Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Jiwbili yn Nhabernacl, | Treforis.!…
Jiwbili yn Nhabernacl, Treforis. Cyfarfod i'w Gofio.. Eglwys Annibynwyr sydd yn y Taber- nacl, ond y mae yn Eglwys Ymneilldu- wyr hefyd. Fel y cyfryw y mae ei llwyddiant, ei phwysigrwydd, a'i dylan- wad yn destun llawenydd a diddordeJb, nid i'r Annibynwyr yn unig, ond i Eglwysi Rhyddion eraill yn ogystal. Cyfrifir y Tabemacl y capel goreu yng Nghyraru. Y mae ei dwr pigfain, uchel, yn weledig o bell, ac yn ein hadgofio fod crefydd ysbrydol yn allu yn nhref y simneiau a'r mwg. Dichon y cawn air gan rywun am y cyfarfodydd eraill; y cyfarfod y cefais i'r fraint o fod yn- ddo oedd yr un nos Wener. Y mae mynd trwy ddrws y Tibernael yn ysbrydiaeth. Teimlir fod popeth yno fel y dylai fod. Yn ddiau pen saer celfydd a'i cynlluniodd. Ei odidowg- rwydd yw symldra gweddus a chwaeth dda. Ceir ynddo le eistedd i 1,800 o bobl, a dywedir fod cynifer a 3.000 ar adegau wedi cael lie ynddo. Yr oedd yn llawn y noson hon, a llu o ddynion o nod a gweinidogion y cylch yn bresen- nol. Y gweinidog presennol yw'r Parch. W. Emlyn Jones. Golwg dywys- ogaidd oedd arno ef yn dod i fewn. fel y gweddai i un ar ol deugain mlynedd a lafur yn yr un lie mewn eglwys bwys- ig. Hardd oedd merched y cor yn eu gwisgoedd gwynion wedi dod yno i ganu uwch bedd y ddyled. Llvwydd- wyd y cyfarfod gan y boneddwr rhadlon Mr. T. J. Davies, U.H., Llawenychai ef wrth weled cynifer o wyr o nod wedi dod ynghyd. Talai deyrnged uchel i'r gweinidog. Clywsent yno ddynion en- wog o bryd i'w gilydd, ond neb a hoffent ei glywed yn fwy na'r Parch. W. Emlyn Jones. Breintiesid y Tabernacl a gweinidogion a wnaent yr eglwys yn ffynhonell o allu a dylanwad yn yr ar- dal. Y cyntaf oedd Thomas Jones, an- farwol ei goffa, a thad Brynmor, Vir- iamu, Irfonwy a Lief Jones. Ar ei ol ef daeth "Herber" fawr ei ddawn-gwr fu'n Gadeirydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru. Yn 1869 daeth y Parch. W. Emlyn Jones atynt, a chawsent ef yn fugail tyner ac yn dywysog ymhlith pregethwyr. Safai y Tabernacl yn golofn goffa i'w lafur a'i ymroddiad ef. Crybwyllwyd am John Humphreys, archadeiladydd, a'r Taber- nacl oedd yr esboniad goreu ar ei chwaeth a'i fedr yntau. Rhyw ddau o'r hen bererinion oedd yn aros gyda hwynt, yn wir yr oedd yr ail-genhedl- aeth yn cyflym ddiflannu. Chwenych- asai llawer o honynt weled Jiwbili'r TaJoernacl, ond ni welsant. Cawsent hwy oedd yno fyw i weled y Tabernacl hardd yn glir o ddyled. Llawenychent hefyd wrth gadw jiwbili yng nghyflwr llewyrchus yr eglwys. Ceid yno dorf o bobl ieuaine. Yr oedd eu cor cystal ag yn nyddiati D. Francis ac Eos Morlais. Yn enw Ymneillduaeth dywedai y myn- nent gydraddoldeb crefyddol a phob eglwys yn y wlad yn eglwys rydd. Y nesaf i siarad oedd Arglwydd Pontypridd. Bu efe fel arfer yn ffydd- Ion i'r Gymraeg. Y mae'n ddiddorol