Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT.
LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. Llawenydd mawr oedd gweled rhai o fechgyn y Llan eto gartref ar -? leave,' sef Lieut. Elwyn Jones, Ptes. Evan Williams, William Henry Edwards, Teddie Edwards, Aneurin Jones, John Thos. Rogers, Hermes Jones, a Ptes. John D. Williams, a E. D. Evans (mab Mr Robert Evans, Cefncoch), wedi dod allan o'r yspyty. Da gennym led y ddau yn gweila yn araf. Cawsant groesaw cynnes gan yr oglwys. « Yr oedd yn ddrwg iawn gennym glywed fod Capt. Fred Vaughan, a Pte. Llewelyn. Vaughan, ei frawd. wedi cael eu clwyfo ar faes y rhyfel yn Ffrainc. Hefyd, W. E. Jones, Cefncoch, wedi ei gasio,' ac y mae ar hyn o bryd mewn ysbyty yn Bristol. Hyderwn yn fawr y bydd iddynt gael ad- feriad buan. Y Sul o'r blaen bu Mr W. H. Jones, Ar- llwyn, yn gw-obrwyo a rhannu Tystysgrif- au i bymtheg ar hugain o blant am eu gwaith ynglyn a'r Maes Llafur. Yr ydym yn falch iawn o gael llongyf- arch aelodau ieuaiLc eglwys Seion ar eu llwyddiant yn eu haroliadau ynglyn a'r Ysgol Ganolraddol, sef Mri David Idris Joaes, mab Mr a Mrs D. F. Jones, School House, a Percy Richards, mab Mr a Mrs Richards, Gilfach, yn pasio y Senior Qen- tral Welsh Board. Hefyd, Master Mathew Jones Roberts, mab Mr a Mrs Thomas Roberts, Bodlondeb, yn pasio y Junior, gyda phedwar o Distinctions mewn Scrip- ture, History, Welsh, a Chemistry. Go dda, onide ? Dymuniad ein calon ydyw ar iddynt oil ddringo yn uwch eto. BERAVYNFERCH. I
ASHTON-IN-MAKERFIELD. I
ASHTON-IN-MAKERFIELD. Cynhaliodd yr eglwys uehod ei chyfar-, fod pregethu blynyddol yr ail Sul yn Medi. Pregethwyd nos Sadwrn a thrwy'r dydd y Sul gan y Parch Hugh Hughes, Colwyn. Pregethodd gyda grym a dylanwad. Er yn cerdded ymlaen mewn dyddiau erys yn ieuanc iawn ei feddwl. Cawsom gyfarfod llwyddiannus ymhob ystyr. GWR UN DALENT. Cynhaliwyd cyfarfod Pregethwyr Lleol y Genhadaeth Gymreig, nos Sadwrn, Medi 15, dan lywyddiaeth y Parch J. M. Jones. Yr oedd.nifer o'r pregethwyr.wedi dod yng- hyd, a dichon y buasai y pregethwyr yno yn fwy cryno, pe buasai'r tywydd yn fwy ffafriol. Wedi darllen cofnodion y cyfar fod o'r blaen, arhblwyd y brawd ieuanc D. R. Evans, Golborne. Cafwyd gair 0'1 brofiad. Yr oedd y modd yr oedd yn dat- gan ei brofiad yn rhoddi lie cryf i'r cyfar- fod gredu ei fod yn ddyn ieuanc sydd yn byw yn agos iawn at Iesu Grist, ac yn ym- serchu yn fawr ynddo Ef a'i waith. Hol- wyd ef gan y Llywydd, a chafwyd atebion boddhaol i'r Oil o'r gofyniadau; a phen- derfynodd y cyfarfod, yn unfrydol, ei fod yn cael ei roddi ar x Plan nesaf fel cyflawn bregethwr. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Ashton, Rhagfyr 15, 1918, am 6.30. M. H..
