau yn areithwyr hy- awdl. Y mae cyfarfodydd i'w cynal hefyd yn Nbreforis, Plasmarl, Glandwr, a Phort Tenant. Bwriedir cynal cyfar- fodydd bob diwrnod; ganol dydd wrth y King's Dock a'r Prince of Wales Dock. Mawr lwydd fyddo i'r mudiad; mae digon o wirodydd a bir yn cael eu yfed yn Abertawe i nofio holl tongau Llynges Prydain Fawr, a gall llawer i hen feddwyn ddweud geiriau cyffelyb i'r yfwr bostfawr hwnw ddywedodd, I've drunk enough in my time to float the Royal George." Cyfarfyddodd prydydd awen barod un tro ag un o'r cyfeillion trwyn goch, ac aeth yn ddadl rhyngddynt, a gosododd mab yr awen "ben ar y mwdwl fel hyn- "Pwy roddodd i ti y fath liw ? 'Rwy'n siwr nid Duw'th addurnodd, Mwy tebyg ydyw mae y d--l Wnaeth gawl a gwaith y nefo'dd." CYMDEITHAS LENYDDOL CRUG GLAS (M.) 0 flaen y gymdeithas hon nos Wener, Ionawr ged, darlithiodd y Parch. H. C. Mander ar "David Livingstone, y cenadwr enwog." Cymerwyd y gadair gan y gweinidog, y Parch. T. E. Davies. Mae y dar- lithydd uchod yn un o feistri yr areithfa, ac yn fawr m boblogrwydd yn y dref a'r cylch yn gyffredinol. Efe ydyw gweinidog capel mawr y Bedyddwyr Seisnig yma, Mount Pleasant, lie bu y Parch. James I Owen yn gweinidogaethu mor hir a llwyddianus. Marwolaeth ddisyfyd oddiweddodd Mr Robert Nash, Woodbatch, Eaton Grove, o'r dref hon, nos Sadwrn, y 3ydd. Aeth i'w wely yn iach fel arfer yn ol pob ymddangosiad, ond tua chanol nos teimlodd yn glaf o ddolur y galon, a galwyd y meddyg i mewn yn ddioed, ond er pob ymdrech o eiddo'r meddyg bu farw cyn pen yr awr yn 69 oed. Yr oedd yn enedigol o'r dref hon, ac yn fawr ei barch gan y cyhoedd. Un o brif aclodau Cwmni Masnachol Walters a Nash oedd, ac I mewn cysylltiad ar fasnach hono am 55 mlynedd. Ymwelodd Arglwydd Esgob Ty- ddewi a charchar Abertawe dydd Mawrth, y 6ed, a chynaliodd was- anaeth crefyddol yno, a derbyniodd dri o'r carcharorion i gvflawn aelod- aeth o Eglwys Loegr. Darparwyd hwy ar gyfer yr amgylchiad gan y Caplan, y Parch. J. H. Watkins Jones. Yr oedd y capel wedi ei addurno a blodau. Tybir mai dyma y tro cyntaf er's blynyddau er pan gynaliwyd gwasanaeth cyffelvb vn y lie. Bu farw hen frodor o'r dref ddech- reu'r wythnos yn mherson Mr John Jones, 44 William Street, yn 81 oed. Saer llongau oedd wrth ei alwedi- gaeth. Ffaith ddyddorol ynglyn ag Jef ydyw mai mab oedd i Mr Thomas Jones, heddgeidwad cyntaf Bwr- deisdref Abertawe. Mae y Parch. J. H. Harries, gweinidog Adulan, Bonymaen, am ddeng mlynedd ar ugain, wedi bod yn wael ei iechyd, ond dywenydd genym hysbysu ei fod ar wellhad. Hefyd mae y Parch. E. Edmunds, ysgrifenydd ymroddgar Undeb y Bedyddwyr, wedi bod ers rhai wyth- nosau yn gaeth gan afiechyd. Ond yn ol yr hanes diweddaraf gawsom mae yntau ar wellhad, a melus fydd ei gwrdd eto yn fuan yn yr hen fanan a'i stori Ion a'i ddywediadau ffraith. Un eto o weinidogion y cylch yma sydd dan yr iau ydyw y Parch. Wil- liam Meredith, bugail y Forward Movement Hall," Port Tenant. Y mae yn gorwedd yn beryglus o dost. Fel yr oedd ar i'r ffordd i'r gwasanaeth boreu Sul, y 4ydd, teimlodd mor an- hwylus fel y galwodd gyda'r meddyg, yr hwn a'i gorchymynodd i fyned adref yn ddioedi am ei fod yn ddioddef gan yr eisglwyf (pleurisy). tlysbysir fod y Parch. > A. Wynne Thomas, gweinidog Argyle, Eglwys Fethodistaidd Seisnig yma, wedi derbyn gwahoddiad i gymeryd gofal Eglwys Bresbyteraidd yn Dunedin, New Zealand, am dymor o bump mis. Mae y gwahoddiad o dan ystyriaeth ganddo, ond beth bynnag fydd y pen- derfyniad ddaw iddo, nid yw yn bwriadu torri ei gysylltiad a'r eglwys weinidogaetha mor llwyddiannus yma. TALNANT. I
- *I Nodion 0 Frynammaa.