sylwi fel y mae dynion fel* hyn yn cael cymeradwyaeth y dorf pan ddeallir mai yn yr hen iaith y maent yn mynd i siarad. Nid yw calon y bobl wedi gwyro yn y mater hwn. Teimlai Ar- glwydd Pontypridd y byddai yn werth dod yno o Gaerdydd pe i ddim ond i glywed y cor yn canu. Llonder i'w galon oedd gweled yno deml mor dlos a honno bellach yn rhydd o ddyled. Ond er hardded y lie yr oedd angen rhyw- beth mwy. Nid oedd yr adeiladau gweledig ond megis pyrth i'r deml ys- brydol. Yn yr eglwys o'i mewn yr oedd gogoniant y deml. Cadernid gwlad oedd ei chrefydd. Nis gellid dirnad gwerth yr eglwysi i'r wlad. Nid oedd allu tebyg i'r eglwysi i gadw trefn a heddwch. Ceisiai ddychmygu weithiau am gyflwr y wlad hebddynt. Llanwent le mawr ym mywyd cymdeithas, ac ni charai feddwl am y aefyllfa pe tynnid yr eglwysi allan o'n bywyd. Llongyfarch- ai Eglwys y Tabernacl ar y cewri a gawsent i'w gwasanaethu-pregethwyr mwyaf Cymru. Cyfeiriodd yn garedig, at Syr D. Brynmor Jones, a dywedai nad oedd wedi cael y gydnabyddiaeth a haeddai oddiar law y Llywodraeth Yr oedd Mr. Willianf Jones A.S., Arfon, yn ei afiaith. Un o ddvnion hoffusaf Cymru yw efe, ac yn Gymro a gwennwr 01 wadn i'w gorryn. Fel ar- weiniad i fewn i'w araith cyfeiriodd yn chwareus at y ddau gyn-gadeirydd i'r Blaid Gymreig oeddent un ar boJb tu iddo, sef Arglwydd Pontypridd a Syr Brynmor. Nid yn ami, meddai Mr. Jones, y ceid Arglwydd yn medru siarad Cymraeg, ac nid llawer o Ar- glwyddi oedd yn Ymneillduwyr. A chyda golwg ar Syr Brynmor, nid mab i'w dad yn unig oedd efe; yr oedd yn wleidydd, hanesydd, a deddfwr o fri. Yr oedd yn dda ganddo fod yn y Taber- nacl ar y diwrnod mawr, a'u gweled wedi "prifio" ar y ddyled. Aethent yn basgedig wrth dalu llog. Cawsent bre- geth rymua yn y prynhawn gan y Parch. J. Morgan Gibbon, Cymro arall lanwas- ai Gadair Undeb Lloegr a Chymru. Yr oeddent yn falch o hono, ac yn falch o gyrhaeddiadau Cymry ymhob cylch. Cofiwch, er hynny, ebai Wm. Jones gyda phwyslais, ein bod yn falch o'n Cymraeg. Cyfeiriodd at gychwyniad Ymneillduaeth y cylch yn y Mynydd Bach, a llafur y tadau. Rhybuddiai bobl ieuainc Cymru nad anghofient lafur eu hynafiaid. Dechreuasent hwy eu gwath cyn bod Treforis, pan nad Odd dun ond ?" ambell betrisen i'w  yn y maes a bref dafad gyfeil- liiorr. ;,Chynh«ta- Dylai pob? ieu- ne wyha mL"™  hynafiaid-y d«wrio„ wnaX gymaint dros Gym- ru. fan yJn hogyn yn Sir Fon elai yn llaw ei fam i wrando ar Gwilym Hir- aethog, Dr. John Thomas, a John Grif- fith, y Gohebydd. Bu'r Gohebydd yn dathlu gwyl talu dyled Libanus, capel cyntaf Eglwys y Tabernacl, gyda Herber Evans. Cawsom ddesgrifiad doniol o'r Gohebydd fel siaradwr—Cymraeg a pheswch a gair Saesneg bob yn all- Rydach chi wedi gwneud tremendws o waith yma, &c." Aeth y peswch ag ef adref yn rhy gynnar. Darllenner ei gofiant fel y gwybydder am waith a brwydrau'r tadau. Darllenner Hanes