I LLANGYNOG. I
I LLANGYNOG. -Bore dydd Mawrth, Medi 24, yng nghap- el y Wesleaid, priodwyd Mr John Ed- munds, Wrexham, a Miss J. E. Owen, Ar- ddol House. Llangynog. Y gwas oedd Mr Morgan, Wrexham, a'r forwyn oedd Mrs Robert Richards (chwaer y briodferch). Gwasanaethwyd gan y Parch Evan Rob- erts, Croesoswallt. Bythefnos cyn hyn y priodwyd ei chwaer a'r Athro Robert Richards, M.A. Yr oedd arwyddion am- lwg o lawenydd y tro hwn eto. Addurn- wyd y capel yn liardd a blodau. Yr oedd llu yn bresennol, Yn eu plith yr oedd Mr a Mrs E. O. Evans, a Mrs Edmund Evans, Llaarhaeadr; Mrs Edward Evans, Llan- gedwyn. a'r ferch, a'r Athro Robt. Rich- ards Canwyd darnau priodol i'r am- gylchiad ar yr offeryn cerdd gan Mrs E. 0. Evans. Aeth y cwmni mewn cerbydau modur i Langedwyn i'r wledd, a llongyf- archwyd Mr a Mrs Edmunds yno. Y mae Mr a Mrs Edmunds yn achel eu parch gan bawb yn Llangynog, a llefarwyd geiriau canmoliaethus am eu cymwynasgarwch a'u caredigrwydd. Ar ol y briodas aeth y ddau i Landrindod ynghanol dymuniadau da eu cyfeillion. Bydded eu bywyd yn ddedwydd a llwyddiannus. GOH. I
.-.ABERFFRAW-MAELOG. I
ABERFFRAW-MAELOG. I Am 10.15 bore Mawrth, Medi 24, yn Bethel, Caergybi, trwy weinyddiad y Parch W. P. Roberts, Aberdyfi, unwyd mewn glan briodas Mr .Richard ylaldwyn Pritch- ard, ail fab Mr a Mrs John Pritchard, Plas Coch, Aberffraw, a Miss Maggie Lizzie Parry, Bodlawen, Bryngwran. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei hewyrth—Mr Owen Jones, Bodlawen. Y gwas priodas ydoedd y Pte. Owen Parry (brawd y briod- ferch), a'r forwyn, Miss Blodwen Pritchard (chwaer y priodfab). Wedi gwasanaeth dawel ac urddasol aed i'r Station Hotel i fwynhau gwledd deil- wng o'r amgylchiad a'r ddeuddyn hapus. Llongyfarchwyd y par ieuanc, a dymun- wyd yn dda iddynt gan y Parch W. P. Roberts, a chaed gair pwrpasol ar ei ol gan Mr Owen Jones. Ymadawsant, gyda'r Mail ganol dydd, i Landrindod i dreulio'u mis mel. Trwy'r briodas hon unwyd aelod o ddau deulu sy'n adnabyddus trwy Fon a'r Dal- aith fel Wesleaid aiddgar a ffyddlon, a rhai nad oes dim yn ormod .ganddynt ei wneuthur i'r Achos Mawr. Ni fydd y par ieuanc yn amddifad o esiampl deuluaidd mewn sel ac ymroddiad i lesu Grist a'i waith. Bydded iddynt ddilyn yr un llwy*- brau. Prawf o'r syniad uchel goleddid am danynt hwy a'u teuluoedd ydyw'r nifer li- osog o anrhegion gwerthfawr gawsant. Dilyned bendith yr Arglwydd hwy'n was- tad. I G- Oil.
