Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Beirniadaeth.I

News
Cite
Share

Beirniadaeth. I EISTEDDFOD Y DDRAMA YM I MERTHYR. Gan y Parch. D. Bassett, Aberdar. PARTI TRECYNON. I Eluned Gwyn Owen." Agoriad eithriadol dda. Yr am- gylchion yn brydferth, a'r brad natur- ioled ag anadlu. Actiai Ifan, Scriw a Stowt y Tafarnwr yn rhagorol. Nid oes hafal i gan, pill, ystum, a goslef yr Hen Grwydryn. Golygfa'r Heol yn fyw o ysbryd y drama. Tyner oedd stori'r ty, a dwys oedd yr ymadaw- iad. Dywedodd y Crwydryn frawdd- eg wrth gyfarch Owen gyda'r fath arddeliad nes gyru aeth i galonau'r dyrfa-" Bydd wedi ysbeilio'r diafol o hanner ei deyrnas cyn ben wythnos ar ol iddo fyned i uffern." Dyma ergyd gore i'r dramodwr. Golvgfa i'w chofio oedd Owen yn nhy Thomas Scriw. Nid llai diddorol ac apeliadol oedd y newydd o faes y gwaed am gwymp Ifan, a syrthiad Eluned yn y ty, ac Owen a'i galon ddwys yn dal anadl yr amgylchiadau, a threfnu diogelwch Myfanwy fach. Hwyrach y gallasai'r cynllun am ddyogelu Myfanwy gael ei weithio allan yn well. Yr oedd Thomas Scriw a'i fab yn dal anadl y dorf wrth ffugio marw, a newid yr enw, a'r seiri yn fyw o yspryd y ddrama. Gwnaed golygfa'r ffarm yn ar- dderchog, a Wil a Gruff yn coroni'r cwbl. Ceid pob ystum, goslef, a symudiad yn berffaith, a'r olygfa yn fyw o naturioldeb drwyddi. Eitha naturiol oedd Myfanwy, a'i safiad dros burdeb a gonestrwydd yn y Siop, a Wil yn actiwr penigamp wrth hawlio'r newid. Nid Ilai ei allu oedd y Siopwr, pan gofiom anhawsder y cymeriad gwael a gynrychiolid gan- ddo. Gwnaed y rhanau cynhyrfus hyn gydag.aroetiad teilwng o yspryd drama'r cyfnod. Llednais a byw yw cyfarfyddiad y Crwydryn a Myfanwy. Yn wir y mae Myfanwy lawned o ys- pryd y drama, nes y gogleisia serch a chalon y dorf a'i beirniaid, ac nid gwaith hawdd yw hyny weithiau. Doniol oedd Wil a Gruff gyda'r "llythyr glas," a Gruff yn smart gyda'r trie direidus. Rhagorol oedd y garwriaeth. Doniol oedd tact Myfanwy, yn ogystal a min ei gwatwareg a'i symudiadau di- reidus. Er caletad oedd gwaith Jenkin daeth allan yn rhagorol, yn arbennig pan ddadguddiodd yspryd y filain at yr Hen Grwydryn ar y ffordd. Daeth pwynt y ddrama i'r golwg yn yr ysgarmes yn nhy Thomas Scriw, y br&d yn cael ei ddadguddio, y gyfraith yn dal y troseddwr, a'r trysorau a gollwyd yn cael eu had- feryd, trwv wroldeb a gonestrwydd Mrs Scriw yn tystiolaethu i'r gwir- ionedd a'r anfarwol Grwydryn. Perfformiad arddcrchog o un o'r dramodau caletaf yn y gystadleuaeth. PARTI SILOA ABERDAR. I Ystori'r Streic. Agoriad gogleisiol. Pob cymeriad a'i lond o hud, ond mewn tymheredd wahanol. Egyr y digri'n dda ac i bwynt y drama. ACT I.— Golyfa'r I. I Ymsynia Mavis yn dda, ac edrydd Mari ei stori yn ddwys, gydag acen deilwng o natur ei ffydd, a dylanwad ei chrefydd. Gwnaed y digri yn gryf ac awgrymiadol. Golygfa'r 2. Ceir dau gymeriad hollol wahanol yn hon, a gwna'r ddau eu gwaith yn deilwng. Caed yma olwg ar onest- trwydd a diniweidrwydd y naill, a dichell y Hall. Anodd cael gwell por- tread. Daeth y ddirprwyaeth i fewn yn naturiol, a Gruffydd Elias yn cyfleu ei feddwl felnieistr ar ei waith. Dichon y buasai tipyn bach mwy o foneddigrwvdd a thact yn y gweddill vn fwv effeithiol, ond mater o chwaith yw hynny. Rhagorol