Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y Rhyfel e Ddydd i Ddydd.…

News
Cite
Share

Y Rhyfel e Ddydd i Ddydd. i :■ Dydd Mawrth, Hyd. 1 j Erbyn hyn rhoddwyd pen ar yr ym- ladd yn Bulgaria, ac arwyddwyd cad- oediad, drwy yr hyn yr smgymera Bwlgaria a dad-gorffori ei byddinoedd, a gwagbau y cyfan o'r tiriogacthau Groegaidd a Serbiaidd y mae yn dal meddiant ohonynt, fceblaw -cyflwjno drosodd bob cad ddarpar, ac arfau rhy- fel i ofal y Cyngrheiriaid. Cymer y Cyngrheiriaid hefyd feddiant o'r rheil- ffordd Bwlgaraidd ynghyda'r hawl ar ei porthladdoedd a'r mynedfeydd ar yr Danube. Gadewir ymdriniaeth parthed amodau tirawl a materion eraill i'w setlo ymhellach ymlaen. Ar ol cwymp Bwlgaria y cwestiwn a ofynnir y dyddiau hyn yw,—" Beth am Dwrci." Gan fod y eysylitiad neu y oymundeb rhwngy G aliuoedd Canolog a Thwrci wedi ei dorri drwy ymostyng iad diamodol Bwlgaria ymae'r posibl- iaetbau yn fawr. Hyd yr ydym yn ysgrifennu nid oes dim swyddogol yng nghylch Twrci wedi dod i law er y darogenir am ei chwymp, ao y gellir disgwyl hynny unrhyw foment. Dydd Mercher Y mae y Cadfridog Plummer a'r ail fyddin wedi eymeryd, Menin, a myned ,i'r deheu mor bell a Roubaix. Dyna ddywed un gohebydd. Y mae y Brenin Albert a'i fyddin, wedi eymeryd Staden, Amervelde, ac Oastmienkerke, a chan fyned ddwy filltir pellach na ffordd Roulers-Manin, a maent o fawn tair milltir i Courtrai. Y mae byddin Ffrengig wedi ymuno yn y frwydr ar ochr forawl y Belgiaid, ac felly yn rhoddi addewid arall am ryddhad OsteDd. Yr oedd lluoedd Prydeinig mewn brwydr galed ddoe yn agos i Cambrai, gan fod y gelyn yn dyfod a galluoedd newyddion i geisio atal ein gyrfa ond methasant yn eu hymgais. Y mae ein milwyr yn agoshau i dref Cambrai, sydd wedi ei rhoddi ar dan gan y Germaniaid. I'r deheu, yr ydym wedi meddiannu Proville. Y mae ym ladd caled ym mhentrefi Crevecour a Rumilly. Ac ar yr ochr ogleddol i'r dref yr ydym wedi cymeryd Tiiloy, ac wedi myned ymlaen i'r dwyrain, er gwaethaf gwrthwynebiad mwyaf pen dant y gelyn. Dydd Ian Bu brwydro poeth yng Dghymdogaetk ogleddol St. Quentin. Gwfehiodd y mifwyr Prydeinig ar draws llinell olaf diffynfeydd Hindenburg yma, sef canol y ffordd cydrhwng Focsomme abeau- revoir, gan ennill pentref Sebuehatt, a Preselles. Yn ddiweddarach taflodd, y gelyn i mewn gatrodau eryfion o adgyfnerthion, gan wasgu ein rnilwyt yn eu hoi i Seguebart, a phery'r ymdreohfa i fyned rbagddi. Yn Cambrai yr ydym bellach yn dal godreuon dwyreiniol Neuville St. Remy a'r ucheldir i'r gorllewin i Ramillies I ddebeu y ddinas yr ydym wedi adfedd- iannu Crevecocur^a Rumilly ynghyda'r ucheldiroedd i'r dwyrain a'r gorllewin o'r pentrefi hyn. Ymhellach i'r de clir- iwyd Joucourt o'r gelyn, a chwblbawyd ein meddiant o ddiffynfeydd deheuol Le Castelet a Gonz. Pery byddinoeid Ffrainc i wthio rhag- ddynt cydrhwng yr afonydd Aisne a Teste ar y brif-ffordd o Rheims i Loan, gan wasgu'r gelyn yn ol i'r Ailett. Cyr- haeddodd y Germaniaid linell yr Aisne Marne Canal, i'r gogledd o Rheims. Dydd Gwener. Ymosododd y milwyr Prydeinig ar ffrynt o fcua wyth milltir ar linell Hin- denhurg i'r gogledd o St. Quentin, a" llwyddasant 1 dorri trwodd mewn am- rywiol fannau. Y mae ein milwyr yn Flanders wedi bod- yn gwasgu ar y GermaDiaid, y rhai sy'n cilio'n ol: y maent wedi gyrru y gelyn o Lens, ac wedi meddiannn Ar- mentieres- Ar linell o ddeuna w. milltir y maent mewn rhai mannau wedi mynd rhagddynt gryn bum milltir. Y mae y