I Nodion 0 Frynammaa. GAN "WALCH HYDREF." I Nos Sadwrn, Ionawr 10, yn Church Hall, Cwmgors, Gwauncaegurwen, ennillwyd y gwobrwyon canlynol gan rai o'r ardal:—Adroddiad i rai o dan lio oed, y wobr flaenaf i Gwenny Thomas, Goleufryn, Park Street. Unawd i rai o dan 10 oed, May Thomas, School Road. Unawd i rai o dan 16 oed, Blodwen Thomas, School Road. Am y draethawd oreu, Mr David Brynfab Thomas, Brown Hill Thomas, Brynamman Road; iddo ef hefyd y dyfarnwyd y wobr flaenaf mewn araeth ar y pryd, ac am bennill ar y pryd yn y lie uchod.
Hebron, Clydach.I
Hebron, Clydach. I Cynhaliwyd cyfarfod wythnosol Cymdeithas Pobl leuainc Hebron, Clydach, nos Iau, Ionawr 8fed, a'r llywydd, y Parch. D. Eiddig Jones, yn y gadair. Darllenwyd papur medrus gan Mr John Jones, un o blant yr eglwys sydd yng Ngholeg Prifathrofaol Exeter, ar y bardd Seisnig, Edmund Spencer. Rhoddes inni drem ar yr adfywiad dysg yn Lloegr, ac wedi hynny grynhodeb .diddorol o fywyd Spencer. Dangos- odd bwysigrwydd dysgu gwerth barddoniaeth a llenyddiaeth uchel i blant yr ysgol yn enwedig. Rhoddai hynny rywbeth iddynt i'w fwynhau yn eu horiau hamdden, a thyfent yn weH dynion o hynny. Siaradodd rhai o'r aelodau, a diolchwyd yn gynnes i Mr Jones am ei bapur buddiol. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn cyfeiri- wyd at fod y llywydd, y Parch. D. Eiddig Jones, yn bwriadu myned am dro i'r Yswisdir trwy garedigrwydd rhyw gyfaill iddo. Manteisiodd y Gymdeithas ar y cyfle hwn i roddi ffon yn anrheg iddo fel arwydd o'n dymuniadau da tuag ato a'n diolch iddo am ei ffyddlondeb a'i ddiwyd- rwydd yng ngwaith y Gymdeithas.