IMYNYDD SEION, LERPWL. I
MYNYDD SEION, LERPWL. Y Sul diweddaf yr oedd gugail y Myn- ydd "-y Parch Edward Davies, yn anerch, ac am y.drydedd waith, Frawdoliaeth y Wesleaid Seisnig yn Lodge Lane." Y mae rhai cannoedd o ddynion yn cod ynghyd i'r cyfarfodydd yma, a deallwn fod ein cyfaill yn cael-mwy na'r cyfartaledd i wrando arno? Y mae'n amlwg, oddiwrth y tystio'aethau a glywsom, acoddiwrthi faint y cynulleidfapedd, fod Mr Davies yn persona grata yn y He. CYMRO.
CAERSALEM, TON PENTRE. I
CAERSALEM, TON PENTRE. I Dydd lau, Medi 19, daeth Ysgol Sul yr eglwys uchod ynghyd i fwynhau gwledd ardderchog, wedi ei pharotoi gan chwior- ydd yr eglwys. Yr oedd yn dda gennym weled yr Ysgol yn troi allan mor lliosog, yn enwedig y plant, a chredwn fod pawb wedi mwynhau eu hunain yn ardderchog. Yn ffodus iawn digwyddodd dau o fech- gyn ein Hysgol fod ar 4 leave,' sef Mri Teddy" Davies (fel yr adnabyddwn ni ef), ac Owen Morgan. Cawsant dderbyn iad croesawgar i'r te gan frodyr a chwior- ydd yr eglwys, a llawenydd i ni oedd eu gweled yn edrych mbr dda. Dymunwyd yn dda iddynt dros yr Ysgol Sul gan Mr Thomas Lewis. Yr ydym yn ddyledus fel Ysgol i'n harolygwr ieuanc, Mr J. R. Mason, am weithio mor galed, yn wyneb anhawsterau, i gael digon o fwyd i ni fwynhau gwledd mor ardderchog. Y dydd Sul canlynol cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yr Ysgol Sul, o dan lywydd- iaeth Mr J. R. Mason. Holwyd y bennod yn y boreu gan Mr Thomas Parry, Treorci, a chawsom gyfarfod da, ernes o gyfarfod- ydd da ar hyd y dydd. Gofalwyd am y plant yn y prydnawn gan Mri Lewis Hughes a Harry Morgan gyda'r gwersi, a Mr John Parry gyda'r canu. Daeth llu o blant ynghyd, a gwnaethant eu gwaith yn ganmoladwy liawn. Cymerwyd rhan mewn adrodd Salmau ac adnodau y Maes Llafur gan y rhai canlynol: Sally Edwards, Dilys 'Jones, Glenys Jones, Eirwen Swancott, Minnie M. Lewis, Ceinwen Morgan, Wm. Ellis, Dilwyn Lewis a Reggie Jones. Caw- Isom ddau ddatganiad tlws ac effeithiol gan Gor Plant yr Ysgol Sul, a theimfem yn hapus wrth glywed yr unoliaeth sain (unity of tone) oedd yn y lleisiau, dang- hosai ol llafur mawr y rhai a'u dysgasant. Cyfarfod areithio oedd yn yr hwyr, a chawsom areithiau rhagorol gan Ellen Mey Morgan, E. T. Meredith, a J. Glyn- dwr Lewis. Cymerwyd rhan mewn canu gan Gor yr Aelwyd. Ar ol yr areithiau cawsom anerchiad gan Mr Thomas Lewis, ac ymhlith llawer o bethau da eraill, tyn- nodd ein sylw at y ffaith mai ieuenctid yr Ysgol Sul oedd wedi cario allan waith y dydd bron i gyd wedi cyfarfod y boreu. Sylwodd hefyd fod y brawd Owen Morgan wedi bod yn ffodus i gael ei leave ar yr adeg yma fel ag i gymeryd ei le fel arfer yng Nghor yr Aelwyd. Teimlem ar ddiwedd y dydd fod Duw wedi cynnal y rhai ieuainc fu yn cymeryd rhan ar hyd y dydd. Gobeithio y daliwn yn well ar y pethau a glywsom am yr Ysgol rhag i ni un amser eu gollwng hwy i golli. Cynhaliwyd cyfarfodydd pregethu yr eglwys uchod, Sadwrn, Sul, a'r Llun, Medi 28, 29, a'r 30. Gwasanaethwyd gan y Parchn W. Caenog Jones, Coedpoeth, a E. D, Thomas, Treorci. Cawsom odfeuon bendithiol iawn, teimlem fod y gweision ar eu goreu, a ninnau ar ein huchelfannau yn mwynhau yr hen, hen hanes, ac er na welsom ddychweledigion, gobeithiwn fod yr had wedi disgyn mewn tir da, ac os na chawn y pell yn agos, y cawn ni yr agos yn nes.
