Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, (lwas'naetha grefydd,-seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gySwrdd Ddicas Duw. TALFARDD.
ARGOELION HEBBWCH.
ARGOELION HEBBWCH. Yr. sicr y mae gweil argoelion am heddwch nag a fu o'rcychwyn Credwn fod yr aflwydd gwaethaf, cyn belled ag y mae y rhyfel ei hun yn y cwestiwn o'r tu ol i ni Y mae tn neu bed war o bethau yn argoeli hynny. Yn gyntaf ildiad Bwlgaria, nid yw ymosiyngiad Bwlgaria ei hun YPl ogymaint peth, .ond gall, ac y mae yn ol pob .arwydd yn debyg o esgor ar bethau llawer mwy ei pwys. Un o'r peth- au cyntaf ydyw gwahanu Twrci oddiwrth ei chyngrheiriaid. Trwy'r heddwch a Bwlgaria y .roae'r cysylltiad a Thwrci wedi ei ,dorri. Nid ellir rhedeg trens eyf. lym o Ferlin i Gaercystenyn mwyach, ac felly anfon adgyf cierthion mewn dynion nac arfau, Y mae'r ,I corridor y bu cymaint o son am dano wedi ei gau, a syniad yr Almaen am Ymherodraeth Dyr caidd fawr, gyda gwledydd y Bal- kans yn rhan ohoni. fel y mae Bafaria, Saxony, Wittenburg yn fhannu o ymherodraeth yr Almaen yn awr wedi diflarmu. Ni byddai'n syndod i Twrci ildio .y mae ymostyngiad Bwlgaria, a buddugoliaethau Allenby ym Mhalestina yn peri fod eu rhagol- ygon yn dywyil iawn. Dywedir fod Prif Weinidog Twrci yn awr yn Switzerland, ac mai ei amcan ydyw ceisio agor trafodaeth hedd- wch. Y mae yr ystyriaethau hyn yn lhwym o effeithio ar Awstria. Dywedir fod Ferdinand, Brenin Bwlgaria, yn Vienna os felly y mae'n sicr o fod mewn cyffyrddiad ,ag Ymherawdr Awstria, ac nid gormod yw tybio fod yr hya a wnaeth ef yn rhag-dybio yr uyn a wna Awstria gyda hyn. Canys os yw Awstria yn meddwl parhau yn y rhyfel y maegweithred Bwlgaria yn peth difrifol iawn iddi hi Egyr ei gororau deheuol i ymosod -1 iad y Cyngrheiriaid, ac ar yr ochr lionno y mae wanaf. Ac heb os nac onibae, onid yw Awstria cyn hyn yn deheu am heddwch. Yr hen Ymherawdr a rwymodd ei wlad wrth yr Almaen, y mae ar- wyddion sicr nad yw'r Ymherawdr presennol yn hoffi'r cysylltiad ac y mae fwy nag unwaith wedi xeisio ei dorri, ac nid rhyfedd pe llwyddai yn ystod yr wythnosau aesaf. Fel y dywed un newydd- iadur Cymreig, galluog/a phwyll. og, dibynna llawer ar ddoethineb gwladlywiaeth y Cyngrheiriaid os dilynant areithiau doeth Mr Asquith a Mr Lloyd George ym Manchester, ac os anwybyddant ynfydrwydd y Daily Mail" a phapurau: cyffelyb, gall pethau mawr ddigwydd yn fuan. At hyn onid yw pethau yn llaw- er siriolach yn yr Almaen ei hun y mae Plaid Heddwch a Chymed- roldeb yn dod i'r lan yno, y mae Hertling a'i gyngrheiriaid a god wyd i awdurdod i gario allan feddvliai a chynlluniau y gwyr milwrol ac ymherodrol, dan bwys au y farn gyhoeddus," wedi gorfod ymddiswyddo. At hyn nid yw rhagolygon Ludenddrf a Hinden burg n y gorllewin, y pp-tff y proffwydid fyddent. Myn rhai ein bod yn y gorllewin yn edrych ar yr ymdrech fa wr olaf-gwrthsafiad diweddaf militariaeth yr Almaen, gwrthsafiiad diweddaf, efallai, militariaeth y byd. Beth fydd Rhagllaw ? Os daw y fuddogoliaeth, beth ar ol hynny ? Fel y dywed Golygydd y Goleuad'— "Dibyna hynny ar