Cymru nid i aros gyda'r pethau fu, ond er eich mwydo a'r ysbryd. Yr oedd ganddynt orffennol godidog yn y Tabernacl. Yr Annibynwyr gych- wynasent Ymneillduaeth y cylch, a byddai galw arnynt i fod yn fwy unol yn y man fel y rhyddhaer Crefydd Cymru. Yr oedd Dadgysylltiad a Dadwaddoliad ar eu symud o diriogaeth dadlu a siarad i diriogaeth ffaith. Dyma'r mater y bu Herber, John Thomas, S.R., Lewis Edwards, Jones Felinfoel, Thomas Gee, a llu ereill yn llafurio o'i blaid. Nis gellid darllen hanes Cymru heb ddarllen hanes Ymneillduaeth. Saeson ac es- troniaid arferent ysgrifennu ein hanes. Nis gallent wneud cyfiawnder a ni, ac nis gwnaethant. Bu Cymru yn hwy na'r un wlad arall cyn cael ei dynion ei hun i ysgrifennu ei hanes. Bellach gwneir y diffyg hwn i fyny. Rhaid mynd i lygad y ffynnon cyn y gellir gwneud tegwch a hanes gwlad. Dar- llenner cofiaonau pregethwyr mawr Cymru. Nid pobl anwybodus ac an- llythyrennog oeddent. (Nis gwyddent yr hyn wyr dysgedigion ein hoes ni, ond mynnent wybod popetb oedd ddichon- adwy ei wybod yn eu hoes eu hunain. Meddylier am Christmas Evans yn dysgu Groeg yn ei hen ddyddiau, ac ym- drechion tebyg o eiddo John Elias ac eraill o'r cedyrn. Aeth y bobl hyn a Rhamant, a Drama, a Barddoniaeth Cymru i'r pwlpud a'r oil wedi eu mwydo yng nghrefydd Crist. Dynion fel y rhai hyn wnaeth Gymru. Yr ydym yn ddy- ledus i Ymneillduaeth am ein canu; ni fu llun ar ganu cyn ei chyfodiad hi. Daethai rhai o dermau goreu y Gym- raeg o gerddoriaeth. Daeth "cywair" yn ddefnyddiol mewn llawer cylch- cyweirio ty, cyweirio gwair, a ieir v mynydd, medd Ceiriog. yn cyweirio menyn. Engraifft arall oedd yr erwydd," darn o ystyllen oedd hwn wedi ei lyfnhau, a phum llinell arno a nodau ar y llinellau a rhyngddynt. Yn I ol hwn y cenid i fyny ac i lawr "yn ol yr erwydd." Tra'r elai'r Saeson i chwilio ieithoedd eraill am pro rata, in proportion, etc., gwnai'r Cymro bopeth yn hwylus yn "ol yr herwydd." Pregethid "o her- wydd, &c." Gwnaethai Ymneillduaeth lawer dros ddiwylliant y werin. Clywsai fod yma ddarllenwyr a llenorion—dyn- ion yn arfer trin pynciau. Tuedd ych- wanegai at nerth a chymeriad cenedl oedd hon. Nid, oes dim fel trin. pync- iau. Gwawdid Germani un adeg am fod y bobl yno'n gwastraffu eu hamser i drin pynciau, ond hyp wnaeth y wlad honno'n fawr-" The philosophers of Germany became great practical edu- cationists." Nid dyn dwl wna fas- nachwr mawr, neu beiriannwr mawr. Darllennwch Gymraeg. Darllennwch Saesneg a ieithoedd eraill, ond nac anghofiwch ddarllen Cymraeg. Dar- Ilennwch awduron goreu'r Saeson, ond darllenwch hefyd weithiau Daniel Owen a Llewelyn Williams. Yr oedd dynion ieuainc yn hoff o chwareu a'u chwareu- on yn gyfreithlon, ond dylasent ofalu am y meddwl. Ysbryd a meddwl ddylasai lywodraethu'r cnawd, a difyn- nodd frawddeg-" Boed i'r ysbryd serio'r cnawd, fel bo byw y cnawd." Hatling y