IBETHEL, COED-Y-FFLINT.
I BETHEL, COED-Y-FFLINT. Llawen iawn gennym weled y brawd ieuanc Wilfred Davieb, Brynteg, adref o Ffrainc ar dipyn o saib. Y mae oddicar- tref ers hir amser bellach bu yng nghyn- taf ym Mhalesliua, ac oddiyno trosglwydd wyd ef i Ffrainc. Yr oedd yu llawenydd calon gennym glywed am ei dystiolaeth uchel i waith, i eofndra, a chydymdeimlad calon y Caplan Arthur W. Davies. Dy- wedai gan nad pryd a pha le y byddai ymosoamd, y byddai y Caplan dewr a thyner galon yno, y cyntaf un yn chwilio am gyfle i drin clwyfau a nerthu calon yr archoiledig. Bydded nodded y net tros ein brawd ieuanc wedi y dychwelo i ganol peryglon yr ymladdfa y'n Ffrainc. « Dal yn waei yn Ysbyty y Royal, Lerpwl, y mae ein cyfaill yr Henadur E. A. Hughes, Brynygarreg—Maer y Fflint. Y mae yma bryder mawr iawn yn ei gylch a gweddio dyfal trosto, am i'r Arglwydd arwain meddwl, a chyfarwy-ddo llaw y meddyg, yn ogystal a chynnal ei feddwl ef yn ei gystudd poenus. Dydd Meicher, Medi 24, unwyd mewn glan briodas lab a rnerch ffyddlon iawn ynglyn a'n heglwys fechan, sef Miss Lizzie Parry, Ty Capel, a Mr Eli Conway, Bryny- garreg. Gwasanaethwyd gan y Parch D. Meurig Jones, Bagillt. Darparwyd y brec- wast priodasol yn Vestry Room y capel. Eiddunwn i'r par ieuanc hir oes a gwenau yr Arglwydd.
! RHIWLAS, TREGARTH.
RHIWLAS, TREGARTH. Yn ddiweddar bu Pte. E. Gordon Jones adref ar saib o Ffrainc. Da oedd gennym ei groesawu, a'i weled yn edrych mor dda. Erbyn hyn mae wedi cyrraedd yn ol, a deallwn ei fod wedi ei glwyfo, ond nid yn drwm. Dymunwll adferiad buan iddo. Mae Signaller G. J. Davies hefyd mewn ysbyty yn Stockport, wedi ei wenwyno gan y nwy. Da gennym ddeall ei fod yn gwella. Llongyfarchwn dau o aelodau yr eglwys ar eu safle anrhydeddus-yn eu haroliadau Aliss J. Frances Jones a Mr A. Whiteside Jones, y iiaill yn mynd i'r Normal College, a'r llall i'r Brifysgol, Bangor. Nos Sul di- weddaf yr oedd yr eglwys yn dymuno yn dda iddynt. Bydd bwich ar eu liol yn yr eglwys gall. ÇU bod yn cymeryd rhan flaen- llaw. Yr oeddynt yn athrawon yn yr Ysgol Sul, yn gynorthwywyr yn y Gob- eithlu, yn ffyddlon yn yr odfaon, a phob amser yn barod i wasanaethu pan fyddai galw. Yr ydym o galon yn dymuno eu llwyddiant. Un arall o fechgyn bach yr eglwys y mae gennym i'w longyfarch yw Master Emyr Thomas, mab hynaf Mr W. J. Thomas. Yn yr Ysgol Ganolraddol yn Bethesda y mae ar hyn o bryd, a daeth trwy yr arholiad diweddaf-Junior Exam.—yn hynod fodd- haus. Bachgen dymunol yw Emyr, a chredwn fod dyfodol disglair iddo. Y Sul o'r blaen bedyddiwyd geneth fach Mr a Mrs H. R. Thomas, Garreglwyd, gan y Parch T. J. Hughes. Gelwir hi Boddug. Fel hyn y canodd Leo iddi Buddug, gwn ei boddio ga'—mewn rhiaint Mwyn riniau hawddgara'; A Tom a'i Nhain twymo wna Yn osle (?) iaslon Wesla.
