Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Bwrdd y Golygydd. I

Soar, Aberdar.I

Advertising

Beirniadaeth.! .-.-.-)

News
Cite
Share

Beirniadaeth. ) EISTEDDFOD Y DDRAMA YM MERTHYR. Can y Parch. D. Bassett, Aberdar. Gydag hoffder un yn caru ei w lad, ei iaith, a'i genedl, y teimlwn yn llawen fod y Ddrama Gymreig yn dod i fewn i'n bywyd cenedlaethol. Mae i'r ddra- ma ei lie. Deffry ymwybyddiaeth y genedl i'w phethau gore. Dylai'r ddrama ddysgu yn ogystal a diddori. Rhaid i'w phlot fod yn amlwg a'i moeseg yn bur. Nid yr ysgafn a'r chwareus o hyd, ond yr anhawdd hefyd. Nid adloni yn unig, ond tynnu allan eg- nion serch ac enaid y chwareuwyr. Mae'n fwy nag adloni, ac yn ddyfnach na diddori—mae'n dysgu ac argyhoeddi. Dylid cadw golwg ar lafur ac anhaws- der, heb golli'r chwareus a'r ysgubol ar rai adegau. Awn at y Cwmniau ddaeth i'r ymgyrch "Jack y Bachgen Drwg," Rhag. 15. PARTI TYLORSTOWN. I Pennod I. I Mae'r ystafell yn brydferth a threfn- us. Egyr yn dda. Yr oedd Henry a Maria yn syml a naturiol. Dichon fod gwisg John a Jane yn fwy nodweddiadol o'r oes hon nag o hanner canrif yn ol; eto yr oedd pob ystum, a goslef. a symudiad yn eitha naturiol. Doniol oedd ymddangosiad y Bardd newydd, a chanu'r emyn. Gallasai'r Parti wneud ei ymddangosiad yn naturiolach, a clreu mwy o frwdfrydedd. Gwnai Ann a Sian eu gwaith yn eithriadol dda. Difyr oedd golygfeuon cyflogi, a Lod- wick yn chwareu ei bart yn dda, ond ystumiau "John Bach" oedd coron y cwbl. Gallesid gwneud golygfa "Bore'r Sabbath" a "Marw'r Tad" yn ddwysach I pe gwesgid mwy o riddfan i'r llais a dagrau i'r amgylchiadau. Hoffasem i Henry gael llonydd i farw, heb nodau lleddf y piano. Ond Act dda yw hon. Pennod II. I Collodd John yn yr ymson agoriadol. Aeth i adrodd vn lie ymddyddan, ac ym- son ar farw ei dad ai gynghor ola iddo. a meddwl am y dyfodol. Yr oedd John yn gwella ym mhresenoldeb ei fam ond gallasai'r ddau daflu mwy o'u calonau i amgylchiadau'r vmdawiad. Tueddent i frysio. nes colli yr effaith ellid wneud. Daeth Mari Ty Isaf i fewn at Maria, a gwnaeth ei gwaith yn naturiol. Hoffas- em i John fod yn ddoniolach gyda'r heddgeidwad, a dangos mwy o ddiniw- eidrwydd a thact y cymeriad gwledig. Daeth i fewn i dy Jane yn eitha naturiol, ond gallasai fod yn ddoniolach. Gwnaeth Jane ac Arthur eu gwaith yn rhagorol, ac nid ffol i gyd oedd John a'i fasin mawr yn yfed te, a bwyta. Methai'r gweinidog wneud ei waith i'r fantais ore. Gwell iddo fuasai ym- ddyddan yn rhydd a naturiol, a throi ei don o'r neilldu, gan wasgu'r neges adre. Curai Mrs. Peregrin ef yn hyn. Yr oedd ei llafar a'i brawddegiad hi yn wir dda trwy ei holl waith. Dichon niai gwell fuasai i John dynnu ei gap yn y ty, yn ar.bennig gan ei fod yn gaffer, a bod disgwyl am foesau da, fel bachgen o gymeriad gwledig. Teimlem fod gor- mod o'r art a rhy fach o naturioldeb yn ystum a llafar Thos. Jones. Yr oedd Maria yn well felly. Pennod III. I Eitha naturiol ond tueddu i bregethu ac adrodd yn hytrach hag ymddiddan, a chadw'r sgwrs yn "true to nature" i'r diwedd. Gellid gwneud y temtiad yn well. Gwan oedd yr holl gymeriadau gyda'r temtio. Dysgwyliem wel'd mwy o hudoliaeth y sarph yn cylchu John, er fod ei edrychiad yn rhagorol. Peth gore'r tafarnwr oedd ei wisg a'i ym- ddangosiad. Godidog oedd Billy Ponto yn ei actions, ei ystum, a'i oslef, a Twm Carver a Dai o'r Stag yn bob jeth ellid ddvmuno. Awgrymiadol iawn oedd Jack ar y stryd, wedi ei droi allan o'r dafarn, a thyner oedd ei erfyniadau cyn syrthio. Pennod IV. I Dyma dro naturiola Dafydd a Mor- gan, a Ponto yn tynnu'r