wraig weddw, yn bennaf, sydd yn talu dyledion. Eiddo'r bobl yw yr eglwys. Peidiwch ofni beirniad- aeth. Yr ydym ar waelod ddeil storm pob beirniadaeth—Democrataeth Crist. Y mae her y byd i grefydd yn deyrnged i'w gwerth. Gall y byd godi cywilydd ar grefyddwyr gwael, ond byth ar y gwir Gristion. Ni fedr beirniadaeth ddileu ffaith. Peidiwch bobl ieuainc a throi ar anwybodaeth ambell hen wr sydd a'i brofiad yn fwy na'ch gwybod- aeth chwi. Gwaith gweinidog yw cynorthwyo meddyliau gonest i fynd trwy'r cwmwl. Nac ofnwch y beirniaid anfoddog (cynics). Y mae mynyddoedd daflent allan dan unwaith erbyn hyn yn taBu allan ddim ond baw. Rhai felly yw'r beirniaid anfoddog. Poerant ar bo- peth. Eweh yn ol er mwyn mynd ymlaen. Ni raid ofni y bydd chwerwder ysbryd pan wneler holl Eglwysi Cymru yn rhyddion. Hawlia ysbryd aflonydd yr oes nid goddefiad yn unig, ond Ilawn gydraddoldeb a rhyddid. Ar ffeithiau crefydd y deuai't byd i ymorffwys. Pan gyfarfyddai ef ddynion ieuainc mewn anhawsder, cyfeiriai hwy yn y lie cyntaf, nid at grefyddwyr mawr, ond at ddynion mawr o'r byd-dynion oeddent alluoedd elfennol yn y byd. Ceisia gan amheuwyr ieuainc wrando ar yr hyn ddywedant hwy am grefydd. Adgofia hwy o'r ymddiddan rhwng Napoleon a'i swyddogion-y swyddog- ion yn gwawdio Cristionogaeth a Napo- -leon yn ateb-iddo ef ac eraill sylfaenu teyrnasoedd i fyned heibio, ond fod y dyn hwn-Iesu o Nazareth-wedi syl- faenu teyrnas, nid ar bethau materol ond yng nghalonnau dynion. Gallai gyfeirio eto at Goethe yn un o'i weithiau wedi benthyca'n helaeth o lyfr Job. Dywedai Goethe ei fod wedi dar- llen llawer o lyfrau, ond mai'r Beibl oedd yr unig lyfr a'i darllennai ef. Awgrym buddiol iawn oedd am i bobl ieuainc beidio darllen y Beibl gydag eshoniad arno ar y dechreu. Darllenner y llyfr ei hun. Llyfr eneid- iau byw ydyw, yn ein dwyn i wyddfod yr anweledig. Dod i'r gyfrinach yma wnaeth Hiraethog a John Elias yn nerthol. Am y miloedd dan weinidog- aeth yr olaf y dywedai Hwfa Mon: Trwyddynt 'roedd nerth yn treiddiaw, j Wedi'i ddwyn o'r byd a ddaw." Gofalai Ymneillduaeth am fyd y corff yn costal a byd enaid. Hi god- odd ein hysgolion a'n colegau. Cref- ydd rydd sydd eto i benderfynu cwestiynnau cymdeithasol, ac i wneud dynion yn un frawdoliaeth fawr. Un o'r golygfeydd harddaf a gofiai mewn ¡ eglwys oedd hen saer yn disgyblu y bon- eddwr mwyaf oedd yno, a hwnnw yn ei ddagrau dan yr oruchwyliaeth. Nid oedd galluoedd o'r tu allan i lesteirio egwyddorion bywyd ysbrydol yr eglwys. Y mae yr eglwys i lefeinio'r wlad fel y byddo dyn fyw er mwyn cymdeithas.— Cedwch eich ffydd. Dyna grynhodeb amherffaith o rai o'r areithiau. Rhoddwn yn y rhifyn nesaf grynhodeb o areithiau Brynmor a Llewelyn Williams. Addawodd y cyfaill Treforfab anfon i ni grynhodeb o'r cyf- arfodydd eraill. Hyderwn y deuent i law mewn pryd i'r rhifyn hwn. (I barhau.)
IAr y Twr yn Aberdar.