oedd y digri a chyhoeddi "Cwrdd y Streicwyr." Dyma gaffael- iad i'r ddrama, a disgwyliwn am dano. Hawdd gwella ar gyfansoddwyr, hyd yn oed ein dramodau gore. Derbynir yr awgrym. Golygfa'r 3. Cwrdd teilwng o weithwyr-ysbryd y streic ac yspryd y ddrama yn gyn- hyrfus. Bai'r cwrdd, os bai hefyd, oedd gormod o godi dvrnau, a rhy fach o agor ac estyn Haw, ond rhaid eofio mai "Cwrdd Gweithwyr" ar y Streic" ydoedd. ø Golygfa'r 4. Yr oedd Mavis a'r ddirprwyaeth yn dda, a'r babi yn ardderchog. Lled- nais a byw i'r amgylchiadau oedd William Thomas, a Mari yn taflu heul- wen i'r caddug yr amgylchiadau. Cryf a byw oedd dadl Gwilym Goch a Dafydd Jones. Dichon y gallasai Dafydd daflu mwy o ysprydiaeth i'r amgylchiadau gyda'r frawddeg, "Dyna brawf i chi, Mavis," fod y plentyn yn deall y cwbwl." Gwnaeth Gruffydd Elias y cyflwyniad yn odidog. i ACTH.—Golygfa i. Actiai Symonds y filain yn rhagorol, ond collai Davies ambell air gyda'r scamp oedd yn ei ddal yn y fagl; etto, dichon mai rhagoriaeth ydoedd hynny i lawn bortread o'r cymeriad. Dal- iodd William Thomas ei dir yn y pridd, a gwelwyd ynddo'r gwron aeth yn ferthyr i nwyd a dialedd y filain. Gwnaed y digri yn ddigri iawn, ond i bwrpas. Golygfa'r 2. Byw a theimladwy iawn. Golygfa'r 3. Ystafell ranedig dda. Pob peth yn ei le i'r fantais ore. Gwr llawn o hunanfeddiant yw Dr. Rees. Gellid gwnaed hon yn angherddolach, pe na ruthrid cymaint. Cawsid gwell man- tais felly i daflu mwy o enaid iddi, a dal anadl y dorf. Golygfa'r 4. Rhagorol iawn. Dr. Rees yn ar- ardderchog. Ei hunanfeddiant yw grym yr olygfa. Golygfa'r 5. Mae gwisg ac ymddangosiad Mr. a Mrs. Wynn yn deilwng o'r am- gylchiadau, a Master Tom yn chwareu a'i dois bach naturioled a'r un plentyn fu wrth fwrdd erioed. Mae'r ymgom yn naturiol, a Mrs Wynn yn taro nodyn ucha'r drama wrth ddifyru'r plentyn a chofleidio ei phriod. Golygfa'r 6. Naturiol, dwys, ac awgrymiadol iawn drwyddi. Daeth y .digri wedi prudd-der yr angladd yn ardderchog, ac yn drobwynt newydd i'r ddrama. Rhagorol, fechgyn. Dyma arwyddion meddylgarwch. Golygfa'r 7. Carwriaeth ragorol, a chusan gysegrediced, nes herio nwyd ac arfer gwerin. Tybed na ddylasai gwisg y gariadferch fod yn deilyngach o safle ac urddas perchennog gwaith, yn arbennig gan ei bod yn myn' d allan i'r Pare a "Master Tom" yn y perambulator? Meddylier am un felly yn troi allan nawn haf i Bare Aberdar heb ddim am ei phen. "Peth bach," meddai rhywun. Digon gwir. Ond gwylier. Hoffasem fwy o angherddol- deb yn yr ymadawiad a Master Tom ar goll. ACT III.-Gol)-gfa i. I Arweinivvyd i fewn gyda'r digri yn odidog, nes daeth dwysder ac angherddoldeb y stage i'r golwg. Bechgyn y Streic yn actio yn dda, ac yn taflu yspryd y Streic i'r ddrama. Daeth Mr Wynn i fewn fel arwr ei gyfnod, a gwr wedi cael gole newydd ar amgylchiadau'r Streic, a diangodd fel dyn wedi sylweddoli ei sefyllfa. Gwnaed yr ysgarmes yn ardderchog, a Mr Wynn a Symonds yn feistriaid. Gall Symonds wneud a fynno gyda'r filain. Dyma ei gryfder, ond cofied gadw ei hunanfeddiant. Er caleted oedd yr olygfa hon iddo ef, aeth drwy- ddi'n deilwng, ac y mae hynny'n ddyweud llawer o safle beirniad. (I'w barhau.)

Advertising

Eisteddfod Bodringallt Nadolig,…

Advertising

IDosbarthwyr y 'Darfan.'

ARGRAFFWAITH.