Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

Nodion o Frynamman.

jY Stori.I

News
Cite
Share

Y Stori. I EDWARD DAFYDD Y PERERIN. (Parhad.) "Mi fyswn i'n leico gallu atab gweddi'r hen frawd yna," ebai Edwart Dafydd. Bendith ar ych pen chi os medrwch chi. Wn i ddim sut y baswn i'n teimlo taswn i'n meddwl na 'tydi i weddi o ddim i'w hateb. O'r braidd na faswn i'n ama daioni'r Brenin Mawr, os na wela i Arthur Huws wdi troi yn hogyn da." "0 ry'ch chi'n myned yn rhy bell I nawr. Nid atab gweddi'r hen frawd yn y ffordd fysech chi a fine'n ddishgwl yw'r prawf o'i 1 ddaioni E. Rhaid i ni gofio fod j ewyllys Arthur Huws yn y cwestiwn, • a'i arferion e, a dylanwad rhai ereill j arno, a llawer o bethe ar y ffordd. I Onid y'n ni yn ca'l yn dysgu mai peth anodd iawn gan Dduw yw rhoi pech- I adur i fyny. Yn siwr i chi, 'dyw'r tad odd yn dod i'r golwg yn y i weddi heno, ond cysgod gwan, er cystal yw e, o'r Tad sydd yn y nefoedd. Tad fel y gweddïwr yna yw .m o'r prawfion cryfa i fi o ddaioni Duw." I "Wir, dyna ola newydd i fi ar betha, a rydach chi'n siwr o fod yn I iawn." I Yr oedd erbyn hyn yn hwyrhau, a throdd y ddau eu camrau tuag yn ol heibio i'r bwthyn. Gwelent ole yn y ffenestr arall erbyn hyn, a deallent fod y ddau hen bererin ym myned i orffwys o dan gysgod ei adenydd Ef. Ymadawodd y ddau ddyn, ac Edwart Dafydd yn addaw galw heibio i Huw Wilias drannoeth am "ryw scwrs bach." Wedi ei adael iddo ei hun ar ei ffordd yn ol i'w lety, deuai Arthur Huws a gweddi yr hen wr o hyd i feddwl Edwart Dafydd. Holi am Arthur y bu eto yn ei lety, a'r un cymeriad a gafodd iddo yma. Am Arthur Huws y breuddwydiau wedi iddo gau ei lygaid mewn hun. Bore drannoeth talodd vmweliad a'r hen bobol. Dywedodd wrthynt yn syth mai "dyn o'r South" ydoedd ar un o'i bererindodau blynyddol; a chyda'r hyspysrwydd hwn taenodd megis cwmwl dros eu hwynebau, a deffrodd ynddynt atgofion chwerw. A anghofia gwraig ei phlentyn sugno?" "Rydach chi'n adwaen y bachgen yma felly?" gofynnai yr hen wraig. Ei thybiaeth hi, fel llawer eraill o bell, am y Deheudir oedd mai rhyw un stryd anferth oedd, a phwll glo mawr ar y sgwar yn y canol, a phawb yn adwaen eu gilydd. Na," meddai Edwart Dafydd, 'dw i ddim yn i nabod e; ych gweddi chi ar i ran e neithwr dda'th a fi yma heddy. 'Tawn i'm cal i gyfeiriad e gyda chi, fallc gallwn i fod o ryw help iddo." "Cewch 'n taid, y cyfeiriad ola gawsom ni." "Parhewch mewn gweddi," ebai Edwart Dafydd, ac wedi iddo estyn rhywbeth i'r hen bobl aeth i ffwrdd. 0 hyn allan nid oedd i'r Pererin y bias arferol .ar ei daith. Yr oedd gweddi yr hen frawd gydag ef o hyd; methai a chael Arthur Huws o'i feddwl, a dychwelodd adref. I IV. I "0 ble dethoch chi? Beth halodd of an arnoch chi?" gofynnai tri neu bedwar o'r teulu yn yr Ystrad. "O's rhai honoch chi yn napod Arthur Huws, bachan o'r North?" oedd atebiad Edwart Dafydd. Wedi synfyfyrio am ennyd dywed- odd un o honynt, Ma un Arthur Huws wedi mynd i'r jail, bachan o'r North yw e hefyd O'r arswyd dyma hi, bese'r hen bopol yn gwpod hyn !