I Ar y Twr yn Aberdar. Ni fwriedir i'r twr fod yn y golwg. I Bydd y gwyliedydd fel Arthur ym I mreuddwyd Rhonabwy yn gweled pawb, ond neb yn ei weled ef. Ni fydd yn malio botwn corn am neb, a Ilai fyth am y crane. Er hynny, ni Jfydd yn gas i neb nac yn cadw digof- aint. Gwell cariad na chas. Un o am- i canion y Darian" fydd meithrin brawdgarweh, a disgwylir i bob gohebydd i ochel surni. Ymddiriedwn i'r Golygydd i gau pob colyn allan, ac er mwyn hynny i ymgadw yn effro i II ddal y seirff. Boed i'r Gol., y goheb- wyr, a'r darllenwyr flwyddyn newydd lwyddiannus, a boed y "Darian" yn I well nag erioed. Hen arfer boblogaidd yma cyn y Nadolig oedd i bartiau o blant a phobl ieuainc fyned o gylch i ganu. Am ryw reswm neu gilydd ni chlywyd gymaint o ganu y tro hwn. Aw- grymai hen law fod gwlad y gan yn troi yn wlad y ddrama. Feallai mai gwir hynny am rai pobl ieuaine a ar- ferai ganu, ond beth ddaeth o'r plant? Ni charem i'r ddrama ddistewi'r gan, yn enwedig can y plant. Un o feibion cedyrn Cwmaman yw'r Athro Joseph Jones, Aberhon- ddu. Yn wahanol i rai ni adawodd i'w ddysg i'w yrru'n vnfyd. Gwr sydd yn caru'i genedl, ei hiaith, a'i defion yw efe. Cyfrifir ef ymysg tywysogion y symudiad cenedlaethol. Yn ddi- weddar bu yn dweudci farn ar "Hwyl" y pwlpud Cymraeg. Dywedai y diflanna'r Hwyl" o'r pwlpud, a cheir un wahanol yn ei lie. Wel, os ceir ei gwell i atcb yr oes ni ddylid cwyno. Nis gallwn ffarwelio a hi heb ofni'r canlyniadau. Yr oedd ei hawyrgylch yn deilwng o bethau gore'r athrylith genedlaethol, a meithrinai'r delfrydau uchaf. Ni chymer y bregeth sych, draethodol, ac anghymreig mo'i He byth. Byddai Vnvyl y cewri yn adgof annileadwy ar feddwl y sawl a'i clywodd, ynghyda'r Amen wresog a hwyliog a fydd yn codi gyda hi. A'r hwyl, yr Amen, a phethau anwyl creill gyda'u gilydd, ond ceir pethau ereill yn eu lie sydd yn sicrhau safle'r pwlpud ym mywyd y genedl. Ceir gweled yn y man. Cyrhaeddodd y Cerbydau Diffyrdd o'r diwedd. Y maent yn debyg i'r Cerbydau Trydan sydd yma'n barod, oddieithr eu holwynion. Ni fydd eisieu ffyrdd haearn arnynt. Bwried- ir iddynt redeg i Gwmdar, Abernant, Cwmbach, ac Abercwmboi. Os prof- ant yn llwyddiant yn Aberdar, hwyr- ach y gwelir rhai cyffelyb mewn llawer cwm arall yn fuan. Hwvrfrvdig yw'r Cyngor i roi telerau rhesymol i deithwyr cyson ar y cerbydau. Anodd deall paham y gwrthodir darparu tocyn wythnos peu fwy i ateb cyfleustra lliaws o'r trigolion. Nid teg yw disgwyl i'r sawl sydd yn teithio'n ddyddiol ar- nynt i dalu pris tocyn llawn bob tro. Yn hytrach na gwneud felly, gwell yw gan lawer gerdded, tra'r cerbyd- au yn rhedeg heibio'n wag. Cyhoeddir almanac blvnyddol i Aberdar gan Mri. Stephens a George. Y mae'r un am eleni allan o'r wasg. Gall brofi yn ddefnyddiol i bawb gymer ddiddordeb mewn materion Ileol. Dyry grynhodeb o wybodaeth fuddiol am y cylch. Ceir darluniau ynddo o'r Uwch-Gwnstabl, Mr. R. H. Miles; y Dirprwy-Glerc, Mr. A. Watkins; yr Archwilydd, Mr. H. T. Goldsworthy, ynghyd ag Ysgol Ganolradd y Merched. Daw adeg ethol Cynghorwyr yn fuan, sef ym mis Mawrth. Daw pum sedd yn wag. Ymddengys y bydd rhai yn sefyll am eu dychwelyd. Dyma gyfle i bleidwyr y Sul wneud gwaith effeithiolach na siarad. Er mwyn sicrhau dylanwad y Cyngor o blaid y Dydd Sanctaidd, rhaid ethol Cynghor- wyr i bleidleisio felly. Nis