DOLGELLAU.I
DOLGELLAU. I Yr oedd y Wesleaid yn amlwg yn yr Wyl Ddirwestol a gynhaliwyd yma yr wythnos ddiweddaf—Gwyl Flynyddol Sir Feirion- ydd. Anerchwyd gan y Parch E. J. Parry, Abermaw, a'n gweinidog .newydd-y Parch G. J. Owen, a gwnaethant eu gwaith yn benigamp. Y mae Mr Parry wedi ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas am y flwyddyn. GOH.
I LLANDUDNO JUNCTION.
LLANDUDNO JUNCTION. Ynglyn ag arholiadau y London College of Music, a gynhaliwyd ym Mangor, llwyddodd MissAnnie Evans, merch Mr a Mrs Evans, Whitby House, i ednill y Jun- ior Honours Ceitificate gyda 97 o farciau allan o 100.. Hi ydoedd yr uchaf yn y dos- barth, ac y mae iddi wobr arbennig, rhoddedig gan y Coleg. Hefyd enillodd y 2nd Grade Staff Notation. Yn sicr, y mae dyfodol disglair o'i blaen ond iddi ddyfal barhau. Nid yw ond icuanc eto.
ITREGARTH-BETHESDA.
I TREGARTH-BETHESDA. Dydd Mercher, Medi 25, yng nghapel Bethesda, unwyd mewn glan briodas Mr Edward Jacques, mab hynaf Mr a Mrs F. Jacques, Fronheulog, a Miss Annie Jones, Pant, Bethesda. Gweinyddwyd gan y Parchn James Jones, Salem (A.), a R. J. Parry, Shiloh (W.). Daeth nifer fawr yng- hyd i weled yr uniad hapus. Cafwyd gwledd yn 1, Ogwen Terrace. Yna ymad- awodd y par ieuanc i dreulio ychydig ddyddiau yn Rhyl, ac wedyn i Birmkig- ham, lie y mae y gwr ieuanc yn gweithto. Un o blant eglwys Gorffwysfa yw Mr Ed. Jacques, ac yn aelod ffyddlon, ond yn awr yn aelod yn Upper Priory, Birmingham. Mae y wraig ieuanc yn aelod ffyddloa gyda'r Annibynwyr yn Bethesda. Derbyn. iasant nifer liosog o anrhegion drudfawr, yr hyn sydd yn arwydd eu bod yn fawr iawn eu parch yn yr ardal. Dymunwn iddynt bob hapusrwydd. C. H. E.