ysbryd ac agwedd y Cyngrheiriaid a'r defn- ydd a wnant o'r fuddugoliaeth. Pe cai rhai pobl yn y wlad hon eu fjordd byddai'r fuddugoliaeth hon no yn fwy o felldith nag o fantais. Defnyddient hwy hi i sefydlu yr hen gyfundrefn ddrwg eto, i hau hadau rhyfel arall, i ennill man- teision masnachol i ryw ddos.. barthiadau. Gwahanol iawn i hynny yw'r delfrydau a amlinell- wyd yn araeth ddiweddaf y Prif Weinidog, ac yn areithiau nodedig Mr Asquith a Mr Wilson. Rhodd odd Mr Asquith ym Manchester bwyslais arbennig ar eiriau Mr Lloyd George fod yn rhaid cael heddwch na thramgwyddai gyd. wybod y ddynoliaeth. Aeth ymlaen i ddywedyd fod yn rhaid cael heddwch y gellid adeiladu Cyngrhair y Cenhedloedd arno. Os n.i wneid hynny, meddai, a phe caem ryfel eto y mhen cenedlaeth arall byddai i honno ddinistno gwareiddiad a difetha'r ddyn- oliaeth. Cyngrhair y Cenhedloedd. Y mae Mr. Asqutih a Rhyddfryd iaeth yn boeth o blaid Cyngrhair y Cenhedloedd. Dyma yn olaraith Mr Asquith ym Manchester, ,brif swyddogaethau y cyfryw Gyng- rhair (1). Difodiad rhyfel rhw ng y Cen- hedloedd. (2) Dwyn i fod beirianwaith cyflafareddol i setlo anghydfodau, yn lie rhyfel. (3). Dealltwriaeth rhwng y gwladwriaethau i gymwyso cos- pedigaeth drefnidol at wlad anhydrin a chwerylgar drwy ysg- ymuno y cyfryw wlad, ei phobl a'i maisiandiaeth; mewn geiriau cyffredin, ei "boycotio," nes y daw atei choed," fel y dywedir. Dywed Mr Asquith y.bydd cynllun fel hwn yr un mor effeithiol a rhyfel. (4) Trefnu math o Gyfnewid- fa," lie yr ymdrinir a phob goheb iaeth a chytundeb rhwng y gwled- ydd. (5). Amddiffyn y cenhedloedd bach a thiriogaethau sydd eto heb eu datblygu rhag rheioiaeth eraill sydd yn drech na hwy. Rhyfedd meddwl onide yw, fod gwledydd gwar y byd wedi bod cyhyd heb sylweddoli y "posibl- rwydd o sefydlu Cyngrhair ar y llinellaul hyn." Ond gwell hwyr na hwyrach. Y mae y syniad am Gyngrhair y Cenhedloedd yn addfedu ac yn gwreiddio. Wrth gwrs rhaid cael pob gwlad i mewn heb hyn ni cfrawn ond "yr hen drefn" felltigedig-y balance of power sydd wedi creu y rheldrin uffernol yr ym ynddi heddyw. Y mae peth perygl yn y fan hon, y mae yna ymdrech i greu Cyngrhair yn awr dan y penawd teg "ond cametrweiniol League of Free Nations. 'y mae geiriau Arlywydd Wilson, dydd Gwener, yn eiriau pwysfawr: Rhaid meddai ef, cael Cyngrhair Cenhedloedd: Ni- ellir cael hwnnw cyn terfyn y Phyfel, ac ni ellir ei gael ar ol gwneud heddwch. Hynny yw rhaid i Germani fod yn y Cyng- rhair o'r cychwyn, wedi gweled a chydnabod ei ffolineb ac yn ei hiawn bwylL Fe welir felly fod araith Arlywydd yr America yn gwneud byr waith ar y rhai hyn ny a glebrant am barhau dial am hyn a hyn o flynyddoedd ar ol y rhyfel, fel pe byddent hwy'n holl- allyog. Ni chaniateir i genhed loedd yn y Cyngrhair ychwaith ffurfio'n glic i'w hamtanion eu hunain a dibenion masnachol, a bydd raid i bob cytundeb a wneir fod yn agored ac yng ngwydd yy byd Hawiia, hefyd, wybod a ydyw arweinwyr cenhedloedd eraill o'r un farn ag ef.
[No title]
Mae'r holl weithwyr oedd ar streic ar y Clyde wedi dychwelyd at eu gwaith.