gellir cysoni gwaith dynion yn dweud fod y lle'n iach ar y pwnc hwn, tra ar yr un pryd yn ethol dynion fel arall i'w cynrychioli. Aeth cyngherddau Nadolig Siloa yn ddisylw yr wythnos ddiweddaf. Y digwyddiad pwysicaf yn Aberdar Dydd Nadolig oeddynt. Datganwyd "Oratorio Nadolig" Bach gan y cor, I dan arweiniad Mr. W. J. Evans. Gwr I a wna fwy na neb yn y cylch i wella'r chwaeth gerddorol yw efe. Fel ar- weinydd galluog y mae'n glodfawr ymysg arweinwyr gore'r genedl. Cynorthwyid gan y tenor Sam Hempsall ac Emlyn Davies. Gwnaeth pawb eu rhan yn effeithiol, a theimla gwyr Byrdar yn ddiolchgar iddynt am ofalu am enw da'r lie mewn canu. | ¡ Llongyfarchwn eglwys v Bedvdd- j L l ongyfarchwn eglwys y Bedydd-  wyr Saesncg-Carmel, ar ei llwyddiant yn sicrhau y gweinidog ieuanc, y, Parch. T. Edmunds, B.A., i'w bugeilio. Meddyliasai am roi galwad 'iddo yn olynydd i'r Parch. T. Jones, ond dygodd Aberystwyth ei fryd oddi- arni. Y mae'n bregethwr galluog a dylanwadol, a phroffwydwn dyddiau o Iwyddiant i'r eglwys o dan ei weinidogaeth. Er mwyn pawb sydd a'u bryd ar I fyned at allor Hymen yn y dyfodol, bydd yn dda iddynt wybod mai y cofrestrydd priodasau presennol yw Mr. E. Strickland. Bu'n brysur yn ystod y gwvliau, ac edrychai wrth ei fodd mewn digon o waith. DvmLinwn oes hir a llawer o Iwyddiant iddo fel ei ragflaenydd Mr George G. Jones. Dywedir i lawer fethu troi allan i'w gwaith ddydd cyntaf y flwyddyn. Y rheswm am hyny oedd eu bod wedi blino wedi llafur y noson flaenorol yn ei chroesawi. Dylai fod yn garedig ar 01 cro.eso gvnhesed. Daeth i fewn i lyn ei gwyn, a bydded ei haws felly. Mor gymwys yw pennill Ceiriog iddi- "Dilladwyd hi mewn gwrthban 0 eira cynnes tew, A chap a bordor llydan A startsiwyd gan y rhew." Y GWYLIEDYDD. I
Ferndale.
Ferndale. I Y mae genym y gorchwyl prudd- aidd o gofnodi marw a chladdu y cyfaill a'r Cristion anwyl uchod. j Bu farw Rhagfyr 23ain yn 78 mlwydd: oed yn nhy ei fab, Mr Henry Davies, prif oruchwyliwr y Gymdeithas Gyd- weithredol. Cafodd ei flino gan an- hwylderau ar y galon a nychodd am fisoedd. O'r dolur hwn y bu farw. Dioddefodd ei gystudd blin yn am- yneddgar fel gwr Duw. Boneddwr crefyddol ydoedd, hawdd ei drin, ac yn llawn o ffrwythau da, a'i rinwedd yn perarogli yn hyfryd yn ei deulu, y gymydogaeth, a'r eglwys. Yr oedd. yn un o blant tangnefedd ymhob cylch. Bu yn flaenor ffyddlawn am dros 3oain o flynyddau yn Tre- rhondda (A.). Glynai yn gryf wrth, egwyddor, ac hawdd i'w gyd- swyddogion oedd cydweithio ag ef. Ond erbyn heddyw mae y cylchoedd a lanwai yn wag, ond ni gredwn fod y diweddar Daniel Davies er wedi marw yn Ilefaru eto. Bydded hyn yn I' gysur i'w ddau fab-un o honynt yn Ne Affrica, a'r llall yn Ferndale. Claddwyd ef Rhagfyr 27am yn y gladdfa gyhoeddus, a chafodd gyn- hebrwng anrhydeddus. Gwasanaeth- wyd gan y Parch. G. Penrith Thomas, ei weinidog, yr hwn a ddygodd dystiolaeth uchel iddo. Gwel- som yn bresenol y Parch. B. Wat- j kins (M.C.), Penuel, Ferndale. Can- wyd y tonau canlynol o'r rhaglen oedd wedi ei argraphu ar yr achlysur "Babel" a "Chrugybar," ar y geiriau "Bydd myrdd o ryfeddodau," ac "0, fryniau Caersalem." Yr oedd ar ei arch amryw o dorc h au o lfodau. I Rhagfyr 27ain yn Festri Penuel (M.C.), darllenwyd papyr cynhwys- fawr gan Mr. B. J. Evans, Tre- fecca, ar y diweddar Barch. John