Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

Nodiadau'r Golygydd. I -I

News
Cite
Share

Nodiadau'r Golygydd. I Yn y lie cyntaf caniataer y mi ddiolch i'r cyfeillion yn y Cwmni Newydd am yr amlygiadau wyf wedi gael o'u hymddir- iedaeth ynnof. Nid oes i mi bellach ond ymdrechu fel na siomer hwynt, ac na cholleder hwy na minnau yn ein hantur- iaeth. Nid yn ddifeddwl, nac yn anys- tyriol o bwysigrwydd y gwaith, yr ym- gymerais a golygu "Tarian y Gweith- iwr." Nid wyf raor ddiofn ag y dywed y gohebydd "Sion Sanau" fy mod. Dan ofni a chrynu yr wyf wedi ymgy- meryd a'r gwaith hwn. H wyrah nad allan o le fyddai gair o'r hanes. Y mae yn hysbys fy mod yn selog o blaid iaith fy mam, ac wedi gwneud pob peth yn fy ngallu i ddeffro fy nghydwladwyr i sylweddoli ei gwerth i'n bywyd cenedlaethol. Defnyddiais lawer o ofod y "Darian" er's rhai blyn- yddoedd i'r amcan hwn. Dychmyger fy siom pan welais ddechreu Seisnigo'r "Darian"—yr unig bapur Cymraeg cenedlaethol a gyhoeddir yn Neheu- barth Cymru. Ie, y papur y bum yn danfon fy mhenillion anghelfydd iddo pan yn hogyn, a'r rhai hynny yn dod allan yn raenusach nag yr aethont i fewn; y papur y bum i ac eraill yn llun- io llithiau iddo ar y "partin dwbwl" pan fyddai'r gwaith yn araf y papur yr wyf wedi cynorthwyo i lanw ei golofnau yn wythnosol er's llawer o flynyddoedd bellach. Nis gallaf fynegu fy nheimlad pan welais y papur y glynais wrtho trwy bob tywydd yn mynd yn aberth i'r gor- esgyniad olaf. Gelwais sylw cyfeillion at y perygl yr oedd y "Darian" ynddo, ond yr oeddent yn ddifater. Ffurfiwch gwmni, ebai un wrthyf o'r diwedd. Gofynnais i nifer o'r rhai cyntaf y daethum ar eu traws a oeddent yn barod i gynorthwyo. Gwelais fod gobaith gwneud rhywbeth. Wedi cael addewidion am symiau syl- weddol bum yn ceisio perswadio mwy nag un dyn o nod i ymgymeryd a'r Olygyddiaeth, ond ni fynnent adael y cysylltiadau yr oeddent ynddynt yn barod. Wedi cael cyfeillion at eu gil- ydd, a chan nad oedd amser i'w golli, tybiwyd mai'r peth goreu fyddi i mi ym- gymeryd a'r gwaith ar unwaith ac o ddifrif. Nid oes ond mis er pan wnaed y trefniadau yn derfynol. Oddiar hynny yr wyf wedi bod yn bur ddiwyd o blaid y "Darian." Yr wyf eisioes wedi dysgu llawer I ac wedi newid fy meddwl am lawer o bethau. Daw'r hanes yn ddiddorol rywbryd. Beth bynnag, wrth fynd a dod, cawn allan fod y "Darian" o hyd yn ddwfn yn serchiadau llawer o'i hen ddarllenwyr yn y blynyddoedd gynt, ac os nad wyf yn camgymeryd yn fawr y mae rhag- olygon disglaer am gylchrediad eang iddi eto. Diolchaf i'm cyfeillion am eu llongyf- archiadau a'u cynhorthwy. Y mae'n flin gennyf fod cymaint o'r "golygydd newydd" yn rhai o'r ysgrifau yn y rhifyn hwn. Torrais allan a rai ganmoi- iaeth ry hael. Prin y gallaswn dorri ychwaneg heb ail-lunio rhai o honynt. Nid wyf yn haeddu hanner y ganmol- iaeth. Nid myfi gyfyd y "Darian." Ni fyddaf ond un ymhlith lluaws o rai galluocach na mi. Cysur mawr i mi yw fy mod wedi sicrhau nifer o ysgrifen- wyr na fydd gwaith golygu ar eu cyn- hyrchion. Gwelir fod Brynfab, gwr sydd wedi bod yn athro i fwy o feirdd na neb arall o bosibl, wedi cynneu'r tan ar ei hen aelwyd. Efe hefyd fydd yn athraw- iaethu ar faterion o bwys i'r amaeth- wyr. Nid oes yng Nghymru ysgrifen- nwr mwy buddiol a diddorol. 