LLUNDAIN. I
LLUNDAIN. I Nos Iau, Medi 18. cynhaliwyd yn City Road gyfarfod i groesawu ein harolygwr newydd, sef y Parch John Smith a'i deulu, i'n plith. Un rheswm na fuasai'r cyfarfod wedi ei gynnal ychydig yn gynt oedd cr mwyn i'r gylchdaith gael cyfle i fwrrw ei hiraeth ar ol yr hen arolygwr, sef y Parch Richard Jones, B.A., a Mrs Jones, fuont yn ein gwasanaethu'n ffyddlon am bedair blynedd, a hynny yn wyneb llawer o an- hawsterau. Cafwyd" Coffee Supper," ar gyfer yr hwn y gwnaed darpariadau mor deilwng ag oedd yn bosibl gan gyfeilliori caredig eglwys City Road. Trefnwyd rhaglen rhagorol ar gyfer y noson. Yr oedd cynulleidfa dda yn bresennol, yn cynnwys cynrychiolaeth gref o bob eglwys. Yn eu plith yr oedd y Parch John Smith a'r teulu, y Parch J. Wesley Felix, M.A., a'r ddau Oruchwylwyr-Mri. E. Gomer Jones a W. Williams. Cymerwyd y gadair gan Mr Gomer Jones. Cafwyd gair cryf, a de- heuig gan y cadeirydd, yn croesawu Mr Smith a'i deulu. Siaradwyd hefyd gan nifer o'r brodyr i'r un cyfeiriad, yr oil yn rhoi croesaw cynnes. Cynrychiolwyd Horeb gan Mri D. Nelson Evans, W. Wil- liams, a Robert Williams; Brunswick gan Mri E. J. Evans a Hugh Watkin; City Road gan Mri Ebenezer Hughes a H. T. Barker. Rhoddodd Mr Barker ei le i wr arall ar leave' o'r fyddin, sef Mr Gwaenys Davies, Cyfreithiwr. Yr oedd yn llawen gennym ei weld yn edrych mor dda. Caf- wyd unawdau gan y rhai canlynol-Mrs Cowley, un o aelodau Brunswick; Mri Hugh Pugh a W. Oliver. Canwyd nifer o benhilhon oedd wedi eu cyfansoddi (gan ryw fardd nad oedd am hysbysu ei enw) gan Mr Cowley. Cafwyd gair gan y Parch J. Wesley Felix. Wedi mynd trwy y rhag- len, cydnabyddwyd y croesaw mewn an. erchiad yn llawn bywyd ac ynni gan Mr Smith. Dymuniad y cyfarfod oedd ar iddynt gael gwenau deufyd tra yn ein plith. 1. 1. UOH.
["BETHESDA, BWLCHGWYN.I
[" BETHESDA, BWLCHGWYN. Saboth, Medi 22, cynhaliwyd Cyfarfod! Ysgolion, Adran Coedpoeth a Bwlchgwyn, I yn Bethesda. Llywyddwyd y cyfarfod ganj Mr W. E. Davies, Gwynfryn. ■ Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn trwy i Florrie Edwards adrodd Emyn 686, ac adrdddiad o'r rhan gyntaf o'r Salm 119, ac Emyn 910 gan Nellie Roberts. Wedi hynny gweddiwyd gan Mr Llew Williams, Horeb. HolWyd y gwahanol Ddosbarthiadau'r Plant gan Mri T. Foulkes, R. Ellis, a J. W. Jones, a'r pedwerydd dosbarth gan Mr Llew Williams. Can gan blant y Seiat dan arweiniad Miss A. A. Rogers adrodd. iadgan Maggie Owens a Corriswen Lhtvd Turner. Ar ol cyfarfod y prydnawn cyfaifyddodd y Pwyllgor i drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf, sydd i'w gynnal yn Penybryn. Dechreuwyd cyfarfod yr liwyr trwy ganu Emyn 904 adroddwyd gan Evelyn Price adroddwyd ail ran Salm 119 gan Lois Jones; canu Emyn 903; adroddwyd gweddi dlws iawn gan blant y Seiat; deu awd gan M. E. Price a Evelyn Price; holi'r