Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Beirniadaeth.: I

News
Cite
Share

Beirniadaeth. EISTEDDFOD Y DDRAMA YM MERTHYR. Gan y Parch. D. Bassett, Aberdar. (Parhad.) Golygfa'r 3. 1 Yr oedd Mrs \Vynn yn ardderchog, a Gwen yn ddigon naturiol. Daeth Mavis i fewn yn rhagorol, a daliodd i'r diwedd yn deilwng" o'r cymeriad a* gynrychiolai. Toddedig iawn oedd ton Mrs Wynn pan welodd Master Tom, a'r un bach yn taflu ei breichiau am wddf ei fam nes angherddoli'r olyg- fa. Golygfa'r 4. Cryf a beiddgar oedd y prif gymeriad- au yma. Dyna ddisgwylid. Godidog oedd Gruffydd Elias. Gallasai'r ddir- prwyaeth daflu mwy o ddwysder, ac nid digter, i'w geiriau nawr. yn arbenig pan welent y wawr ar dorri a diluw'r gole newydd yn dod; ond rhaid cofio o hyd mai Drama Streic ydyw. Cryf a bon- eddigaidd oedd Mr. Wynn yn dal yr awenau yn y cyffro. Methodd Gruffydd Elias ddal, a syrthiodd a geiriau yr "Hen Simeon" ar ei wefus yn naturiol. Caed perfformiad ardderchog, a hynnv o ddrama anodd a chaled. Credwn y dylid cvmeryd i ystyriaeth anhawsder a chaledwcl1 drama, a'r perfformiad gore o honi yng ngole'r anhawsder hwnw. Rhaid i'r neges a mawredd y gwaith gael lie amlwg, os amgen pa ystyr sydd i'r ddrama a pha chymhelliad sydd i ddramodwyr 2 Parti Treorci-4ack y Bachgen Drwg. I Pennod 1. I Efsjyr hon yn naturiol, a'r gwahanol gymeriadau yn ymdoddi i'w gilydd. Byw yw'r desgrifiad, a dwys ac awgrym- iadol yw'r ymddyddan. Gwna John bach a Jane eu gwaith yn ddoniol, lled- nais a difyr ac nid llai ddiddorol "J W Ann a Sian. Felly miri'r emyn, a don- iolchwch y galw a'i ganu. Diddorol a byw yw y desgrifiad o'r ffair Gytuno. Pob cymeriad yn actio'n dda. ond dichon mai H. bia'r dorch. Hoffem weithiad allan olygfa'r gwanhau a'r marwi ac o'r digri gyda Sian ac Ann jn lladd prudd-der yr amgylchiadau. Gol- ygfa'r gwely marw yn doddedig, a John bach yn eithriadol dda gyda'i acen, ei ddolef. a'i ystum. Gallasai Maria deimlo mwy o ddiddordeb yn yr am- gylchiadau, a gwthio mwy o'i henaid i'r drama fan hyn. Xis aros, plethu dwylo, ac ysgwyd pen, a chodi, ond symud 'nol a blaen-myned at ben H., cydio yn ei law wen,-trin gwallt John bach-dod a'r moddion-taflu ambell belydr o ole i'r prudd der. Gwn rnai rhywbeth felly, os nad mwy a wnelsai, pe gwelsai anwylyd ei mynwes yn radd- ol suddo. ac yn rhoi ei feridith ola i'w John bach o ganol niwil y glyn. Da oedd y digri gyda Sian ac Ann wedi prudd-der y marw. Dyma beth yw gwella drama ac ni wneir hyn ond gan rywun neu rywrai a fedrant feddwl ac a feiddiant roi act i'r meddwl hwnw. Rhagorol yn wir. Pennod II. I Rhagorol yw John yn ei ystafell, a'i ymson yn anorchfygol. Dyma touch o r stage, a'r drama yn ei hyspryd. Difyr a dwys yw geiriau ffarwel John a'r hen ffermydd, a llyfetheiriau'r "Hen Ysweiniaid" trahaus' falch. Cryf ac apeliadol yw ei benderfyniad i wynebu Morgannwg fawr, a. thyner yw ei fyfyr o'r anhawsder i ddyweud, ac ymadael a'i fam. Doniol a