0 hyn allan cymer y Parch. J. Dyfn- allt Owen, Caerfyrddin, ofal Colofn y Bobl Ieuainc. Anfoner defnyddiau iddo ef. Osbydd gan ryw frawd ieuanc gwestiwn diddorol y carai gael atebiad I iddo, anfoned at Dyfnallt. Cymerir Colofn y Plant gan Moelona, ¡ llenores sydd yn dringo yn gyflym i en- wogrwydd, ac awdures y stori gain, Teulu Bach Nantoer," a "Dwy Ram- ant o'r De." Anoged y rhieni eu plant i ddarllen Ilith dlos Moelona yn y "Dar- ian" nesaf. I Eraill sydd yn cynorthwyo yw'r Parch. I Rhys J. Huws; Parch. W. R. Watkln, M.A. Parch. D. Hopkin, B.A., Gwili; Sarnicol; Gwynwawr Defynnog Lewis Davies. Cymer; Ifano D. Rhys Phillips; Cefni; Parch. D. Eiddig Jones; Parch. T. V. Evans; Gwyddno Myfyr Hefin; y Fonesi g Eluned Morgan a llu eraill. Credwn y gall y darllen- wyr edrych ymlaen am "Darian" fydd yn deilwng o dderbyniad i bob aelwyd yn y wlad. Diolchwn i'r hen ohebwyr am barhad o'u ffyddlondeb. Beth am bolisi'r "Darian Amcen- ir ei dwyn ymlaen ar linellau cenedl- aethol. Credwn mai wrth fod yn gen- edlaethol y bydd yn wir Darian i weith- wyr Cymru. Bydd ei cholofnau yn agored i ymdriniaeth ar faterion yn perthyn i bob enwad a phlaid. Cred y Gol. newydd yn gryf yn ei genedl ei hun. Ofna weithiau, gan fod Cymru mor fechan, a ninnau yn adnabod ein gilydd o Gaergybi i Gaerdydd, fod ynom duedd i ddibrisio ein dynion goreu a gwrando gormod ar rai o bell nas gwyddant fawr am danoni, a hynnv am na wyddom ni fawr am danynt hwy. Wrth fod yn genedlaethol cymer y "Darian" i fyny y cwestiynnau ddaliant y berthynas agosaf a bywyd y werin, megis cwestiwn y tir, a'r tai, cyflog, oriau a sefyllfa gweithwyr yn gyffredin- 01. Gwelir fod yr adolygydd medrus ar symudiadau ac amgylchiadau Llafur yn parhau ei gysylltiad a'r "Darian." Nid oes dim a garem yn fwy na medru gwneud y "Darian" yn deilwng o hen arweinwyr gwerin Cymru yn ei brwydr- au gynt. Nid yn ddiweddar y deffrodd Cymru, ac nid estroniaid a'i deffrodd. Ei meibion ei hun sydd wedi bod ar y blaen. Eu harweiniad hwy sydd yn cyfrif am fod gwerin Cymru heddyw ar •y blaen i werin Lloegr, ac wedi ennill brwydrau nad ydynt hyd heddyw wedi eu hymladd yn Lloegr. Caniataer i mi hefyd ddiolch i fy rhagflaenydd am ei ddymuniadau da yn ei air ffarwel. Blin gennyf oedd mynd i'w Ie, ac nid oes iddo yntau'r cysur fod un mwy nag ef yn dyfod ar ei ol. Hy- derwn y ceir eto ffrwyth ei ysgrifell yn y "Darian." Pennod ddiddorol fyddai hanes cysylltiad y Parch. D. Silyn Evans a'r "Darian." Gwr ar ei ben ei hun yw efe ymhob cylch, a haedda'r oil a ddywedir am dano gan ohebydd yn y "Darian" nesaf. Dymunwn Flwyddyn Newydd Dda i bawb. Ped ymgymerai pob derbyniwr o'r "Darian" a chael derbyniwr arall iddi, byddai yn flwyddyn dda i bawb" sydd yn gyfrifol am dani. Cynorthwy- wch ni.

Dalier Sylw.

Cymdeithas Ddiwylliadol Treharris.

Nodion o RymnL

KISTEODFODAU DYFODOL.