Jones, Talsarn. lonawr 3ydd siarad- wyd gan amryw o aelodau y Gym- j deithas ar y papyr uchod. I Nos Nadolig cynhaliodd eglwys Trerhondda (A.) gyfarfod cystadlu. Daeth cynhulliad lluosog yn nghyd i wrandaw ar rai o brif gystadleuwyr y Deheudir. Rhoddwyd y gwobrwyon fel y canlyn :-Unawd Soprano, Miss M. Clatworthy, Caerdydd. Unawd J contralto, Miss Mattie Williams, Pontypridd. Unawd tenor, Mr. Todd Jones, Treherbert. Unawd bass, rhan- wyd rhwng Meistri Glyndwr Thomas, Ynyshir, ac Evan Evans, Trealaw. Unawd, unrhyw lais, i rai nad enill- asant wobr mwy na ;(-, ii, a'r darn i fod yn Gymraeg: goreu, Mr. E. Kemp, Ynyshir. Prif unawd y cyfar- fod i unrhyw lais, Mr. Glyndwr Thomas, Ynyshir. Adroddiadau, Mri. Edwin Thomas, Ynyshir, a D. J. Morris, Tonvrefail. Llywydd, Cynghorwr David Lewis, Ferndale. Beirniaid: Cerddoriaeth, Mr John Price, Rhymney; adrodd, Mr Tom Williams (Castellydd), Pontypridd. Cyfeilydd, Mr Fred Davies, Fern- dale; trysorydd, Mr Gwilym James, M. E., Ferndale; ysgrifenydd, Mr Lewis Evans, Ferndale.
?*?"?**''? ' .....  Mountain…
?*?"?*?  Mountain Ash. I Dyma fel y canodd un bardd ar ol gwrando y Parch. John Phillips, gweinidog yr Annibynwyr, yn cadw cwrdd mawr yn Nhalysarn, Sir Gaer- narfon, Ddydd Nadolig:- "Gwr yw Phillips gorffola-ynddo'i hun Ddoniau y Gymanfa; Yn ei goeth, bert bregeth bydd Cu leferydd Calfaria!"
Gwahannod Llyfroniaeth yI…
Gwahannod Llyfroniaeth y I "Darian." GAN "WYDDONWY." I Anwyl Ddarllenydd,—Yn y golofn hon bwriadwn o wythnos i wythnos wahanu" a nodi" llyfrau a chyhoeddiadau ystyriwn fydd o werth i ddarllenwyr y Darian wybod rhywbeth am danynt. Afraid dywedyd y bydd genym safon i wa- hanu wrthi, a bydd y nodiadau bob amser yn gyfryw ag a fydd yn diddori ac yn adeiladu'r goreu yn mhob un o honynt. Mae ar hyd a lied y byd filoedd o Gymry llengar briodolant eu cariad a'u chwaeth at lenyddiaeth Gymreig i'r cyfarwyddyd gawsant, y gwersi dderbyniasant, a'r profiad y cyfranasant o hono ar aelwyd deyrn- garol y Darian yn y blwyddi gynt. Mae yna gongl gynes yn nghalonau'r miloedd hyn i'w "Halma Mater" o hyd yn parhau. Yr un yw program y "Darian," yr un ei hawydd am fod o wasanaeth addysgol arbenig i blant a phobl ieuainc y wlad yn awr fel cynt; ond fod lluosowgrwydd ei chynghorwyr yn awr yn rhoddi iddi'r fantais o allu bod yn fwy buddiol i gyfar- wyddo, ac yn fwy deheuig i dwyn allan ddawn ein hieuenctyd nag erioed o'r blaen. Mae i'r "Darian" ddyfodol disglaer eto, ac anogwn, gyda phob hyder, ein darllenwyr i son am dani, ei dangos a'i chymer- adwyo i'w cyfeillion a'u cymdogion. Bwriedir i'r golofn hon yn unig i fod yn werth ceiniog i bob un ymchwil- gar am oreuon llyfroniaeth fydd yn ymwneud ai Chymru, Cymro, a Chymraeg—a'r holl golofnau eraill a roddir iddynt yn ychwaneg Fe wel y mis hwn ein. misolyn fydd o ddyddordeb neillduol i'r sawl gar- ant ein cynydd a'n llwydd yn gym- deithasol a chenedlaethol "The Welsh Outlook." Ei bris fydd tair ceiniog, a gwneir trefniadau i'w osod ar werth yn siop pob dosbarth- wr o'r "Darian." Mae yn cael ei droi allan ar linellau hollol newydd yn hanes llenyddiaeth gylchgronawl Cymru. Myner fod y rhifynau cyn- /taf ar law gan bob un o'n dosbarth- wyr a'n llyfrwerthwyr, canys y mae'n debyg y bydd galw cyson am y rhifynau dyfodol. Dyma'r amser y dylai pob dos- barthwr fod ar