Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

,.-_-..a-_.- -'-- ,- - -'-...-Colofn…

I Glais Cwm Tawe.

Y Stori. I YStori.I

News
Cite
Share

Y Stori. I Y Stori. I I ED\VART DAFYDD Y PERERIN. | 1. I Bendithiasid Edwart a dynoliaeth gref a rhadlon, yn fewnol ac yn allan- ol. Yr oedd ei wyneb agored, ei wen siriol, a'i lygaid tawel myfyrgar yn briodol arweiniad i mewn i deml bryd- fcrth ei enaid. Gallasai yr anghyfar- wydd dybied mai un yn cael byd braf ac ym mwynhau bywyd yn helaeth- wych beunydd ydoedd, a'i fod naill ai heb gwrdd a phrofedigaeth erioed, neu ei fod heb allu i deimlo oddiwrthi pes deuai. Y gwir yw-wedi dysgu gor- foleddu mewn gorthrymderau yr oedd Edwart a'i feddwl ffyddiog yn gallu ymdawelu yn y bore, fel y mor ar of ystormydd a llong-ddrylliadau'r nos. Gwyddai sut i gladdu'r chwerw a'r anymunol yn nyfnderocdd ei ym- wybyddiaeth, lie y troent yn faeth i'w ffydd, yn wen goruchafiaeth ar ei wyneb, yn nerth moesol yn ei enaid, ac yn gydymdeimlad gwirioneddol a'i gyd-ddynion yn ei galon. Cynllun Edwart Dafydd o dreulio ei wyliau yn yr haf a'i gwnaeth yn adnabyddus, nid yng Nghwm Rhon- dda yn unig, ond mewn llawer rhan o Gymru yn ogystal. Ar bererindod" yr elai ef, ac wrtho ei hun bob amser. Nid elai ar un cyfrif i gyrchfan) pobloedd lawer. Rhywbeth yn debyg, meddai ef, oedd y dorf bob amser, ac ac ymhob man, a'i difyrrwch wedi hen heneiddio. Cyfrifai fod clywed hanes Llanstephan a Llanwrtyd gan rywun fu yno yn llawn ddigon. Elai ef i le ncwydd bob blwyddyn, i ardaloedd gwledig. Cyrhaeddai yno yn ddieithr- j ddyn hollol; cymerai lety mewn He cyfleus, ac o hwn crwydrai yn ystod ei arosiad i bob cyfeiriad. Byddai ymhen y mis wedi gwneud lliaws o gyfeillion, ac wedi ymgydnabyddu a lleoedd diddorol a golygfeydd swynol. W'rth grwydro'n hamddenol draws gwlad a chael gair gyda hwn a'r Hall, deuai weithiau i gyfarfyddiad ag ysprydoedd cydnaws; gwahoddid ef i'r ty ac odid na threuliau oriau difyr gyda'r teulu. Bryd arall eisteddai am oriau i syllu ar olygfa hardd fel pe am roddi chware teg iddi i argraffu ei hun am byth ar ei feddwl heb neb i aflonyddu arno. Anaml yr ymwelai Edwart Dafydd ag ardal na chai gyfle i wneud tro caredig a rhywun. Nid efe. oedd y dyn i fwynhau croesaw a charedigrwydd y wlad ac anghofio ei gymwynaswyr diddan. Y mae atgofion melus am dano gan rai nas gwelsant ef ond un- waith neu ddwy yn ystod eu hoes. Yn, ei ymweliadau ag amaethdai a bwthyn- od wnaent ei fis gwyliau mor ddifyr iddo, deuai yn ami iawn i wybodaeth o helyntion trychinebus. Nid oes ardal, efallai yng Nghymru, nas cynrychiolir yng Nghwm Rhondda. Ceir yno oreuon a gwehilion pob sir. A gwyddis yn dda am awyddfryd a phryder rhieni yn y wlad wrth holi am fab neu ferch sydd oddicartref pan welant rywun o'r lie. Graffed yr edrych llygad y fam yng ngwyneb yr ymwel-, ydd dieithr pan yn gwrando ei atebion i'w holiadau. Nid y geiriau yn unig a ddehongl. Na, nid oes dim cudd- iedig ar nas datguddir iddi hi. Gwyr yn dda pan y celir rhywbeth rhagddi. Weithiau bydd ymadawiad bachgen a'i gartref yn ffrwyth amgylchiadau anedwydd, a'i rodiad heb fod yr hyn ellid ddymuno yn y wlad bell. Nis anghofiodd Edwart Dafydd erioed addewid i ymweled a bachgen ar ran ei rieni, hyd yn oed pan yn byw gryn bellter oddiwrtho. Nis anghofiodd, ychwaith anfon newyddion da pan fyddai popeth yn iawn, nac i arfer ei ddylanwad pan fyddai hynny yn angenrheidiol i gael bechgyn i'r ffordd a elwir "Uniawn." Fel hyn y talai ef ei ddyled i'r "wlad." Bu yn ddolen gydiol rhwng llawer aelwyd a bech- « gyn afradlon yn y "wlad bell," a'i dy ei hun yn gartref oddicartref i lawer un aeth i drybini. Clywsai Edwart Dafydd rai o fech- gyn Mon oddicartref yn ymffrostio yng ngharedigrwydd diarhebol pobl "yr hen wlad," ac yn herio'r byd i wneud dim tebyg i'r grempog a geid yno "diwrnod visit," hyd yn oed ar fyr rybudd. Tybiai os gwir y gair, nad ffol o le fyddai Mon am bererin- dod. Yno yr aeth. I u. 1 Rhwng chwech a saith o'r gloch cyrhaeddasai Edwart Dafydd i bentref bychan. Sicrhaodd yma le am y nos. XVedi ychydig orffwys ac ymborth cymerodd ffordd gul arw elai i'r wlad. Nid oedd y golygfeydd yma mor gyfar- eddol a'r rhai a welsai ar lannau'r Fenni. Ond yr oedd swyn a gor- ffwysdra i'w enaid ef yn y tawelwch digynnwrf. Ar ol ymlwybro'n mlaen am ryw filldir daeth i drofa sydyn yn ,y ffordd, ac yn honno i olwg bwthyn bychan-un o gartrefi syml Mon, sydd a'u gogoniant yn y "dyn oddi- fewn ac nid yn yr olwg allanol sydd arnynt. 