Seven Sisters. I
Seven Sisters. I Mr. Gol.Nid yn ami gweler nodiad o'r lie hwn yn y Darian." Gobeithio y bydd yn wahanol yn y dyfodol. Yr hyn barodd i mi ys- grifenu gair oedd nodiad a welais ynddi yr wythnos hon gan rywun a dybiaf nad yw gyfarwydd a hanes y lie, pe amgen ni fuasai yn anwybodus o'r hen enw ar y lie, sef Blaendulais. Tebyg mae mewn cysylltiad ar symudiad i gael Maelfa Gydweith- redol y daeth yr enw i'w sylw. Mac llawer o aelodau y Co-op. wedi eu geni a'u magu yn y lie ac yn bleidwyr cryf i bethau Cymreig, ac wedi llwyddo i osod yr hen enw Cymreig ar y Storfa newydd. Profa amheu- aeth eich gohebydd parthed y priodoldeb o'r symudiad hwn yn y lie nad yw wedi byw yn hir yma. Pe ond wedi byw yma yn ystod yr ugain mlvnedd diweddat, newidiasai ei gan, a theimlai fod yn bryd i'r gweithwyr symud i ryw gyieiriad i geisio ffordd i fvw yn rhatach na than y "system," bresenol. Cofia rhai o honom y lie yn ei fabandod pan nad oedd ond un siop fwyd yn y lie, a honno mewn parlwr bach, ac un siop gelfi mewn parlwr bach arall, a dyna'r cwbwl. Dechreuodd y lie gynydau, a dechreu- wyd codi siopau, ond bu y lie am rai blynyddau wedyn a dim ond rhyw dair neu bedair o siopau, ac yn wir, Mr. Gol., os nad yw eich gohebydd yn adnabod y siopwyr hyn byddai yn dda iddo holi tipyn. Cofiaf adeg, os soniai rhywun arall am gychwyn masnach, mawr fyddai. yr ymdrech i'w rwystro. Edrychai y lleill yn ddigofus arno fel un a chwenychai ran o'u hetifedd- iaeth. Ymhen amser dechreuwyd son am y Co-op. Gwnaeth y son hwn y gelynion yn gyfeillion, ac unasant eu nerth i wrthwynebu y symudiad sydd yn awr ar droed yma, symudiad sydd wedi bod o gymaint bendith mewn lleoedd eraill. Cawsant un "landlord" i'w cefnogi. Ond o drugaredd agorodd drws arall, ac y mae'r symudiad yn myned rhagddo yn gyflym. Gwelaf fod eich gohebydd yn awgrymu digolledu y masnachwyr. Ai nid yw yn tybied eu bod eisioes wedi gwneud yn bur dda ac yn well na rhai sy'n gweithio yn galetach na hwynt. Ai nid yw yn tybied ei bod yn bryd i'r gweithiwr feddwl am godi tipyn Jar ei gefn ei hun yn hytrach na chodi cefnau pawb ond ei hunan. Ar eu cyfrifoldeb eu hunain y cychwynodd y masnachwyr yn hollol, a rhai o honynt yn gwybod ers amser maith fod Co-op. mewn bwriad pan geid tir. Bydded hysbys i'ch gohebydd hefyd fod yr iawn a delir i'r tafarnwr yn dod o'r fasnach, ac ni ddigolledir \,hwy os a'r bobl i yfed i'r clybiau. Pa resWm all fod mewn awgrym i weithwyr ddigolledu masnachwyr ? Os ewyllysiant ddigolledu eu gilydd, croeso iddynt. CO-OPYN. I
Eisteddfod y Buffs, Aberhonddu.
