Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.

COLOFN LLAFUR.

!| ! Tanchwa Eto.j

0 Dre'r Darian-Aberdar.

Difyrion y Nadolig ar Lanan…

Cymanfa Ddirwestol Penygraig…

ICrynhodebI

News
Cite
Share

Crynhodeb O'r Gwelliantau a gynhygir yng Nghyn- llun Tirol y Llywodraeth. I. Ynglyn a'r Llafurwr. i. Fod Comisiwn "o awdurdod deddfol cyflawn" i benderfynu cyflog- au ac i sicrhau i bob llafurwr o ym- drech a doethineb cymharol, delerau bywoliaeth rhesymol, ac y'mhlith pethau ereill ei fod i gael digon i dalu rent, fyddo yn deg, am ei dy. 2. Os gall yr amaethwr brofi fod hyn yn faich ycliwanegol, fod y Comisiwn i ystyried pa rent ddylasai ef dalu, gan gymeryd i ystyriaeth pa un a yw yn talu gormod neu rhy fach. I 3. Fod y Wladwriaeth i wneud archwiliad i ansawdd tai byw yn y wlad, gyda golwg ar i'r Wladwriaeth adeiladu tai lie byddont yn brin. 4. I fwrw golwg eangach a mwy cyffredinol er galluogi y llafurwr ddyfod yn berchennog ar ei dyddyn ei hun, y Comisiwn i feddu awdurdod i benderfynu pris y tir at y cyfryw dy. II. Ynglyn a'r Amaethwr. i. Dim bwriad o gwbl i gyfaddasu trefn Iwerddon at y wlad hon; nid ydym yn credu fod amaethwyr Lloegr ar y cyfan yn talu crog-bris, ac y mae cryn lawer yn talu llai na gwir werth y tir. Prif gwyn yr amaethwr yw an- sicrwydd ei afael yn y tir, o ganlyn- iad nid oes ganddo yr un galon i weithio ac i wario ei eiddo ar y tir, a phe byddai ganddo afael a sicrwydd am y dyfodol. Rhoddir awdurdod i'r amaethwr ddwyn ei gwyn o flaen y Comisiwn pan goder pris ei fferm, neu pan ddigwyddo gyfarfod ag amgylchiadau amaethyddol croes neu anffodus. 2. Fod amaethwyr bychain a thai- dalwyr i gael hawl gyffredinol i ddwyn telerau eu cytundeb o flaen y Comisiwn. v 3. Fod y "Ground Game Act" i gael ei gwella, fel ag i wneod ffwrtld yn helacth a'i colledicn ga'r ulcih- wyr dan y drefn bresenol. 4. Ei fod i gael iawn gyfiawn a theg, ac nid fel y mae yn bresenol, pan fyddo'r meistr-tir yn ymyryd a'i fferm neu yn ei symud o hono. 5. Cyfreithiau a gweinyddiadau esmwythach er sicrhau modd i dros- glwyddo nwyddau a chydweithredu, a gwasgaru addysg a gwybodaeth ar faterion amaethyddol. 6. Gweinyddiaeth dirol er cyfuno'r gwahanol adranau amaethyddol sydd yn bresenol ar wahan ac yn ddidrefn, i brynu a meddianu tiroedd sydd yn ddiwrtaith yn bresenol, a'i gwneud yn wrteithiedig, neu godi'r planigfeydd. III. Tiroedd Trefol. i. lawn am wclliantau ac adeiladau wedi eu codi gan y tenantiaid. 2. Personau wedi codi lesoedd am dros un-flynedd-ar-ugain i gael hawl i apelio at y Comisiwn am ei had- newyddu am gyfryw amser a chyfryw rent a thelerau (heb wneud cam a'r meistr na'r cyhoedd) ac y gwel y Comisiwn yn rhesymol. 3. Mewn lesoedd newydd nad yw'r gwelliantau ar adeiladau godwyd gan y tenant i'w cymeryd i ystyriaeth wrth adnewyddu y Ies a thelerau y rent. 4. Fod ymchwiliad cenedlaethol i gael ei wneud o'r tai byw yn y tre- fydd, pa un fydd yn safon i weithred- iadau dyfodol yr awdurdodau lleol, y I rhai mewn amser fyddant yn feddianol ar fwy o awdurdod a gallu i weithredu. I KARL. I

[Nodion Heolycyw.I

Advertising