0 flaen y bwthyn gwelai fechgyn a genethod fel pe yn gwrando ar rywbeth elai ymlaen ac yn chwerth- in ar eu gilydd. Ffodd y rhai hyn gan gywilyddio pan welsant y gwr dieithr yn dynesu atynt. Arosodd yntau pan ddaeth gyferbyn, a'i sylw wedi ei dynnu gan swij llais uchel oddifewn. Deallodd mai hen wr oedd yno yn darllen pennod ar uchaf ei lais er mwyn i'r hen wraig ei glywed. Tystiai ar ol hyn na chafodd ar un o'i bererinodau erioed fwyniant mwy na chlywed darllen y XV. bennod o Efengyl loan y tro hwn. Pan ar ganol y bennod safodd yr hen wr, ac fel pe'n ofni i'w gymhar trwm ei chlyw golli defnyn o fel y gwirionedd, gofynnodd iddi- "Wyt ti'n medru nghlywad i ?" "Ydw'n taid," ineddai hithau, "fydda i'n medru clywad y Beibil a'i ddallt o yn well na'r un llyfr arall." Chwarddodd Edwart Dafydd rhyng- ddo ag ef ei hun pan glywodd yr atebiad a dywedodd, Yn fwy cynetin ag e'r wyt ti'r hen ch\iter," Darllennodd yr hen wr yn araf ac yn ofalus hyd ddiwedd y bennod, a dechreuodd yr hwyrol weddi "esgyn drwy'r lawn. Braidd na ddisgwyliai Edwart Dafydd weled colofn o fwg arogldarth peraidd yn esgyn trwy'r to a'i sugno i'r nefoedd, gan mor fyw oedd sylwedd a thlysni yr olygfa ysprydol i'w enaid. Deallodd yn fuan mai baich y weddi daer oedd "mab yn y wlad bell." Y r oedd y deisyfiadau ar ran hwn yn angerddol. Cyn gorffen y weddi daethai dyn arall ymlaen. Ni wnaeth Edwart Dafydd ac yntau ond edrych ar eu gilydd. Gwrandawsai y naill a'r Hall o honynt yr un mor astud, a dCllai eu "hm, hm a'u ie, ie" mor naturiol a phe mewn. o/arfod gweddi. Ac onid cysegr ylw lie bynnag y byddo "gwir addolwyr y Tad." Pan ddywedodd yr hen wr Amen" i fewn, dywedodd Edwart Dafydd "Amen" oddiallan, ac ychwanegodd y dyn arall "ac Amen." Yna cafodd y ddau hamdden i gyfarch eu gilydd. III. I Dyna gwrdd gweddi i ni na chcson ni ariod i well e," meddai Edwart Dafydd, a'r ddau yn symucf ymlaen o gam i gam. 'Toedd o ddim mor anisgwyli- adwy i mi; fydda i'n i ga'l o'n reit amal. Mae o wrthi tua'r un adeg bob nos. Mi fydda inne'n dwad heibio ar fy hald rhag i ryw hogia aflonyddu arno fo. Chlywis i erioed 'hono fo mor afaelgar a heno chwaith, er bydd o'n reit ulw dda bob amser," meddai'r Hall. Ry'ch chi'n byw gerltaw fel'ny?" "Ydw'n taid, mwn rhyw dyddyn .bach sydd i fynny acw. Huw Wilias ydi f'enw i. Rydw i'n dallt wrth y'ch scwrs chi mai dyn o'r Sowth ydach chi." "Ie, Edwart Dafydd, pererin o Gwm Rhondda 'w inne. 0, taid anwl, Cwm Rhondda ddeudsoch chi? Rydw i'n credu n siwr mai yno mae'r hogyn o'dd yr hen frawd yna'n gweddio drosto fo." "Ble yno mae e yw'r cwesti\vn, ma Cwm fawr." "Oes vno le o'r enw Ystrad, deud- wch ?" "Yno rw i'n byw. Beth yw bachgen ? Arthur Huws. Adwaenoch chi rywun o'r enw yno?" Na chofia i ddim nawr, ond ma 'no gyment o ddynon o bob man." "Oes de'eeni. "Shwd fachgen yw Arthur Huws ?" "Rhen hogyn clenia welsoch chi 'rioed ydi o, ond i fod o wrth ga'lyn cwmni drwg wedi mynd yn slaf i'r ddiod yn ifanc. Ma'n biti garw gin i am dano fo. Mae o'n well siort na'r un o hogia erill yr hen bobol. Ro'dd pawb fforma yn -ffrindia hefo fo na fu rioetsiwn beth, a rhai odd yn cymyd glasiad u hunen ym meddwl 'u bod nhw'n ffeind wrth roi diod iddo fo." Y r hen stori o hyd! A'th neb ar gyfeiliorn nad odd rhywun yn gyfrifol am 'i arwen e. Wyddoch chi gyfeiriad Arthur Huws?" "Na wn wir wchi." "0 wel, mi alwa i gyda'r hen bobol cyn af fi o'r lie bore fory. Mi fyswn i'n leico gallu atab gweddi'r hen frawd yna. (I barhau. )

1-_-.......-! Can R. Tawe…

Advertising