Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

I Nodiadau'r Golygydd.I i

Bwrdd y Golygydd.

iHWNT AC YMA. !

IAt Gymry'r Cyngrair.

Nodiadau am y Sydd.

News
Cite
Share

Nodiadau am y Sydd. Blwyddyn newydd dda i chwi, A blwyddyn hapus iawn Y nefoedd a'ch bendithio chwi, A'r cwpbwrdd bwyd yn llawn. Dyna nymuniad i i bawb perthynol i'r "Darian," hyd yn nod i'r "Gwr Bach Du" sydd bob amser yn y Swyddfa. I Cymreigyddion Rhondda. Nos Wener ddiweddaf, y 3ydd cyfisol, cynaliwyd y cyfarfod misol yn Festri Hebron (B.), Ton. Prif waith y noson oedd dadleu y pwnc o "Ymgorfforaeth y Rhondda." Agorwyd yr ochr gadarn- haol mewn araeth bwyllog a gofalus gan y Cynghorwr Iago Pen Rhys, yn cae l ei eilio gan Ben Devonald ac Arthur J. Timothy. Atebwyd gan y cyn-Gynghorwr Iorwerth Jones mewn beirniadaeth bwyllog a threidd-lym, yn cael ei eilio yn ddigrifol feistrolgar gan D. Griffiths (Tomos Bartley Cwm Rhon- dda). Treuliwyd noson ddifyr tan lywyddiaeth fedrus y Parch. E. W. Davies, Hebron. Canwyd yn ystod y cyfarfod gil-neuon Cymraeg, Gwlad y Delyn a Cwm Llewelyn gan B. Devonald, a'r "Hyn a garaf fi" gan Miss Olwen Lewis, Pentre. Yr oedd yr ystafell eang yn llawn o bobl foddhaus iawn eu golwg, beth bynag. Galwyd sylw at nifer o bethau pwysig yn eu perthynas a'r Gymraeg ar ddi- wedd y cyfarfod, ac yn eu plith at y "Darian" yn ei diwyg a'i harolygiaeth newydd, gan annog Gymreigyddion y cylch i roddi iddi'r gefnogaeth a haedda.