Arweinydd, pen. 10, gan Mr John Pritchard; can gan blant y Seiat; adrodd iad gan Miss G. A. Belton can gan Miss Dora Rogers can gan E. J. Belton. Wedi hynny, galwodd y Llywydd ar Mr Morgan Rogers, Bathafarn, i araierch, a chawsom ganddo anerchiad byw ac effeithiol ar Yr Ysgol'Sul fel cyfrw-ng i agor meddwl yr ieuanc i weld gogoniant yr arfaeth Dwyf- ol." Wedi hynny cafwyd gair pwrpasol iawn gan y Llywydd, a therfynwyd y cyf- arfod goreu gafwyd eto dan nawdd yr Undeb. Nos Iau, Medi 26, ymwelodd y Parch. D. Gwynfryn Jones, Fflint, a'r ardal, i sefydlu Cynghor yr Eglwysi Rhyddion. Cyfar- fyddodd nifer dda o wahanol eglwysi y cylch, a thraddododd Mr Jbnes anerchiad campus ar Waith ac amcan y Cynghor." Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch E. G. Turner, a diolchodd yn gynnes i Mr Jones. Wedi hynny cyfarfyddodd Mr Jones y cyn- rychiolwyr oedd yno o ohwech o eglwysi y cylch, a dewiswyd y swyddogion canlyn- ol :-Llywydd, y Parch E. G. Turner is lywydd, Mr W. B. Lloyd, Nebo ysgrifen- nydd, Mr W. E. Daves, Gwynfryn trys orydd, Mr Ed. Williams, Peniel. Ar ol hyn disgwyliwn fwy o undeb yn ein plith fel gwahanol enwadau ar gyfer ymladd brwydrau'r dyfodol. W. D.
,SENGHENYDD. t
SENGHENYDD. Cyfarfod Ymadawol Mr John \Villiams'l —Cynhaliwyd yr uchod nos Fawith, Medi 24, o dan lywyddiaeth y Parch Thomas Rowlands. Dvwedodd y llywydd fod colli Mr John. Williams o eglwys fechan yn golled fawr iawn, oherwydd bu ef ar hyd y blynyddau yn ffyddlon a gweithgar dros ben. Efe oedd Arweinydd y Gan, y Chapel Steward, ac yn Society Steward, heblaw bod yn fiaenor ac yn arweinydd. Bydd ei le yn wag iawn ar ei ol. Bydd eglwys a hen Gylchdaith enwog Machyn- lleth ar ei mantais nid yw yn ddieithr i chwi yna, dod yn ol i blith ei hen gydnab- od y mae. Cewch yn Mr Williams ddyn defuyddiol, ac hefyd llawn o awydd am wneud gwasanaeth tros y Meistr. Man- teisiodd yr eglwys ar y cylle i'w anrhegu a ffon a lIyfrtonau, Cyflwynwyd y ffon gan Mrs O. Morgan, a'r llyfr tonau gan Mrs Evan Bevan. Diolchwyd yn garedig am y gydnabyddiaeth gan Mr Williams Dymufiwyd yn dda i Mr Williams gan yr holl eglwys. Siaradodd y rhai canlynol, a'r oil yn dwyn tystiolaeth i ffyddlondeb a gweithgarwch ein annwyl gyfaill: Mri E. Bevan, Richard Roberts, Richard Lewis, W. Morgan, Joseph Lewis, L. R. Williams, ac yn ystod y cyfarfod cafwyd dwy unawd gan Mr D. Nicholas, a Mrs Thos. Bevan. Cafwyd cyfarfod dymunol iawn, a'r eglwys wedi dod yno yn gryno i ffarwelio a Mr Williams, Gweddiwn am i Dduw godi rhai eto-rhai fydd yn addurno byd ac eglwys. Cyflwynwn ef i'ch gofal yn Machynlleth, gan ddymuno pob bendith iddo ei a'i annwyl briod yn dymhorol ac ysbrydol. Dymunwn iddo brydhawn hir a theg i wasanaethu Crist a'i eglwys, a bydded fod nawdd Duw trosoch ill dau hyd.y diwedd. Dyna ddymuniad I Ei HEN GYFAILL. I