—yn y carchar —bachgen gore'r ardal," meddai Edwart Dafydd yn gynhyrfus. Nid oes yno neb allai ddweyd mwy na chynnwys nodiad a welsent yn y papur, ddedfrydu bachgen o'r enw o herwydd niweidio rhywun mewn ymrafael i ddeng niwrnod o garchar gyda llafur caled. Aeth Edwart ar ei union at arolygydd yr heddgeidwaid, J' a chadarnhawyd iddo eto mai Arthur Huws o Fon oedd y carcharor, a'i fod yn un o glymblaid oedd yn enwog am derfysg yn y lie. Disgwyliai yr heddgeidwaid gael ychwaneg o hon- ynt i'r ddalfa yn y man. Yr unig ffordd i Edwart Dafydd gael hyd i Arthur Huws o flaen neb arall oedd iddo fynd i Gaerdydd y noson honno i'w dderbyn allan o'r carchar bore drannoeth, oblegid lied dybiai y byddai ei gymdeithion yn disgwyl am dano, ac efallai ym mynd i Gaerdydd gyda'r tren cyntaf Achubodd yntau'r blaen arnynt. "Arthur Huws o Shir Fon," oedd y cyfarchiad ddisgynnodd ar glustiau y dyn ieuanc ar ei ddyfodiad allan trwy byrth haearnaidd fore ei rydd- had. Trodd yntau a gwelodd wyneb a welsai o'r blaen yng Nghwm Rhondda, ond gan nad oedd unrhyw adnabyddiaeth flaenorol rhyngddynt, cychwynnodd yn ei flaen fel pe'n teimlo yn ofidus ei weled gan un nad oedd ar delerau cyfeillgar ag ef. Edrychai hefyd o'i gwmpas fel pe'n disgwyl rhywrai a adwaenai. Ennill vmddiriedaeth Arthur oedd y pwnc i Edwart Dafydd. Teimlai nad oedd amser i'w golli. "Yn awr neu byth" tmeddai llais yn ei enaid. "Arthur Huws," meddai, "rw i wedi dwad bob cam o Shir Fon ar gais ych tad a'ch mam i chwilio am danocjb?" Càfôdd yr hyspysrwydd hwn y dylanwad a obeithiai ar Arthur. Er cychwyn o hono ar frys, arosodd a I neidiodd mewn dychryn a go- fynnodd— "Ydach chi ddim am ddeud 'u bod nhw'n gwybod mod i wedi bod i fewn yma ?" Teimlodd Edwart Dafydd fod yn yr ofn a amlygid yn y cwestiwn hwn ddolen gref i afael ynddi. Na, trw drugaredd," meddai, "wyr yr hen bobol ddim am hynny, a rw i'n gobeithio na ddon' nhw ddim i wybod. Ond cofiwch 'dy'wch car- chariad chi ddim ond ffrwyth pethau sy'n hyspys iddyn' nhw ag yn peri blinder iddyn' nhw. Fuoch chi mwn carchar o'r bla'n?" 11 N addo. "Trowch nol ynte. Fyscch chi'n caru mynd i fewn yna yto?" Daeth ias oer o ofn dros Arthur, ac atebodd- N a faswn." Da iawn, a chi wyddoch am y ffordd sydd yn arwain i fewn yna ?" "Gwn," meddai Arthur, a chryn- dod yn ei lais. "Wel, ma hi'n mynd ym mhellach o lawer. 'Dy'ch chi ddim ond megis wedi dechreu teimlo'i gerwindeb hi. Cofiwch mai i weddi'ch tad ry'ch chi'n ddylcdus am 'y mod i yma yn ych derbyn chi. Dewch gyda fi-ma gyda fi lawer i weyd wrthoch chi. A da chi, penderfynnwch ffarwelio a'r hen ffordd yng ngolwg drws y car- char yma." Ni ddywedodd Arthur ddim mewn atebiad, ond diau i awydd o leiaf godi yn ei enaid am allu dod i ben- derfyniad o'r fath. Ffodus iawn iddo ef y boreu hwn oedd syrthio o hono i ddwylaw Edwart Dafydd. Anodd yw dweyd beth fuasai ei hanes, pes gadewsid ef y diwrnod hwnnw, at drugaredd y "stormydd mawr o demtasiynnau" a gurasent arno cyn y nos. Tra'r Pererin ac yntau gyda'u gil- ydd yn y llety, cymerodd Arthur y papur oedd ar y bwrdd. Yn y man clywai Edwart Dafydd ef yn och- neidio'n drwm, a gofynnodd iddo, "Be sy'n dy flino di?" Estynnodd Arthur y papur iddo. Darllennodd yntau, gymeryd rhai o gymdeithion Arthur, a fwriadent gyfarfod ag ef ar ei ryddhad, i'r ddalfa, a thraddodi un o honynt i sefyll ei brawf yn y frawdlys chwar- terol. Wedi methu cael hyd i Arthur aeth y rhai hyn i yfed ac i gweryla. "Weli di," ebai Edwart Dafydd, "ma'r ffordd yn mynd ym mhellach o hyd. Y fath fantes yw troi o honi am ddiwrnod "Na, nid am ddiwrnod rwy'n go- beithio," atebai Arthur, a dwyster yn ei lais. ei lais. (I barhau.)

Taith i Lydaw.1

ICaerfyrddin.I

Llwynybrwydrau. I

Advertising