Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOL

I, Y GWEITHIWR AMAETH-I IYDDOL.

I Ar y Twr yn Aberdar.I

I IPwnc y Tir yng Nghymru.

|Aberteifi a'r Cylch.I

News
Cite
Share

Aberteifi a'r Cylch. I Marwolaethau. I I Drwg genym gofnodi am farwolaeth y Parch. R. Bowen Jenkins, M.A., CJ JI- Reithor Llangoedmore. Cymerodd le bore Llun, Rhag. 5ed, yn 070 mlwydd oed. Dymunodd ar i'w gyfeillion anfon ond nodyn syml am ei farwolaeth i'r wasg. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf care dig a haelionus. Gwel tlod- ion y cylch ei angen yn fawr, oblegid yr oedd yn hynod o drugarog wrth yr angenus. Ymgynullodd tyrfaoedd pryd- nawn dydd Gwener i dalu y gymAvynas olaf i'w weddillion. Claddwyd ef yn mynwent y dref. Ei ddymuniad oedd cael ei gladdu yn y plwyf y byddai farw. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan rhai o enwogion yr Eglwys. Huned ei gorph mewn hedd hyd fore'r codi. Ar ddydd Mawrth bu farw Dafydd Jones y Bath Home, fel y gelwid ef, yn 91 mlwydd oed. Adwaenid ef fel un 0 ffyddloniaid Seion. Yr oedd yn aelod yn Nghapel Mair, Aberteifi, a gwasan- aethodd y swydd ddiaconaidd am flyn- yddoedd lawer. Nid oes neb yn fwy ffyddlon yn y cyfarfodydd wythnosol, ac yr oedd ganddo barch dwfn at ei weinidog. Claddwyd ef bore dydd Gwener yn mynwent y dref. Gwasan- aethwyd yn yr angladd gan y Parchn. W. H. Williams, Llechryd; E. J. Lloyd, Capel Dogmel, ac Whiftington, Hope Chapel, a'i weinidog, T. Esger James. Gadawodd ddwy ferch a lliaws o ber- thynasau i alaru ar ei ol. Teimlir hir- aeth ar ei ol gan liaws mawr o gyfeill- ion. Yr oedd yn un o heddychol ffydd- loniaid Seion. Cyngerdd. I Cafwyd cyngherdd ar raddfa uchel yn y Pavilion nos Iau diweddaf. Nos Tabernacl, C.M., ydoedd hon, a chaw- sant gefnogaeth gan drigolion y dref. Llywyddwyd gan Faer y dref, Mr. R. Picton Evans, U.H. Gwasanaethwyd gan Mr. W. H. Jones, Aberiawe Miss Pauline Allen, Mr. W. Morgan Griffiths, Miss Vera Bosisto, a'r Proff. D. E. Williams, Treforis. Deallwn fod elw da wedi ei wneud o'r gyngherdd. Mri. J. Pughe Jones a T. J. Mathias oeddynt yr ysgrifenyddion. Aberteifi. D. JONES.

Advertising