Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.

COLOFN LLAFUR.

!| ! Tanchwa Eto.j

0 Dre'r Darian-Aberdar.

Difyrion y Nadolig ar Lanan…

Cymanfa Ddirwestol Penygraig…

ICrynhodebI

[Nodion Heolycyw.I

News
Cite
Share

Nodion Heolycyw. I GAS CREUDDYX. I Dydd Nadolig. I Bu y brodyr a'r chwiorydd perthyn- ol i'r gwahanol eglwysi yn y lie yn prysur barotoi yn ystod yr wythnosau diweddaf gogyfer a dathlu yr hen wyl gysegredig—y Nadolig. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod adloniadol ym Methel Newydd. Cymerodd Gobeith- lu Bethel ran o dan arweiniad medrus Madam Taylor, A.R.C.M., Heolycyw. Awd trwy raglen dyddorol a chwaethufc. Cymerwyd y gadair gan Mr. John Evans (Cenin), yr hwn a'i llanwodd hyd y ddau ymyl. Wedi cael anerchiad pwrpasol o'r gadair ar amcan y cyfar- fod, awd drwy y rhaglen ganlynol:— Unawd ar y crwth gan Eunice Chil- cott. Cydgan gan y Gobeithlu yn swynol ddigon. Unawd gan Mr. Ted Jones, Nanty- moel. < Deuawd gan Mr. John Williams a Miss Bronwen Williams ar yr offerynau cerdd. Deuawd gan Mri. Jones a Rees, "Mae Cymru'n Barod," yn feistrolgar dros ben. Deuawd ar y berdoneg gan Mary a Janet Edwards. Can gan Mr. Ted Jones. Adroddiad gan Miss Doris Davies. Yn neillduol o dda, a gorfu iddi ail ym- ddangos ar y llwyfan. Can a chydgan gan y Gobeithlu. Can gan Katie Hawkins. Can a chydgan gan Mary Edward. Deuawd ar y berdoneg gan N eta Hawkins a W. J. Hawkins. Unawd gan Mr. W. Rees. Adroddiad gan Doris Davies. Can gan Miss Mary J. Thomas. Cydgan gan y Gobeithlu. Y mae clod mawr yn ddyledus i Madam Taylor am barotoi y rhaglen mewn cyn lleied o amser. Wedi talu diolch i'r cadeirydd a'r oaiitorion di- weddwyd drwy ganu Hen NVItti fy Nhadau." Paratodd Ainon, Eglwys y Bedydd- wyr. (iaden Xadolig er difyru y plant. A chafwyd difyrwch ddigon wrth dynu y teganau a'r ffrwythau oddiai- y cangau, yn neillduol felly i rai mewn oed. Cynhaliwyd cyfarfodydd preTetlvu Salem, M.C., Pencoed, dydd Nadolig. y Parchn. W. Thomas, Tabor. Maesteg, a R. Roberts, Glyncorrwg, yn traddodi y genadwri i gynulleidfaoedd lluosog ar hyd y dydd. Dymunwn flwyddyn newydd dda i Gwmni newydd y Darian; derbynied y gohebwyr a'r derbynwyr yr un dymun- iad.

Advertising