Ffrancod wedi ennill tir yng Dghymdogaeth Chpmpagne. Eniilasant ael Biauc Mont a Medeah Farm, tua tair milltir i'r gogledu-orllewin o Somme Py. Hefyd y maent wedi meddiannu Cormachy a Loure yng ngogledd-orllew- in Rheims. Y mae y Oadfridog Allenby, yng ogogledd ddwyrain Damascus, wedi cymeryd 1,500 eraill yn garcharorion, yngbyda 40 o ynnau. Dydd Sadwrn. Y mae yrenciliad Germanaidd yng ngorllewin Lille yn parhau, ac edrydd Syr Douglas Haig fod ein milwyr wedi mynd rhagddynt tua thair milltir er dydd Iau. Y mae yr oil o aelgerth yr Aubers yn awr yn ein meddiant. Y mae ymladd caled ar linell y Champagne- Meuse. Adroddir fod yr Americaniaid a'r Ffrancod wedi ennill cymaint o dir er dydd Iau nes peryglu y linell Germanaidd. Adroddir, ar awdurdod llynghesol, fod y Germaniaid yn parotoi i adael Flan ders. Y mae aiwedd newydd wedi dechreu ar yr ymgyrch yn y Balkans y mae byddinoedd y Cyngrheiriaid wrth fynd rhagddynt wedi dod i wrthdarawlad ar ddehau y Vranje a chorffluoedd o filwyr Awstriaidd a Germanaidd. Y mae y Vranje tua 50 milltir i'r gogledd o Uskub. Adroddir fed rhai o for-filwyr yr America, Itali, a Phrydain wedi gwthio heibio y mines oedd yn amddiffyn Durazzo, gan fyned i mewn i'r harbwt a thanbelennu, nes llwyr ddinistrio safle yr Awstriaid oedd yno. Canlyniad hyn fydd cyfyngu yn fawr ar adnoddau y fyddin Awstriaidd sydd ar encii yn Al- bania. Ateb Prydain i Awstria. I Daw gair o Berlin, trwy Vienna, fod Prydain wedi anfon atebiad i Nodyn Heddwch y Count Burian. Y mae y nodyn, meddir, yn un cwrtais a moes- gar, ac yn gofyn i Awstria ddeffinfo yn fanwl yr aillodau ar y rbai. y bydd yn barod i drin am heddwch. Dywedir fod Awstria yn symud eto ynglyn a Heddwch Yn ol y Berliner Tageblatt," y mae hi a Hungari wedi deisyf ar Holland alw y cenhedloedd sy'n ymladd ynghyd i ystyried Hedd- wch. Twrei. Y mae Twrci eisoes wedi gwneud cais answyddogol am gad-oediad tebyg i Fwlgaria, fel y gellir ymdrin a heddwch; wrth gwrs nid eilir ystyried cais felly— rhaid iddo fod yn swyddogol. Bermr y bydd cais felly wedi ei wneud cyn y bo y Uinellau hyn wedi eu hargraffu. Germani. Y Tywysog Max o Baden ydyw y Caaghellor newydd, a bernir y bydd y weinyddiaeth newydd, ar yr hoh y bydd efe yn ben, ya eynnwys nifer symel cyfartal o'r prif bleidiau. Yn ei lyfr, 66 Four Years in Germany," dyry Mr Garrard, diweddar Lysgenhadwr yr America, air da iawn i'r Tywysog, dywed ei fod yn wr o farn, yn deg, cymedrol, a thyner iawn. Dydd Llun. Mae Llywodraeth Ffrainc wedi rhy- buddio'r Almaen y bydd iddynt dalu'n ol am y difrod a'r galanastra a wnaed ao a wneir gan yr Ellmyn wrth encilio yng Ngogledd Ffrainc. Mae'r Brenin Ferdinand, Bwlgaria, wedi rhoddi i fynyei orsedd yn ffai, ei fab, y Tywysog Boris. Gcrmani yn gofyn am Gad- 1 oediad. Yn ei araith gyntaf fel Canghellor newydd Germani, dywedodd y Tywyeog Max o Baden yn y Reichstag, ddydd Sadwrn, ddarfod iddo nos Wener anfon Nodyn i'r Arlywydd Wilson, trwy Ly- wodraeth Switzerland, yn gofyn iddo gymeryd i fyny y owestiwn o ddod a heddwch oddiamgylch, ae hefyd i ym- ohebu ar y pwnc gydar Cyngrheiriaid eraill. Dywedir befyd fod Germani yn .barod i dderbyn cynhygion heddwch wnaed gan yr Arlywydd Wilson Ionawr Sfed, 1918. Er mwyn" arbed tywallt gwaed pellach, gofyna Germani am gad-oediad ar dir a mor, ao ya yr awyr. Y mae Awstria-Hungari hefyd wedi anfon cais tebyg at yr Arlywydd Wil- son, a cbredir y bydd i. Twrci hefyd gymeryd yr un camraa.

Advertising