Eisteddfod y Buffs, Aberhonddu. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Mercher, Ionawr 7fed, yn y Neuadd Gyhoeddus, ac yr oedd hwyl yn yr wyl. Y llywydd ydoedd Mr. W. Jones Parry, Ariandy Cymru a Lloegr, ac arweiniwyd yn dde- heuog gan y Proffeswr T. Lewis, M.A., B.D. Pwyswyd y cystadleuwyr gan y rhai canlynol: Cerddorol, Mr. Jacob Gabriel, L.T.S.C.; llenyddol, Mr. Rees Rees (Teifi) gwaith nodwydd, Mrs. G. T. Jones; darluniau, Mr. Ithel Thomas, B. Se. Ysgrifenydd, Mr. Francis Pugh. Trysorydd, Mr. Mozart Jones. Rhestr o'r Buddugwyr. I Solo, bechgyn neu ferched dan 12eg: 1, Annie Price; 2, Lizzie Watkins. Solo, bechgyn dan 15, Ymlaen i'r Frwydr 1, W. Clarke 2, T. Jenkins. Solo, genethod dan 15: 1, L. Davies; 2, Annie Price. Deuawd, rhai dan 16eg, Y mae cyfaill i blant by chain 1, Bessie Mid- dleton a Rosy Jones. Unawd ar y berdoneg: Ray Davies, Llangorse. Unawd tenor, Hoff wlad fy ngened- igaeth 1, Evan Evans, Aberhonddu. Unawd bass, "Lead kindly light" Cydradd, Mr. Oscar Watkins, Aber- honddu, a D. Jones, Abercrave. Unawd soprano, "Beyond" Miss Eva Miles, Tredegar. Unawd contralto, Abide with me," Miss Gwladys Arthur, Pontnewydd, Mynwy. Pedwarawd, Messrs. Oscar Watkins, W. T. Jones, Gwladys Arthur, L. King. Cor Plant, Ha, ha! melus wyliau ha' 1, Aberhonddu; 2, Llandilofair. Cor Cymysg, The Fisherman's Bride Aberhonddu. Can 100 llinell, Tanchwa Senghen- ydd Ap Cledlyn, Ystalyfera. Can 50 llinell, Gwigfa Aberhon- ddu 1, Madog Fychan. Englyn, Aberhonddu," Madog Fychan. Adroddiad i rhai mewn oed, Mer- chant of Venice Cydradd, Mrs Jones, Llangynidr; Miss Harris, Clyro. Adroddiad, dan 16eg: 1, Olwen Row- lands 2, Harry Edwards. Araeth ar y pryd, Yr Enfys Mrs. G. T. Jones. Gwaith Nodwydd. Table Centre, Miss W. Edwards, Aberhonddu; child's pinafore, M. Lloyd, Talybont-ar-Wysg; night-dress case, Florence Wilson, Aber- dar.
. I Glais.j
I Glais. j Dydd Mawrth, Ion. 6ed, a'r ddaear yn wyn gan eira-, wrwyd mewn priodas yng nghapel Hermon, Xantyglo, Mr. John Williams o'r Glais a Miss Bessie Gethin (Nantyglo). Y Parch. D. G. Morris (B.) weinyddodd wrth yr allor, a'r Parch. J. Tywi Jones weddiodd am fendith ar yr undeb. Cannwyd yr offeryn yn swynol dros ben gan Miss Gwladys Jones, R.A.M. Rhoddwyd ymaith y briodferch gan ei hewythr o'r Glais-Mr. Philip Gethin. Y gwas a'r forwyn briodas oedd Mr. David Wil- liams, Pontypridd, brawd y gwr ieuanc, a Miss L. Jenkins, Fardre, Clydach. Cafwyd brecwast priodas yn nhy mam y briodferch, a Mrs. Francis, o Nanty- glo Mrs. Gethin, Glais, ac eraill yn gwneud pawb yn hapus. Merch yw y I wraig ieuanc i Mrs. Gethin a'r diweddar Mr Henry Gethin, Brynmawr, a'r gwr ieuanc yn fab i Mrs a Mr James Williams, Emlyn Villas, Aberarad, Castellnewydd Emlyn. Yr oedd hi yn un o oreuon merched ieuainc Hermon, Nantyglo, ac yntau yn ddiacon, ac yn un o oreuon Peniel, Glais. Hyderwn y bydd eu bywyd priodasol ar ei hyd wynned a glaned a'r eira a ddisgynasai megis i'w llongyfarch ar foreu eu priodas. Y Parch. D. Price, Bethesda, Aber- tawe, bregethai yng nghwrdd hanner blynyddol Peniel y Sul a'r Llun. Traethai yr Efengyl gyda dylanwad mawr. Methu dylanwadu ar y Parch. T. E. Nicholas i aros ddarfu i Eglwys Seion. Gadawsent hi yn rhy ddiweddar cyn ceisio ganddo. I Landdewibrefi a Llan- gybi y mae yn mynd. Y mae un o blant y Glais-y Parch. W. J. Morgan, sydd wedi gweinidog- aethu mor llwyddiannus yn y Gelli, wedi cael galwad dda i wlad y Gor- llewin.
Nodion o'r Ynysbir a'r Cylch.
