Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Nodiadau'r Golygydd.-I

News
Cite
Share

Nodiadau'r Golygydd. I Ce isia'r Toriaid wneud helynt o'r gwahaniaeth barn sydd rhwng Mr. Winston Churchill a Mr. Lloyd George ar gwestiwn treuliau'r Llynges. Hawl- iau'r blaenaf fod angen ychwanegiad at y treuliau hyn. tra y dywed yr olaf y dylesid eu lleihau. Gan nad pa un a yw yr annealldwriaeth yn peri'r blinder honedig rhwng y ddau ai peidio yn bresennol, dylasai ddod i beri blinder mawr yn fuan. Dyhea'r Toriaid am weled rhyw annealldwriaeth yn codi a beryglai y Llywodraeth fel y rhwystrid Ymreolaeth. Dad-gysylltiad a Mesur y Lluosogrwydd Pleidleisiau rhag dod yn ddeddfau. Xid yw yn debyg y cymer unrhyw aelod o'r Weinyddiaeth, yn bresennol, gwrs a beryglai un o'r mesurau gwerthfawr hyn. Wedi gor- ffen a'r rhai hyn, disgwyliwn y daw ewestiwn treuliau y fyddin a'r llynges yn gwestiynnau byw iawo. Bydd raid iddynt ddod, y maent yn warth i war- eiddiad. Hyderwn y deil y Toriaid i ferwi ar y cwestiwn, bydd hynny o gyn- horthwy amhrisiadwy i ddwyn y mater i bwyso ar gydwybod y wlad. Credwn ei bod yn llawn bryd i eglwysi'r wlad i ddeffro ac i ystyried eu cyfrifoldeb ynglyn a'r mater hwn. Yn sicr, dyma fater y dylasai eu cwrs fod yn eglur iddynt gyda golwg arno. Os dylasai eu llais fod yn glir ac yn groew ar rywbeth dylasai fod felly ar y mater hwn. Nid oes amheuaeth gyda golwg ar ddysgeidiaeth lesu o Nazar- eth gyda golwg ar ryfel, nac amheuaeth ychwaith gyda golwg ar ddyledswydd ei ganlynwyr. Os dylasai awyrgylch yr eglwysi fod yn farwol i rywbeth dylasai fod i farwol i ysbryd milwriaeth a rhyfel. Cyflawnder y gyfraith yw car- iad yn nheyrnas nefoedd, a meddylier am draul ein darpariadau milwrol a llyngesol a'r twyll a'r llygredigaeth sydd ynglyn a hwynt yng ngoleu ym- adroddion yr Arglwydd Iesu. Hwyrach y gofynnir beth all yr eglwysi wneud Gellir yn hawdd ateb Gallant godi eu llais yn gryf ac yn groew yn erbyn yr ysbryd milwrol sydd yn ffynnu, ac yn erbyn y cynlluniau a fabwysiedir i feithrin yr ysbryd hwn yn ein plant a'n pobl ieuainc. Byddai Ilais eglwys sydd yn deilwng o'r enw yn anorchfygol. Ei llais yw ei harf hi, a phe ceid barn a chydwybod argy- hoeddedig yn ei llais byddai raid i alluoedd y byd blygu. Dau adroddiad calonogol iawn oedd yr adroddiad o gyfarfodydd Cymdeithas yr laith Gymraeg yng Nghasnewydd, a'r adroddiad o gynhadledd gyntaf Adran Dyfed o Gyngraig y Cymdeith- asau Cymreig. Rhai ynglyn ag addysg a'r ysgolion yn bennaf oedd yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac yn selog dros adfer y Gymraeg a defnydd- io'r ysgolion i'r perwyl. Yng Nghynad- ledd y Cyngraig yng Nghaerfyrddin gwerin Cymru welid yn deffro i werth ei hiaith a'i chenedlaetholdeb. O'r werin y cychwynodd y Cyngrair, a hyn wna'i lwyddiant yn sicrach. Rhaid i ni ddweyd yn onest mai y rhai mwyaf llwfr o bawb ynglyn a'u hiaith yw nifer o'n gweinidogion. Nid yn unig y maent yn llwfr, ond y maent yn anffyddlon ac yn llofruddio yr hen iaith ar eu haelwydydd. Hyderwn y lefeinir yn y man ein heglwysi gan ys- bryd y Cyngrair fel na feiddia'r un gweinidog ei hesgeuluso. Y mae'n bryd i'r eglwysi hefyd hawlio mwy o sylw i'r Gymraeg yn rhai o'u colegau enwadol. Gresyn yw fod ein hathro- feydd yn troi allan bregethwyr Saesneg da a phregethwyr Cymraeg gwael.

Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Y Barri—Y Cymrodorion, &c.

Bwrdd y Golygydd.

1 I Cymry Cymraeg, Abertridwr

Advertising