Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOL

News
Cite
Share

Y GOLOFN AMAETHYDDOL GAN "BRYNFAB." COFIWCH AM Y CWN. Mae pob amaethwr sydd yn cadw anifeiliaid o bob math yn cael bod yn Yhydd o dalu treth y own. Caniateir un ci yn rhydd gan nad pa leied fyddo rhif y defaid a'r gwartheg. Caniatei r dau pan fyddo y rhif yn fwy. Ond ni chaniateir mwy na thri yn rhydd heb fod y defaid yn rhifo dros bum cant. I gael bod yn rhydd o'r tal, mae y y gyfraith yn gofyn am lanw y daflen a anfonir i bob amaethwr ar ddechreu blwyddyn. Mae y daflen erbyn hyn wedi dyfod i law, a dylid ei llanw ar unwaith, gan nodi rhif y cwn a hawlir yn rhydd o'r dreth. Wedi llanw y daflen anfonir hi i Gofnodydd yr Ynadon yn y dosparth. Pan ddigwyddo i rywun gael ei adael heb y daflen, dylid myn'd i'r llythyrdy lam un, lie y gellir ei chael yn rhad. Nid yw esgeulusdod y swyddogion yn ddigonol i gadw perchen y cwn heb ei ddirwyo, os digwydd i'r heddgeid- wad ddod heibio, a gofyn am y rhyddid swyddogol. Mae y gyfraith yn fwy manwl ar ol yr amaethwyr nag y bu. Llanw y daflen, a'i hanfon i'r "Excise Officer," a chael yr hawl Igofynol yn ol oddiwrtho fu y drefn am flynyddau. Ond yn awr mae yr holl geisiadau am yr hawl i gadw cwn heb dalu y dreth yn myn' d o flaen yr ynadon lleol, ac anfonant hwythau yr heddgeidwaid yn yspiwyr i weled os oes hawl gan yr amaethwyr i gadw y nifer a ofynir o gwn. Os bydd yr ynadon yn barnu fod y ceisiadau yn rheolaidd, anfonir y tafleni a lenwir i brif Ysgrifenydd y Cynghor Sir, ac oddiwrtho ef y mae rhyddfreiniad cwn yr amaethwr yn dod. Fe wyr y ran fwyaf am y trefniadau hyn. Ond gall fod rhai heb wybod y cyfrinion, ac er mwyn y rhai hynny y gwneir y nodiadau hyn. Cofiwch am lanw eich papyrau yn brydlon, oherwydd ni cha neb y rhyddfreiniad gofynol hyd nes y byddo pob un yn y dos- parth wedi anfon ei hawl i fewn. GWYBODAETH AM DDIM. Mae y sawl sydd yn gwybod am y ddarpariaeth rydd y Llywodraeth i gyfrannu pob math o wybodaeth amaethyddol yn manteisio ar hynny. Mae y Bwrdd Amaethyddol yn cyhoeddi pamphledau ar bob math o bynciau cysylltiedig ag Amaethydd- liaeth, a gresyn fod un amaethwr heb eu darllen, gan eu bod wedi eu hysgrifenu gan y prif oraclau amaeth- yddol, ac i'w cael am ddim. Anfoner yr enw a'r cyfeiriad i .Ysgrifenydd y Bwrdd Amaethyddol 4, Whitehall- Place, Llundain, ac anfonir y pamphledau yn gyson fel y cyhoeddir hwy. Nid oes eymaint ag eisiau gosod tlythyrdoll ar y llythyr a anfonir i ofyn am danynt. Anmhosibl cael gwybodaeth ar delerau hwylusach. Os dewisir, gellir cael cynwysiad pob pamphled a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diweddaf; ac os y gwelir yn hwnnw fod rhyw destyn dyddorol wedi bod dan sylw, gellir cael y cyfryw bamphled ddim ond anfon am dano, gan nodi ei rif yn y cynwysiad. Chwi ryfeddech gymaint o wybodaeth ellir ei gael am ddim trwy gyfrwng y pamphledau hyn, Ac ym mhellach gellir cael prisiau pob nwydd amaethyddol ym mhrif farch- nadoedd y deyrnas bob wythnos, a hynny heb arian ac heb werth, trwv anfon cais i'r Bwrdd Amaethvddol, 06 St. James Square, London, S.W. Ni raid i neb gael ei ddal yn hepian wrth brynu na gwerthu pan yn cael y prisoedd bob wythnos. Unwaith yn unig y rhaid anfon y cais a'r eyfeiriad, a daw y cwbl i law "fel y cloc o hynny allan. RHEOL BYS A BAWD. Y r ydym wedi byw yn rhy hir wrth y reol hon. Rhaid i ni wneud defnydd o'r addysg ddiweddaraf mewn nob cangen ? Amaethyddiaeth. pan nad oedd v rWr yn gyd-gystadIeu- ? ni yn L farchnad, yr oedd yn bosibl i ddod a dau pen y llinyn i gwrdd wrth reol bys a bawd. Ond mae yn ofyno1. i ni agor ein llygaid bellach, a chymeryd mantais o bob cyfrwng gwybodaeth. Yr ydym wedi bod yn gwrteithio ac yn hau lawer gwaith, a rhyw drychfilyn yn gwneud .tin holl lafur yn ofer yn y diwedd. Mae pryfaid bychain yn gwneud mwy o ddifrod ar gnydau yr amaethwyr nag a wna holl gwningod y wlad. Yr ydym yn achwyn ar y cwningod am ein bod yn medru eu dal. Yr ydym yn anwybyddu y trychfilod am nad ydym yn gwybod ffordd i'w difetha. Yr ydym yn porflii y gwartheg godro ac yn pesgi yr ych gyda'r un math o fwyd, am nad ydym yn gwybod mai nid yr un bwyd sydd yn ofynol i gynyrchu llaeth a gwneud cig. Y r ydym yn rhoi bwyd i gyn- yrchu cig mewn anifail ieuanc, pan y dy1.em roi y bwyd priodol i fagu esgyrn. Pethau fel yna wneir wrth reol pen bys. Ond yn y pamphledi y soniais am danynt, fe geir nob -eyfarwyddvd, hyd at ddigonedd, ar Yr   sydd wedi eu hesgeuluso genym.  roi benthyg y Pamphledau LTdd ? i*? ganddynt dlm ond gardd i ? ?Y? tatws a ?''esych M?e trt yfuhifci lod J yn poeni y garddwr yn ami „   yntau ?y gorfod edrych ar p, difrod heb wybod Pa le maent yn byw hS' ?ha. Ceir heintiau ^fy<j yn oed ar goed fifrwythau, ac mae meddygini- aeth i'r rhai hynny, ddim ond gwybod am dani. Rhodder cynnyg ar bob gwybodaeth sydd o fewn ein cyrraedd.

I, Y GWEITHIWR AMAETH-I IYDDOL.

I Ar y Twr yn Aberdar.I

I IPwnc y Tir yng Nghymru.

|Aberteifi a'r Cylch.I

Advertising