ty am ei ben wrth ddiosg ei got i'w rhoi tan ben' Jack, a rhoi tamaid iddo ar lawr. Wel done, Ponto. Dyma bwynt gore'r ddrama, ac yntau bia'r clod. Yr oedd y ddau etto gyda Mr. Jones, y gweinidog, yn rhagorol, ond hawdd gallai'r gweinidog wneud yn well. Cwrddodd y fam a Jane a'u gilydd yn dda iawn, ond hoffem angerddolach teimladau, yn arbennig pan gofiom yr amgylchiadau. Yr oedd yr ymddyddan yn dda, ond dim digon yspryd y ddrama. Gallasai'r fam ddangos mwy o'i theimladau yn nhy Jane. Da fuas- ai iddi roi vent i'w theimlad. Yr oedd yn gwella fel oedd yn dangos ei ffydd, ac yn adrodd ei stori, a Jane ac Arthur yn rhagorol wrth ddal ffrwyn yr am- gylchiadau. Dylasai'r cyfarfyddiad rhwng John a'i fam fod yn angherddolach. 'Rwy'n sicr y taflasai'r fam iawn ei breichiau am wddf ei bachgen, a'r bachgen am wddf ei fam wedi deall amgylchiadau'r adferiad. Mae hwn yn berfformiad iawn, a llawer o raen saerni- aeth daå arno. Parti'r Glyn," Trecynon, Aberdar, Nos Fawrth, Rhag. 16. GRUFFYDD O'R GLYN." Rhan I. Golygfa 1: Cegin Gwesty'r Dafarn. Golygfa'r Dafarn yw hon. Mae'r Cwmni'n llawen a byw. Torant ar draws eu gilydd yn naturiol. Mae Gruff yn rhagorol-ei wisg, is osgo, ei ystum, ei frawddegiad, a'i gan yn byw a desgrifiadol, a daw Will o'r Felin a'i gan a'i bill, ei osgo a'i actions yn gyn- hyrfus. Rhagorol fechgyn. Golygfa 2: Cegin y Glyn. Gwen yn agor yn dda, ac yn taflu ei henaid i'r gwaith. Mae ei hystum, ei symudiad, a'i brawddegiad yn ardderch- og. Newidia ei gwedd gyda'r prudd a'r lion, a thry at waith y ty, ei gweill a'i chan yn rhagorol. Nid oedd Arthur cystal a'i fam, ond yr oedd yn gwella bob ergyd. Arianwen a Blodwen yn fyw o gyfaredd. Ymadawiad y fam yn ddwys, a phenderfyniad Arthur a'i ddwy chwaer yn eithriadol dda. Rhan II. Golygfa 1. Cryf a desgrifiadol drwyddi—pob cy- meriad yn fyw. Golygfa'r 2. Pwynt hon yw Arthur yn penderfynu amddiffyn ei fam, a bod yn deyrngar i'r gwir, a gwna hynny yn llwyddiannus. Gwan iawn yw Mr. Prys, yr Ynad. Er i Gwen ac Arthur geisio ei dynnu allan, erys yn fwy o bwysau nag o hwyl i'r gwaith. Daliai Arthur ei bwynt yn ardderchog i'r diwedd, fel cefn ei fam, a diogelydd y gwir. Golygfa'r 3. Yr oedd Arthur yn rhagorol drwy hon, a'r fam a'r merched yn dda. Rhy ddifater, ac heb ddigon o ddwysder oedd ystum a llafar y gweinidog. Yr oedd ei gyfle yn ardderchog, ond meth- odd a dal arno. Ni ddaeth i fewn i'r ysgarmes gyda'r awdurdod ellid ddys- gwyl gan ddyn o'i safle, pan ddywedai wrth Gruff am beidio neEU atto, "Rhag i'r nef ei darro," tra'r oedd Gruff yn taro pwynt penna'r drama yn ei ystum, ei lef a'i osgo wrth ddianc rhag y "tan oedd yn ei lygaid." Ardderchog Gruff, j Rhan III. I Golygfa 1. 1 Tyner a desg rifiadol, a'r meddyg yn I urddasol. Plygodd Gruff ar ei liniau o flaen Gwen naturioled nes gwelem y pechadur yn yr amgylchiadau. j Golygfa 2. I Pob gwisg ac ystum yn addas i'r am- gylchiadau. Yr oedd Gruff yn brudd, a Gwen yn lion. Awgrymiadol iawn oedd gwedd ac ystum Gwen ar ddyfodiad Ifan a Huw i'r ty i ofyn helynt Gruff. Gwelid yr of nus, y prudd, a'r Hon yn chwareu yn ei llygad bob yn ail, nes gwelodd fod yr Hwn a garai, ac a wnaeth ei gore i'w achub yn ddiogel, yna daeth heulwen i'r amgylchiadau, a nefoedd i'r aelwyd. Gwan oedd y gweinidog eto. Methodd yn deg a thaflu ei enaid i'r amgylchiadau,, tra'r lleill yn odidog ym mhob pwynt. Gydag eithrio "Prys" a "Rhys," per- fformiad ardderchog yw hwn o ddrama ferr. Gydag ychydig ymarferiad gallai'r rhai hyn wneud yn well. (I'w barhau.) I 1 1 1

Advertising

Dosbarthwyr y' Darian.'

Advertising