ei wyliadwriaeth am gyfle i werthu blwyddiaduron, megis Pears, Whitaker, Hazell, etc. Nid oes reswm yn y byd pam lai na ddylai'r dosbarthwr distadlaf yn y siop Iciaf ymgymeryd a gwerthu'r. llyfrau hyn. Hyd yma y siopau mwyaf—y multiple shops" —sydd yn gwerthu fwyaf o'r rhai hyn; ond wrth fod newyddiadurwyr yn ym- ffurfio'n undebau, gallant feddu'r un- rhyw fanteision yn hollol ag a fedd y mwyaf yn y wlad. Yn y galofn hon fe drefnir moddion bob wythnos drwy ba un y gall pob dosbarthwr a newyddiadurwr gael manteision i wella'i hun a'i fasnach. Gwahoddwn ofyniadau ar unrhyw gwestiwn y carent gael gwybodaeth helaethach neu ryw oleuni pellach yn ei gylch. Pan na fydd natur yr atebion yn gyfryw ag a fydd yn gyffredinol dyddorol, anfonir yr ateb yn syth drwy'r post pryd yr amgeuir llythyrnod ceiniog. Telir sylw neill- duol i "overstocks" ac "unsolds, er mwyn cael marchnad i lawer o'r pethau sydd yn aros yn hir ar law dosbarthwyr, newyddiadurwyr, a llyfrwerthwyr y Darian. Edrycher allan am y golofn hon yr wythnos nesaf. Llyfrau amserol y gallwn eu cym- eradwyo yw: English Education and Dr. Montessori," 2s. 6ch.; In- dustries for the Feeble-minded and Imbecile," 2s. net; "Nationality and Home Rule" (Balfour) 6d. net. Yn XX'ales cyhoeddiad misol a olygir gan Mr. J. Hugh Edwards, A.S.—am Ionawr (6d.), ceir ysgrif dda gan y Proff. Jones, o Goleg Aberhonddu, ar le'r pwlpud yn myw- yd y genedl, a'i ddylanwad ar gym- eriad y Cymro. Gall unrhyw ddos- barthwr gael y llyfrau uchod neu un- rhyw lyfr arall ar y telerau arferol, ond anfon at yr ysgrifenydd, "Darian" Bookroom, Aberdar. Blwyddyn newydd dda i bawb.
————————I ICaerdydd.I
———————— I I Caerdydd. I MARWOLAETH. I Blin oedd genym glywed marw Mr. Ben Jones, mab y diweddar Gadben Jones, Albany Road, yn Rio de Janeiro ar ol ond ychydig ddyddiau o gystudd yn 29 oed. Morwr ydoedd, ac yr oedd wedi bod yn hynod lwydd- ianus mewn amryw arholiadau. Yr oedd yn ddyn ieuanc hawddgar a char- edig, a hoffid yn fawr gan y rhai a'i hadwaenant. Cydymdeimlwn yn fawr a.'t berthynasau yn ei galar. LLWYDDIANT. I Llongyfarchwn ein cyfaill ieuanc, Mr. Leonard Evans, mab hynaf Mr. a Mrs. Henry Evans, Cosmaston Street, Caerdydd (gynt o'r Mardy) ar ei lwyddiant yn enill tystysgrif "first mate" yn Nghaerdydd ychydig amser yn ol. Mae ei gyfeillion oU ya tiyiauap yn dda iddo.
Advertising
(JYMERWCH HYN YN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pa un a ddylai Parotc d, gan ba ua y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yo mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau lachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? Y pWNC (\ JECHYD Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi thedeg i !awr gyma!nt fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau. Mae QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod yn Barotoad sydd wedi ei barotoi yn fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addas i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin o wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH QEDI. YSTYRIWCH YN A WR" Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agis- af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2s. gc- a 4s. 6ch. yr uc, Unig Berchenogion:- qOimflE Bl ITERS NIANUFACTUIIIW COMPANY, UMITEB, LLANELLY, South WalM.