CYFLOG Y GWEiNl&OGlON.
CYFLOG Y GWEiNl&OGlON. Mr Golygydd, Rwy'n sicr y caniatewch imi ychydig ofod yn y G.N. i alw sylw at symudiad a gychwynwyd yn y Gynhadledd ym Manchester i godi ychydig ar y gydnabyddiaeth a roddir i'n gweinidogion. am eu gwasanaeth a'u llafur. Mae rhai cylchdeithiau eisoes wedi syrnud yn y cyfeiriad hwn, ond y mwyaf- rif mawr heb wneud dim teilwng, a rhai ohonynt heb wneud dim o gwbl. Cydnabydda pob dyn gonest a thegfod yna rwymedigaeth arnom fel enwad i wneud symudiad o'r fath, ar yr un pryd priodol efallai, ydyw galw syiw at ffaith neu ddwy sydd yn dal perthynas a'r mater. Mae ein hymborth yn costio cymaint ddwywaith ag yr oedd ar ddechreu y rhyfel. Dywed y Labour Gazette" ei fod ya 10 y cant fwy na dwywaith. Mae dillad o bob math, esgidiau, &c, wedi codi mwy na hynny. I cyf- arfod a hyn mae gweithwyr wedi cael codiad sylweddol yn eu cyf logau, rhai ohonynt yn cael mwy na dwywaith, ac eraill ychydig llai na dwywaith yr hyn oeddynt yn ei dderbyn yn Awst 1914 Beth am y gweinidogion ? Er fod costau byw gymaint ddwy- waith, a phop gweithiwr wedi cael codiad sylweddol yn ei gyflog, mae llawer o'r gweinidogion heb gaei yr un ddimau yn rhagor, ac er- aill nad ydynt wedi cael ond yohyd- ig yn fwy. Sut y maent yn gallu byw, sydd yn gwestiwn haws o lawer i'w ofyn na'i ateb. Gwein idog, dyweder sydd yn awr yn cael £ 100 neu £ 105 yn y flwyddyn, nid ydyw hynny ond cyfartal,il c50 cyn y rhyfel. Tybed nad yw hyn yn pigo dipyn ar gydwybod rhai o honom sydd wedi cael codiad syl weddol yn ein cyflog, ac ar eraill sydd wedi gwneud mwy na mwy o arian yn ystod y pedair blynedd diweddaf. Yn y Cyfarfod Taieithiol a gyn haliwyd yn Seacombe yr wythnos ddiweddaf, penderfynwyd argym- ell i'r cylchdeithiau nad ydyw cyflog gweinidog ordeiniedig i fod yn llai na [150 yn y flwyddyn, a gweinidog ieuanc he's ei ordein- io yn llai na £90. Mae y Wesleaid Seisnig wedi penderfynu ar [175 fel Minimun ond fel mae yn eith af hysbys mae y mwyafrif o honynt yn cael cryn dipyn yn fwy na'r swm a nodwyd. Modd bynnag am hynny, mae y cyflog a argym hellir gan Synod Talaith Gyntaf y Gogledd yn ddigon isel, yn llai o gryn dipyn na chyflog nifer fawr o weithwyr. Nid wyf yn colli golwgjar y ffaith nad ydyw gwein- idogion Wesleaidd yn talu rhent, ac ei fod yn derbyn ychydig heb- law yr hyn a edrychir arno fel cyflog, ond a chymeryd yr oil i mewn nid ydyw gymaint a'r hyn a dderbynir gan la wer gweithiwr. Onid yw yn bryd deffro ein haelodau eglwysig i weled eu rhwymedigaeth a'u dyledswydd yn y cyfeiriad hwn. Mae llawer o honynt heb godi dim o gwbl yn y cyfraniadau at y Weinidogaeth, nac erioed wedi meddwl, na dych- mygu am roi mwy na cheiniog mewn unrhyw gasgliad. Anodd penderfynu pa un ai diffyg egwyddor, ynte diffyg ystyriaeth sydd yn cyfrif am hynny. Gob eithio mae yr olaf, y goreu po gyntaf i'w deffro, a phe gellid gwneud hynny yn effeithiol ni fyddai yr anhawster lleiaf i gyfar- fod a phob gofynion a thalu yn deilwng i'n gweinidogioa. Y fath anghysondeb sydd yn dod i"r golwg,—y gweithiwr yn ymryson o-hyd ac o hyd am godiad yn ei gyflog, ac yn mynd ar streic os na chaiff godiad, a'r gwerthwr yn ymryson am brisiau uwch, ond y ddau yn rhy ddiystyr, neu yn rhy ddiegwyddor i godi ceiniog neu ddwy yn eu cyfraniadau wythnos- ol tuag at daiu cyflog teilwng i'r rhai sydd yn eu gwasanaethu yn y pethau mwyaf pwysig sydd yn perthyn inni. W. JONES. 73, St. Domingo Vale, Liverpool, • Hydref laf, 1918.