Nodion o'r Ynysbir a'r Cylch. GAN "DAFYDD AP GWILYM." I ANRHYDEDDU GWR TEILWNG. Teimlir boddlonrwydd cyffredinol yn y cylch hwn ar waith y Brenin yn anrhydeddu Mr W. James Thomas, Brynawel, Ynyshir, o'r teitl o Syr. /Y mae haelioni y boneddwr uchod yn hysbys i bawb, ac felly mae yr an- rhydedd wedi dod i wr teilwng. Yr oedd y Syr a'r waith yn rhoddi £1,000 i swyddogion Saron, Capel yr Annibynwyr, Ynyshir, pan ddaeth y newydd am ei ddyrchafiad iddo. DARLITH. I Traddodwyd darlith yn Nghapel yr Annibynwyr Cymreig, Ynyshir, nos Fercher, y 7fed o Ionawr, gan Ad- jutant Robinson, Byddin yr lachaw- dwriaeth, Caerdydd. Testun y ddar- lith oedd "Broken Earthenware Re- made," sef hanes gwaith y Fyddin yn codi dynion oedd wedi myned yn ddwfn iawn mewn pechod. Agorwyd eu llygaid yn fawr iawn i weithrediad- au y Fyddin Filwrol. Y cadeirydd oedd Syr W. James Thomas. MARWOLAETH A CHLADD- I EDIGAETH. Yn gynnar boreu dydd Sul, y 4ydd o'r mis hwn (Ionawr), bu farw Dr. J. L. Edwards, Cymmer, Porth. Adweinir ef wrth yr enw Dr. Edwards "Bach." Cynorthwy-ydd i Dr. Cochrane oedd yn awr, ac i'r diweddar Dr. Lewis o'i flaen. Cladd- wyd ei weddillion yn mynwent Lledr- ddu. Gwasanaethwyd gan y Parch. Tom Parry, B. A., curad St. Paul. Cafodd angladd tywysogaidd. CYNGHERDD GYSEGREDIG. Nos Sul, y 4ydd o Ionawr, cyn- haliwyd cyngherdd gysegredig yn Tabernacl Bedyddwyr Seisnig, Porth, er budd dioddefwyr Tanchwa Senghenydd. Canwyd gan Barti Meibion y Porth, dan arweiniad Mr Philip Jones. Yr oedd yn bresenol hefyd gerddorfa Mr Percy G. Smith, Ton Pentre, a chanwyd gan wahanol gantorion o'r cylch. Cadeirydd, Mr D. Watts Morgan, Miners' Agent, Porth. Mawr hyderwn y ceir ehv sylweddol at yr achos uchod.
Tredegar.I
Tredegar. I Drwg gan luaws preswylwyr y dref hon ac Annibyniaeth trwy Gymru a'r America glywed am farwolaeth sydyn y Parch. D. J. Williams, New York. Brodor o Bethesda Arfon ydoedd. Derbyniodd ei addysg yn Menai Bridge a Choleg Aberhonddu. Cafodd ei ordeinio yn Saron, Tredegar, a bu yn gweinidogaethu yno am un flynedd ar ddeg; yna cafodd alwad i Gapel Coffa, Portmadoc. Rhoddodd yr eglwys yno i fynu pan y derbyn- iodd alwad oddiwrth Eglwys Anni- bynol Cymreig, New York. Yr oedd yn bregethwr swynol a chymeradwy yn y ddwy iaith. Buodd Mrs a Miss Williams ar ym- weliad a'r wlad hon yr haf diweddaf, ac yr oedd yn mwriad Mr Williams ddyfod drosodd yr haf nesaf, ond wele ef wedi croesi y terfyn. GALARWR.
Advertising
rjYMERWCH JJYN YN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pa un a ddylai Parotc .d, gan ba un y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yn mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau Iachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? Y PWNC o IECHYD Y mae hyn yn fater sydd yn sier o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr. gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau Mae Quinine BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod yo Barotoad sydd wedi ei barotoi yn fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addas i r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin » wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH 0EDL YSTYRIWCH YN A WR. Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2s. gc. a 4s. 6ch. yr ua Unig Berchenogion:- QUININE BITTERS t4ANUFACTURING COMPAMY, LIMITED, LLANELLY. SttutJi Walat.