Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I Y Golofn Amaethyddol. I

I IDatganiadau Dinesydd o…

[No title]

I Taith i Lydaw.

I Llythyrra Sion Sana.

News
Cite
Share

I Llythyrra Sion Sana. Mishdir Golycudd Newydd,— Gatwch i n'ch llongyfarch chi ar ych dyrchafiad i gatar golycudd y Darian. Yn wir y'ch chi wedi'n. hala i mwn ticyn o stwmp, a wn i ddim yn iawn beth i wed; ond mi alia wed y peth wetws y dyn hynny wrth Dr. Cynddylan yn y stesion y dydd o'r blan-ma pethach rhyfadd yn dicwdd witha. Sefwch chi nawr, chi yw Llywelyn y Darian, ynte? Wel, wi'n mentro dechra scrafennu i chitha, ag os 6s gytach chi fasgad. eith dim mwy nag un o'n llythyrra i iddi. Wi wedi dechra cal rhyw flas ar scra- fennu ticyn i baso'r amsar yn ddiweddar ma, a ma'r hen wraig yn darllan y'n llythyrra i. Wir i chi, wi'n cretu i bod hi yn meddwl mwy o lawer o hono i. Pan ddaw rhywun diarth miwn i'n ty ni, fydd hi ddim yn hir cyn gofyn-fys- ach chi'n leico gweld y Darian. a ma hi'n gofalu fod y Darian wedi'i phlygu fel bydd llythyrra Sion yn y golwg. Os dicwdd fod Sion yn i stafall sana yn dewis rhai i roi ar i geffyl erpyn y daith nesa, a rhywun yn dwad at y drws a gofyn ble ma fa, ma'r hen wraig yn apad i bod hi'n meddwl i fod o wrthi'n para- toi rhwpath i'r wasg. Wel, ma'r hen wraig yma a finna wedij darllan lot o'ch gwaith chi, syr, a ry'n ni trw holi a grondo wedi dwad i wpod ticyn bach o'ch hanas chi. Ry'n ni hefyd wedi bod yn treio analeiso ticyn bach ar ych cymwysdera chi i fod yn Olycudd, ag yn Olycudd Tarian y Gwithwr. Un peth wi wedi neud mas ynnoch chi yw, nag os arnoch chi ddim of an neb. Ma nhw'n gwed wrtho i nag ych chi ariod wedi crynu yn ych scitsha a falla fod hynny'n un cymhwysdar i fod yn Olycudd y Darian. Ma son am danoch chi hefyd fel ymladdwr. Wi wedi timlo diddordeb mawr yn ych brwytra chi ar ddalenna'r Darian. 'Y marn i yw nag odd neb yn gallu sefyll o'ch blan chi. O'ch chi byth yn colli'ch tymar, a roech chi'n gwpod shwt i hala rhai erill mas o'u co', a weti'n chi odd y cilog. On i'n clywad bo chi'n gwed, pan fysach chi'n paratoi am frwytyr a rhywrai, taw mynd i gripo ticyn ar u gwallt nhw och chi; a nag odd dim yn rhoi mwy o ddifyrrwch i chi na gweld amball un yn mynd o'r maes a'ch galw chi'n bopath ond gwr bynheddig wrth fynd. Ma son am ych brwytra chi mwn cylchodd erill hefyd. A wn i ddim a allwn fwrw fod y duadd yma i ymladd sy ynnoch chi'n gymhwysdar i Olycu'r Darian. Gobitho cawn i'n siomi o'r ochor ora. Ma nhw'n gwed taw hen botshers sy'n gneud y ciperiad gora, a ta hen ymladdwrs all gatw'r ring ora. Gobitho ta felny bydd hi. Wi ddim yn meddwl fod dim amheu- ath am ych cydymdeimlad chi a'r gwithwrs. Ry'ch chi wedi bod yn with- wr ych hunan. Ry'ch chi'n gwpod ticyn am waith glo a gwaith fferm. Dy'ch chi ddim yn gallu gweld lycad yn llycad a rhai falla shwt i gal i budd- ianna i'r gwithwrs, ond os w i yn ych napod chi'n iawn, mi weta hyn-y byta i'n het os cymrwch chi'ch pyrnu i frad- ychu'r gwithwrs mwn dim. a ma hyn yn siwr o fod yn gymhwysdar. Y cymhwysdar penna sy ynnoch chi, yn ol 'y meddwl i at Olycu'r Darian yw'ch bod chi'n ddicon o ffwl. Pidwch chi a nghamddiall i nawr. Wi'n eitha yscrythyrrol yn hyn. Genta beth yw'ch rhacoriaetha, ne'eh diffycion chi, a ma nhw'n llawer, wi'n mentro gwed y llwyddith y Darian dan ych I Haw chi am ych bod chi'n ddicon o nwl. Ma nhw'n gwed wrtho i, y rhai sy'n ych napod chi, nag ych chi ariod wedi arbad ych hunan a galsa chi fod yn gyfoethog tasa chi dicyn callach, ago yn meddwl ticyn mwy o honoch ych hunan. Ma gydach chi argoeddiata a ma rheiny i sefyll ta beth ddaw o honoch chi. A mae nhw'n gwed tysech chi dicyn call- ach yn ych cenhetlath fel ma plant y byd hwn y gallach chi neud enw i chi'ch hunan a gneud busnas dda o'ch argoedd- iata run pryd. Ond nid argoeddiata yw'r pethach sy yn y farchnad. Ffol- bethau y Jbyd pia hi yn y,diwadd, os gallwn ni gretu'r Postol Paul ar y matar. Wel, ma gytach chi rwpath i neud. Mi fydda i'n etrach arnoch chi yn ych catar gyda diddordab mawr. Gobitha na neith y dyrchafiad ddim o honoch chi'n llai nag oech chi. Ma hi'n dicwdd felny'n amal. Wi'n cofio dyn yn ddiacon yn yr un eclws a fi rodd a'n gallu wilia'n ddoniol iawn yn y set fawr. Odd pawb yn dotio ato fa, a on nhw am i neud a'n brygethwr. Wei nhw fynson i hala fe i'r pulput. Ond wir i chi odd y pethach odd yn mynd mor dda o'r set fawr ddim yn mynd o gwpwl o'r pulput. Watshwch chi'ch hunan nawr. na ddewch chi lawr ar ol mynd lan dicyn bach. Esgus- otwch fi am wilia dicyn yn blaen a chi. syr, ond un felny w i, a ma'r matar yn bwysig i'r Darian, i'r genedl a chi'ch hunan. Wi'n dymuno pob lwc i chi, a blwyddyn newydd da i chi a'ch papur. Dyw e ddim llawer o bwys gen i. ond er mwyn yr hen wraig yma fyswn i'n leico se chi'n gallu bod dicyn yn dru- garog wrth y'n llythyrra i hefyd.— Yr eiddoch, etc., SION SANA. [Ysgrifenned Sion rywbeth diddorol. a bydd yn bleser gennym roddi gofod iddo. Dipyn yn fain a maith yw ei lythyrra weithiau. Arno ef ei hun y bydd y cyfrifoldeb os siomir yr hen AN-raig.-Gol. ]

Advertising