naturiol oedd v dod a'i bac adref, a dwys oedd dolef ac ystum ei fam wrth ei weled. Gwnaed y ffarwelio gydag arddeliad. Mari yn cysuro Maria yn dda, ond yr ymadael yn well. Yr oedd John a'r Heddgeidwad yn tynu'r ty am ei ben, ac un o'r golygfeydd gore -Ilawn o vshrvd y drama, oedd dyfod- iad John i dy Jane, a'r bwvta a'r yfed ofnasol a wnaed. Dipyn yn undonog oedd Mr. Jones. Gallasai fod yn fwy llithrig, eglur a phendant, gan daflu vnpryd ei safle i'r amgylchiadau. Gwir mai camp yw gwneud hyn. Ond mae'n werth yr ym- drech. Xid oedd Jane cystal yng nghwmni'r gweinidog ac yng nghwmni John, ac nid yw syn chwaith. Awgrym- iadol oedd golygfa'r dyrchafiad i John, a Jane yn ymgynghyrfu gyda'r duedd ddirywiedig. Gwnaed golygfa'r llythyr yn dda, ond teimlwn mai beichus i'r ddrama ydyw. etto nid bai'r parti yw hynny. Pennod III. J Da oedd v demtasiwn 1- John a Mor- gan yn feistri ar eu gwaith. Nid oedd yr yrngom yn y ty cystal a'r ysbryd. Yr oedd yr ail demtasiwTri vn gryfach, er nad oedd Dafydd a Morgan agos cys- tal a John. Actions ac ystum John yn fyw iawn, ac yn eu gorbwyso. Dim digon o charm yn eu hosgo, eu goslef. a'u hedrychiad. Dipyn yn rhy afler oedd golygfa'r dafarn. Y bywyd isel a'i dwyll yn cael ei ddadguddio yn rhy fuan. Dylesid arafu, ac nid brysio. Rhagorai'r tafarn- wr ar Dafydd a Morgan yma, a theimlai John hynny. Desgrifiadol oedd Billy Ponto. Daeth y bywyd garw i'r golwg yn rhy fuan nid gan Ponto, ond gan y tafarnwr, a Dafydd a Morgan. Gwneler y gore i guddio'r brad, nes cael y gongcwest. Dyna'r diffyg mawr yma. Dylasai per- sonoliaeth yn ogystal a geiriau'r gwein- idog wrth gwrdd a Jane ac Arthur ar yr ystryd fod yn ddwysach a llawnach o enaid. Hoffem i Mr. Dickinson fod yn fwy awdwrdodol ei air a'i wedd. Tyner a dwys oedd dolef John ar yr heol wedi ei daflu allan. Derbyniodd y gole ar yr amgylchiadau gan Ponto yn dda. Tro gore'r gweinidog oedd cwrdd a John ar yr ystryd. Doniol oedd Twm Carver a Dai o'r Stag. Dwys oedd Jack wrtho ei hun, ac yn troi i gardota. Syrthiodd ar y ffordd yn ardderchog. Pennod IV. Gallasai Dafydd a Morgan wneud eu gwaith yn well. Cryf oedd Ponto, ond disgwyliem iddo dynnu ei got, ei rhoi dan ben Jack, a rhoi tamaid, a diferyn iddo, yna rhoi ei siars i'r ddau ragrith- iwr. Da oedd codi Jack a throi at dy'r gweinidog, yn ogystal a'r ardystio. Hoffaswn fwy o deimlad gyda'r fam a Jane wrth gwrdd a'u gilydd ar yr ys- tryd, a'r ystori yn llawnach o'r yspryd. Peidio rhuthro gormod, ond taflu mwy o ddwysder ac angherddoldeb i'r cyfar- fyddiad. Yr olygfa ola, a seremoni'r adferiad yn weddol iawn. Perfformiad rhagorol, a gwaith mawr a chaled wedi ei arddangos gyda'r ych- wanegiadau, ond gwn yr eddyf pob un nad oedd dramodwr hafal i John yn y parti. Mae i'r cymeriadau ereill eu gwendidau, ond John yn bur ddiddiffyg. (I barhau.)

Bedlinog.I

Advertising

IEisteddfod Bodringallt INadolig,…

Advertising

Dosbarthwyr y 'Darian.'

ARGRAFFWAITH.