: Llwyddiaut ein Plant yn…
Llwyddiaut ein Plant yn yr Arholiadau. Mr GoL- Diolchaf os byddwch garediced a rhoi i mi ofod i apelio am i holl blant ein heglwysi a'n hysgol- ion Sabothol, fu'n llwyddianus yn yr Aroliadau amYsgoloriaethau i'r Ysgolion Sirol a'D Colegau, neu yn y Junior, y Senior, neu'r Higher Central Welsh Board, neu unrhyw arholiadau eraill, anfon eu henwaii i mi, fel y gellir cyhoeddi'r oil yn y Methodist Times, y chyda'ch caniat- ad yn y Gwyliedydd N ewydd neu'r. Winllan. Daw addysg yn bwysic- ach nag erioed yn y dyfodol, dinis- triwyd nifer fawr o dalentau disgiairar fas y frwydr, a chyda chwi (y plant) y mae y dyfodol. Ac ystyried ein nerth fel enwad y mae ein plant yn hynod o lwydd- iannus, sylwaf fod Wesleaid ar ben y rhestr mewn ambell i Sir, lie nad yw ein henwad y cryfaf. Yn awr carwn gael yr enwau oil i mewn o fewn pythefnos. Waeth heb ddisgwyl wrth eraill, tltifonwoh eich henwau gan nodi Flatur eich haroliad a nifer y Distinctions, os oes rhai. Llongyfarchaf chwi fu'n Ilwyddiannus, ond daliwch ati-y mae digon o le ar y top. Yn gywir, W. RICHARD^ROBERTS, Wesley Manse, Newtown, Mont.
[No title]
Anfonodd gohebydd atom yn gofyn beth ydyw y pedwar pwynt ar ddeg ar y rhai y pwysa y Lly- wydd Wilson fel telerau heddwch. Yn fyr wele hwynt- 1. Diplomataeth agored. 2. Rhyddid y mor. 3. Dim rhwystrau masnachol. A. Lleihau arfau milwrol. 5. Rhyddid i'r bobl, yn cynnwys y Tiefedigaethau, i ddewis eu pen- adur eu hun a'u llywodraeth. 6. Gadael tiriogaeth Rwsia, a rhyddid i'r bobl eu hunain i ben- derfynu. 7. Gadael ac adferu Belgium, a'r rhannau o Ffrainc sydd wedi eu goresgyn. 8. Dychwelwyd Alsace Lorraine. 9. Atdrefnu'r ffiniau Italaidd, ynghyda'r llinellau cenedlaethol amlwg. 10. mreolaeth, i drigolion Aws- tria Hungari. 11. Adferu Rumania, Serbia, a Montenegro. Atdrefnu'i Taleith- iau Balkanaidd, gan roddi agorfa i Serbia i'r mor. 12. Twrci i gael rhaolaeth ar Dyrciaid yn unig. Agor y Dardan- elles. 13. Poland annibynnol. 14. Cyngrhair y Cenhedloedd Ceir meddir yn NarllenfavCas- tellnedd lu mawr o bapurau Saes- neg-glan ac aflan, ond nid oes yno ond un papur Cymraeg e hyd. Nid oes yno gymaint ag un cyf- nodolyn Cymraeg yn ystafeU y na "Chymru" na Cheninen na dim o'r fath," a hyn er fod dros flwyddyn er pan fu cyhoeddi'r Eisteddfod yno, a'r Eisteddfod ei hun drosodd, béllach er's dros fis. Tra'n annerch cyfarfod mawr yn Llnndain, nos Fawrth, dywedodd Syr J. H. Roberts, A.S., ei fod o'r farn fod diwedd y rhyfel yn agos, ac y ceir heddwch yn gynt na'r disgwyliad.